Adroddiad o Brotest ym Manceinion 21/01/2011

Dyma adroddiad ysgrifenais i bapur y prifysgol ‘Gair Rhydd’. MeddPethau wedi newid ers hyn yng Nghymru..

Peidiwch â’n CON-DEMio!

Ar y 29ain o Ionawr, aeth dwsin ohonom o Gaerdydd i Fanceinion er mwyn gwrthdystio yn erbyn bwriadau amheus llywodraeth glymblaid ‘CON-DEM’. Enw  gweddus tu hwnt i lywodraeth sydd a’i mesurau llymder sydd am gondemnio miliynau o bobol i ddiweithdra, dioddefaint a chynni ariannol. Buom yn benodol yn gwrthdystio yn erbyn yr hyn a effeithiai myfyrwyr. Y toriadau a wynebai addysg uwch, diddymiad EMA a chynyddu’r ffioedd yn Lloegr. Dyma adroddiad o’r gwrthdystiad gwefrus hwnnw!

Pam mynd i Fanceinion? Ni fydd myfyrwyr Cymraeg yn gorfod talu rhagor nac y maent ar hyn o bryd am addysg uwch (tan 2015 o leiaf) diolch i ddatganoli. Cymharwch hyn i be wynebai’r myfyrwyr Saesneg. Bydd rhaid iddynt dalu 9 mil y flwyddyn i fynd i’r Brifysgol, tair gwaith yn fwy na chost Prifysgol ar hyn o bryd! Be a chynddeiriogai’r myfyrwyr yw bod Clegg, ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gado diddymu ffioedd yn llwyr o fewn 6 mlynedd. Dim rhyfedd fod llawer o bobol ifanc wedi syrffedu a gwleidyddiaeth prif ffrwd.

Gadewch y Saeson i’w potes ei hunain, dywed rhai. I’r gosodiad yma dyfynnaf eiriau Ross Saunders un o drefnwyr ‘Action Against the Cuts Cardiff’; sef ‘Solidarity with the Sais!’ (a gweddill y byd yn hynny o beth). Mae brawdoliaeth (a chwaeroliaeth!) yn ystod cyfnodau anodd fel hyn yn hollbwysig.

Rheswm arall dros fynd i Fanceinion oedd er mwyn gwrthdystio yn erbyn y toriadau arfaethedig a wynebai addysg uwch yng Nghymru. Bydd y rhain yn ein heffeithio ni’n uniongyrchol. Mae addysg uwch yng Nghymru yn wynebu toriad o 35%. Mae sïon y caiff adrannau cyfan o brifysgolion eu cau, mae protestiadau wedi bod yn adrannau celf UWIC eisoes.

Yr ym mewn amser o argyfwng ariannol, mae’n rhaid cwtogi er mwyn cael gwared ar ddyledion y wladwriaeth. Dyma’r consensws cyffredinol gan y pleidiau a’r cyfryngau brif ffrwd ac nid ydw i na llawer o fyfyrwyr oedd yn y gwrthdystiad ym Manceinion yn argyhoeddedig bod yr esgus yma dros gwtogi yn dal dŵr.

Paham bod rhaid i ni dalu am ffolineb y bancwyr? Maent dal i fwynhau bonws yn y biliynau, hyd ar ôl iddynt wneud smonach ohoni gyda’r argyfwng fancio. ‘Cyfiawnhad’ y llywodraeth dros beidio rhoi rhagor o drethi arnynt a ffrwyno ar eu gamblo yw ei bod ofn iddynt adael y wlad i rywle lle bydd y rheolau llai llym a bydd trethi’n is. Dyma egwyddor sylfaenol cyfalafiaeth; cystadleuaeth. Mae’n galluogi i’r cyfalafwyr yma i wneud fel y mynnent a bod yn bilynyddon ar gefn pobol gyffredin a weithiai’n llawn mor galed. Beth yw’r ots os maent yn gadael? Gwynt teg ar eu holau! Sut all unrhyw un feddwl eu bod wedi gwneud eu swyddi’n iawn ôl y llanast y crewynt? 

Ar ôl yr ail ryfel byd yr oedd Gwledydd Prydain yn doreddig (bankrupt) ond mi lwyddodd y blaid lafur sefydlu’r wladwriaeth les ac adeiladu miloedd ar filoedd o dai. Pam nad ydynt yn gallu gwneud y fath beth rŵan? Os nad oedd argyfwng ariannol yn peri toriadau bryd hynna pam ei bod rŵan?

Yn y rali gwnaeth yr areithwyr y pwyntiau yma tro ar ôl tro, ond dechreuodd y brotest gyda gorymdaith at y rali ei hunain. Dechreuodd yr orymdaith o Amgueddfa Manceinion, yr oedd 5 mil ohonom yno ac fe ddechreuem gerdded drwy ganol y ddinas.

Cerddom lawr ‘curry mile’, lle anhygoel ac yn ffrwtian o ddylanwadau dwyreiniol. Yr oedd criw Caerdydd yn digwydd cerdded yn gyfagos at griw o anarchwyr. Yr oeddynt yn llusgo bŵm bocs ar feic yn ystod y brotest ac yr oedd yn dybstep a dnb yn blastio ohoni. Pwy ddwedodd oedd rhaid i brotestio fod yn ddiflas!? 

Cyrhaeddom Barc Platfeilds ar gyfer y rali, yr oedd yr areithiau’n ailadroddus braidd ac yr oedd yn amlwg fod y dorf ar bigau’r drain. Cafodd AS Llafur a dirprwy lywydd yr NUS Shane Chowen ei ‘bwio’  oddi ar y llwyfan a thaflodd rhai wyau ato. Yr oedd rhai o’r dorf yn gandryll bod ymateb yr NUS i fwriadau’r llywodraeth wedi bod mor wasaidd â’i harweiniant mor llipa. 

Mi wnaeth y protestwyr golli amynedd a cyn i’r rali ddarfod mi wnaeth mil ohonynt adael a cherddon nhw yn ôl i’r dref gyda’r bwriad i feddiannu siopau sydd yn osgoi trethi. Gweithred symbolaidd efallai oedd hon a geisiai amlygu gwraidd y broblem; cyfalafiaeth. Cafodd rhai o’m ffrindiau ‘kettle’ ac mi wnaeth yr heddlu eu gorfodi i roi eu manylion personol iddynt neu ni fuasent yn cael gadael y ‘kettle’. Nid oedd unrhyw hawl gan yr heddlu i wneud hyn gan na gyflawned trosedd gan y myfyrwyr yma. Yr oedd yr heddlu yn cymryd lluniau o’r protestwyr, nid oedd hyn yn digwydd ym mhrotestiadau yn y gorffennol hyd y gwn i. Efallai bod yr awdurdodau yn nerfus gan fod chwyldro yn y dwyrain canol y maent yn wyliadwrus o unrhyw wrthdystio.

Dyma amser tyngedfennol yn ein hanes, bydd canlyniadau o dderbyn y toriadau yma yn ein heffeithio am genhedloedd. Mae Action Against Cuts Cardiff agored i bawb a dyma’r mudiad ymbarél sydd yn trefnu’r gwrthdystiadau a gweithredu yn erbyn y cwtogi yma. Chwiliwch amdanynt ar facebook a dewch i un o’r cyfarfodydd! Os yr ydych yn anghytuno gydag agenda adain dde’r llywodraeth gwenwch rywbeth, ‘neud nid deud’ yw’r unig ffordd ymlaen.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s