Eisteddwch yn Llonydd

Eisteddwch yn Llonydd

gan Hwntw Arall

 

heddlumas

 

Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.

[Trefnwyr yr Eisteddfod yn baratoi am fygythiad Swffragetiaid, 1912]

 

A oes heddlu? Oes!
A oes pris mynediad? Oes!
A oes snobyddiaeth? Oes!

 

Y crachach a drefnodd yr Eisteddfod fodern. Rhan o ymgeision uwch-Gymru’r Oes Fictoria i buro’r genedl: dros Gymru ufudd, Cymru’r Beibl, Cymru parchus. Eu neges i bendefigion Loegr (ac i’w hun): Nid Cymry oedd Cymry terfysgoedd ‘Beca, nid iaith helyntus yw’r Gymraeg.

Mae ystyr “parchus” wedi newid wrth gwrs. Siwr, heddiw cawn yfed cwrw ar y maes a chawn jôcs budr a direidi ar y llwyfan (digon i droi bol Syr O. M. a’i fab – ac eraill hyd heddiw!). Ond cawn hefyd stondin i’n heddlu treisgar, stondinau i’r gwleidyddion cachaidd ac yn gynyddol i gorfforaethau di-wyneb.

(Ife hyn yw ein diwylliant, neu gyfle hysbysebu? Ni chawn drafod ar ôl y toriad)

Ond mae digon o “gythryblwyr” sydd wedi ac sydd yn herio’r trefn. Pe bai’n werinos Abertawe yn dwyn seddi’r crach yn Steddfod 1891, neu werinos heddiw yn ail-baentio stondinau, neu geir, neu yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn neu dros wasanaethau Cymraeg i blant, neu jest babell o feirdd yn anerchi’n eu tro yn erbyn bomiau ‘drones’ Prydeinig, ma traddodiad hir o Eisteddfodwyr radical.

syrifan

[Syr Ifan yn penderfynu bod angen chwyldro, Eisteddfod yr Urdd, 1927]

Maes i frwydro ynddi, maes i’w meddianu yw’r Eisteddfod felly. Dyma ein diwylliant, yn ôl pob sôn, ond nid ni sydd a’u meddiant. Da ni’n haeddu mwy na’r hyn ma nhw’n rhoi. Am yr holl genedlaethau o Gymry a ecsbloetiwyd, ac am ein hecsploetio heddiw, da ni’n haeddu Eisteddfod am ddim, a mwy eto. Eisteddfod heb heddlu. Eisteddfod heb gatiau. Eisteddfod sydd yn rhan o’r fro ac yn fflam dros Gymreigeiddio, nid ynys breifat a noddwyd gan gwmni wedi’u cuddio yn rhyw gae. Mae’n hen bryd i ‘Beca codi yn erbyn tollbyrth yr Eisteddfod.

Gloi nawr, cyn i’r stiwardiaid cau’r drysau.

 

nidoesheddlu

 

__________________________________
Beth am gasglu archif Eisteddfod radical? Dyma chydig casglais yn gloi.
Rhowch sylwad isod i ychwanegu mwy.

(Wrth gwrs, odd yr uchod yn son am “yr” Eisteddfod (Genedlaethol), ac ma pethe’n debyg iawn o ran Eisteddfod yr Urdd. Ond diddorol fydde cymharu hyn ag Eisteddfodau eraill. Odd croeso i’r heddlu yn Eisteddfod y Glowyr? Odd y crachach yn ddominyddu Eisteddfodau bwrlymus Merthyr yn yr 1820au?)

1891
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
Digon o helynt pan wnaiff dorf gwlyb a oedd wedi danto ar eistedd yn y glaw (chwalwyd rhan o’r pafiliwn gan storm) rhuthro i gymryd seddi cadw y crach yn y blaen (yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wag, ac o dan cysgod gweddill y pafiliwn). Ma Syr O.M ei hun yn ysgrifennu am ei ofn ar yr achlysur (yr oedd ef yn eistedd yn y seddi blaen yn barod, wrth gwrs).
[Ma Hywel Teifi Edwards yn ysgrifennu amdani yn llyfr a chyhoeddwyd gydag Eisteddfod diweddarach a ddigwyddodd yn Abertawe, rhaid i fi ei ffeindio a’u dyfynnu..]

1912
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Swffragetiaid yn brotestio yn ystod ymweliad David Lloyd George.
https://www.casgliadywerin.cymru/story/378341

1957
Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
Paul Robeson, y canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil yn yr UDA a sawl achos arall, yn siarad dros ddolen trawsiwerydd i Will Paynter.
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

1958
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy
Paul Robeson yn dod i siarad yn bersonol, ar ôl i lywodraeth yr UDA ail-ganiatau ei basbort.
“You have shaped my life – I have learned from you. I am part of the working class.”
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

2006
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
“Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith Newydd ym mhabell y Blaid Lafur.”

