Sgwatio a’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.

Rhywsut neu’i gilydd mae llawer iawn o sgwatwyr yng Nghaerdydd yn siaradwyr Cymraeg. Yn y sgwot yn nwyrain Caerdydd, yr ‘Ymbarél Coch a Du’ bu cyrsiau Cymraeg am ddim yn cael eu cynnal. Yn ddiweddar hefyd mae’r sgwatwyr wedi bod yn mynnu cael popeth trwy’r cwrt (wrth iddynt cael eu efictio) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan lawer o bobl syniad o siaradwyr Cymraeg fel ‘cyfryngis’ neu yrfa garwyr yng Nghaerdydd ond fel y gwelwn nid yw hyn yn wir. Mae graffiti Cymraeg yn addurno waliau’r sgwatiau dirifedi sydd wedi bod yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd comnique grŵp oedd yn galw eu hunain yn ‘Gremlins’ ei ryddhau ar ffurf fideo yn y Gymraeg a’r Saesneg.


Gall godi pryder nad yw gwefan y Cardiff Squatter’s Network gydag unrhyw Gymraeg yno, ond mae sgwatio’n anodd, a mynd ar y we a chyfieithu yn aml yw un o’r tasgau sydd yn debyg o gael llai o sylw yn hytrach na gwellhau safon yr adeiladau y maent yn sgwatio neu wreiddio yn y gymuned. Mae cydweithfa cyfieithu wedi ei sefydlu yn ddiweddar a chredaf gall hyn fod yn ffynhonnell iddynt gael rhagor o stwff yn y Gymraeg ar-lein.

 

Heddlu yn efictio'r 'Cop-squat'

Heddlu yn efictio’r ‘Cop-squat’

Yn ystod yr haf hwn mae 2 dafarn a hen orsaf heddlu wedi cael ei sgwatio yng Nghaerdydd. Yn anffodus y mae 2 o’r sgwatiau hyn wedi cael eu cau er i’r sgwatwyr wrthdystio. Bu gig gwych yn y sgwat diweddaraf gyda grwpiau pync o Leeds, Sheffiled a Llundain yn perfformio. Gyda treth y llofftydd yn bygwth cartrefi pobl rhagwelaf sgwatio yn cynyddu’n sylweddol yng Nghymru. Mewn gwlad gyda tua 25 000 o dai gwag y mae’n warth bod pobl yn ddigartref!

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s