Gwrthwynebu Ffair Arfau DPRTE yng Nghaerdydd

Ar yr 8fed o Hydref eleni, cynhalwyd DPRTE – “The UK’s Premier Defence Procurement Event” yn arena Motorpoint Caerdydd. Trefnodd Stop NATO Cymru, y Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd ac Anarchwyr De Cymru wrthdystiad, gan ddechrau am 8.30am i gyd-fynd â dechrau’r, pan fyddai’r sawl sy’n prynu a gwerthu arfau a theganau o ryfel yn mynd i mewn i’r ffair arfau hon.

dprte

Sawl gwaith fe wnaeth pobl lwyddo i ddod yn agos iawn at y fynedfa cyn cael eu taflu allan, gan mynegi eu teimladau am y ffair arfau a’r sawl a oedd yn cymryd rhan ynddo. Am tua 9:00 yb cafodd cafodd 3 dynion mewn siwt a oedd yn mynd i mewn i’r ffair arfau eu gorchuddio mewn paent coch. Arrestwyd dau o bobl a cafodd eu dal am 12 awr. Cafodd y ddau eu cyhuddo o ddifrod troseddol am staenio’r siwtiau.

Fe wnaeth Bwyd Nid Bomiau Caerdydd weini brecwast fegan blasus am ddim i’r protestwyr a’r cyhoedd. Mae Byd Nid Bomiau yn grwp sydd yn ceisio tynnu sylw at wastraff bwyd, yn ogystal a’r ffaith o dan cyfalafiaeth mae digon o arian ar gyfer lladd a rhyfela er bod llawer yn newynog ac mewn sawl rhan o’r byd mae pobl dal yn llwgu i farwolaeth bob dydd.

fnb

Mae’r diwydiant arfau yn elwa o ryfel parhaol; y norm erbyn hyn. Mae’r sawl sydd yn prynu a gwerthu arfau yn gwneud arian o marwolaethau bobl diniwed. Daethant i Gaerdydd, dinas sydd wedi cael blas bach o sut beth yw bod mewn parth militaraidd â dyfodiad Chynhadledd NATO yn dod i dde Cymru dim ond mis yn ôl. Os bydd DPRTE dod yn ôl i Gaerdydd y flwyddyn nesaf bydd pobl yno i’w wrthwynebu unwaith eto. Nid ydym am y seicopathiaid peryglus yma yn ein dinas, yn prynu a gwerthu arfau sy’n lladd pobl.

dprte2

Fe wnaeth protestwyr barhau i fynegi eu barn gyda’r sawl a oedd yn cymeryd rhan yn y ffair arfau am weddill y dydd.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s