Cerddoriaeth tanddearol a’r Ffagl Ffwciedig.

wUw, Twmffat, Radio Rhydd, Efa Supertramp… rwan mae yna artist radicalaidd arall ar y sin Gymraeg! Gwelais ei drac am y ffagl olympaidd ar ‘Y Twll‘ .

Rhowch gwrandweiad iddo. Fe ymddengys fod cnwd newydd o gerddoriaeth tanddearol yn dod i’r wyneb ar ol blynyddoedd llesg cerddoriaeth diflas dosbarth canol, canol y ffordd yn yr SRG. Gwyliwch y gofod ‘ma!

Straffagl

Mae can am y ffagl Olympaidd gan Radio Rhydd hefyd.

Dyma’r trac am y ffagl Olympaidd… os yr ydych chi wedi bod yn yr ardal pan oedd y ffagl (syniad propaganda gan neb llai na Goebbels!) gwelwch bod yr Olympics dim am gadw’n heini a athletau.. cnychwledd cyfalafol ble ceir Killer Coke a cachu cyffelyb ei wthio arnom ni’n ddi-drugaredd ydi o.

Mewn gwad ble mae pobol yn llwgu ag yn crafu byw mae gwario biliynau ar y fath rwtsh yn aflan. Dim ond esgus arall i gael y fyddin ar y strydoedd (a siwr o fod eu cadw nhw yna ar ol i’r gemau ddarfod) ac hefyd gwthio nwyddau arnom ni. Mae grwp Anarchaidd FAI wedi datgan eu bod yn gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn yr Olympics. Maent yn datgan:

‘In the United Kingdom of clockwork control and domestication, we’re some of the ‘unpatriotic ones’ who find the 2012 Olympics, with the ensuing spectacle of wealth (when so many here struggle to feed themselves and their families), harmful developments and escalating police state, frankly offensive. But no union or movement calls our shots, and we have no inhibition to use guerrilla activity to hurt the national image and paralyze the economy however we can. Because simply, we don’t want rich tourists – we want civil war.’

Geiriau cryf iawn, gobeithiaf byddynt yn protestio mewn dull di-drais ond tra bo pobl y wlad yma gorfod byw dan amaodau mor drychinebus a wrth iddynt weld gwastraff a chyfoeth y lleiafrif, bydd hyn yn meithrin agweddau eithafol.

Advertisements

3 Sylw

  1. Diolch am a’r rhain at fy sylw – un peth positif o’r Olympics ma felly yw deffroad creadigol rhai, wedi ei yrru gan ddicter tuag at yr holl sbloets afiach.

    Dw i’n dilyn @spacehijackers ar Twitter, sy’n rhoi lot o ddolenni at enghriefftiau o gelfyddyd mewn ymateb i’r gemau a’i sgileffeithiau.

  2. Diolch am y mensh uchod.. Erthygl da iawn, falch gweld rhywyn yn trio dangos be sydd yn mynd ymlaen… Yn ddiweddar dwi wedi clwad llawer o…. “Ond ma`r Olympics yn dda i bawb, ir plant, i`r dyfodol, mond chwaraeon ydy o, man neud ni wella ein hunnnain, ma fitrwydd yn bwysig…a.y.y.b…..
    Un gair…. BOLYCS.)
    Gai ofyn, ydy rhywyn sydd yn ffit yn wirioneddol well person na rhywyn sydd dim yn ffit? Wel, yn llygaid yr Eugenics mae o yn…
    Survival of the fittest blah blah blah…. BOLYCS ydy`r holl sioe…. pam ddim cael ras hefo bobl syn pwyso dros 15st? Bysa fo lot mwy diddorol i fi…. a bysa fon ffordd da i golli pwysa bysa… ond dyna ni… ella mai fi syn sal.
    Sal or clwydda a`r smokescreens a`r ulterior motives yr elitist wanna be`s…(sori am y saesneg).

  3. Paid bod yn sori wir! fel udodd PLP ‘Ffwcia dy iaith a cyfalafiaith!’ Dwi cytuno.. lol dio gyd… atgyfnerthu y duedd rybish mar system yn dryllio arna ni… cystadlwch yn lle cydweithredu!


Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s