S4Siec?

S4C. Mae’r sefyllfa’n gymleth ac yn rwystredig. Mwy na dim ysgrifennu hwn i roi trefn ar fy meddyliau a cael be sydd yn merbwll fy ymenydd allan o’m system.

Er i mi yn lythrernol dyfu fynnu o flaen y teledu, yn gwylio Jini Me, Porc Peis Bach a Swpyrted, yn fy arddegau nid oedd S4C yn apelio ataf (arwahan i gyfres Bandit sydd bellach wedi ei gyfyngu i sioe chwarterol o gigs. Yr hyn a wnaeth fy ngalluogi i uniaethu efo’r diwylliant Cymraeg fel rhywbeth oedd yn berthnasol i mi oedd cerddoriaeth amgen Cymraeg Mc Mabonaidd a llyfrau gan awduron Mihangel Morganus.

Doedd S4C ddim yn hawlio llawer o’m sylw a dweud y gwir. Rhyfedd ydoedd fod llyfrau (cyfrwng ‘hen ffash’) yn gwneud y Gymraeg un fwy perthnasol i berson ifanc na’r teledu. Bu ambell i beth gwych ar S4C, y ffilmiau, Cnex, O flaen dy Lygaid, Bandit…. ond roedd teimlad nag oedd yn gallu darparu’n ddigonnol i ni’r glas-gynnulleidfa.

Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae dewis o ganoedd ar gannoedd o sianeli, pob un a’i gynulleidfa targed (mae hyd yn oed Model Train Channel!!!). Yr hyn sy’n anodd i S4C yw nad yw pob siaradwr Cymraeg  yr un fath a’i gilydd. Mae angen yr un fath o amrwyiaeth o fewn teledu Cymraeg ag sydd ar gael i gynelleidfa Saesneg. Mae ganddyn nhw raglenni i chi fod fel llysieuyn o’u blaen fel ‘Family Guy’ ar un llaw ac yna rhai fwy ‘diwyllianol’ ar sianeli BBC 4aidd ar y llaw arall. Mae angen y ddau ar y diwylliant Cymraeg a cydbwysedd teg o’r pethau gwahanol.

Dywedodd fy hathrawes ysgol flynyddoedd yn ôl am S4C;

‘Aaaa S4C! Y sianel does neb yn ei gwylio!’ Mae hyn yn dweud lot wrthym am agwedd pobol tua’g at y sianel, sut mae pawb yn ‘gwybod’ ei fod yn ’S4Crap’ os nad oes neb yn ei wylio ac yn rhoi siawns iddo yn y lle cyntaf? Yn bersonol dydw i ddim yn meddwl bod S4C yn sianel wael, edrychwch ar y sianneli eraill tebyg (sianeli ieithoedd leafrifol) mae S4C yn Hollywood fel dywedodd rhywyn i mi o gymharu a teledu Galiego!

 Un problem sydd yn magu’r rhagfarn hwn am S4C yw bod y mwyafrif llethol o bobol yn cysylltu S4C efo’r hen ragleni traddodiadol: Dechrau Canu/Ffermio-aidd. Nid dweud ydwyf na ddylai y rhagleni hyn fodoli; mae angen amrywiaeth o ragleni gwahanol i blesio pawb, ond mae’r ffaith bod pobl yn  gweld y rhaglenni hyn fel prif ffrwd S4C yn golygu fod rhagfarnau yn cael eu meithrin ynglyn a’r sianel fel un ‘hen ffasiwn’. Mae hyn yn beth handwyol tu hwnt i’r iaith Gymraeg gan mai nod sianel yw cyfoesi’r iaith a’i foderneiddio. Y peth olaf mae pobol eisiau yw yr un hen ystrydebau Cymreig ar y teledu.

