Beth yw Ecoffeminyddiaeth?

mynegai

Mae ecoffeminyddiaeth yn llawer mwy eang na’r hyn a ddatgela’r enw. Modd ydyw o gyd-berthnasu gorthrwm; gorthrwm y dyn ar y ddaear a menywod ond hefyd ar sail hil, dosbarth a phobl a drefedigaethwyd. Defnyddiwyd y term ‘ecoffeminyddiaeth’ am y tro cyntaf yn y 70’au gan yr awdur Françoise d’Eaubonne yn ei llyfr Le Féminisme ou la Mort, 1974. Dywed Birkeland ‘…the very essence of ecofeminism is its challenge to the presumed necessity of power relationships’ (1993, t.18). Felly fel y gwelir, nid yw’n ymwneud â syniadau amgylcheddol a ffeminyddol yn unig. Pwysleisia ecoffeminyddion y dylid dathlu’r hyn y mae cymdeithas yn ei nodi fel nodweddion benywaidd, sef; ‘emotionality, spontaneity, humaness’ (Miles 1993, t.151).

Rhan o’r broblem i ecoffeminyddion yw bod pobl yn canfod y nodweddion hyn fel rhai ‘gwan’ neu ‘negyddol’, a beth sydd wir ei angen arnom yw i’n gymdeithas ddathlu’r priodweddau hyn. Cred ecoffeminyddion fod dathlu priodweddau benywaidd yn ddechrau ar wneud y priodweddau hyn yn ganolog i’n cymdeithas. Mae eu breintio yn fodd o ddryllio ‘pŵer’ neu ‘grym’ (sef cyferbyniad ecoffeminyddiaeth) fel y bodolai ym mhob ffurf;  grym cyfalafol, hierarchaeth (o fewn llywodraeth er enghraifft) ac unrhyw berthnasau eraill a weithreda ar sail pŵer. Gwna hyn ecoffeminyddiaeth yn athroniaeth wleidyddol a berthynai yn agos iawn i anarchiaeth ac ecoleg cymdeithasol Bookchin ac yn ddiweddarach Janet Beihl.

Cred ecoffeminyddion fod hyn yn fodd amgen o gynnal a gweithredu mewn cymdeithas o gymharu â’r system gyfalafol bresennol sy’n golygu bod rhaid ‘ennill’ a chystadlu  ‘lwyddo’ yn hytrach na chydweithio. Eglura Davion y ‘nodweddion’ gwahanol a briodola cymdeithas i’r ddau ryw;

Western patriarchal thought on women and nature … women have been assosiated with nature, the material, the emotional, and the paticular, while men have been assosiated with cuture, the non-material, the rational and the abstract … the traits assosiated with men have been systematicly privileged over traits assosiated with both women and nature. (1994, t.9)

Un feirniadaeth o ecoffeminyddiaeth yw ei fod yn cydsynio gyda phriodweddau rhywedd sydd wedi gorthrymu merched yn hanesyddol. Mewn gwirionedd mae ecoffeminyddion yn credu mai cyflyru yn gymdeithasol sydd yn creu’r priodweddau rhywedd hyn.

This connection [between women and nonhuman nature and animals] is not to be understood as a “natural” connection-one that suggests that women and animals are essentially similar-but rather a constructed connection that has been created by the patriarchy as a means of oppression. (Gruen 1993, t.61)

Honna ffeminyddion o bob math mai’r gorthrymwyr a phatriarchaeth sydd wedi priodoli menywod gyda’r nodweddion ‘benywaidd’ hyn y priodweddau rhywedd.  Ydi’r hyn y dylwn ei ‘ddathlu’, yn ôl Ecoffeminyddion, wedi deillio o orthrwm felly? Yma mae ecolegwyr cymdeithasol fel Janet Beihl a ffeminyddion eraill fel Davion yn hollti rhag ecoffeminyddiaeth; ‘… femininity may itslef be a byproduct of patriarchy.’ (Davion 1994, t.17).

Ffurf o hierarchaeth yw patriarchaeth, a deilliai pob hierarchaeth o berthnasau o bŵer. Dyma paham mai prosiect ecoffeminyddion yw dryllio’r eidiolegau sydd nid yn unig yn atgyfnerthu’r perthnasau o bŵer hyn ond sydd yn gosod pŵer fel rhinwedd. Nid yw pob cymdeithas ddynol a fodola yn gyfalafol a phatriarchaidd o bell ffordd, a hyd yn oed wrth ystyried cymdeithasau o fewn cyfalafiaeth, mae pobl yn gweithio ar sail egwyddorion ecoffeminyddol o gyd-gymorth er bod y system yn milwrio yn erbyn hyn. Yn hanesyddol yr ydym wedi bod yn byw mewn cymdeithasau a fu’n cydweithio llawer iawn hirach nac ydym ni wedi bod mewn cymdeithasau sydd wedi eu hadeiladu ar strwythurau o bŵer a hierarchaeth, yn sicr yr oesoedd mesolithig a paleolithig.

A oes gan ecoffeminyddiaeth rôl yng ngwleidyddiaeth Cymru? Mae ffracio a phŵer niwclear yn ogystal â chynhesu byd eang yn bygwth Cymru yn ecolegol. Gan y diwylliant cyfoethog Eingl-Americanaidd afael tyn ynom yn ddiwylliannol, siaradwyr Cymraeg ai peidio. Y grefydd gyfoes yw siopau mawrion dal fynnu gyda’r Jonesiaid .  Y canoli yng Nghaerdydd ar draul cymunedau gwledig. Hierarchaeth a pherthnasau o bŵer sydd yn sail i’r holl bethau yma sydd yn bygwth Cymru a’r Cymry. Nid ydym ar ben ein hunain. Gwelwn ar raddfa ryngwladol methiant strwythurau o bŵer er enrhaifft; llywodraethau i atal rhaib cyfalafiaeth ar y ddaear a diwylliannau. Allwn brynu neu bleidleisio ein ffordd allan o hyn? Ateb yr ecoffeminydd yw gweithreda’n uniongyrchol i greu’r byd hoffet weld yng nghragen yr hen un. Credaf fod gan yr athroniaeth hon lawer i’w gynnig i’r Gymru gyfoes.

Llyfryddiaeth:

Biehl, J. 1991. Rethinking Ecofeminist Politics. Boston: South End Press

Birkeland, J. 1993. Ecofeminism: Linking Theory and Practice. Yn: Gaard, G. gol. Ecofeminism: Women, Animals, Nature. Philadelphia: Temple University Press, tt. 13-59

Davion, V. 1994. Is ecofeminism feminist? Yn: Warren, K. gol. Ecological Feminism. London: Routledge tt. 8-28

Miles, M. a Shiva V. gol. 1993. Ecofeminism. London: Zed Books

Erthygl a sgwenwyd gan Heledd Melangell i Blog Golwg

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s