2011
Eisteddfod yr Urdd, Abertawe
“Protest S4C – Rhaid i Cyw Fyw!”
http://archif.cymdeithas.org/2011/05/31/protest_s4c_-_rhaid_i_cyw_fyw.html

2014
Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd
“Cymdeithas yr Iaith yn amgylchynu Carwyn Jones a galw arno i ‘ddeffro’ ynglyn a sefyllfa’r Gymraeg, ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014”

2015
Eisteddfod yr Urdd, Llancaiach Fawr, Caerffili
Protest yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn o flaen stondin Prifysgol Aberystwyth.
http://www.bbc.com/cymrufyw/32932881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod
“Chwistrellwyd “Rydym ni yn Tazerio Plant” ac “ACAB” ar uned Dyfed-Powys yn yr Eisteddfod yn ol y wefan Indymedia. Dywed fod y weithred hon mewn unoliaeth a’r sawl sydd wedi profi creulondeb a thrais gan yr Heddlu.”
https://anerchiadanarchaidd.wordpress.com/2015/08/11/gweithredu-yn-erbyn-heddlu-dyfed-powys-yn-eisteddfod-meifod-2015/

“Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Cymraeg Ail Iaith, wrth iddyn nhw sgrapio car ar faes yr Eisteddfod ym Meifod”

2016
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
“Protest yn erbyn toriadau i wasanaethau Cymraeg i Blant”
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/226726-protest-yn-erbyn-toriadau-i-wasanaethau-cymraeg-i-blant-3

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

gan Hwntw Arall

 

Mi welwn wyr y Senedd yn ngrynhoi y’nghyd
Yn erbyn y tylodion yn gysson oll i gyd,
I godi cyfraith newydd, annedwydd oedd eu nad
A gwneud carcharau creulon i dlodion yr holl wlad.

Dyma bennill o hen faled y “Breuddwyd Hynod”: pennill rhu perthnasol i’n presennol hunllefus.

 

Wyrkhws, Tlodion a’r “Proletariat”

Mae’r baledwr Ywain Meirion yn ymosod ar drefn y wyrkhws. Tybiwyd y cenir am y tro gyntaf yn 1834, blwyddyn Deddf Newydd y Tlodion. Estynnwyd y system wyrkhws gan y ddeddf newydd. Dan y system hon carcharwyd tlodion yn llafurdai, lle gorfodwyd i weithio’n ddi-dâl.

Diffiniwyd “tlodion” gan y ddeddf fel rhai oedd yn gorfod llafurio er mwyn cynnal eu hun, rhai oedd yn gorfod gweithio er mwyn ennill eu bara beunyddiol [1]. Dyma ddiffiniad Karl Marx am y “proletariat” ychydig o flynyddoedd yn hwyrach: rheini heb ddim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Wrth gwrs, nid oedd angen i bawb gweithio – nid oedd pawb yn dlawd. Roedd gan y tirfeddianwyr a’r cyfalafwyr (a pherchnogion y llafurdai!) rent ac elw er mwyn bodoli. Ond fel mae Ywain Meirion yn ein hatgoffa, ni fydd gan y cyfoethog dim byd heb iddynt allu ecsploetio llafur y tlodion:

Pe gyrrid y tylodion i gyd o Frydain Fawr,
Ni fyddai ond boneddigion yn union yno’n awr:
Ffarwel am dreth i’r Brenin, na chwaith am drin y tir,
Na llongwr, crefftwr, sawdwr, na gweithiwr, dyma’r gwir.
[na chwaith llienwragedd, morwynion, droellwragedd, mamau…]

 

Caethiwo a Disgyblu

Pwrpas y wyrkhws oedd gweinyddu, rheoli a disgyblu’r tlodion. Ni chyfunwyd y disgyblu hyn i’r tlodion tu fewn i’w muriau yn unig: roedd yr adeiladau hefyd yn fygythiad parhaol i bawb oedd yn brwydro dros eu bywoliaeth tu allan iddynt. Os nad oeddynt yn gallu goroesi (talu am rent, am fwyd) trwy weithio tu allan i’r wyrkhws, fydd rhaid iddynt weithio tu mewn, dan amodau gwaeth eto, llawn cosbau llym a heb dal. Dyma’r “gwirionedd” a orfodwyd ar y byd: nid oes bywyd tu hwnt i waith. Felly bathwyd y dosbarth gweithiol.

Llaw yn llaw i’w disgyblaeth o’r tlawd, roedd gan y wyrkhws swyddogaeth o ran disgyblu rhywedd, y teulu, gallu, crefydd a hil. Rhannwyd y wyrkhws yn llym yn ôl rhywedd ac oedran, a orfodwyd rôliau penodol yn ôl hyn. Os anfonwyd tad i wyrkhws, rhaid i’w holl deulu mynd yn ogystal, er iddynt wedyn byw i’r rhan fwyaf ar wahan – deliodd y stad a’r dosbarth gweithiol yn ôl unedau teuluol, ond deallwyd a ffurfiwyd yr unedau hyn trwy ddisgyblaeth llym o’r rôliau teuluol gwahanol.

Bydd Mari Morgan hefyd, yn d’wedyd yr un dôn
Nad eill y nos gynhesu yn siwr heb gwm’ni Siôn…

Carcharwyd plant amddifad (fel yn Oliver Twist) – y wyrkhws yn gweithredu fel teulu sefydliadol [2]. I’r tlawd heb y gallu i weithio o gwbl (y tost, yr hen a’r anabl) na chefnogaeth arall, bywyd anodd y wyrkhws oedd yr unig fodd o oroesi. Cystadlodd y wyrkhws a’r gwallgofdy (asylum) i garcharu’r “gwallgof” (a gynyddol gaethiwyd ers yr oes fodern gynnar) [3]. Yr Eglwys Anglicanaidd oedd crefydd sefydledig y wyrkhws – caniatawyd rhai gwasanaethau anghydffurfiol ond ni chaniatawyd caplaniaid Catholig. I Iddewon, roedd ymarfer eu diwylliant a chrefydd yn y wyrkhws yn amhosib.

