Rant gwin facebook Prysor am Anarchiaeth

mynegai
Elfen bwysica chwyldro ydi be ti’n trio ei ennill, nid be ti’n drio ei chwalu. Nid dymchwel y status quo ydi’r prif reswm, ond yn hytrach, ei *ddisodli* efo rhywbeth arall. Ti ddim yn taflu’r babi allan efo’r dŵr. Felly, elfen bwysicaf chwyldro ydi cynnal, adeiladu ar, a gwireddu dy amcanion. ee adeiladwaith ydi anarchiaeth, nid malwriaeth. Felly mae defnyddio’r broses gyfansoddiadol i ddarnio’r wladwriaeth ac i amddiffyn – by all means necessary (dy egwyddorion craidd, diwylliannau, y blaned, rhyddid etc) – yn rhan annatod o’r Chwyldro bydol, ac yn rhan annatod o anarchiaeth hefyd. Ar ddiwedd y dydd, casgliad o gymunedau fyddwn ni, yn rhydd o imperialaeth cenedlaetholgar ac economaidd, yn rhydd o gyfalafiaeth, yn rhannu technoleg ac adnoddau heb unrhyw grefydd na chymhelliad ariannol na gwleidyddol i achosi anghydfod a gormes. Mae sarhau a dilorni diwylliannau lleiafrifol am fod eisiau rhyddhau eu hunain o afael y gormeswr imperialaidd yn gwbl groes i egwyddorion, amcanion ac athroniaeth unrhyw chwyldro. Mae hyn yn egwyddor sy’n uno, nid rhannu, yn egwyddor sy’n uno rhan fwyaf poblogaeth ynysoedd Prydain (Saeson a Celtiaid a mewnfudwyr a’u disgynyddion) ac NID yn unrhyw fath o genedlaetholdeb ‘G’ fawr, ac yn sicr ddim y fath o beth a gyhuddir ni gan y a) y wladwriaeth b) y wasg wasaidd, ac c) y bobol yn ein mysg sydd yn llyncu’r bwlshit. Heb son am yr hilgwn sy’n ymosod ar fewnfudwyr i Brydain y dyddiau hyn (oh, by the way – EDL = ‘wot’s all this Welsh shit, then?’ we’re all english = (yn y bôn) lle mae dy safbwynt di yn arwain – heb i ti sylweddoli – Gwyds ). A bai ddy wê mae’r EDL wedi dechra paentio seins cymraeg allan mewn pentrefi yn sir gaerbarfon yn barod.
Rhaid i ni gadw sylfaen ein bodolaeth, be sy genan ni, ac adeiladu arno, fel rhan o chwyldro byd, achos os na fyddan ni yn gneud hynny, fyddan ni ddim yma – fyddan ni wedi diflannu. Fydd y chwyldro yn ein lladd ni yn lle ein hachub! Tydi chwyldro ddim i fod i achub *rhai* pobol/diwylliannau/treftadaeth/cymunedau. Mae chwyldro fod i’n hachub a’n hamddiffyn ni i *gyd.* Mae rhyddid yr unigolyn y peth mwya gwerthfawr yn y byd – fel mae rhyddid y gymuned mae / bydd o’n byw ynddi. Dwi isio gweld fy hunaniaeth i, a treftadaeth fy nheulu a cyd-Gymry a chyd-humans, yn bod yn rhan o amcanion y Chwyldro.
Mae genai fwyi ddeud, ond dwi di yfad gormod o win, so dwi’n myndrwa.
Ond cyn mynd, parch i ti, Dai, ond, na, chdi ddechreuodd y ffrae ‘ma, drwy ‘gywiro’ iaiith y werin – fy ffrindiau – a hynny tra bod pethau pwysicach dan sylw. Stopiwch yr Orymdaith Dros Ddeffroad Ymwybyddiaeth ac Annibynaeth oherwydd spelling mistêcs!!! Mae Cgwyldro yn Iawn cyn bellad â bod y sillafu yn iawn??? Ac o ran yr ymateb yr wyt yn gwyno amdano>? Wel, be ffwc ti’n ddisgwyl?? Pob parch, ond pa hawl sy ganddoch chi, hen bobol, i’n cywiro ni???

