Gwrthsafiad yn erbyn troi allan Sgwatwyr o Gremlin Alley Caerdydd.

Heddiw oedd y dyddiad rhoddwyd y llys ar gyfer troi allan criw o sgwatwyr o’r adeilad Gremlin Alley  yn y Rhath, Caerdydd.  Mae’r adeilad yn hen Sinema a ali fowlio o’r enw Spin ar Heol y Ddinas a chafodd ei hagor yn wreiddiol fel y Gaiety Cinema and skating rink yn 1912.

Tua 10 o’r gloch yn y bore fe wnaeth y sgwatwyr a oedd yn wynebu cael eu troi allan ollwng banner o’r to yn dweud;

‘SOLIDARITY WITH ALEX HAIG – 3 MONTHS FOR BEING HOMELESS’

mewn brawdoliaeth gyda dyn 21 oedd a chafodd ei garcharu am fyw mewn adeilad a oedd yn wag fel arall, ‘sgwatio’ hynny yw. Mis mawrth diwethaf fe wnaeth y llywodraeth basio deddf a oedd yn gwneud sgwatio i raddau helaeth yn anghyfreithlon, y dyn yma, Alex Haig yw’r cyntaf i’w garcharu gan bwerau’r ddeddf newydd yma.

Fel arwydd o wrthdystiad yn erbyn y gyfraith anghyfiawn hon, penderfynodd y sgwatwyr i wrthsefyll y ‘troi allan’ a wnaeth y llysoedd orchymyn arnynt. I lawer ohonynt a oedd o safiad gwleidyddol Anarchaidd; ‘lladrad yw eiddo’ ac felly mae meddiannu adeiladau a’u defnyddio er lles y gymuned yn rhan o’u credoau gwleidyddol o gymunedau ymreolaethol.

Mae sawl enghraifft o weithgareddau cymunedol gwerth chweil a wnaeth y sgwatwyr yn Gremlin Alley, maent wedi cynnal sawl noson gerddorol/barddonol. O gerddoriaeth acwstig i gerddoriaeth ddawns. Yn ogystal a hyn mae sawl gweithdu wedi cael ei gynnal yn Gremlin Alley,  gan gynnwys gweithdai gweu, gweithdai ffansins, sesiwn bywlunio, sesiwn sglefrfwrddio a Parkur, sesiynau ar gyfer pobol sydd yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, gweithdy syrcas a llawer iawn mwy. Yr oedd y criw yma o sgwatwyr yn weithgar iawn yn trio dod a rhywbeth positif i’r gymuned.

Ar ddiwrnod y troi allan fe ddoth yr awdurdodau ar ôl i’r sgwatwyr ollwng y banner o’r to, fe yrasant nhw sawl grŵp o heddweision draw at yr adeilad drwy gydol y dydd, ond nid oedd modd iddynt gael mynediad i’r adeilad. Yr oedd llawer o fobol tu allan wedi casglu i brotestio yn erbyn y troi allan. Fe wnaeth band lleol o’r enw Inconsidorate Parking gwneud perfformiad yn y stryd tŷ allan i’r sgwat fel eu ffordd nhw o ddangos cefnogaeth.

Nid yw sgwatwyr Gremlin Alley yn gwybod be ddigwyddith. Mae’r heddlu wedi gadael  ar hyn o bryd ond ni wyddai’r  sgwatwyr pryd byddynt yn dod nol. Dywedodd un sgwatiwr wrthyf eu bod wedi baricedio’r holl adeilad ac yn barod am y bailiffs a’r heddlu. Amser a ddengys os mi fyddyn nhw yn llwyddo cadw gafael ar yr adeilad.

Advertisements

1 Sylw

  1. hello gyfaill – diddorol iawn clywed yr hanes, sgwn i os allet ti ebostio fi leni@antena.co.uk – dwi’n credu fyddai hwn yn rhywbeth falle fydde o ddiddordeb i’n rhaglen gylchgrawn ni (alternative) Y LLE….diolch a wow dwi di dysgu lot bore ma wrth ddarllen hwn


Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s