Oes y wyrkhws oedd hefyd oes y carchar, y ffatri, yr ysbyty ac yn hwyrach yr ysgol . Dyfeisiwyd a diwygiwyd gan yr un biwrocratiaid a chyfalafwyr tuag at yr un pwrpas o ddisgyblu a “chywiro’r” tlawd. Roedd gan y ffatri a’r ysbyty drysau dan glo yn ogystal i’r carchar a’r wyrkhws. Dyma ddatblygiad y “caethder mawr“, lle carcharwyd lluoedd o werin Ewrop wrth iddynt cael eu gorfodi oddi wrth y tir ar ddiwedd y canol oesoedd. [4]

CynllunWyrkhws

[Cynllun wyrkhws gynnar ar ffurf groes: y meistr yn y canol â’r trigolion wedi rhannu yn ôl oedran a rhywedd]

 

Llafur Di-dâl

Mae tybiaethau yn llyfryddiaeth Marx y bydd gwaith di-dâl a rhwymedig yn diflannu dros amser, wrth i gyfalafiaeth “aeddfedu”. Ond er bod pŵer, yn sawl man ac achos, nawr yn disgyblu trwy foddau llai “galed”, mae gwaith di-dâl heb os yn parhau fel rhan angenrheidiol o’r system gyfalafol. Tu mewn i garchardai ecsbloetiwyd llafur di-dâl, wrth i garcharorion creu dillad milwrol neu feinciau “cymunedol”. Tu allan, mae workfare a phrosiectau tebyg yn aros os nad yn lledu. Mae caethwasiaeth eu hun, lle nid yn unig ydi’r gwaith yn ddi-dâl ond mae’r person sy’n gweithio yn eiddo i’r caethfeistr, yn parhau – nid fel arhosiad o ryw oes gynt ond fel elfen bwysig bresennol o gyfalafiaeth. A thu allan o’r gweithle a’r carchar – yn y cartref ac yn weddill ein bywyd pob dydd mae llafur di-dâl, rhyweddol, yn hanfodol i barhad ac atgynhyrchiant y system gyfalafol (pwy sydd yn gofalu am y gweithwyr ar ôl iddynt orffen gwaith, fel y gallent fynd nôl i’r gweithle yfory?) [5].

 

Baledi Ymosodol

Cyfrwng y tlawd, y werin a’r dosbarth gweithiol oedd baledi i’r rhan fwyaf. Trwyddynt cawsant, a chawn ni heddiw, straeon eu profiadau, newyddion y pryd, digri, dioddefaint a doethineb. Cenir ar y strydoedd, yn yr awyr agored ac yn y ffeiriau. Dyma oedd eu blogiau a’u ffansins.

Mae cryn dipyn o faledi radical, megis “Y Breuddwyd Hynod”, sy’n ymosod (i raddfeydd gwahanol) ar drefn y dydd. Mae eraill yn adrodd hanes terfysgoedd, streiciau, protestiadau ac ati. Werinol oedd y baledwyr eu hun gan amlaf. Yn hwyrach yn eu bywyd, yn lle baledi aeth Ywain Meirion i gasglu a gwerthu carpiau, ac roedd diwedd ei oes yn flynyddoedd caled [6]. Rhaid cofio bod rhaid i’r baledydd fod yn garcus wrth ganu yn erbyn y drefn yn agored – rhag ofn i bŵer ymateb yn llym. Heb os, rhaid bod hyn wedi effeithio ar gynnwys y penillion yn sawl achos. Ar ddiwedd ei faled, mae gan Meirion fath o ymwadiad:

Wel dyma swm y breuddwyddwyd a welwyd geny ‘n wir,
Gobeithio na chawn ddyoddef dan fin y cleddyf clir

Ond, serch y cleddyf clir, ledled yr ynys ymosodwyd ar y wyrkhws yn ffisegol yn ogystal. Terfysgodd ‘Beca yn erbyn wyrkhws Llanfyllin, Arberth a Chaerfyrddin gan fygythio eraill [7]. Stori i godi’r galon yw adroddiad papur newydd am derfysg Caerfyrddin:

Their first object of attack was the Union workhouse, which was first entered, as our correspondent informs us, by “the bad boys of the town,” who had joined the Rebeccaites. They set about their mission of destruction in a very spirited manner, and commenced operations by freely throwing out of the windows feather-beds, chairs, portions of bedsteads, and whatever articles of furniture they could lay their hands upon, and they most undoubtedly thought their progress would not be stayed before the whole building would be razed to the ground. [8]

Fel mae eraill wedi datgan – rhaid cael barddoniaeth “yn y stryd”, neu feirw yw celfyddyd [9]. Daeth awen i strydoedd Caerfyrddin yn haf 1843.

Dros faledi ymosodol ac ymosodiadau baledol!