Ffeminyddion yn cwffio Transffobia

mynegai

Yr oedd y cyfieithiad yma gan Anarchist Welsh Translation

Rydym yn falch o gyflwyno datganiad ar y cyd, hynny yw, at ein gwybodaeth (a byddem wrth ein bodd i fod yn anghywir) y cyntaf o’i fath.  Yn y testun hwn byddwch yn canfod datganiad o undod ffeministaidd gyda hawliau trans*, a lofnodwyd gan ffeministiaid /menywyddion o wledydd gwahanol sy’n dymuno i gadarnhau y gall a dylai ffeministiaeth / menywyddiaeth fod yn gartref ar gyfer pobl trans* yn ogystal â sis.  Mae wedi cael ei lofnodi gan ymgyrchwyr, blogwyr, academyddion, ac artistiaid. Yr hyn yr ydym i gyd yn argyhoeddedig y dylai ffeministiaeth groesawu pobl trans* a bod pobl trans* yn hanfodol i genhadaeth ffeministiaeth i eirioli ar gyfer menywod a phobl eraill sydd wedi eu gormesu, eu hecsbloetio, ac eraill sydd ar y cyrion o ganlyniad i systemau a phobl batriarchaidd a  gwreig-gasäwyr.

Os ydych yn blogiwr(aig)/ awdur(es) / academydd / addysgwr(aig) / artist / ymgyrchydd /neu mewn sefyllfa o unrhyw fath i gael argraff ar drafodaeth neu weithredu ffeministaidd neu menwyaidd ac yr hoffech i lofnodi’r datganiad hwn, rhowch wybod i ni!  Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar y dudalen gyswllt neu gallwch yrru e-bost atom.  Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Datganiad o Ffeministiaeth a Menywyddiaeth Trans-Gynhwysol.

Rydym ni, yr ysgolheigion, awduron, artistiaid, ac addysgwyr, trans* a sis sydd wedi llofnodi isod yn dymuno yn gyhoeddus ac yn agored i gadarnhau ein hymrwymiad i ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n trans*-gynhwysol.

Bu cynnydd amlwg mewn gweithgarwch ffeministaidd dransffobig yr haf hwn gan gynnwys: y llyfr sydd ar y gweill gan Sheila Jeffreys o Routledge, y llythyr dienw gelyniaethus ac yn fygythiol at Dallas Denny ar ôl iddi a Dr Jamison Green ysgrifennu at Routledge ynghylch eu pryderon am y llyfr, a’r datganiad a ddosbarthwyd yn eang yn ddiweddar o’r enw “Forbidden Discourse: The Silencing of Feminist Critique of ‘Gender’” wedi’i lofnodi gan nifer o ffeminyddion amlwg, ac yr ydym yn gresynu i ddweud, cyfeiliornus. Dyma sydd wedi bod yn arbennig o amlwg.  Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn yr hinsawdd o dransffobia prif ffrwd ffyrnig sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn y sylw a roddir i dreial Chelsea Manning a datganiad dilynol ynghylch ei hunaniaeth o ran rhywedd, a’r llofruddiaethau diweddar o ferched draws ifanc o liw, gan gynnwys Islan Nettles a Domonique Newburn, y targedau diweddaraf mewn hanes hir o drais yn erbyn menywod traws o liw.  O ystyried y digwyddiadau hyn, mae’n bwysig ein bod yn siarad o blaid ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n cefnogi pobl trans*.

Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a pharchu’r adeiladu cymhleth o hunaniaethau rhywedd /rhyw, i gydnabod menywod trans* fel menywod ac yn eu cynnwys holl ofodau sydd ar gyfer menywod; i gydnabod dynion trans* fel dynion a gwrthod y naratif o ddyn sy’n eu gwahardd rhag unrhyw beth, i gydnabod y fodolaeth cwiars, di-deuaidd, adnabod pobl a derbyn eu dynoliaeth; ar gyfer ymchwil trylwyr, meddylgar a nuanced a dadansoddiadau rhyw, rhywedd, a rhywioldeb sy’n derbyn pobl trans* fel awdurdodau ar eu profiadau eu hunain ac yn deall bod y cyfreithlondeb eu bywydau ddim yno ar gyfer i neb ei drafod, ac i ymladd yr ideolegau deublyg o trawsffobia a phatriarchaeth yn eu holl ffurfiau.

