Unoliaeth efo pobl digartref Caerydd 10/10/2012

Heddiw fe wnaeth ‘Ymgyrch Unoliaeth a phobl ddigartref Caerdydd’ a ‘Bwyd nid Bomiau Caerdydd’ ymuno i roi bwyd cynnes, llysieuol am ddim i bobl ac i wrthdystio yn erbyn siop gemydd yng Nghaerdydd. Pam? Oherwydd fe wnaeth perchennog y busnes yma ddweud y dylai pobl ddigartref cael eu carcharu yn y wasg yr haf yma gan ddefnyddio’r ddeddf  cardota o’r flwyddyn 1824.

Yr oedd hyn yn sgil fflam yr olympics dod i’r dref, yr oedd y gemydd yn poeni fod pobl ddigartref am effeithio ei fusnes.

Gwnaeth criw ohonom eistedd o flaen mynedfa ei siop a rhoi taflen i bawb oedd yn mynd i’r siop a oedd yn amlinellu’r problemau mae pobl ddigartref yn ei wynebu yn ein cymdeithas. Mae’r ffaith fod y llywodraeth yma wedi gwneud sgwatio yn anghyfreithlon mewn adeiladau preswyl yn golygu mae pobl ddigartref yn cael eu targedu, nid oes ganddynt hawl i fochel mewn tŷ gwag, yng Nghymru o bob man! Gwlad sy’n adnabyddus o wlyb ac oer! Mae hyn yn hollol chwerthinllyd wrth ystyried cymaint o dai gwag  sydd yng Nghymru, gan gynnwys tai haf ble mae’r adeilad yn wag am ran fwyaf o’r flwyddyn.

Fe wnaeth  dwy Community Suppourt Officers ddod atom a gofyn am ein manylion, dywedodd un wrthym (ar ôl i ni wrthod rhoi unrhyw fanylion)

‘Did you know it is ân offence to not give your details?’

Fe wnaeth yr arsylwraig cyfreithiol a oedd yn monitro’r brotest, chwerthin yn eu hwynebau. Yr oeddynt un ai yn dweud celwydd neu’n dwp oherwydd mae hyn yn rwtsh llwyr, does dim rhaid darparu unrhyw fanylion personol o gwbl yn y sefyllfa yna.

Yr oedd cerddoriaeth gan Jamie Bevan a Jasmine Jackdaw, yr oedd pawb wrth eu boddau gyda veggie burgers blasus bwyd nid bomiau ac fe wnaeth sawl person digartref ymuno a’r brotest.

Mae digartrefedd wedi cynyddu 14% y flwyddyn ddiwethaf ac mae amcangyfrifon fe fydd yn cynyddu bellach fyth.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s