 

YBreuddwydHynod
[Baled y “Breuddwyd Hynod” gan Ywain Meirion, c. 1834]

 


Nodiadau
Mae llwyth o faledi, gan gynnwys cryn dipyn o faledi radical, ar gael arlein:

https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-llgc/baledi-cymru-ar-lein/

Baled arall ar yr un testun sydd gwerth ei ganu yw “Workhouse Merthyr”:

http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:LSCOP_BALLADS:44NLW_ALMA21729351050002419
[1] “II.1.5

It has never been deemed expedient that the provision should extend to the relief of poverty; that is, the state of one, who, in order to obtain a mere subsistence, is forced to have recourse to labour.
Adroddiad Comisiwn Deddf y Tlodion, 1834.
http://www.econlib.org/library/YPDBooks/Reports/rptPLC11.html#Part%20II,%20Section%201
Dedfrydwyd rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn, gan gynnwys yr uchod.

[2] http://www.workhouses.org.uk/education/

[3] http://pb.rcpsych.org/content/pbrcpsych/22/9/575.full.pdf
[4] Dyma ystyr arall proletariat: rhai heb dir. Mae’n gysylltiedig â’r ystyr uchod: heb iddynt fod ar y tir, nid oes gan y proletariat dim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Trwy ddiffinio’r proletariat yn fodd negatif fel hyn, mae’n cynnwys sawl grŵp gwahanol a chaewyd allan o fudiad traddodiadol y gweithwyr – rhai sydd yn gweithio yn y cartref, carcharwyr, y di-waith…

[5] I ddarllen mwy ar waith atgynhyrchiol di-dâl a brwydrau llafur domestig, gwelwch y Mudiad Cyflogau am Waith-Tŷ:
https://en.wikipedia.org/wiki/Wages_for_housework
a’r archif caring labour:
https://caringlabor.wordpress.com/

[6] http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-GRIF-OWE-1803.html

[7] http://www.workhouses.org.uk/Wales/
[8] https://sniggle.net/TPL/index5.php?entry=19Jun14

[9] “La poésie est dans la rue.
[“Mae barddoniaeth yn y stryd.”]
Slogan/graffiti o wrthryfel Mai ’68 yn Ffrainc.
https://libcom.org/history/slogans-68

Datganodd y Sefyllfiaid, a gymerodd rhan yn y gwrthryfel, bod celf a chelfyddyd (bourgeois) wedi marw – gan eu bod wedi llwyr cymathu gan gyfalaf(iaeth). Mae darn o gelf yn cynrychioli llafur sydd wedi ecsploetio ac felly sydd wedi marw, y llafur hyn wedi eu gwrthrychu yn nwyddau a’r “hynotddrych”. Yr unig (gwrth)gelf sydd ar ôl i wneud neu i fyw yw’r chwyldroadol, yr hyn sydd yn chwalu’r drefn gyfalafol. Nid yw “barddoniaeth yn y stryd” yn golygu graffiti barddonol neu anerchiad cyhoeddus felly (neu nid yw’n golygu’r rhain /yn unig/), ond yr hyn sydd yn farddonol am chwalu pŵer, barddoniaeth y barriced, terfysg cynganeddol.

 

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams
gan Hwntw Arall

Yn ei llyfr “Sugar & Slate”, adrodda Charlotte Williams atgofion personol a hanesion sydd ynghlwm iddynt. I’r Cymry gwyn, dyma storïau anghyfforddus – yn enwedig i rai (fel myfi) sy’n ffansio eu hun a’u cenedl yn radical. Amhosib fydda gywasgu’r llyfr, ond dyma ychydig o ddyfyniadau o’r hanesion sydd yn ymwneud â Chymru:

” “A CONGO COLONY IN WALES
Daily Graphic of Wednesday July 13th 1892

One of the prettiest spots of the many pleasant places on the main line between Chester and Holyhead is Colwyn bay, not inaptly termed the “Naples of Wales”. There the Congo Training Institute has been established under the patronage of King Leopold of the Belgians [1], to train African converts as missionaries, schoolmasters, and useful handicraftsmen. This Institute, which is only in its infancy as yet, owes its origin to a Welshman – the Rev. W. Hughes – who was sent out to the Congo by a missionary society, and was there when Mr. Stanley went to found the Free State. Seeing how rapidly the Europeans became victims of the climate, and how little could be done to Christianise and civilise the vast continent by the exertions of a few scattered workers, he cast about him to devise a plan for carrying on the work more efficiently and with less cost of human life. Before, however, he had matured a scheme he was relcutantly compelled to embark for England, nearly in a dying state. He took with him two coloured youths, one of whom he had redeemed from slavery… This opened a path by which the problem of civilising Africa could be carried out.

The two boys [o’r Congo] were stars wherever they went. They preached the mission in parish after parish throughout north and south Wales, where posters announced that the Reverend Williams Hughes would speak of his missionary travels and that the bechgyn duon would sing in Welsh, English and their native tongue. In the chapels they took up the hymnal and sang:

Doed Paganiaid yn eu tywyllwch,
Doed y Negro dua’u lliw,
Doed addolwyr yr eilunod,
I weld tegwch Iesu’n Dduw
Deued llu heb ddim rhi’
Fyth i ganu am Galfari.

[Hymn 419, Vs 3, Llyfr Emynau – Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd]

I think I know what it is like to be stranded at an outpost like Colwyn Bay; dislodged, dislocated. I imagine their lives played out in the little town with its ideas and images of the black man created through Bible culture. I know what its like to be a curiosity. To be loved for your quaintness and your difference in a way that means you will never be normal. When I recreate this past I touch home with a particular kind of dislocation.

