Ail-feddianwn Caerdydd!

Mae’r mudiad ‘Occupy’ a ddechreuwyd gyda 17 pabell yn Wall St, Efrog Newydd (Cylgrawn gwych o’r enw Adbusters sy’n gyfrifol am hyn) ond bellach wedi lledaenu fel brech heintus ar draws y byd. Un sy’n boendod i’r awdurdodau a chaiff ei hamlygu wrth weld y modd ffiaidd mae’r heddlu adweithio i’r protestiadau. Defnyddiwyd bwledi rwber a chwistrelli pupur i symud y protestwyr heddychlon yma mewn rhai llefydd. Does dim syndod fod Heddlu De Cymru wedi ymateb i’r ymdrech cyntaf i feddiannu Caerdydd (wrth ymyl y Castell) gyda grym arswydus (fideo o hyn). Cafodd pobol yn llythrennol eu gwthio o’r fan gan heddlu ar geffylau. Cafodd 6 eu harestio, rhai ohonynt yn fyfyrwyr yn y brifysgol hon. Gwrthododd 2 ohonynt rybudd ac maent am ymddangos o flaen llys ynadon Caerdydd yn yr wythnosau nesaf. Beth ddigwyddodd i’r hawl i wrthdystio’n heddychlon? Ydym yn agosáu at fyw mewn gwladwriaeth dotalitaraidd, Orweliaidd?
Pam bod pobol yn fodlon campio yn oerni gaeaf a chael eu hambygio gan yr heddlu? I ba bwrpas mae’r bobol yma yn protestio? Yn syml, gwrthdystiad yn erbyn cyfalafiaeth ydi ‘Occupy’. Yn erbyn y banciau sydd wedi achosi’r crisis economaidd, yn erbyn y toriadau diangen ac yn erbyn y bobol sydd yn elwa’n fawr ar draul y llai ffodus. Cyfalafiaeth yw’r system economaidd bresennol sydd yn golygu bod pobol yn newynu’n ddiangen, yr amgylchedd yn cael ei ddinistrio a bod arian yn hytrach nag anghenion pobol yn pennu popeth.
Cri’r protestwyr yw ‘Ni yw’r 99%’. Cyfeiriai hyn at y 1% cyfoethog, y cyfalafwyr y maent yn eu protestio yn ei herbyn ac sydd a gymaint o rym dros eu bywydau. Os yr hoffech ddysgu rhagor am hyn a thrafod be sydd yn amgen i gyfalafiaeth, ewch da chi ar Transport House a siaradwch gyda Occupy Cardiff.
Yr oeddwn yn bresennol dydd Sadwrn diwethaf yn yr ymdrech i ail sefydlu ‘Meddiannwn Caerdydd’. Yr oedd yr heddlu yno yn disgwyl amdanom ac wrth i ni wneud placardiau ar y llawr, fe wnaethon nhw fygwth ein harestio. Fe wnaethon nhw hefyd bygwth ein harestio os yr oeddwn yn gorymdeithio trwy’r ddinas gyda baneri er mwyn godi ymwybyddiaeth ynglŷn â Occupy Cardiff. Ar ôl trafod a thrafod penderfynodd y grŵp i gampio yn Transport House, adeilad undebau Cymru. Yma ni fyddwn yn cael ein herlid gan yr Heddlu.

Fe wnaeth grŵp ‘Bwyd nid Bomiau’ ddod a swper cynnes at y gwersyllwyr ar y noson gyntaf. Dywedodd y rhai a fu’n campio’r noson honno bod rhaid i un neu ddau aros yn effro drwy’r nos gan i bobol feddw ddod draw i gega. Ar wahân i ambell feddwyn o’r BNP mae’r adborth gan y cyhoedd ynglŷn â Occupy Cardiff wedi bod yn ffafriol, mae pobol yn chwilfrydig amdano.
Bydd gweithdai a gwersi Arabeg a Chymraeg yn cael eu rhoi yng ngwersyll Occupy Cardiff. Ewch draw os gewch chi siawns am sgwrs, neu i gampio os yr ych yn ddewr! Un nod gan Occupy yw dechrau’r sgwrs ynglŷn â be all fod yn amgen i gyfalafiaeth. Does dim rhaid derbyn toriadau na derbyn yr 1% yn sbwylio’r blaned hon i ni gyd. Dilynwch Occupy Cardiff ar twitter neu facebook os hoffech ragor o wybodaeth.

Advertisements

Cyfweliad ar S4C gyda Anarchyddes

Dyma Anarchyddes yn son am y protestiadau yn St Pauls a Sgwatio fel rhan o’r wrthdystiad yn erbyn cyfalafiaeth.

