2 – 8 Tachwedd 2015: Wythnos o Weithredu yn Erbyn Carchar Gogledd Cymru a’r Cyd-Berthynas Diwydiannol Carcharda

VIA Ymgyrch CAPE

CYWeek-of-Action-November-WELSH-Web

Am yr Wythnos o Weithredu

Dyma alwad am wythnos o weithredu i annog holl wledydd Prydain a’r byd i weithredu yn erbyn adeiladu Carchar Gogledd Cymru yn Wrecsam.

Hon bydd yr ail garchar fwyaf yn Ewrop, yn dal mwy na 2100 o fobol ac yn costio £250 miliwn i’w hadeiladu. Enillodd Lend Lease, contractiwr o Awstralia y cytundeb i adeiladu y carchar Titan yn Wrecsam gan y llywodraeth yn Mai 2014.

Mae pobl lleol wedi bod yn gwrthwynebu’r carchar ers dros hanner degawd;  yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio, lobio a mynd i cyfarfodydd. Caodd caniadad cynllunio llawn ei roi yn mis Tachwedd 2014 er gwaethaf y gwrthwynebiad lleol. Ar hyn o bryd mae’n safle adeiladu a mae’r man yma o drais a gorthrwm wrthi’n cael ei hadeiladu yr eiliad hon.

Rydym am ei wrthwynebu, ei arafu a gyrru neges i’r wladwriaeth a’r diwydiant carchar nad yw yn dderbynnadwy i elwa o gaethiwo pobl. Mae’r Llywodraeth yn dymuno i adeiladu rhagor o garchardai yng Ngwledydd Prydain, dyma ein siawns i atal y diwydiant yma rhag ehangu. Rhaid i ni ymosod ar ehangu carchar a’r rheolaeth cymdeithasol ganddo dros ein bywydau. Rydym yn cwffio tan bo bob un ohonom yn rhydd.

Be sy’n digwydd?

  • Protestiadau swn a cyd-sefyll ar draws gwledydd Prydain
  • Nosweithiau gwybodaeth, gweithdai a dangosiadau ffilm i gynnai rhagor o wrthynebu y cymleth diwydiant carchardai ygn ngwledydd Prydain.

Bydd yr ymgyrch CAPE hefyd yn cefnogi digwyddiandau sydd yn bodoli’n barod sydd yn digwydd yn ystod yr wythnos gan gynnwys:

  • Prosessiwn blynyddol United Families and Friends Campaign (UFFC) ar y 31ain o Hydref. Mae’r UFFC yn glymblaid cenedlaethol  o deuluoedd a ffrindiau y sawl sydd wedi marw yng ngofal yr heddlu a swyddogion carchar yn ogystal a’r sawl sydd wedi eu lladd mewn canolfanau carchardai mewnfudo (immigration detention centres) a ysbytai seiciatrig diogel (secure psyciatric hospitals) yng nghwledydd Prydain. Cwrdd am 12 ganol dydd ar y 31ain o Hydref yn Sgwar Trafalgar am brosesiwn tawel ar hyd Whitehall a wedyn protest swnllyd tu allan Stryd Downing.

Sut i Ymunno a’r Gweithgarwch

  • Bydd y mwyafrif o bobl yn gweithredu’n lleol, serch hynny rydym yn trefnu trafnidiaeth a llety i bobl aros yn y gogledd ddwyrain. Os gwelwch yn dda cysylltwch!
  • Rhowch gwybod i ni am rhywbeth rydych chi yn ei drefnu a gallwn eich helpu i’w hyrwyddo.
Advertisements

Rhowch sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s