But there is more to the Congo boys story than this. It lets me see an Africa with the eyes of Wales. I see the Welsh memory that comes from missionaries stories of their travels, that comes from the chapels, the chapel hymns and the Sunday schools, from the collection boxes; from Ma – a story of Africa that passes on and on and on down generations in which strangely I have two parts. A story in which somehow I am both looking at and looked upon.

I guess it’s that type of story of Africa and black people that seeped into the cultural portraits of Wales. The missionaries went in the hundreds to the Dark Continent and all over the world, and brought home their tales to the parishes. Their ambitions were laid down forever in the lines of hymns – the most famous of all – “Draw, draw yn Tseina“:

Draw, draw yn Tseina a thiroedd Japan,
Plant bach melynion sy’n byw
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhob man
Neb i ddweud am Dduw
Iesu, cofia’r plant,
Iesu cofia’r plant,
Anfon genhadon ymhell dros y môr
Iesu, cofia’r plant.“”

Mae fy nhad yn cofio canu’r emyn olaf hwn. Aiff Charlotte Williams mlan i ddisgrifio meddylfryd y fath genhadon:

” There were lots of them, men and women – Evan Evans, Eluned Morgan, Betsy Cadwalader – writing home about their travels and their yearnings for home. Like the Reverend Williams Hughes they worked hard to take the word of God to people with gods of their own. At the same time they had to present what they did in a way that might be palatable to their own people. They had to tell about their work in a way that condemned exploitation and plunder and disassociated itself from the forces of colonialism. These travelers must have seen themselves as leaders of a superior style of Empire building, a moral crusade. They used the same maps as the colonisers, took the same routes and byways, but … Their mission was of a higher order. They managed to be both saviors of the natives and at the same time bolster a sense of Welsh pride and self-identity that had been so cruelly robbed and pillaged by the same English colonialisation. They could boast that their work was unsullied by ruthless imperialism and so claim the moral high ground.”

Rhaid cofio mi oedd yna Gymry â rhannau blaenllaw yng ngweithredoedd colonialaeth Prydeinig. Nid oedd hyn wedi’u cyfyngu i’r grefyddol. Roedd gweinyddwyr a milwyr, cyfalafwyr a gwladychwyr, caethfasnachwyr a chaethfeistri Cymreig a Chymraeg. Mae’r cyfenwau Cymreig, y Jonesys a’r Robertsys, sydd gan ddisgynyddion caethweision yn y Caribî heddiw, yn dyst i hanesion Cymry gormesol [2]. Mae cyfoeth adeiladau crand yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau arall yn gofnod arall. Wrth gwrs, dydi Charlotte Williams ddim yn gwadu hyn, ond hytrach yn dangos fel mae’r naratif o Gymry bach, Cristnogol, “moesol” yn un sydd yn cuddio cyfranogaeth waedlyd y Cymry i golonialaeth, cyfranogaeth yr oedd y cenhadon yma yn un rhan arall ohono.

Yn hwyrach, mae Williams yn adrodd darn o farddoniaeth Cymraeg,

“…a Children’s poem by Talhaiarn called “Brenin y Canibalyddion” – “King of the Cannibals”. It appeared in children’s books up until recently. It’s a lively raucous poem that thunders alog at a pace like drumming:

Mi draethaf chwedl fach i chwi
Yn loyw, hoyw, ffraeth a ffri,
Am frenin mawr ei fraint a’i fri,
Sef Brenin y Canibalyddion.
Ei hyd oedd ddwylath a lled llaw,
A’i ben ‘run llun a^ phen hen raw;
‘Roedd ganddo swyddogion, wyth neu naw,
A’i balas a wnaed o bridd a baw;
A’i enw oedd Brwchan-wchan-iach,
Llumangi-hyllgi-wichgi-wach,
A’i wisg yn crogi fel hen sach
Am Frenin y Canibalyddion.

Yn howcio, cowcio, llowcio’n lli,
Chwipio a hicio a chicio’r ci,
Yn strim-stam strellach yn ei sbri
Bydd Brenin y Canibalyddion.

‘Roedd trigain o wragedd yn ei dŷ,
Pob un yn ddu, pob un yn hy,
A deugain o hyll-dduach ddu,
Gan Frenin y Canibalyddion.
Ac felly i gyd ‘roedd ganddo gant
I foddio ei fyd ac i foethi ei fant;
A genid bob wythnos ddau o blant,
A’r Brenin a ganai gyda’i dant,
Gan ddawnsio i Wisgan-isgan-aw
A Sipog-llethog-lwythog-law,
Nes syrthio ar ei gefn i’r baw –
Ow! Frenin y Canibalyddion.

In later verses the grotesque King ends up eating his entire harem and several of his princes. “And their throats were cut one and all, every hideous horrible man and woman”.”

Yn wir, cynhwysid “Brenin y Canibalyddion” yng nghasgliad newydd “Mwy o Hoff Gerddi Cymru” yn 2010. Sawl flwyddyn ar ôl cyhoeddiad “Sugar & Slate” mae rhai dal yn gweld y darn yma o farddoniaeth fel un o’n ffefrynnau llenyddol. Dylse’r Cymry gwyn cydnabod y fath hiliaeth Gymreig a Chymraeg â siom, nid ei dathlu.