Mae ffeministiaeth trawsffobig yn gwrthod cydnabod llawer o bobl trans* a phobl ciwar fel ffeministiaid neu menywyddion a llawer o ffeministiaid/menywyddion sis gyda’u chwiorydd, brodyr, ffrindiau, a chariadon trans*,  mae’n ffeministiaeth sydd yn rhy aml yn eu gwrthod, ac nid y gwrthwyneb. Mae’n anwybyddu’r pwysau hanesyddol a roddir gan y proffesiwn meddygol ar bobl trans* i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw anhyblyg er mwyn cael y “rhodd” o’r cymorth meddygol y maent fel bodau dynol gyda hawl iddo.  Drwy osod “menyw” fel hunaniaeth gydlynol, sefydlog mae ffeminyddion transffobig yn ei blismona, mae ffeminyddion transffobig yn gwrthod mewnwelediad dadansoddi croesdoriadol, yn darostyngu bob hunaniaeth arall i fenywdod a phob gorthrymder arall i batriarchaeth.  Maent yn gwrthod cydnabod eu pŵer a braint hunain.

Rydym yn cydnabod bod ffeministiaid transffobig wedi defnyddio trais a bygythiadau o drais yn erbyn pobl trans* a’u partneriaid, ac rydym yn condemnio ymddygiad o’r fath.  Rydym yn cydnabod bod rhethreg transffobig yn cael effeithiau niweidiol iawn ar fywydau go iawn bobl trans*; tyst i hyn yw carchariad CeCe MacDonald mewn cyfleuster ar gyfer dynion.  Rydym hefyd yn cydnabod y niwed penodol mae transffobia yn achosi i bobl trans* o liw pan fydd yn cyfuno â hiliaeth, a’r trais mae’n annog.

Pan mae ffeministiaid eithrio menywod trans* o lochesi fenywod, bydd menywod trans* yn cael eu gadael yn agored i’r mathau gwaethaf o wreig-gasineb treisgar, boed mewn llochesi i ddynion, ar y stryd, neu mewn cartrefi sy’n cam-drin.  Pan bo ffeministiaid mynnu bod menywod trans* yn cael eu heithrio o ystafelloedd ymolchi merched a bod pobl cwiar yn dewis ystafell ymolchi wedi eu marchio’n ddeuol, maent yn gwneud cymryd rhan yn y sffêr cyhoeddus yn amhosibl bron, ac yn cydsynio ag anystwythder o hunaniaeth rhywedd sef be mae ffeministiaeth wedi ymladd yn ei herbyn yn hanesyddol, a chodi rhwystr arall i gyflogaeth y bobl hyn.  Pan fo ffeministiaid dysgu tranasffobia, maent yn gyrru myfyrwyr trans* i ffwrdd oddi wrth addysg a’r cyfleoedd y mae’n ei ddarparu.

Rydym hefyd yn gwrthod y syniad bod beirniadaethau ymgyrchwyr trans* o ragfarn trawsffobig yn “tawelu” unrhyw un.  Nid yw beirniadaeth yr un fath â distewi. Rydym yn cydnabod bod y pwyslais diweddar ar y rhethreg dreisgar hon yn ôl y ffeministiaid transffobig yn dod o fenywod trans* ar-lein, a bod hyn yn anwybyddu’r 40 a mwy o’r hanes o rethreg dreisgar a dileol wedi ei leisio gan ffeministiaid amlwg yn erbyn menywod trans*, dynion trans* , a phobl cwiar.  Mae’n anwybyddu’r strategaeth fwriadol rhai o ffeministiaid trawsffobig adnabyddus o gymryd rhan mewn aflonyddu afieithus a pharhaus, a phrofocio pobl trans*, yn enwedig menywod trans*, yn y gobaith o ysgogi ymatebion dig, sydd wedyn yn cael eu defnyddio i beintio portread ffug o fenywod trans* fel gormeswyr a menywod ffeministaidd sis fel dioddefwyr. Mae’n anwybyddu bod y ‘dod allan’ o fenywod trans* yn gyhoeddus mae rhai ffeministiaid trawsffobig wedi cymryd rhan ynddo, waeth beth y niwed y mae’n ei wneud i fywydau’r menywod, a’r perygl y mae’n eu rhoi’r menywod trans* ynddo.  Mae’n dibynnu ar y rhethreg niweidiol o euogrwydd ar y cyd, gan ddefnyddio unrhyw enghraifft o rethreg dreisgar o’r fath, dim ots y ffynhonnell – a’r dicter gellid ei gyfiawnhau gan unrhyw fenyw trans* – i gondemnio pob menyw trans*, ac i gyfiawnhau eu gwaharddiad parhaus a’r gwrthod parhaus o’u hawliau sifil.