Canlyniad y rhagfarn hwn yw gall y gyfres neu rhaglen o’r ansawdd orau gael ei hanwybyddu. Mae yr un rhagfarnau yn bodoli am gerddoriaeth Gymraeg. Mae pawb nad yw’n gyfarwydd a’r diwylliant, hyd yn oed os y maent yn siarad Cymraeg yn meddwl am gerddoriaeth Cymraeg  mewn ystrydebau gwerin a Corau Meibion. I iaith sydd angen cyfoesi er mwyn goroesi mae hyn yn broblem.

Yr ateb? Credaf fod angen ail siannel Cymraeg, un newydd sydd heb ragfarn yn ei phlagio. Caiff S4C aros yn sianel saff i’r prif ffrwd, rhagleni plant a rhai ‘parchus’ a diwylleidg i oedolion a ni’r geeks.  Mae’n hanfodol bod elfen gref gwrth sefydliadol, ‘amharchus’, hwyl ac amrwd yn y Gymraeg i adweithio yn erbyn canfyddiaeth llawer o  Gymry o rhannau mwy di-gymraeg o’r wlad ohoni’n iaith ‘swyddodol’ a ‘sefydliadol’ y dosbarth ysgol a’r dosbarth canol. Dylai ail siannel fel hyn berthyn i bobol ifanc Cymru heb fod wedi ei chanoli yng Nghaerdydd, ac yn gweithio fel sianel gydweithredol a gaiff fewnbwn gan gymunedau yn hytrach na bod yn sianel sy’n dennu gyrfagarwyr di-dialent sydd ddim yn adlewyrchiad o bobl go iawn Cymru (dydw i ddim yn dweud fod pob ‘cyfryngi’ fel hyn chwaith cofiwch! Ma nhw’n fodau dynol hefyd…a mae na amrywiaeth ohonyn nhw!).

Newid sylfaenol arall buaswn i’n meddwl fuasai’n helpu S4C ei hyn yw yn rheolaeth y sianel. O dan system gyfalafol ni fydd byth modd ei gwneud yn imiwn rhag ariangarwch cyfalafol ond gallwn ei wneud mor ddemocrataid a phosib fel sianel gyd-weithredol ddim-am-elw sydd yn agored ac atebol i bobl a chymunedau Cymru. Dylai gweithwyr S4C i gyd a’r gynulleidfa fod yn rheoli’r sianel ni ddylai  prifweithredwr na ‘awdurdod’ bondigrybwyll fod ar gyfyl y lle! Maent yn cael eu talu’n ormodol a dydi’r myth bod arian yn hafal i ansawdd gwaith ddim yn wir, edrychwch ar crisis mewnol S4C rwan! Edrychwch ar argyfwng y banciau! Ydi cyflogau uchel wedi eu hybu i wneud gwaith da? Neu ydi arian mawr wedi gweithio i feithrin diwylliant o ‘yrfagarwch’ a hunanoldeb? Dylai pobol yn y cyfryngau weithio ar gyflog sydd yn debyg i gyflog gweithwyr cyffredin eraill yn marn i, efallai wedyn bydd pobl sydd yn angerddol am greu rhagleni da yn dod i S4C a bydd yr ariangarwyr yn cadw draw.

Dydi’r pobl sydd yn trafod y toriadau hyn efo’r BBC a’r Toriaid ddim i weld yn malio rhyw lawer am ein hawl i sianel Gymraeg nac am yr holl bobl fydd yn colli eu gwaith o ganlyniad i’r toriadau. Gyda toriad o 40% yn nhermau real bydd yn sicir llawer llai o arian i dalu cyflogau a dim yr ‘awdurdod’ sydd yn trafod y toriadau gyda Jeremy Hunt fydd yn dioddef, na, y bobl isaf eu cyflog fydd y cyntaf i golli eu swyddi fel y tuedd bob tro- y meistri yn meddwl am eu hunain cyn neb arall. Felly deffrwch cyfryngis Cymru!!  Rhaid i ni gyd uno i ddiogelu yr hawl i bawb yng Nghymru i gael adloniant yn eu hiaith gynhenid. Darllenwch lyfr ‘S4C Pwy dalodd amdani’ am ysbrydoliaeth. Mae nerth y bobl yn y llyfryn hwnw a frwydrodd mor hir yn anhygoel. Ar ol i bobol wedi bod mewn carchardai am flynyddoedd, allen ni ddim eu bradychu wrth adael i’r sianel gael ei gipio o dan ein trwynau.

