Plan-B o Barcelona gan Ken Vegan

Gwersi anarchaidd ymarferol i helpu trechu’r credit crunch.

Er i bawb meddwl “Na – gallai fath beth fyth digwydd go iawn”  –  ar ddiwedd mis Hydref 2008, ddaeth economi’r byd yn ofnadwy o agos at fethu’n llwyr. Mae llywodraethau bellach wedi gwario biliynau i geisio achub y system ariannol ac rydan ni i gyd wedi gwneud ein gorau glas i anghofio sut roedden ni o fewn trwch blewyn i weld pob banc, busnes a llywodraeth yn dymchwel. Mewn cyflwr meddwl o wadu’r gwirionedd ydan ni  –  Ond pwy a wyr pa mor hir nes fydd y marchnadoedd rhyngwladol i gyd mewn panig o fynd yn fethdalwyr unwaith eto?

Er i holl arbenigwyr yn y papurau ac ar y teledu cytuno bod y system yn wallgofrwydd llwyr wnaeth y cyfryngau ddim rhoi sylw i unrhyw leffitis smyg i hyd yn oed ddweud ‘told you so’ heb sôn am cael y cyfle i gynnig unrhyw Plan-B.

Roeddwn wybod bod cyfalafiaeth mewn trafferth go iawn pan wnaeth y Daily Telegraph cyhoeddi ‘Handy Guide to Bartering” yn cynghori ei ddarllenwyr i ddefnyddio gwefannau fel “u-exchange.com” i gyfnewid nwyddau a gwasanaethau yn lle gorfod dibynnu ar arian.

Oedd hwn yn Plan-B y Daily Telegraph yn achos meltdown economaidd llwyr? Trefn yn seiliedig ar rannu, cytuno ac yn gwneud heb forgeisi, cyfraddau llog, cyfranddaliadau ac elw? Y Daily Telegraph… y papur mwya Prydainig, ceidwadol a sefydliadol ohonynt i gyd yn crybwyll system anarchaidd? Beth ydan nhw’n gwybod eu bod heb ddweud wrthyn ni?

Am wn i, dim ond unwaith cafodd system anarchaidd ei brofi ar raddfa gweddol fawr – yn Catalunya yn y 1930au. Ac yn ôl pob tebyg gyda chryn dipyn o lwyddiant, am gyfnod byr o leiaf.

Yn ei lyfr ‘Homage to Catalonia’ disgrifiodd  y bonheddwr Saesneg George Orwell sut oedd yn credu oedd wedi cyrraedd nefoedd egalitaraidd wrth weld Barcelona ym 1936:

“In the barbers’ shops were Anarchist notices (the barbers were mostly Anarchists) solemnly explaining that barbers were no longer slaves… Every shop and cafe had an inscription saying that it had been collectivized… Waiters and shop-walkers looked you in the face and treated you as an equal.

I had dropped more or less by chance into the only community of any size in Western Europe where political consciousness and disbelief in capitalism were more normal than their opposites…Many of the normal motives of civilised life – snobbishness, money-grubbing, fear of the boss, etc. – had simply ceased to exist. The ordinary class-division of society had disappeared to an extent that is amost unthinkable in the money-tainted air of England; there was no one there except the peasants and ourselves, and no one owned anyone else as his master”

Datblygodd athroniaeth anarchiaeth yn y 19fed ganrif fel ateb i’r tlodi a gormes a dioddefodd miliynau o bobl mewn yn nwyrain Ewrop. Roedd yr anarchwyr cynnar yn credu doedd dim modd i’r tsar, yr eglwysi a llond llaw o feistri diwydiannol dal eu gafael ar holl rym a chyfoeth am byth – roedd pobl gyffredin yn sicr o ddisodli eu gormeswyr yn hwyr neu’n hwyrach. Bwriad anarchwyr oedd creu cymdeithas heb feistri yn seiliedig ar gyd-weithio a rhannu yn hytrach nag ecsploetio.

