Gwrthdystiad “Chwalwch IPP” yng Nghaerdydd

smash ipp leadleting

Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Ebrill 2015, cynhaliodd y grwp Chwalwch IPP ei wrthdystiad cyntaf yng Nghaerdydd. I rheini sydd ddim yn gwybod beth yw IPP, dedfryd amhenodol i “warchod y cyhoedd” yw hi.

Mae hon yn galluogi’r llys i ychwanegu amser i dedfrydau carchar presennol, yn aml ar gyfer troseddau llai a thrwy hynny gwthio nol y dyddiad rhyddhau yn amhenodol. Golygir hyn bod carcharwyr IPP yn byw gyda’r poen meddyliol parahol o beidio a chael dyddiad rhyddhau. Cafodd ei diddymu yn 2012, er ni weithredwyd hwn ar achosion cyn 2012 gan adael mwy na 5000 o bobol yn y carchar am gyfraith nad yw’n bodoli gyda dim dyddiad ar gyfer eu rhyddhad.

ipp kids

Ymgasglodd y grwp am 2yp ger cofgolofn Aneirin Bevan ar Stryd y Frenhines. Ymunwyd a ni gan ffrindiau ac aelodau teuluoedd carcharwyr o dan dedfrydau IPP. Arhoson ni ger y cofgolofn am tua awr yn dosbarthu taflenni ac yn siarad i’r cyhoedd ynglyn a dedfrydau IPP, gan nad yw’n pwnc gyfarwydd. Yna gorymdeithion ni lawr Stryd y Frenhines gyda baneri gan gynnwys y faner ddu. Gwnaeth bawb, gan gynnwys plant oedd yn gorymdeithio gyda ni, cymryd eu tro i waeddi ‘Smash IPP, Set them Free’ ac ‘Our Passion for Freedom, is Stronger than their Prisons’.

Cyraeddon ni fynedfa’r carchar lle wnaeth eraill ymuno a ni oedd yn ymweld a phobol agos iddynt yn y carchar. Parhaon ni i gyd-weiddi pethau fel ‘Freedom for All, Tear down the Walls’. Ynae aethon ni i lawr top y maes parcio gerllaw lle roedd golygfa dda i gael. Roeddem yn gallu gweld y celloedd ac roedd y carcharorion yn gallu gweld ni. Gosodon ni’r baneri, cyd-waeddon a chyfarthebon ni gyda phobol yn y carchar. Parhaodd y ffrindiau, teuluoedd a’r gwrthystwyr i gyd-waeddi ‘Give them a date, Set them Free, Smash IPP!’. Danfonodd y carcharorion arwyddion atom a gofyn i ni ddychwelyd.

ipp march

Fe fydd rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol. Mae’r grwp yma, Smash IPP, yn gasgliad o Anarchwyr a Gwrth-awrdurdodwyr yn ogystal a pherthnasau a ffrindiau agos carcharwyr IPP. Rydym wedi dewis sefyll yn erbyn IPP gan ei bod yn gamddefnydd amlwg gan y wladwriaeth er mwyn cosbi y sawl y mae nhw yn ei hystyried yn droseddwyr, tra bod rhai o’r troseddau gwaethaf yn cael ei wneud gan yr heddlu, beirniaid a’r ‘screws’.

Cyd-safwn a phob person yn y carchar a rheiny sydd wedi eu heffeithio ar gan y system carchardai, gan gynnwys rheiny yn y carchardai ar gyfer mudwyr sydd yn y DU. Ar y cyfan roedd yn wrthdystiad llwyddianus, roedd awyrgylch dda a dim presenoldeb gan yr heddlu. Mwy o bethau’n digwydd yn fuan,e-bostiwch smashipp@riseup.net i weithredu gyda ni.

Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s