Ynghyd a’r radio, S4C ydi’r unig ffynhonnel o’r Gymraeg i dai miloedd ar filoedd o bobl yng Nghymru. Efallai bod eu cymuned a hyd yn oed eu cartref yn un seisnig ei hiaith ond o droi y teledu ymlaen mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed. Mae’r myth o’r iaith Gymraeg fel un elitaidd  caeedig yn amlygu pa mor hanfodol yw cael sianel  y gall pawb ei gwylio o’u cartref. Mae’r  SRG hefyd yn hanfodol i’n diwylliant ond os nad ych yn byw mewn ardal Gymreig neu nabod y bobl iawn mae modd i chi fynd trwy eich bywyd yn anymwybodol o’i fodolaeth. Dywed rhai ‘os ynt yn chwilio gallant ei ffeindio ’ ond sut all pobol chwilio am yr hyn nad ynt yn gwybod sydd yn bodoli? O leiaf a theledu Cymraeg mae yno yn bod yn cartref pawb sydd a set deledu a drwy hyn mae/oedd modd darganfod cerddoriaeth ifanc Cymraeg (yn nyddiau Bandit oleiaf).

Be am eich neiniau a’ch teidiau a henoed Cymru? Gyda ein obsesiwn efo gwneud yr iaith yn ifanc a ‘rhywiol’ mae’n hawdd anghofio fod pobol o bob oedran yn siarad Cymraeg a haeddu byw eu bywyd trwy ei gyfrwng. All clywed y Gymraeg mewn cartrefi hen bobl  fod yn gysur mawr iddynt- mae’n bwysyg iddyn nhw. Efallai bod rhai rhagleni S4C yn ‘hen ffash’ ond dydi dy nain di ddim yn debygol o fwynhau fersiwn Cymraeg o ‘The only way is Essex’. Dechrau Canu a’r Eistedfod sydd yn chynhyrfu’r genhedlaeth yna fwya a does dim yn bod ar hynnu o gwbwl. A be am yr holl blant sydd wedi gwirioni efo Cyw? Does gan yr aelodau hyn o gymdeithas ddim llais cyn gryfed a ni ond dydi hynnu ddim yn meddwl dylwn ni ddiystyru eu hawl nhw i deledu Cymraeg.

Dwi am fod yn hollol rhagweladwy a dweud fod rhaid cofio be achosodd y gachfa arianol yma sydd yn golygu fod torriadau yn ein bygwth: dau ffactor a achoswyd gan gyfalafiaeth.

Y cyntaf yw’r argyfwng economaidd a llywodraeth adain dde yn dweud wrthym ni i dalu am grisis economaidd creodd y bancwyr. Bancwyr sydd dal i derbyn biliynau mewn bonbwsus. Mae’r pres gennyn nhw, pam mai ni sydd gorfod talu am eu camgymeriadau? Synwyr cyffredin syml yw rhyn does dim rhaid bod yn economegydd!

Yr ail yw crisis S4C sydd yn golygu bod y sianel i weld mewn gwenndid a efallai ddim yn gallu amddiffyn ei hyn mor dda a dylsai. Wrth i gyfalafiaeth a’i ffatrwm o busensau bach yn cael ei llyncu gan rhif llai a llai o gwmniau mawr (meddyliwch am hyn yn dermau archfarchnadoedd- yr ydym wedi symyd o gyfnod ‘Siop y Gornel’ i oes aur Tesco-y siop sy’n cael un punt o bob 7 a caiff ei wario yn y DU). Dyma un peth a yrodd S4C i grisis mewnol, cwmniau teledu mawr wedi ei meithrin gan y tueddiaudau cyfalafol at fonopoleiddio a llyncu’r cwmniau bychan.