Graffiti Anarchaidd yn Caernarfon!

Dyfyniad gan yr anarchwraig anhygoel Emma Goldman yn Caernarfon… yn y Gymraeg! Llun gan Rhys Llwyd, graffiti gan riw hwrgath Hawdd…

Sgwrs Gyda Sgwatwyr – Erthygl i bapur newydd y Brifysgol.

Yr wythnos yma fe fydd y Llywodraeth yn pleidleisio ar deddf a fuasai yn gwneud Sgwatio (byw mewn adeilad gwag heb ganiatâd) yn anghyfreithlon.  Fel adwaith i hyn mae criw o anarchwyr wedi dechrau Sgwat mewn tafarn sydd wedi bod yn wag ers 5 mlynedd yng Nghaerdydd. Gan y criw yma gynlluniau mawr ar gyfer atgyweirio’r adeilad a’i droi fewn i ganolfan cymdithasol ar gyfer y gymuned leol.

Dywedodd Efa eu bod yno’n syml  ‘achos man wast o adeilad neis’. Ychwanegodd hefyd eu bod wrthi’n trwsio’r adeilad ac am ei ddefnyddio fel canolfan gymdeithasol i’r gymuned. Yno fydd pobol lleol yn gallu dysgu sgiliau drwy weithdai, cael  bwyd am ddim mewn ‘people’s kitchen’ unwaith yr wythnos a bydd yr adeilad hefyd ar gael i pobol gynnal cyfarfodydd. Yn barod mae cyfarfod ‘Bwyd Nid Bomiau’ wedi ei gynnal yno. Grŵp ydynt sydd yn hel bwyd o sgipiau archfachnadoedd, ei goginio, ac yna ei roi i bobol am ddim ar y stryd. Maent hefyd yn rhannu taflenni sydd yn tanlinellu’r modd mae cyfalafiaeth yn creu gwastraff bwyd enbyd. Does dim modd cyfiawnhau gwastraff fel hyn o ystyried bod un plentyn yn marw o newyn bob tair eiliad rhywle yn y byd.

Mynegodd Efa ei barn ynglŷn a’r deddf a buasai yn gwneud Sgatio’n anghyfreithlon;

‘Dwi’n meddwl ma’n syniad drwg, does dim byd yn rong efo cymryd adeilada… dydi’r adeilad yma ddim wedi cael ei ddefnyddio ers 5 mlynedd felly man jyst eistedd yma yn disgwyl i ddisgyn fewn i’r llawr, felly man iawn i ni neud defnydd ohono. Dydw i ddim yn gweld pam ddyla hynna fod yn anghyfreithlon’

Gofynnais wrth Efa ynglŷn a’r heddlu, ac os yr oeddynt wadi cael unrhyw drafferth ganddynt;

 ‘Gaetho  ni unlawful police raid neithiwr, ma section 6 yn amddiffyn squatters. Os mae nhw (yr heddlu) yn torri fewn ellith nhw fynd i jel am 6 mis a cal ffein o 5000 o bunoedd. Neithiwr nath yr heddlu ddod mewn a malu clo ni, natha ni adal nhw fewn yn y diwadd achos odda ni ddim isho nhw torri’r drws dim mwy nag oeddan nhw wedi’n barod so odd hynan fatha scary, slightly exciting. Lwcus natha nhw adal ni lonydd achos dodda nw ddim efo hawl i fod yma eniwe ond heddlu ydyn nhw so geith nhw neud be ma nhw isho rili.’

Ychwanegodd Cravos, sgwatiwr arall;

‘Da ni yma i aros, ac os cawn ni ein symyd ymlaen nawn ni jest sgwatio adeilad arall achos ma na lot o adeilada gwag yn Caerdydd’

Mae’r Sgwat ei hyn yn le wefreiddiol i fod, mae pobol cerddorol a celfyddydol yno felly’n amal mae rhywyn yn chwarae offeryn neu’n creu celf pan nad ynt wrthi’n trwshio’r lle. Os yr hoffech fynd i ymweld a nhw a efallai rhoi help llaw efo’r holl waith atgyweirio, ewch a cnociwch ar eu drws yn y dafarn  ar waelod Cliffton Street yn Splott. 

Mae hanner miliwn o dai gwag yn DU, 5 mil o fobol ar restrau aros am dai a degau  o filoedd yn ddigartref.  Gennyf pob parch at y rhai sydd wrthi’n sgwatio ac yn wir gobeithio na fydd y llywodraeth mor ffôl a gwneud Sgwatio yn anghyfreithlon.