P’un a ydym yn sis, trans*, deuaidd-nodedig, neu cwiar, ni fyddwn yn gadael i disgwrs ffeministaidd neu menywyddol lithro’n ôl neu fynd yn ferddwr, byddwn yn bwrw ymlaen yn ein dealltwriaeth o ryw, rhywedd, a rhywioldeb ar draws disgyblaethau gwahanol.  Er ein bod yn parchu enillion mawr a brwydrau caled a ymladdwyd gan ymgyrchwyr yn y 1960au a’r 1970au, rydym yn gwybod nad yw’r ymgyrchwr hynny yn anffaeledig a ni all cynnydd stopio gyda hwy os ydym yn gobeithio aros yn ddeallusol onest, moesol, ac yn wleidyddol effeithiol.  Yn bwysicaf oll, rydym yn cydnabod nad yw damcaniaethau yn fwy pwysig na fywydau go iawn bobl go iawn, byddwn yn gwrthod unrhyw ddamcaniaeth o ran rhyw, rhywedd neu rywioldeb sy’n galw arnom i aberthu anghenion unrhyw grŵp gorthrymedig neu sydd ar y cyrion.  Mae pobl yn fwy pwysig na theori.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dosbarthiadau, ein hysgrifennu, ac mae ein hymchwil yn gynhwysfawr o fywydau pobl trans*.

‘Sis’- Gair a fathwyd am ‘cis’

Beth yw Ecoffeminyddiaeth?

mynegai

Mae ecoffeminyddiaeth yn llawer mwy eang na’r hyn a ddatgela’r enw. Modd ydyw o gyd-berthnasu gorthrwm; gorthrwm y dyn ar y ddaear a menywod ond hefyd ar sail hil, dosbarth a phobl a drefedigaethwyd. Defnyddiwyd y term ‘ecoffeminyddiaeth’ am y tro cyntaf yn y 70’au gan yr awdur Françoise d’Eaubonne yn ei llyfr Le Féminisme ou la Mort, 1974. Dywed Birkeland ‘…the very essence of ecofeminism is its challenge to the presumed necessity of power relationships’ (1993, t.18). Felly fel y gwelir, nid yw’n ymwneud â syniadau amgylcheddol a ffeminyddol yn unig. Pwysleisia ecoffeminyddion y dylid dathlu’r hyn y mae cymdeithas yn ei nodi fel nodweddion benywaidd, sef; ‘emotionality, spontaneity, humaness’ (Miles 1993, t.151).

Rhan o’r broblem i ecoffeminyddion yw bod pobl yn canfod y nodweddion hyn fel rhai ‘gwan’ neu ‘negyddol’, a beth sydd wir ei angen arnom yw i’n gymdeithas ddathlu’r priodweddau hyn. Cred ecoffeminyddion fod dathlu priodweddau benywaidd yn ddechrau ar wneud y priodweddau hyn yn ganolog i’n cymdeithas. Mae eu breintio yn fodd o ddryllio ‘pŵer’ neu ‘grym’ (sef cyferbyniad ecoffeminyddiaeth) fel y bodolai ym mhob ffurf;  grym cyfalafol, hierarchaeth (o fewn llywodraeth er enghraifft) ac unrhyw berthnasau eraill a weithreda ar sail pŵer. Gwna hyn ecoffeminyddiaeth yn athroniaeth wleidyddol a berthynai yn agos iawn i anarchiaeth ac ecoleg cymdeithasol Bookchin ac yn ddiweddarach Janet Beihl.

