Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes yr ymgyrch yn Brighton i gau lawr EDO-MBM, ffatri leol sy’n cynhyrchu rhannau ar gyfer arfau’r cwmni arfau Americanaidd EDO Corp – a ddefnyddir yn Irac, Palesteina, Affganistan ac mewn mannau eraill. Mae’n stori am weithredu uniongyrchol cadarn a llwyddiannus yn wyneb yr heddlu a’r gwarchodwyr preifat oedd yn amddiffyn y cwmni.
Byddem yn casglu rhoddion ac yn cynnig bwyd poeth fegan a theisen fegan i godi arian am grŵp o fenywod a gafodd eu harestio yn Ffair Arfau DSEI yn 2013 ac sydd wedi dechrau achos erlyniad preifat yn erbyn cwmnïau oedd yn hybu arfau anghyfreithlon yn y ffair.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr achos yma.
Rydym yn gobeithio dangos yn yr awyr agored yn yr iard gefn, os ydy’r tywydd yn caniatáu. Bydd y wybodaeth ar ymgyrchoedd gwrth-militaraidd yn ne Cymru ar gael ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, gan gynnwys yr ymgyrch gwrth-NATO yn ne Cymru.
Gobeithio gweld chi yno!
Cyfieithwyd gan Anarco Gyfieithu
Gadael sylw
Dim sylwadau eto.
Gadael sylw