Un peth sydd wedi mynd ar fy nerfau i yn ofnadwy fel dipyn o leffti yw y pobol ‘gwrth sefydlaidaol’ yma yn  honni fod S4C yn rhan o’r hyn sydd yn cynnal y gyfundrefn gyfalafol, fel ei bod cynddrwg a sianel Rupert Murdoch neu rhywbeth. Dydi’r pobol yma ddm yn rai sydd yn gwneud unrhywbeth eu hunain am newid y system (y rhai yr wyf wedi trafod hyn efo). Yr ym yn byw mewn system gyfalafol ar hyn o bryd yn hannes y byd a rhaid sicirhau bod yn Gymraeg yn ei goroesi neu fydd hi wedi ei cholli am byth.

Mae’r ffaith bod llai o deledu Cymraeg ddim am ‘newid y system’ yn syml fydd pobol y newid i sianel saesneg a fydd syniadaeth adain dde Jeremy Kyleaiddd yn sleifio i’e hymwybydaeth nhw yn yr iairh saesneg yn hytrach na rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Wedi dweud hynnu dydw i ddim yn gweld S4C fel sianel doriaidd, yr ydych chi wedi gweld Cegin Cofi? Roedd hefyd rhifyn o Wedi 3 yn hysbysebu’r ‘Disgo Dydd i’r Di-Waith’ yng Nghaerdydd. Dydi S4C ddim hanner mor ddrwg yn y modd yna na llawer o sianeli, nid yw wedi ei berchnogi gan filiynyddion ag agenda eu hunain, corff cyhoedus ydyw a er ei bod angen ei ddemocrateiddio nid S4C sydd yncynal cyfalafiaeth!

A minnau wedi fy hysbrydoli gan rapau ffynig gwrth gyfalafol Llwybr Llaethog (S4sieC) Mc Saizmundo (Byw ar yr Iaith a’i lladd hi, wrth gynhyrchu teledu shabbi) a Tystion (Cyfwelwyr yn cyfweld a chyfwelwyr, brodyr a chwiorydd ble mae’r synnwyr?) sydd yn areithio yn erbyn S4C a ariangarwch a sefydliadoldeb Cymreig.  Er ei fod yn boenus mynd yn erbyn y reddf yma i wrthryfel yn erbyn sefydliad Cymraeg, rhaid meddwl yn resymegol ynglyn a’r sefyllfa. Mae S4C yn hanfodol i barhad yr iaith, o ran swyddi cyfrwng Cymraeg yn un peth ond yn fwy na dim fel ffynhonell o adloniant Cymreig i bob cartref yng Nghymru a llwyfan ni’n iaith a diwylliant.

Diolch i globaleiddio cyfalafiaeth aeddfed mae ieithoedd yn mawrw o hyd ac o hyd, un bob 4 diwrnod. Ydyn ni eisiau byw mewn byd lle does dim byd diddorol na unigryw? Mae’r frwydyr drost yr iaith yn rhan o un ehangach rynglwadol yn erbyn ariangarwch a chyfalafiaweth sydd yn golygu bod nifer fach o fobol yn gwneud eu biliynau ar draul cymunedau a pobloedd cyffredin ar draws y byd.Rhaid yw cael dipyn o undod.

Os nad er achub S4C cwffiwch y toriadau yn eich cymunedau. Fydd yn effeithio ar yr iaith mewn ffordd wahanol ond yr un mor handwyol.

O lobio i brotestio i weithredu, mae pob math o rolau gwahaol yn ymgyrchu, bethbynag sydd at eich dant y peth pwysig yw eich bod yn ymuno a’r frwydyr. Peidiwch a gadael o i rhywyn arall oherwydd efallai fydd neb arall yn gwneud.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s