Cred ecoffeminyddion fod hyn yn fodd amgen o gynnal a gweithredu mewn cymdeithas o gymharu â’r system gyfalafol bresennol sy’n golygu bod rhaid ‘ennill’ a chystadlu  ‘lwyddo’ yn hytrach na chydweithio. Eglura Davion y ‘nodweddion’ gwahanol a briodola cymdeithas i’r ddau ryw;

Western patriarchal thought on women and nature … women have been assosiated with nature, the material, the emotional, and the paticular, while men have been assosiated with cuture, the non-material, the rational and the abstract … the traits assosiated with men have been systematicly privileged over traits assosiated with both women and nature. (1994, t.9)

Un feirniadaeth o ecoffeminyddiaeth yw ei fod yn cydsynio gyda phriodweddau rhywedd sydd wedi gorthrymu merched yn hanesyddol. Mewn gwirionedd mae ecoffeminyddion yn credu mai cyflyru yn gymdeithasol sydd yn creu’r priodweddau rhywedd hyn.

This connection [between women and nonhuman nature and animals] is not to be understood as a “natural” connection-one that suggests that women and animals are essentially similar-but rather a constructed connection that has been created by the patriarchy as a means of oppression. (Gruen 1993, t.61)

Honna ffeminyddion o bob math mai’r gorthrymwyr a phatriarchaeth sydd wedi priodoli menywod gyda’r nodweddion ‘benywaidd’ hyn y priodweddau rhywedd.  Ydi’r hyn y dylwn ei ‘ddathlu’, yn ôl Ecoffeminyddion, wedi deillio o orthrwm felly? Yma mae ecolegwyr cymdeithasol fel Janet Beihl a ffeminyddion eraill fel Davion yn hollti rhag ecoffeminyddiaeth; ‘… femininity may itslef be a byproduct of patriarchy.’ (Davion 1994, t.17).

Ffurf o hierarchaeth yw patriarchaeth, a deilliai pob hierarchaeth o berthnasau o bŵer. Dyma paham mai prosiect ecoffeminyddion yw dryllio’r eidiolegau sydd nid yn unig yn atgyfnerthu’r perthnasau o bŵer hyn ond sydd yn gosod pŵer fel rhinwedd. Nid yw pob cymdeithas ddynol a fodola yn gyfalafol a phatriarchaidd o bell ffordd, a hyd yn oed wrth ystyried cymdeithasau o fewn cyfalafiaeth, mae pobl yn gweithio ar sail egwyddorion ecoffeminyddol o gyd-gymorth er bod y system yn milwrio yn erbyn hyn. Yn hanesyddol yr ydym wedi bod yn byw mewn cymdeithasau a fu’n cydweithio llawer iawn hirach nac ydym ni wedi bod mewn cymdeithasau sydd wedi eu hadeiladu ar strwythurau o bŵer a hierarchaeth, yn sicr yr oesoedd mesolithig a paleolithig.

A oes gan ecoffeminyddiaeth rôl yng ngwleidyddiaeth Cymru? Mae ffracio a phŵer niwclear yn ogystal â chynhesu byd eang yn bygwth Cymru yn ecolegol. Gan y diwylliant cyfoethog Eingl-Americanaidd afael tyn ynom yn ddiwylliannol, siaradwyr Cymraeg ai peidio. Y grefydd gyfoes yw siopau mawrion dal fynnu gyda’r Jonesiaid .  Y canoli yng Nghaerdydd ar draul cymunedau gwledig. Hierarchaeth a pherthnasau o bŵer sydd yn sail i’r holl bethau yma sydd yn bygwth Cymru a’r Cymry. Nid ydym ar ben ein hunain. Gwelwn ar raddfa ryngwladol methiant strwythurau o bŵer er enrhaifft; llywodraethau i atal rhaib cyfalafiaeth ar y ddaear a diwylliannau. Allwn brynu neu bleidleisio ein ffordd allan o hyn? Ateb yr ecoffeminydd yw gweithreda’n uniongyrchol i greu’r byd hoffet weld yng nghragen yr hen un. Credaf fod gan yr athroniaeth hon lawer i’w gynnig i’r Gymru gyfoes.

Llyfryddiaeth:

Biehl, J. 1991. Rethinking Ecofeminist Politics. Boston: South End Press

Birkeland, J. 1993. Ecofeminism: Linking Theory and Practice. Yn: Gaard, G. gol. Ecofeminism: Women, Animals, Nature. Philadelphia: Temple University Press, tt. 13-59

Davion, V. 1994. Is ecofeminism feminist? Yn: Warren, K. gol. Ecological Feminism. London: Routledge tt. 8-28

Miles, M. a Shiva V. gol. 1993. Ecofeminism. London: Zed Books

Erthygl a sgwenwyd gan Heledd Melangell i Blog Golwg