Radicaleiddio’r SRG gan Cai O’Marah

Radicaleiddio’r SRG

Ers imi gyfarfod Rhys Bowen Harries (ar y bas) yn Gŵyl Kaya dechrau’r mis Mehefin 2012, mae ein band (hefyd gyda aelod gwreiddiol, sef Antony Roberts – gitâr, a fy mrawd bach, Callum O’Marah – dryms) wedi mynd o nerth i nerth, efo’r uchafbwynt hyd yn hyn yn cynnwys cefnogi brenin cerddoriaeth reggae a roc a rôl Cymraeg, Geraint Jarman. Yn ogystal, gig yn Y Tap, Blaenau Ffestiniog gydag un o fandiau mwyaf cyffrous a dadleuol y sin ar hyn o bryd, sef Twmffat, ac ennill Brwydr y Bandiau Pesda Roc yn fraint anhygoel. Ond, wrth gofio’n ôl, er bod ein breuddwydion a dyheadau o newid y byd drwy ein cerddoriaeth yn enfawr, doeddwn i ddim yn credu bysa ein cerddoriaeth yn lledaenu yn llawer pellach na’r ‘stafell fyw. Ac i ddweud y gwir, roeddwn i yn darogan bod ein cerddoriaeth yn rhy ddadleuol i glustiau’r Gymru fach sydd wedi hen arfer efo synau swynol a cherddoriaeth pop sy’n canu am ddim byd o bwysigrwydd bellach.

Ond i ein syndod, mae pawb ym mhob gig danni wedi chware hyd yn hyn wedi bod yn gefnogol ofnadwy, ac mae ein llwyddiant diweddar yn destun bod pobl Cymru yn barod am fudiad radical unwaith eto. Ond, i ddweud hynny, hyd yn hyn mae Radio Rhydd wedi chware o flaen cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol Merthyr, Bethesda a Ffestiniog sy’n cael rhyddhad am noson, ac efallai fod y bobl  yma yn llawer mwy tuned in i’r anghyfiawnderau mae’r system gyfalafol yn creu, er gwaethaf yr holl ddifrawder ymysg y dosbarth gweithiol. Beth bynnag, mae’r sialens fwyaf eto i ddod – chware o flaen y dosbarth canol mewn trefi mwy ffynadwy fatha Aberystwyth. Ydyn nhw’n barod, neu awydd chwyldro? Ydi pobl Cymru yn barod i radicaleiddio’r SRG unwaith eto?

Radio Rhydd yn Pesda Roc

Y Sin Roc Gymraeg (SRG)

Ers bron i ddeg ‘mlynedd bellach, mae’r sin cerddorol yng Nghymru wedi bod mewn rhyw groundhog day time loop, a’r sin byth ‘di symud ymlaen o’r ‘post-Super Furry Animals/cool Cymru’ cyfnod. Er bod bandiau gwych gyda negeseuon a rhywbeth pwysig i ddweud wedi mynd a dod yn y cyfnod hwn (Pep Le Pew, Tystion, Pen-Ta-Gram,  Anweledig) tydi’r mwyafrif ddim yn cynnig rhywbeth newydd, rhywbeth peryglus, rhywbeth chwyldroadwy, rhywbeth radical a rhywbeth all pobl ifanc sy’n ceisio dal gafael ar hunaniaeth ac annibyniaeth wirioneddol uniaethu gyda. Yn ogystal, ‘does fawr ddim negeseuon a cherddoriaeth all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag yn bodoli yn y sin roc Cymraeg ar hyn o bryd. Fel canlyniad, yn fy marn i, mae ieuenctid Cymru wedi suddo mewn i fod yn genhedlaeth di-wleidyddol, difraw a diflas. Yn ogystal, mae’r sin roc Cymraeg yn llusgo yn ei flaen heb ddim cyfeiriad, tra bod bandiau dosbarth canol o gefndir  fel Glanaethwy (a sefydliadau pathetic dosbarth canol tebyg sy’n lladd unrhyw  siawns am unrhyw beth gwerth chweil i ddod o’r sin) yn gwneud yr headlines yn y cyfryngau Cymraeg.

Os yw Cymru am symud yn ei blaen fel cenedl ddewr, mae rhaid moderneiddio’r sin, mae rhaid radicaleiddio’r SRG, mae rhaid radicaleiddio a moderneiddio diwylliant Cymraeg yn gyfan gwbl. Hefyd mae’n rhaid llacio gafael y dosbarth canol ar ein diwylliant ni, ar ein cyfryngau ni, ac ar ein llywodraeth ni. Fel dywedodd y Twmffat -‘Mae aelodau Plaid Cymru yn gwisgo trôns Tori,’ ac mae hynny’n wir; Torïaid mewn cuddwisg genedlaethol yw’r mwyafrif.

