Ffansin newydd ‘Ffwff’!
Celf clawr gan Mererid Haf Merecoincidence.
Yr ydym eisiau cyfranwyr i ffansin gwrth-awdurdodol i’r genod! Cartŵn, celf, erthygl, barddoniaeth, stori, profiad, ryseitiau, cyfarwyddiadau i greu rhywbeth adref steil D.I.Y. rhyw neu rhywiaeth… be bynnag da chi isho! Gyrrwch e-bost at daldydin@hotmail.co.uk neu gadewch sylw yma os ydych chi awydd cyfrannu.. Mae modd i chi wneud tudalen A5 a’i sganio a’i ddanfon dros y we os ydych chi’n byw yn bell o Wynedd.
Be ydi ffansin? Dyma Heledd Williams yn trio egluro yn ‘Steddfod yr Urdd 2011 y diwrnod yr oedd gweithdy ffansins yr oedd yn ei gynnal ar y maes ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Fideo oddi ar blog y Twll.
1 Sylw
Comments RSS TrackBack Identifier URI
Greetings from Sardinia, congratulations for the blog