Mae Williams hefyd yn sôn am ei phrofiadau o ymgroesiad (neu ddiffyg ymgroesiad) brwydrau dros yr iaith a brwydrau yn erbyn hiliaeth, a hanes terfysg hil 1919 Caerdydd:

” I arrived back to find Wales was itself in an angry mood. Twenty years of Welsh-language politics had risen from a simmer to a boil. The conflict about housing had shifted to jobs. Whilst English-owned holiday homes weren’t being burned down anymore, the battles were being played out behind closed doors in County Hall and on the front line in the public offices and in the schools. I went back to lecturing at the university and continued to dangle uncomfortably between the English/Welsh animosities. It was an old battle that I had been caught up in before during my own student days. At that time there had been a moment of student activism of the type we hadn’t seen in Britain since the Sixties, only Britain didn’t seem particularly interested. I suppose it’s fair to say Britain was distracted. Toxteth and Brixton had been set alight as race politics moved onto the streets. It all seemed very far away, too far away for me to identify with.

It’s hard to believe that the first major race riots in Britain were in Wales. The Cardiff riot in 1919 was one of the fiercest racial out-breaks in history. Hundreds of people took to the streets in a melee of racial violence. Black people were attacked in the streets and in their homes by lynch mobs led by soldiers who had been drafted in to quell the violence. Ugly crowds rampaged through the streets rooting out black men, damned for working and damned for having relationships with local women. The disturbance led to the laying off and repatriation of hundreds of African and West Indian sailors who were blamed for trying to defend themselves. Suzanne’s grandfather was one of them.

What a lot of people don’t know is that the Cardiff riots triggered an upsurge in black consciousness in the West Indies and a major insurrection against British colonialism all over the Caribbean. It began when some Trinidadians who had been caught up in the conflict returned home. Within days they started rioting against white sailors in Port of Spain. The conflict grew and became a major dock strike that almost brought the Empire to its knees within days. Soldiers in Belize began an uprising against the white British, and in Jamaica, seamen were out fighting hand to hand with British sailors. There was so much unrest all over the West Indies that the Colonial Office was forced to take steps to protect British subjects in the region. The protests had links with struggles in America and spread across continents in the Pan Africanist movement. At home the memories of the Cardiff race riots were etched into black consciousness and became the touchstone for black people fighting against the colour bar in Britain during the Twenties and Thirties. None of this was part of our course at university. We were sitting in warm lecture rooms listening to lectures about Marx and the class war whilst out in the quadrangle Welsh-speaking students were painting anti-English slogans and noisily protesting about English oppression of the Welsh.

Language politics filled the air. I remember experiencing the sense that things were changing but that I wasn’t included in the battle. I couldn’t empathise with it all because for the great mass of us the agitation was unexplained, decontextualised, something to do with a history in which there were only two sides – Welsh or English – and for those of us who didn’t sit comfortably on either, there was no role at all. This great movement for Wales wasn’t taking us al along with it. On the contrary, out of necessity or neglect it was fast excluding us.”

Wrth i ffasgiaid ceisio gorymdeithio eto a thrais hiliol yr heddlu parhau, nid yw brwydr 1919 drosodd. Anoddach efallai yw cydnabod dyfnder hiliaeth a goruchafiaeth gwyn, ei bresenoldeb nid yn unig yn ffasgydd neu heddwas “draw fynna”, ond hefyd yn ein perthnasau pob dydd a’n mudiadau radical “fanyn”. Mae geiriau Williams yn pwysleisio her fawr ac anghyfforddus i’r Cymry gwyn sydd ynghlwm a’r frwydr dros yr iaith a brwydrau eraill.

Ond mae hefyd digon o obaith yn llyfr Williams. Tua diwedd “Sugar & Slate” dengys, heb ddileu gwahaniaethau brwydrau gwahanol na chwaith israddio un i’r llall, bod gelynion tebyg a phosibiliadau o unoliaeth a chyd-frwydro.

” I am compelled to go back in time and meet up with the ancestors in the shadow of a great slateocracy, compelled to visit my history. I walk with them across a hundred years in the grounds of Penrhyn Castle from where Richard Pennant, the first Lord Penrhyn ran an empire built on profits from land ownership and a massive industrial wealth. … The twist for me is that this whole empire would not have been possible at all had it not been for the huge fortune Richard Pennant made from what he called his West India interests. It was the cruelly driven slaves; men, women and children who toiled and sweated for the huge sugar profits that built the industries in Wales. Out of the profits of slave-labour in one Empire, he built another on near-slave labour. The plantocracy sponsored the slateocracy in an intimate web of relationships where sugar and slate were the commodities and brute force and exploited labour were the building blocks of the Welsh Empire. My slate memories and my sugar memories are forged together. In the chapels on the high street of Bethesda the people turned over the pages of the abolitionist pamphlets and found the quarryman and the slave were like on in their resistance of the oppressor. The shared plight of the factory slaves at home and the plantation slaves elsewhere had an echo right across Wales with the quarrymen, the iron smelters, the black faced miners, all knew what it meant to be robbed, beaten down, have their language, their culture, name and place stolen from them”.

O’r gobaith hwn, ni chawn ddelwedd o genedl pur heb wahaniaethau, heb orthrymder, heb hanesion siomedig ac anodd. Yn hytrach, cawn Gymreictod cymhleth, â’u aml-berthnasau i’r brwydrau gwahanol yn erbyn gormes. Cymru llawn boen a ffraeo, a Chymru allwn fentro hoffi.