Radio Rhydd yn Llosgi Jac yr Undeb mewn perfformiad yn Tynal Tywyll

Uchelgais i rôl Radio Rhydd mewn sin newydd

 Cyn inni ddechrau’r band, ein bwriad oedd creu rhyw fath o sianel radio peirat, neu anghyfreithlon (heb drwydded) lle fedrith unrhyw berson dros y wlad, neu hyd  yn oed y byd, gyfrannu tuag ato mewn termau cerddorol, neu farddonol, neu jest er mwyn pregethu, rantio a thrafod gwleidyddiaeth. Dim ond hwyrach ymlaen y trawsffurfiodd y syniad yma mewn i fand, a’r syniad o greu sianel radio yn disgyn lawr y pan, am y tro. Nawr, wrth feddwl am ein rôl ni mewn sin newydd o fewn ffiniau Cymru, mae’n rhaid cyfaddef fod ganom ni syniadau enfawr, gan gynnwys ceisio ysbrydoli mwy o fandiau yng Nghymru i gymryd llwybr syml mewn termau o ganu efo angerdd ac am rywbeth sy’n bwysig, rhywbeth all pobl dros y wlad, a hyd yn oed y byd cyfan uniaethu gyda.

I mi, mae’n anodd ofnadwy gwahaniaethu rhwng y celfyddydau a gwleidyddiaeth, wrth fod gan y celfyddydau’r potensial o gael rôl mor fawr i chware mewn  mudiadau gwrthwynebol. A nawr, ella’n bwysicach na byth, mae angen bandiau radical i ganu’n wleidyddol oherwydd mae’r craciau o du fewn i’r system gyfalafol yn dangos yn gliriach nac erioed o’r blaen. Mae rŵan yn amser perffaith i ymosod ar y system, ac mae’r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, yn offeryn cryf ofnadwy i’w ddefnyddio er mwyn gwneud hynny. Felly, dwi’n meddwl mai’n rôl ni o fewn sin newydd ydi i geisio cicio petha’i  ffwrdd unwaith eto, ar draws Cymru, swydd debyg i’r hyn wnaeth Y Tystion, ond bron i bymtheg ‘mlynedd yn ddiweddarach. Ac wrth fod y system gyfalafol yn creu gymaint o anghyfartaledd, yn atal pobl rhag byw bywydau boddhaol, yn ffafrio cystadleuaeth dros undod a ffyniant i bawb, rhyfel dros heddwch, casineb dros gariad, monopoleiddio dros hunan-gynaladwyo, elw dros bobl a buddion unigol dros gymunedau, mae’n amlwg fod newid yn y ffyrdd mae cymdeithas yn cael ei rhedeg angen digwydd; ac mae hi fyny  i’n cenhedlaeth ni i hybu’r newid cymdeithasol a gwleidyddol yma drwy brotest mewn ffyrdd cerddorol, celfyddydol a phrotestio. Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo ni; beth am o leiaf wneud rhywbath positif hefo fo, neu beth am o leiaf greu cerddoriaeth sy’n herio’r  status quo yn hytrach na cherddoriaeth sy’n ei atgyfnerthu!

Radio Rhydd yn Pesda Roc

Radicaleiddio’r SRG: Ydio’n digwydd?

Mae sawl band anhygoel, gwrthryfelgar a pheryg wedi grasau’r sin roc Cymraeg yn y gorffennol; ella’n fwyfwy amlwg yw bandiau pync yr 80’au, fel Yr Anhrefn a bandiau hip hop y 90’au a’r 00’au cynnar. Felly, ar ôl bron i ddeg ‘mlynedd o dawelwch a diffyg cyffro, ydi’n amser i fand peryglus a gwrthryfelgar arall daro’r sin fatha bom yn ffrwydro? Y cwestiwn mwyaf ydi: A yw pobl Cymru  yn gyffredinol hyd yn oed awydd diwygio’r sin cerddorol? Ydy ieuenctid Cymru hyd yn oed yn hiraethu am fand sy’n dweud fuck off  i bob awdurdod, band all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag ef ar bob lefel, band all wneud i bobl ifanc unwaith eto deimlo fel eu pont yn rhan o fudiad pwysig mewn hanes. Ydi pobl Cymru awydd y math yma o fand ar hyn o bryd? Yn fy marn i, mae’r sin yn llwgu am y math yma o fand, am fersiwn Cymraeg o’r Clash, Sex Pistols, King Blues, Anti-Flag, Ramones, Rage Against the Machine, ac mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen. Mae’n amser diwygio, mae’n amser newid, mae’n amser am welliant, mae’n amser i’r ieuenctid ddeffro unwaith eto, mae’n amser i roi sin cerddorol yng Nghymru lle all pobl ifanc deimlo’n rhan o fudiad, rhan o amser, teimlo’n fyw, a dweud fuck off heb i neb sbïo’n hurt. Felly, ydi newid yn digwydd o fewn y sin? Ar hyn o bryd, nac ydi, ond mae’r gefnogaeth mae Radio Rhydd wedi derbyn hyd yn hyn mewn gigs efallai’n dystiolaeth fod pobl yng Nghymru awydd diwygio’r sin, neu o leiaf yn hiraethu am fand mwy cyffrous, fwy peryglus, fwy gwrthryfelgar; Band hefo neges a rhywbath pwysig i’w ddweud!