Ychydig dros gan mlynedd yn ôl ddaeth mudiadau anarchiaeth i fodolaeth o amgylch y byd, llawer ohonynt yn heddychlon ond rhai eraill yn defnyddio tactegau chwyldroadol i drio cael gwared ac ambell i frenin neu unben. Ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, yn y cyfnod Fictorianaeth, manteisiodd wleidyddion a’r wasg ar y ‘bygythiad anarchaidd’ i ddychryn y poblogaeth.

Cyn hir bu hysteria llwyr am anarchwyr, oedd yn ôl papurau fel y Daily Telegraph, yn benderfynol o ladd canoedd o bobl diniwed gyda bomiau mewn theatrau neu o dan drenau.  Yn ôl y wasg boblogaidd roedd yr anarchwyr yn hawdd i’w hadnabod gyda’u barfau hirion a llygaid cochion. ‘Ffanatics’, ‘estronwyr’, ‘Iddewon’, ‘mewnfudwyr o’r dwyrain’. Swnio’n gyfarwydd? Ie, fel y ‘bygythiad Mwslemiaid’ yn ein hoes ni, roedd pleidleisiau i’w hennill a phapurau newydd i’w gwerthu trwy ddychryn a pharanoia.

Felly inni heddiw mae gair ‘anarchydd’ yn dal i daflu fyny’r ddelwedd i’n meddyliau o rywun peryglus sydd ar fin gwneud rhywbeth ofnadwy. Ond  ar ddechrau’r 20fed ganrif, llwyddodd undebau llafur ‘Anarcho-Sindicalaidd’ (Syndicale yw’r gair Ffrangeg am undeb), denu miloedd o aelodau yn yr Unol Dalaethiau ac fe lwyddwyd ennill llawer o welliannau yn safonau byw yn cynnwys y diwrnod gweithio 8 awr gyntaf. Mae’n debyg roedd Anarcho-Sindicalwyr yn ne Cymru, yn ardal Castell Nedd yn arbennig a chafodd y term ‘Anarcho-Sindicaliaeth’ ei fathu gan Gymro o’r enw Sam Mainwaring (Penrhiwtyn, 1841-1907).

Ond yn Rwsia a Sbaen, a nid Castell Nedd, ble bu uchelwyr ag eglwysi holl-rymus gyda bywydau pobl cefn gwlad heb eu newid llawer am ers dyddiau’r taeogion – gwelwyd y brwdfrydedd mwyaf am well ddyfodol yn seiliedig ar syniadaeth anarchaidd.

Er i anarchwyr Rwsia brwydro ochr ac ochr a’r comiwnyddion yn chrwydro 1917 cawsant bron i gyd eu lladd neu gyrru i Siberia yn fuan wedi’r Bolsiefics ennill. Roedd gwrthwynebiad llwyr yr anarchwyr i syniadau o lywodraeth canolog a gorfod dilyn ordars o uwchben yn fygythiad mawr i Stalin.

Felly dim ond am gyfnod byr, yn Sbaen yn y 1930au, gwelwyd mudiad anarchaidd digon cryf i allu cymryd grym, cyn hwythau cael eu trechu yn 1939 gan luoedd ffasgaidd yn rhyfel sifil y wlad. Yn ein hoes ni mae’n anodd credu roedd poblogaeth gyfan yn dewis ffurfio cymdeithas yn seiliedig ar rannu, ac yn ceisio gwneud i ffwrdd ag arweinwyr ac elw. Ond mae’n werth cadw esiampl Barcelona 1936 mewn cof fel Plan-B, rhag ofn, un diwrnod bydd Huw Edwards yn cyhoeddi bod pob banc yn y byd wedi methu a bod arian, masnach a threfn llywodraethau bellach wedi darfod. Cofia edrych os bydd gan y Daily Telegraph ragor o gyngor anarchaidd handi yn y cyfamser!

Ysgrifennwyd yr Erthygl yma i ‘Tu Chwith’ yn 2008 gan Ken Vegan.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s