Anarchwyr yn Cau Barclays Caerdydd

Ar Ddydd Sadwrn, y 3ydd o Fai, fe wnaeth grŵp o 25 anarchwyr a gwrth-filitarwyr cau cangen Caerdydd Barclays mewn proest o’i rôl mewn ariannu’r fasnach arfau.

Wnaeth yr ymgyrchwyr ffurfio Bloc Radicalaidd ar yr orymdaith Gŵyl Fai a drefnwyd gan y Cyngor Undebau, gan dorri o’r brif orymdaith er mwyn weithredu yn erbyn y banc yn hytrach na’i ddilyn i Rali’r Cyngor Undebau i wrando ar areithiau gan swyddogion undebau.



516556.jpg.indyscaled (1)

Dywedodd aelod o Stop NATO Cymru: “Wnaethon ni cymryd rhan yn yr orymdaith Gŵyl Fai i dynnu sylw at y caledi mae gweithwyr o amgylch y byd yn dioddef o achos gormes treisgar sy’n cael ei weithygu gan gynhyrchwyr arfau yma yn y DU.

Wnaethon ni thargedi Barclays am ei fod yn chwarae rôl amlwg mewn ariannu Exelis Inc. sef rhiant-gwmni EDO Corp. sydd yn euog o fasgynhyrchu arfau i werthu i gyfundrefnau gormesol, o waethygu gwrthdaro treisgar ac o ormesi brotestiadau dilys, Mae gan ‘ Barclays Global Investors UK Holdings Ltd’ 5,059,591 gyfandaliadau yn Exelis ac mae gan ‘Barclays PLC’ 63,071 gyfranddaliadau.

516553.jpg.indyscaled

Aethon ni mewn i’r adeilad ar ôl gadael yr orymdaith, gan wrthod gadael nes i ni gael effaith. O fewn hanner awr fe benderfynodd rheolaeth y banc ei gau, gan amddifadu’r cwmni o elw brynhawn prysur trwy weithredu yn uniongyrchol. Wnaethon ni cyfleu ein neges i’r cyhoedd trwy blastro blaen yr adeilad gyda sticeri oedd gyda manylion am droseddau Barclays arnynt a wnaethon ni danfon neges glir i’r cwmni ein bod ni’n fodlon brwydro i atal arian o’n cymunedau ni rhag ariannu rhyfel.”

Trefnwyd y brotest fel rhan o ymgyrch Stop NATO Cymru i wrthwynebu Uwchgynhadledd NATO sydd yn dod i Gasnewydd yn fis Medi.

Cop with Smash Ed Sticker

Dywedodd aelod o Stop NATO Cymru: “Rydym yn gwrthwynebu pob rhyfel rhwng gwledydd ac felly yn gweld NATO, cangen arfog cyfalafiaeth, a’r cwmnïau sy’n cynhyrchu ei arfau fel dwy ochor o’r un coin. Mae’r ddau yn euog o lofruddio pobl sydd wedi gorfodi i mewn i wrthdaro oherwydd eu hamgylchiadau ac yn euog o waethygu sefyllfaoedd fel yn yr Iwcraen, lle mae dau bŵer imperialaidd yn gorfodi eu grym dros bobl ddiniwed, a NATO ydy un o’r pwerau hynny.”