” I know why it is that I like Wales. I like it because it is fragmented, because there is a loud bawling row raging, because its inner pain is coming to terms with its differences and its divisions, because it realises it can’t hold on to the myth of sameness, past or present.”

 

_______________

[1] Am ychydig o gydestun erchyll o ran gweithredoedd Leopold II, gwelwch https://en.wikipedia.org/wiki/Leopold_II_of_Belgium#Exploitation.2C_atrocities.2C_and_death_toll .

[2] Gorfodwyd enwau “Cristnogol” ar gaethweision – yn aml gyfenwau’r meistri.

“CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth”

cwiâr yr hyn/rhai sydd yn gwrth i’r gwahanrywiaeth gorfodol, sydd yn gwrth i’r hetero a’r heteronormatif, sydd yn gwrth i’r unturywedd, gwrth i’r homoffobia, i’r trawsffobia ac i batriarchiaid arall. gwrth fel gwrthodedig ond hefyd gwrth fel gwrthwynebus. nid yn syth ac yn gywir ond ar gam. nid hoywon hapus, ond cwiâriaid grac.

Mae’r pamffled byr “CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth” ar gael fel pdf isod.

Dyma anerchiad grac a gwrth-gymathol yn erbyn hetero-batriarchaeth. Mae’n cwffio trawsffobia, homoffobia a “chachwrs patriarchaidd”. Yn dilyn eraill, mae’n defnyddio’r gair cwiâr fel Cymregeiddiad o’r gair Saesneg queer. Yn ogystal, mae’n cynnwys cwiâriadur – geiriadur o eiriau cwiâr a thraws, yn y Gymraeg. Lyfli.

Mae’r pamffled ar gael mewn ffurf darllen neu argraffu (a lledu!) – cliciwch ar y dolennau isod i’w weld a/neu lawrlwytho!

CwiarDarllen.pdf

CwiarPrintio.pdf

 

(I gysylltu a’r pamffled, ebostiwch “cwiar(at)riseup(dot)net”. (nodwch y newid yng nghyfeiriad ers yr argraffiad cyntaf))

 

GALWAD AM GYFLWYNIADAU! Ffwff: Y zin anarcha-ffeminyddol

ffwff

 Blwyddyn yma bydd Ffwff, ein zîn Anarcha-Ffeministaidd, yn cyhoeddi rhifyn arbennig er cof am yr enaid hyfryd a chreadigol o’r enw Eli, ffrind agos iawn i un o’n sefydlwyr ag i lawer arall, a bu farw yn ddiweddar. Felly rydym eisiau gwneud hwn yn rifyn rhyfeddol, syfrdanol, helaeth ag ardderchog!

Bydd ein thema yn canolbwyntio ar faterion o undod, iechyd meddwl a’r cyflwr meddyliol sydd tu allan i beth mae cymdeithas yn ystyried yn “normal”.

I wneud hyn byddwn angen eich help!

Canllawiau Cyflwyno:

Mae’r rhifyn hon yn dilyn thema sy’n ymwneud a iechyd meddwl a chyflwr meddyliol sydd yn disgyn tu allan i beth mae cymdeithas yn ystyried yn “normal”. Gallwch ymdrin ag ymateb i’r pwnc mewn unrhyw ffordd a hoffech! Rydym yn derbyn erthyglau, storiâu, cyfweliadau, gwaith celf, cerddi (neu unrhyw ymateb creadigol arall, dim ots pa mor haniaethol) mewn Cymraeg, Saesneg neu pa bynnag iaith sydd orau gennych – gyn belled ag y gallwn eu dangos yn effeithiol mewn fformat print, maint A5. Mae’r zîn yn cael ei brintio mewn du a gwyn yn bennaf, ond rhowch wybod i ni os oes unrywbeth penodol hoffwch gyflwyno sy’n wahanol i’r canllawiau. Mae hefyd croeso i chi gyflwyno yn ddienw os hoffech.

Y dyddiad cau yw Dydd Gwener, 6 Mai, 2016!

E-bostiwch eich cyflwyniadau i: Mererid (Gogledd Cymru) merecoincidence [at] gmail.com neu Heledd (De Cymru) heledd.melangell [at] gmail.com . Ac os ydych chi eisiau anfon unrhyw beth drwy’r post gadewch i ni wybod!

Mae Ffwff yn zîn nid-er-elw a bydd copïau ar gael yn rhad ag am ddim unwaith y bydd wedi ei argraffu. Mae wedi ei gyllido o’n pocedi ein hunain ac nid oes unrhyw refeniw yn cael ei gynhyrchu. Fel yr ydych yn gwybod, mae’r gost o argraffu yn gallu bod yn ddrud felly er nad ydyn yn gofyn unrhyw ffi pan ydych yn cyflwyno darn (da ni ddim eisiau arbed neb rhag gymryd rhan) bydd unrhyw gymorth y gellir ei gynnig er mwyn cyhoeddi’r print terfynol, pan ddaw’r amser, yn cael ei werthfawrogi’n ddiolchgar iawn.

Sticeri Cymraeg o’r Ffair Lyfrau Anarchaidd

O’r chwith i’r dde. Sticer ACAB Cymraeg, Sticer ymgyrch Na i Ffair Arfau Caerdydd ac hefyd y Gwrth Ffasgwyr Cwiar!sticeri

Aduniad Menywod a Phobl Trans* yn erbyn y cyd-berthynas diwydiannol carchar

WT-Week-Welsh-without-bleeds-724x1024

Pam yr Wythnos yma o Weithredu? Pam Rŵan?

