Adroddiad Rali Fawr S4C: 6/11/2010

Dyma hen erthygl arall ysgrifennais i bapur Prifysgol Caerdydd ‘Gair Rhydd’. Mae’r ymgyrch wedi symyd ymlaen ers hyn. Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth.

Rali ‘Na I Doriadadau, Ie i S4C Newydd’

Mae haerllugrydd Llywodraeth San Steffan wedi corddi pobol Cymru. Daeth dros 2000 i wrthdystio dydd sadwrn yn ‘Rali Na i Doriadau, Ie i S4C Newydd’ ger yr hen Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Bu’r amrywiaeth o fobol yn bresennol yn y Rali’n syfrdanol. Merched y wawr a myfyrwyr, sosialwyr rhonc ac anoracs rygbi, daeth pobl o bob cwr o gymru i achub y Sianel.

 Dim ond y diweddaraf o lu o brotestiadu oedd hon. Bu Cymdeithas yr Iaith yn gwrthdystio yn Llundain, Caerdydd ac Aberystwyth yn erbyn y toriadau enbyd a wynebai S4C ac mae arnaf ofn mai nemor dechrau’r frwydyr am y sianel yw hyn. Ac hynnu am yr ail dro yn ein hannes.

 Bu Angharad Tomos yn areitho a fe wnaeth ein hatgoffa o’r aberthion mae rhai megis Ffred Ffransis a Gwynfor Evans wedi ei wneud er mwyn sefydlu’r sianel (yn ogystal a canoedd o Gymru eraill dros y blynyddoedd). Fe aeth Ffred Ffransis i’r carchar am 3 mlynedd a mi roddwyd Gwynfor Evans ei hiechyd mewn peryg wrth iddo fygwth ymprydio hyd farwolaeth am sianel Gymraeg.

 Mor bwysig yw S4C i ddyfodol yr iaith ac fel sefydliad cenedlaethol cafodd ei chyllid ei amddiffyn gan ddef pan cafodd ei sefydlu. Dydi hyn ddim yn poeni dim ar lywodraeth Llunadain. Maent yn bwriadu newid y ddeddf yma fel ei bod yn bosib tori S4C yn rhubanau fel y mynnent. Mae’r ffaith fod pobol cymru heb bleidleisio am y bobl yma yn rhwbio halen yn y briw, ai hyn yw ystyr ‘democratiaeth’?

 Bu aelodau Cymdeithas, gwleidyddion a chynrychiolwyr  undebau yn cymeryd rhan yn y Rali. I gloi yr oedd adloniant amgen, sef cerddoriaeth ddawns a hip hop Cymraeg. Nid oes modd gwadu bod S4C heb gynrychioli y genres ‘ifanc’ yma’n ddigonol yn y gorffenol a gobeithiwn fydd yr ‘S4C newydd’ (sydd yn annibynnol a gyda’r cyllid digonol) yn darparu rhagor o’r ‘gwrth sefydliadol’ a’r ‘amgen’ yn eu rhaglenni.

Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas:

“Mae’r sianel yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg, felly mae’r cynlluniau y Llywodraeth yn mynd i danseilio’n uniongyrchol y Gymraeg fel iaith fyw. Mae’r newyddion bod y Llywodraeth yn ceisio pasio deddfwriaeth a fyddai’n caniatau iddynt ddiddymu S4C yn llwyr, yn cadarnhau ein pryderon mwyaf. Maen nhw’n cynllunio cael gwared a’r gwasanaeth yn llwyr.

Rydym yn galw am annibyniaeth olygyddol ac ariannol i S4C drwy gadw’r fformiwla gyllido bresennol ac anghofio am y syniad gwirion o ymuno a’r BBC. Mae angen datganoli darlledu i Gymru a hynny ar fyrder, yn lle bod penderfyniadau annemocrataidd yn cael eu gwneud yn Llundain. Rydym yn cydnabod bod gan y sianel gwendidau, dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny’n bosib o dan y cynlluniau hyn.”

Pam felly yr holl bryder ynglun a S4C?

Credaf ein bod mewn cyfnod bregus yn y frwydyr dros yr iaith Gymraeg a i pha gyfeiriad yr ai hi. Mae’n wir bod niferoedd y siaradwyr wedi codi yn ddiweddar ond beth yw’r realiti’r sefyllfa? Ydi’n iaith fyw ym mywyd pob dydd y siaradwyr newydd neu ydi’r Gymraeg yn cael ei gweld fel iaith addysg a iaith yr henoed ganddynt?

  Mae S4C a’r cyfryngau Cymraeg yn hanfodol i seicoleg y Cymry a’r modd y maent yn gweld yr iaith. Dyma beth sydd yn gwneud y gymraeg yn berthnasol i fobol ifanc, mae’n rhan anatod o normaleiddio’r iaith a’i gyfoesi. All wneud y gwahaniaeth rhwng pobl weld yr iath fel un hen ffasiwn amherthnasol neu yniaith fyw sydd yn perthyn iddyn nhw.

 Mae problem cyffelyb gan yr iaith Gallego yn Galisia (gwlad fychan yn Sbaen). Er bod nifer uchel (80%) o’r boblogaeth yn siarad yr iaith frodorol yma nid yw’n iaith mae’r cenhedlaeth ifanc yn dewis ei siarad gan nad yw’n ‘cwl’ na chyfoes. Maent yn ei weld fel iaith hen ffasiwn, cefn gwladaidd sydd heb unrhyw le yn byd modern. Rhaid gwynebu’r gwir a chyfaddau bod llawer sydd yn byw yn y wlad yma yn rhanu’r meddylfryd yma ynglun a’r Gymraeg.

 Er bod addysg Gymraeg wedi rhoi’r gallu i filoedd siarad yr iaith y rhaid ystyried y ffactorau sydd yn llywio ‘dewis’ pobol o ba iaith y maent yn ei ddefnyddio yn eu bywydau. Os mae’r cyfryngau prif ffrwd yn uniaith saesneg, neu y rhai Cymraeg mor dila ni ellynt gystadlu a’r rhelyw- sut bydd hyn yn effeithio ar y ffordd bydd y Cymry’n gweld yr iaith? Tra negyddol heb os, bydd yn gwthio’r gymraeg i’r oes Fictoriaidd!

 Mae natur ei thynged heddiw ynghlwm ag agwedd pobl tuagat yr iaith ac mae’r teledu, ynghyd a’r we a’r chwyldro digidol a rol anatod i’w chwarae yma.

Os oes diddordeb gennych ymuno a’r ymgurch ymunwch a Cymdeithas yr Iaith ar CampusGroups neu ymunwch a ‘ Cell Prifysgol Caerdydd’ ar Facebook.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s