Advertisements

5 Sylw

  1. Un sylw, Does dim pwynt ymosod ar y dosbarth canol tra’n clodfori Y Tystion, gan mai dobarth canol iawn ydi cefndir Steffan ag Gruff.

  2. O ddarllen y blog yma, dwi’n sylweddoli fod y cynnig a’r sylw sydd i ddilyn ychydig yn eironig – OND… byddai’n braf medru chwara tracia’r grwp ar C2 / Radio Cymru / Lisa Gwilym os oes ganddoch chi unrhywbeth wedi recordio? Efallai nad ydy Radio Cymru yn gartef amlwg i radicaleiddio SRG, ond byddai’n wych clywed eich tracia. Cofion, Gareth. Cynhyrchydd – C2/Lisa Gwilym

  3. Croesawu band fel hyn. Mae angen bandiau Cymraeg o bob math.
    Un pwynt – Heblaw am Rhydian (Hud) allai’m meddwl am unrhyw aelod o fand Cymraeg sydd wedi bod i Glanaethwy.

  4. @Andrew Yr oedd Y Tystion yn neulltuol wahanol i bandiau eraill o gefndir dosbarth canol a o be wn i dydi’r ddau ddim wedi dewis bywyd cyfforddus dosbarth canol hyd heddiw…
    @Gareth dyma soundcloud yr hogia http://soundcloud.com/radio-rhydd-1
    @Mererid Hyd yn oed os mai nid i Glaenaethwy aeth alodau o lot o fandia cymraeg, ma mhw o’r un cefndir a kids Glanaethwy hyd y gwelwn i… dyna pam eu bod mor ffycing diflas!
    Bigyp Radio Rhydd!

  5. Post diddorol i ddarllen, ond rhaid cofio tan yr 90au roedd y sin roc Cymraeg yn gwleidyddol iawn iawn wrth cymharu a’r sin Saesneg ar yr un pryd. Roedd y cyfnod rhwng yr 80au cynnar a’r 90au cynnar, (tan i BBC ac S4C penderfynu tynnu’r plyg ar y SIn) yn fath o Oes Aur, ac roedd y sin yn mynd o nerth i nerth ac roedd hi jyst yn dod yn bosib i gwneud ryw fath o bywoliaeth trwy canu yn y Gymraeg. Mae’n wir bod y ffiasco dros y mudiad CRAG yn anffodus, ond beth sydd i’w ddisgwyl gyda’r fath yna o fudiad wedi ei ariannu efo arian cyhoeddus? Roedd colli rhaglen Nia Melville ar y slot ‘Heno Bydd yr Adar yn Canu’ (pob nos rhwng 10 a hanner nos o 1989 tan 92ish) yn gwledd o seiniau hen a newydd o bedwar ban byd, yn rhoi Cymru a’r sin roc yng ghydestun y byd. Fel protest wnes i bendefynu i wrthod gwrando ar BBC Radio Cymru ar ol iddynt cael gwared o’r rhaglenni yma, a dim ond ychydig o weithiau yr wyf wedi gwrando ar y sianel, mae Radio Cymru hyd yn oed yn waeth na S4C!.

    Mae llawer o dalent yn ein mysg, ond paid chwilio am y talent yna ar Radio Cymru neu S4C fel y cyfryw. Mae’r dau orsaf yn debyg iawn a’r Eisteddfod ym marn y diweddar Caradog Evans, sefydliadau sy’n clodfori’r canolig. Rwy’n sylweddoli bod fy rhagfarn yn mynd i gwylltio rhai, ond rhaid cofio am ddillad yr ymerawdwr.

    Oes, yn bendant mae ‘na le i fandiau sydd ag agwedd gwleidyddol. Dylai canu yn y Gymraeg bod yn act gwleidyddol yn hytrach na ystrydeb. Yng ngheiriau band Y Cyrff, ‘Mae’n hen bryd i Gymru sylw, mae’n hen bryd i Gymru deffro’


Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s