Mae carchardai yn dinistrio bywydau. Bwriad Llywodraeth Prydain yw adeiladu 9 mega garchar newydd www.cape-campaign.org/community-action-on-prison-expansions-response-to-the-9-new-prisons-announced-yesterday erbyn 2020, tra bod mwy o fenywod a phobl thrans yn cael eu caethiwo a’u trin yn giaidd yn ein system garchar. Mae’r pwysau enfawr o gefnogi’r sawl ydym yn eu caru yn y carchar yn disgyn arnom ni sydd yn llafurio’n emosiynol, ariannol ac yn ymarferol i gefnogi pobl sydd wedi eu carcharu tra yn ogystal â hyn rydym yn gofalu am y gweddill sydd wedi eu gadael ar y tu allan. Mae’r cyd-berthynnas diwydiannol carchar yn dwyn ein bywydau gennym. Mae hefyd yn sefydliad hiliol ble mae pobl nad ŷnt yn wyn eu croen yn sicr wedi eu gorgynrychioli. Mae’n rhan o ymosodiad parhaol a hanes hir o batriarchaeth a chydymffurfiaeth-rhywedd yr ydym yn ei frwydro pob dydd. Mae’r wythnos hon yn ymgais at adennill ein bywydau.

Pwy a fyddwn yn ei groesawu yn y digwyddiad hwn?

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sydd yn uniaethu fel menywod, trawsryweddol, trawsrywiol, cwiar ryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol. Mae’n ofod bwriadol er mwyn rhannu gwybodaeth ymgyrchu, dulliau trefnu, sgiliau gweithredu uniongyrchol mewn awyrgylch cefnogol i’r sawl sydd yn aml yn cael eu domineiddio a’i nadu gan ddynion-sis.

Os ydych chi yn anghyfarwydd a’r termau yma, dyma ragor o wybodaeth: twac.wordpress.com/terminology.

 

Be fydd yn digwydd?

Bydd:

  • Sawl Diwrnod o Weithredu
  • Aduniad o dri diwrnod i ymchwilio i’r pynciau yma yn fwy trwyadl
  • Gweithdai, dangosiadau Ffilm & mwy

Bydd sawl diwrnod o weithredu, yn ogystal ag aduniad a fydd yn para tri diwrnod dros y penwythnos i ymchwilio i’r holl faterion yma yn drwyadl. Bydd gweithdai, trafodaethau, dangosiadau ffilm a rhagor yn plymio i ddyfroedd o feddwl o’r dull ydym yn ymateb i niwed, o drais rhyngbersonol, fel ymosod rhywiol, i drais strwythurol a thrais y wladwriaeth fel tlodi, canolfannau dal a charchar. Dyma ofod i ofyn cwestiynau beirniadol am sut symudwn du hwnt i’r wladwriaeth a ffurfio dulliau amgen.

 

Sut alla i ymwneud a hyn?

 

Cysylltwch â ni er mwyn helpu gwneud i hwn ddigwydd. Mae angen cefnogaeth arnom gyda:

  • Logisteg ymarferol e.e. sicrhau llety, bwyd, gofal plant
  • Codi arian
  • Hyrwyddo e.e. cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, rhwydweithio mewn digwyddiadau
  • Paratoi cynnwys, e.e. cysylltu â phobl i hwyluso trafodaethau
  • Cynllunio gweithredoedd

Os gwelwch yn dda e-bostiwch info@prisonabolition.org i ymuno a’r criw sydd yn trefnu’r digwyddiad.

Pwy sy’n trefnu’r digwyddiad yma a’r wythnos o weithredu?

 

Mae cydweithfa fach anffurfiol wedi dod o wythnos o Weithredu yn erbyn y Cyd-berthynnas Diwydiannol Carchar ym mis Tachwedd 2015 (www.cape-campaign.org/this-is-only-the-beginning-overview-of-the-week-of-action-against-the-prison-industrial-complex-november-2015). Rydym yn grŵp o fenywod cis a phobl (gender queer) sydd yn casáu carchar gyda’n holl eneidiau. Mae rhai ohonom wedi bod yn y carchar, eraill wedi treulio llawer gormod o ddyddiau mewn ystafelloedd aros ymweld â charchardai. Rydym wedi goroesi cael ein treisio, trais rhywiol, camdriniaeth. Nid ydym ni eisiau cael ein dominyddu can sis-ddynion, patriarchaeth na chyfalafiaeth unrhyw ragor. Mae pob un ohonom yn rhannu angerdd i adeiladu dulliau amgen o ymdrin â niwed na’r system garchar, sydd yn cefnogi goroeswyr trais ac ymateb i niwed yn ein cymunedau. Rydym wedi ein hysbrydoli’n fawr gan cymrodion sydd wedi trefnu gwersyll gweithredu Menywod a Trans Cascadia twac.wordpress.com/about. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr a pur debyg fyddwn yn gwneud llawer o gamgymeriadau ond rydym yn gwneud ein gorau i ysbrydoli gwrthwynebiad i’r Cyd-Berthynnas Diwydiant Carchar sydd yn gwenwyno ein bywydau.
Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn.