Ffeminyddion yn cwffio Transffobia

mynegai

Yr oedd y cyfieithiad yma gan Anarchist Welsh Translation

Rydym yn falch o gyflwyno datganiad ar y cyd, hynny yw, at ein gwybodaeth (a byddem wrth ein bodd i fod yn anghywir) y cyntaf o’i fath.  Yn y testun hwn byddwch yn canfod datganiad o undod ffeministaidd gyda hawliau trans*, a lofnodwyd gan ffeministiaid /menywyddion o wledydd gwahanol sy’n dymuno i gadarnhau y gall a dylai ffeministiaeth / menywyddiaeth fod yn gartref ar gyfer pobl trans* yn ogystal â sis.  Mae wedi cael ei lofnodi gan ymgyrchwyr, blogwyr, academyddion, ac artistiaid. Yr hyn yr ydym i gyd yn argyhoeddedig y dylai ffeministiaeth groesawu pobl trans* a bod pobl trans* yn hanfodol i genhadaeth ffeministiaeth i eirioli ar gyfer menywod a phobl eraill sydd wedi eu gormesu, eu hecsbloetio, ac eraill sydd ar y cyrion o ganlyniad i systemau a phobl batriarchaidd a  gwreig-gasäwyr.

Os ydych yn blogiwr(aig)/ awdur(es) / academydd / addysgwr(aig) / artist / ymgyrchydd /neu mewn sefyllfa o unrhyw fath i gael argraff ar drafodaeth neu weithredu ffeministaidd neu menwyaidd ac yr hoffech i lofnodi’r datganiad hwn, rhowch wybod i ni!  Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar y dudalen gyswllt neu gallwch yrru e-bost atom.  Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Datganiad o Ffeministiaeth a Menywyddiaeth Trans-Gynhwysol.

Rydym ni, yr ysgolheigion, awduron, artistiaid, ac addysgwyr, trans* a sis sydd wedi llofnodi isod yn dymuno yn gyhoeddus ac yn agored i gadarnhau ein hymrwymiad i ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n trans*-gynhwysol.

Bu cynnydd amlwg mewn gweithgarwch ffeministaidd dransffobig yr haf hwn gan gynnwys: y llyfr sydd ar y gweill gan Sheila Jeffreys o Routledge, y llythyr dienw gelyniaethus ac yn fygythiol at Dallas Denny ar ôl iddi a Dr Jamison Green ysgrifennu at Routledge ynghylch eu pryderon am y llyfr, a’r datganiad a ddosbarthwyd yn eang yn ddiweddar o’r enw “Forbidden Discourse: The Silencing of Feminist Critique of ‘Gender’” wedi’i lofnodi gan nifer o ffeminyddion amlwg, ac yr ydym yn gresynu i ddweud, cyfeiliornus. Dyma sydd wedi bod yn arbennig o amlwg.  Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn yr hinsawdd o dransffobia prif ffrwd ffyrnig sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn y sylw a roddir i dreial Chelsea Manning a datganiad dilynol ynghylch ei hunaniaeth o ran rhywedd, a’r llofruddiaethau diweddar o ferched draws ifanc o liw, gan gynnwys Islan Nettles a Domonique Newburn, y targedau diweddaraf mewn hanes hir o drais yn erbyn menywod traws o liw.  O ystyried y digwyddiadau hyn, mae’n bwysig ein bod yn siarad o blaid ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n cefnogi pobl trans*.

Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a pharchu’r adeiladu cymhleth o hunaniaethau rhywedd /rhyw, i gydnabod menywod trans* fel menywod ac yn eu cynnwys holl ofodau sydd ar gyfer menywod; i gydnabod dynion trans* fel dynion a gwrthod y naratif o ddyn sy’n eu gwahardd rhag unrhyw beth, i gydnabod y fodolaeth cwiars, di-deuaidd, adnabod pobl a derbyn eu dynoliaeth; ar gyfer ymchwil trylwyr, meddylgar a nuanced a dadansoddiadau rhyw, rhywedd, a rhywioldeb sy’n derbyn pobl trans* fel awdurdodau ar eu profiadau eu hunain ac yn deall bod y cyfreithlondeb eu bywydau ddim yno ar gyfer i neb ei drafod, ac i ymladd yr ideolegau deublyg o trawsffobia a phatriarchaeth yn eu holl ffurfiau.

Mae ffeministiaeth trawsffobig yn gwrthod cydnabod llawer o bobl trans* a phobl ciwar fel ffeministiaid neu menywyddion a llawer o ffeministiaid/menywyddion sis gyda’u chwiorydd, brodyr, ffrindiau, a chariadon trans*,  mae’n ffeministiaeth sydd yn rhy aml yn eu gwrthod, ac nid y gwrthwyneb. Mae’n anwybyddu’r pwysau hanesyddol a roddir gan y proffesiwn meddygol ar bobl trans* i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw anhyblyg er mwyn cael y “rhodd” o’r cymorth meddygol y maent fel bodau dynol gyda hawl iddo.  Drwy osod “menyw” fel hunaniaeth gydlynol, sefydlog mae ffeminyddion transffobig yn ei blismona, mae ffeminyddion transffobig yn gwrthod mewnwelediad dadansoddi croesdoriadol, yn darostyngu bob hunaniaeth arall i fenywdod a phob gorthrymder arall i batriarchaeth.  Maent yn gwrthod cydnabod eu pŵer a braint hunain.

Rydym yn cydnabod bod ffeministiaid transffobig wedi defnyddio trais a bygythiadau o drais yn erbyn pobl trans* a’u partneriaid, ac rydym yn condemnio ymddygiad o’r fath.  Rydym yn cydnabod bod rhethreg transffobig yn cael effeithiau niweidiol iawn ar fywydau go iawn bobl trans*; tyst i hyn yw carchariad CeCe MacDonald mewn cyfleuster ar gyfer dynion.  Rydym hefyd yn cydnabod y niwed penodol mae transffobia yn achosi i bobl trans* o liw pan fydd yn cyfuno â hiliaeth, a’r trais mae’n annog.

Pan mae ffeministiaid eithrio menywod trans* o lochesi fenywod, bydd menywod trans* yn cael eu gadael yn agored i’r mathau gwaethaf o wreig-gasineb treisgar, boed mewn llochesi i ddynion, ar y stryd, neu mewn cartrefi sy’n cam-drin.  Pan bo ffeministiaid mynnu bod menywod trans* yn cael eu heithrio o ystafelloedd ymolchi merched a bod pobl cwiar yn dewis ystafell ymolchi wedi eu marchio’n ddeuol, maent yn gwneud cymryd rhan yn y sffêr cyhoeddus yn amhosibl bron, ac yn cydsynio ag anystwythder o hunaniaeth rhywedd sef be mae ffeministiaeth wedi ymladd yn ei herbyn yn hanesyddol, a chodi rhwystr arall i gyflogaeth y bobl hyn.  Pan fo ffeministiaid dysgu tranasffobia, maent yn gyrru myfyrwyr trans* i ffwrdd oddi wrth addysg a’r cyfleoedd y mae’n ei ddarparu.

Rydym hefyd yn gwrthod y syniad bod beirniadaethau ymgyrchwyr trans* o ragfarn trawsffobig yn “tawelu” unrhyw un.  Nid yw beirniadaeth yr un fath â distewi. Rydym yn cydnabod bod y pwyslais diweddar ar y rhethreg dreisgar hon yn ôl y ffeministiaid transffobig yn dod o fenywod trans* ar-lein, a bod hyn yn anwybyddu’r 40 a mwy o’r hanes o rethreg dreisgar a dileol wedi ei leisio gan ffeministiaid amlwg yn erbyn menywod trans*, dynion trans* , a phobl cwiar.  Mae’n anwybyddu’r strategaeth fwriadol rhai o ffeministiaid trawsffobig adnabyddus o gymryd rhan mewn aflonyddu afieithus a pharhaus, a phrofocio pobl trans*, yn enwedig menywod trans*, yn y gobaith o ysgogi ymatebion dig, sydd wedyn yn cael eu defnyddio i beintio portread ffug o fenywod trans* fel gormeswyr a menywod ffeministaidd sis fel dioddefwyr. Mae’n anwybyddu bod y ‘dod allan’ o fenywod trans* yn gyhoeddus mae rhai ffeministiaid trawsffobig wedi cymryd rhan ynddo, waeth beth y niwed y mae’n ei wneud i fywydau’r menywod, a’r perygl y mae’n eu rhoi’r menywod trans* ynddo.  Mae’n dibynnu ar y rhethreg niweidiol o euogrwydd ar y cyd, gan ddefnyddio unrhyw enghraifft o rethreg dreisgar o’r fath, dim ots y ffynhonnell – a’r dicter gellid ei gyfiawnhau gan unrhyw fenyw trans* – i gondemnio pob menyw trans*, ac i gyfiawnhau eu gwaharddiad parhaus a’r gwrthod parhaus o’u hawliau sifil.

P’un a ydym yn sis, trans*, deuaidd-nodedig, neu cwiar, ni fyddwn yn gadael i disgwrs ffeministaidd neu menywyddol lithro’n ôl neu fynd yn ferddwr, byddwn yn bwrw ymlaen yn ein dealltwriaeth o ryw, rhywedd, a rhywioldeb ar draws disgyblaethau gwahanol.  Er ein bod yn parchu enillion mawr a brwydrau caled a ymladdwyd gan ymgyrchwyr yn y 1960au a’r 1970au, rydym yn gwybod nad yw’r ymgyrchwr hynny yn anffaeledig a ni all cynnydd stopio gyda hwy os ydym yn gobeithio aros yn ddeallusol onest, moesol, ac yn wleidyddol effeithiol.  Yn bwysicaf oll, rydym yn cydnabod nad yw damcaniaethau yn fwy pwysig na fywydau go iawn bobl go iawn, byddwn yn gwrthod unrhyw ddamcaniaeth o ran rhyw, rhywedd neu rywioldeb sy’n galw arnom i aberthu anghenion unrhyw grŵp gorthrymedig neu sydd ar y cyrion.  Mae pobl yn fwy pwysig na theori.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dosbarthiadau, ein hysgrifennu, ac mae ein hymchwil yn gynhwysfawr o fywydau pobl trans*.

‘Sis’- Gair a fathwyd am ‘cis’

Bwyd Nid Bomiau – Coginio ar gyfer Heddwch

Wedi ei gyfieithu gan y grwp: welshtranslation@lists.riseup.net

1343_1000_movement_painting_v

COGINIO AR GYFER HEDDWCH

Pan fo un biliwn o bobl yn llwgu bob dydd, sut y gallwn wario punt arall ar ryfel? Mae Bwyd Nid Bomiau yn fudiad gwirfoddol sy’n adennill bwyd a fyddai fel arall yn cael ei daflu, ac yn rhannu prydau fegan a llysieuol am ddim gyda’r rheiny sy’n llwglyd mewn dros 1,000 o ddinasoedd ar draws y byd fel protest yn erbyn rhyfel, tlodi, a dinistr yr amgylchedd. Rydym hefyd yn darparu bwyd a chyflenwadau i oroeswyr trychinebau naturiol, a phobl sy’n cymryd rhan mewn streiciau, gorymdeithiau a protestiadau eraill.

Nid yw Bwyd Nid Bombiau yn elusen ond mae’n ceisio rhoi diwedd i’r argyfwng o dra-arglwyddiaeth ac ymelwad corfforaethol  drwy weithredu di-drais uniongyrchol fel na orfodir neb i sefyll mewn llinell i fwyta mewn ceginau cawl neu fyw ar y stryd. Nid oes gennym unrhyw arweinwyr ffurfiol ac rydym yn ceisio cynnwys pawb yn ein proses gwneud penderfyniadau drwy gonsensws. Mae pob grŵp yn adennill bwyd a fyddai fel arall yn cael ei daflu; paratoi prydau bwyd fegan a llysieuol poeth a ffres a gaiff eu rhannu mewn llefydd cyhoeddus gweledol i bawb heb gyfyngiad; ac yn dosbarthu bwydydd, dillad a chyflenwadau eraill gyda’r gymuned.

Cafodd y grŵp cyntaf ei ffurfio yn Cambridge, Massachusetts yn 1980 gan wyth o weithredwyr di-niwcliar. Fe ffurfiwyd ail grŵp yn San Francisco yn 1988 lle dechreuodd yr heddlu arestio ein gwirfoddolwyr am y “drosedd” o wneud datganiad gwleidyddol, gan wneud dros 1,000 o arestiadau. Mae’r heddlu hefyd wedi arestio ein gwirfoddolwyr am fwydo pobl llwglyd mewn nifer o ddinasoedd eraill yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Middletown, Connecticut, Tampa a Orlando, Florida, Arcata a Los Angeles, California. Gwnaeth yr heddlu arestiadau hefyd yn Belarws. Yn 1994 datganodd Amnest Rhyngwladol y byddai unrhyw wirfoddolwyr Bwyd Nid Bombiau a fyddai’n cael eu dedfrydu i garchar yn cael eu hystyried yn “Garcharorion Cydwybod” ac y byddent yn gweithio ar gyfer ein rhyddhau yn ddiamod.

Mae bron dwsin o wirfoddolwyr ar hyn o bryd yn y carchar yn yr Unol Daleithiau unai wedi eu fframio neu eu caethiwo drwy gynllwyn terfysgol yr FBI. Mae gwirfoddolwyr wedi rhannu bwyd mewn protestiadau gwrth-globaleiddio mewn llawer o ddinasoedd, gan gynnwys Seattle, Cancun, Miami, Gutenberg, a Toronto. Bwyd Nid Bomiau a drefnodd yr ymdrech cymorth bwyd ar gyfer goroeswyr Corwynt Katrina a Sandy. Fe wnaeth gwirfoddolwyr hefyd fwydo y gweithwyr achub yn Efrog Newydd ar ôl 9/11; dechrau llochesi achub anifeiliaid yn Slofacia, darparu bwyd ar gyfer 100 diwrnod yn ystod y Chwyldro Oren yn yr Wcráin, bwydo Camp Casey yn Texas, gwersylloedd ar y ffin ym Mhalesteina, Gwlad Pwyl a Mecsico; gweithwyr oedd ar streic yn Korea, helpu i ddymchwel llywodraeth Gwlad yr Iâ, cefnogi ceginau mewn cannoedd o symudiadau ‘Occupy’ gan gynnwys Occupy Wall Street, Boston, Washington DC, Moscow a Budapest . Mae Bwyd Nid Bomiau yn cyd-weithio gyda grwpiau fel Earth First!, Mudiad Hawliau Anifeiliaid Fferm, yr IWW a Gweithredu Gwrth Hiliol. Mae gweithredwyr Bwyd Nid Bomiau wedi dechrau prosiectau fel Indymedia, Beiciau Nid Bombiau, Cartrefi Nid Carchardai, Bwyd Dim Lawntiau, y mudiad radio rhydd, Really Really Free Markets, Anarchwyr yn Erbyn y Wal a llawer o ymdrechion ar lawr gwlad eraill. Mae gan y mudiad lyfr 184 o dudalennau “Hungry For Peace ” sy’n darparu gwybodaeth i helpu pobl ddechrau a chynnal Bwyd Nid Bomiau lleol. Mae copi ar gael ar y wefan. Gallwch ymuno â Bwyd Nid Bomiau drwy gymryd camau uniongyrchol tuag at greu byd yn rhydd o dra-arglwyddiaeth, gorfodaeth a thrais.

Mae bwyd yn hawl, nid yn fraint …… Unoliaeth nid elusen.

‘Cyfweliad gyda Jamie Befan, Ymgyrchydd Ieithyddol’ O’r ffansin ‘Ffwff’

jamie-bevan

Dyma gyfweliad wnaeth Jamie Befan i’r ail rifyn o ‘Ffwff’. Os yr hoffech gopi ebostiwch eich enw, cyfeiriad a nifer o gopiau yr hoffech i daldydin@hotmail.co.uk a nai bostio un atoch, hawdd! Cost postio 60c a gofynwn am gyfraniad o rhw bunt i Ffwff ei hyn.

Fe wnes di weithredu yn erbyn y Toriaid yn 2011, be nes di a pam nes di hyn?

Amserwyd y gweithred i gydfynd ag ymweliad David Cameron i Gaerdydd a’r Cynhadledd toriaid. Torron ni mewn i swyddfa’r toriaid yng Nghaerdydd a chwistrellu slogannau ar y waliau. Fel roedden yn disgwyl cafodd hwn llwyth o sylw. Y rheswm? Wel gweithred yn wrthwynebu y toriadau i S4C yn y bon oedd hi ond wrth gwrs mae’r peth yn mynd llawer bellach na sianel Cymraeg… Mae angen wrthwynebu unrhyw bygythiad i’r iaith Gymraeg ac ymgyrch S4C oedd y cyfle a daeth i mi. Mae wanhau’r iaith Gymraeg a’r hunaniaeth unigryw sydd gyda ni fan hyn mond yn mynd tuag at cryfhau’r ‘mono-culture’ mae cyfalafiaeth yn gwthio arnom. Byd delfrydol i’r cwmnioedd enfawr megis Tescos yw un lle ma pawb yn bwyta, siarad, gwisgo, meddwl a siopa yn yr un lle. Rhan bach ni yng nghymru o’r frwydr yn erbyn cyfalafiaeth yw’r brwydr dros y Gymraeg, er mwyn sicrhau’r hawl i bawb bod yn unigolyn.

Disgrifia’r profiad o fynd trwy’r system ‘gyfiawnder’ ac yna i’r carchar.

Poen yn y tin! Dyw’r system ddim wedi cael ei greu er mwyn wasanaethu cyfiawnder. Yn hytrach mae’r system yn gweithredu i lesteirio unrhyw fath o weithgaredd sy’n bodoli tu allan i buddion y cyfoethog a’r cwmnïau sy’n rheoli. Mae’r system cyfiawnder yn weithredu o’r safbwynt nad oes unrhyw safbwynt arall.

O ran y Gymraeg mae nhw union fel unrhyw sefydliad arall. Ma gyda nhw cynlluniau iaith ar bapur ond prin iawn ma swyddogion nhw yn cymryd y peth o ddifrif nac yn weithredu’ch hawliau. Tro ar ôl tro baswn yn cwyno iddynt am ddiffyg hwn neu’r llall yn y Gymraeg, derbyn ymdduheiriad ac yna union yr un peth yn digwydd mis lawr y ffordd.

Carchar? Mae’n hollol amlwg i unrhywun hanner gall nad yw’r system o gloi pobol lan mewn cell a gadael i ddiflastod chwalu ei meddyliau yn wneud iotyn o dda i unrhywun. Ar wahân i hwnna edrych ar yr ochor da wnes i a derbyn y cyfnod fel seibiant bach o’r byd go iawn. 

Yr oedd y sgriws yn dy drin yn wael yn y carchar pan treuliast mwy na mis o dan glo yr haf yma. Nid oedd unrhyw darpariaeth Cymraeg er gwaethaf dy brotestiadau. Oes gen ti gyngor i unrhywun sydd yn debygol o fynd i’r carchar sut y dylynt sicrhau eu bod yn cael darpariaeth Cymraeg neu sut dylent fynd ati i brotestio tra bont yn y carchar i’w hennill?

Y prif beth, i fi (a dwi’n deall bod sawl ffordd o brotestio), oedd i roi eich hunain uwchben nhw trwy ymddwyn yn cwrtais a phwyllog trwy’r amser. Tria paid a gadael eu bygythiadau upseto di. Ma nhw’n disgwyl i rhywun cico bant neu gwylltio, sdim clem da nhw beth i’w wneud os ma rhywun yn actio yn wahanol. Ti’n gweld llygaid nhw yn mynd a stem yn dod mas ei glustiau, a’i ymenydd yn dweud ‘Compiwtar says no!’Yn y pendraw beth alla nhw wneud i ti na allet ti ymdopi gyda? Bwydo ti crap, atal alwadau ffon, atal ymweliadau.So what? O’n i’n eistedd yna yn meddwl ‘Wel, fi sydd yn iawn’. Mae’n anhygoel faint o nerth mae gwybod eich bod chi’n iawn yn rhoi i chi. Os ti’n iawn, ti’n iawn a does neb yn gallu cymryd hwnna i ffwrdd o ti.

Roedd y sgriws jest yn weithredu fel ma nhw wedi cael ei hyfforddi, diffyg ymwybyddiaeth a diffyg parch at phobol yn gyffredinol, dim awydd i ddangos esiampl da nac enyn parch.

Ni wnaeth y cyfrayngau Cymraeg dalu hanner digon o sylw i dy brotest yn y ddwy mlynedd diwethaf yma yn fy marn i. Gwylltiais wrth weld Golwg yn rhoi rhyw gyflwynydd deledu di-dalent ar eu blaendalen tra yr oeddet ti yn y carchar drost yr iaith!  Ni welais siw na miw am dy safiad. Paham ti’n meddwl fod y cyfryngau fel hyn yng Nghymru? Nid oedd y cyfryngau fel hyn 20 mlynedd yn ol.

Dwi’n meddwl mi gafodd y carchariad tipyn o sylw yn enwedig wedi i mi gwrthod cydymffurfio a’i system seisnigaidd o fewn y carchar. Un peth a gwylltiodd fi oedd i eistedd yn fy nghell a gwylio datganiad ar y newyddion gan y comisiynydd a llywodraethwr y carchar yn dweud bod popeth wedi sortio a bod gwasanaeth Gymraeg nawr ar gael yn y carchar. Hwn 2 munud ar ôl i’r sgriw dweud i fi ‘You’ll be eating shit for the next fornight unless you fill in that form!’ I meddwl bod yr awdurdodau yn gallu cael ei celwyddau mas mor cyhoeddus tra roedd y sefyllfa dal yn parhau, wel roedd hwnna’n tipyn o ysgytwad. Yn y bon, dyn ni’n trio defnyddio’r wasg i’n fantais ni ond llais y system a’r chyfoethog ydynt yn y pendraw ac yn rhan o’r ymdrech i gadw y poblogaeth i lawr ac yn gweithio. Dyna pam mae ddulliau cyfarthrebu amgen mor bwysig, ddulliau nad oes ganddynt reolaith drosto fel y wasg anibynol, graffiti, y we, FFWFF! a.y.b.

Yr wyt wedi bod yn y carchar ddwywaith, wyt ti’n meddwl byddyn nhw yn dy roi yn y carchar trydedd tro am dy weithred?

Pwy a wyr? Dwi ddim yn bwriadu talu dirwy nhw (£1000 od, sydd yn cynnwys £12 o iawndal i ailfframio llun o Winston Churchill!). Soi di clywed unrhywbeth ganddynt eto ond cawn weld. Tasa nhw ddim yn danfon fi nol am fethu a talu ma fe fel bo nhw’n cyfaddef nad yw’r system yn gweithio ac yn y pendraw yr unig peth sy gyda nhw drosto ti yw ofn. Os nad wyt ti’n ofni unrhywbeth does dim gafael gyda nhw drosto ti ac yna rwyt ti’n rydd (wel rhydd o un aspect o’r system mawr ma ta beth).

Yr wyt yn wreiddiol o Ferthyr Tudfil. Beth wyt ti’n credu rhaid newid i’r Gymraeg fod yn brif iaith gymunedol ym Merthyr unwaith eto?

Agwedd. Ar sawl lefel. Os mae agweddau tuag at y Gymraeg yn newid o fewn yr awdurdod efallai byddent yn gallu ymateb yn well i’r galw am yr Iaith Gymraeg. Mae’n syndod faint o bobol sy’n cefnogi cynnal yr iaith, sydd ddim wdi cael y cyfle ond sydd dal am weld dyfodol. Ar yr un llaw ma dych chi awdurdod lleol sy’n palu cachu ambyti ‘does neb eisiau’r iaith’ ‘Mae’r iaith yn rhy ddrud’ ‘blah blah blah’ ac ar y llaw arall ma gyda chi’r tystiolaeth o gwmpas chi bod pobol yn  gyffredinol yn weld werth mewn cadw’r iaith.

Cefaist dy arrestio pan ddoth Mrs Windsor i Ferthyr, be ydi dy farn di ar y frenhiniaeth?

Bag o rwtch! Dyn ni’n clywed tro ar ôl tro ein bod yn gwlad democrataidd ac yn defnyddio hwnna fel sail i fynd i ryfel ond y wirionedd yw rith yw’r cyfan. Sut allwn cyfiawnhai teulu sydd yn byw oddi ar y bobol cyffredin sydd heb ei ethol na dewis gan y pobol, sydd uwchben pob math o gyfraith gan gynnwys gyfreithiau rhyddid gwybodaeth. Nobs!

Wyt ti yn rhan o unrhyw ymgyrchoedd ar y funud?

Ambell i un! Y rhan fwyaf yn ymwneud a’r iaith Gymraeg gan mai hwnna yw fy nghyfle i i frwydro yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol byd eang. Os gallwn amddiffyn a pharchu ein bodolaeth ni fel unigolion unrigryw byddwn mewn well lle i wneud yr un peth i unigolion y byd drosodd.

O ble yr wyt ti’n cael y nerth i barhau i ymgyrchu yng ngwyneb yr holl apathi?

Trwy gwybod fy mod i’n iawn, trwy dderbyn ma na sawl ffordd i wneud pethau (a derbyn bod angen sawl plan o attack er mwyn cyrraedd y nod), fy nheulu.

Oes unrhywbeth arall yr hoffet ychwanegu?

Dim ond trwy gwerthfawrogi a chadw yr hyn sydd gyda ni i gynnig y byd gallwn wirioneddol gwerthfawrogi a chadw yr hyn sydd gydag eraill i’w cynnig.

Oh ie, pob bendith i Ffwffs!

Diolch i ti am dy safiad(au!) a diolch am y cyfweliad yma gyda FFWFF!

Anarchiaeth yn yr Eisteddfod

Padi yn siarad am Yr Iaith, Anarchiaeth a’r Eisteddfod. O 2.10 ymlaen mae’n son am y berthynas rhwng Anarchiaeth a’r Gymraeg.

O’r wefan yma.

Cyfweliad efo Patricia Morgan, Datblygu.

Cyfweliad gyda Pat, aelod o’r band tanddearol ‘Datblygu’.

Engrhaifft o gynwys y ffansin anarcha-ffeministaidd FFWFF! Am eich copi chi ebostiwch daldydin@hotmail.co.uk

neu ewch ar www.afiach.co.uk

patricia morgan

H:Be nath chdi isho creu cerddoriaeth?

P:Mae cerddoriaeth wastod wedi bod yn rhan bwysig o’n bywyd ers plentyndod..  canu, chwarae recordiau ayb.Oedd Datblygu yn ffordd o datgani fy hynan mewn ffordd hollol rhydd. O’n i eisiau arbrofi gyda swn a beth o’n i gallu neud gyda gwahanol offeryn.

H:Pa gan Datblygu sydd fwyaf agos atat yn bersonol?

P:Y Teimlad – edrych yn ol o’n i ddim yn sylweddoli oedd e’n teyrnged i fi, on mae David wedi dweud fod e yn. Dwi’n hoff iawn o fersiwn SFA o fe hefyd- un o ganaeuon sy wedi cael sylw iaith Gymraeg yn y USA!

H:Be wyt ti’n feddwl o’r SRG yng Nghy’n hynmru heddiw?

P:Mae’n dibynnu ar beth ti’n gwrando ar.. Rhaglen Huw Evans- a ti’n meddwl GRET! Mae’n iach, vibrant a diddorol ond ar Radio Cymry ar  y cyfan mae’n mewnol “Yr un hen Noson Lawen…gormodoedd o teisannau menyn”…

H:Wyt ti erioed wedi teimlo bod pobol wedi bod yn rhagfarnnllyd ohonot oherwydd dy ryw?

P:Dim ond yn y stiwdio- mae’n “man’s world” tu ol i’r dials.. well da nhw gofyn dyn sydd yn cysgu beth oedd e’n meddwl na gofyn merch!!! (Gwir!)

H:Ti wedi gwneud ffansins yn y gorffenol… am be oeddyn nhw a pam gwneud ffansins?

P:Naethom ni ffansins i adolygu beth o’n ni ‘n gweld yn digwydd o gwmpas ni. O’ni’n defnyddio ffug enwau i gallu siarad amdanom ni fel un o’r grwpiau o’ni’n licio a hefyd am rhainai on ni’n casau. Oedd e’n sbort i ni – ffordd o gyfleu syniadau ni i trual rhoi drosodd..

H:Pwy sydd wedi dy ysbrydoli?

P:Aneirin Bevan, Talullah Bankhead

H:Be wyt ti’n feddwl o ‘ffasiwn’? Wyt ti’n meddwl fod o’n gorthrymu merched neu eu empowerio?

P:Mae ffasiwn yn rhywbeth sy’n gweud “Mae hwn yn digwydd NAWR” Mae’n siwr fod pob merch eisiau edrych mwy fel model ac mae dillad gallu newid rhywyn o tu fas. Y peth bwysig yw beth sydd tu fewn- yr agwedd – Bydd popeth yn edrych yn dda os oes hyder a dewrder da ti.

H:Oes unrhyw brosiectau gennyt ar y gweill ar hyn o bryd?

P:Mae David a fi mynd i neud dwy gan cyn bo hir. I fi yn bersonnol, rydwi eisiau neud Gradd 7 piano.

 

Fideo o Ian Bone

Dyma Ian Bone, sylfaenydd Class War, yn son am ei brofiad o fod yn anarchydd yn Abertawe, y FWA a dod a Ruide Durcher (arweinydd radicalaidd Almaeneg cafodd ei saethu) i Abertawe.

Diolch i Ken Vegan am awgrymu’r ddolen yma… oes rhywbeth ydych chi’n meddwl dylai bod fynnu yma? Rhowch wybod yn y blwch sylwadau!

Dewi Prysor yn son am ei nofel yn erbyn y system – ‘Lladd Duw’

‘Lladd Duw yw lladd y System’

Cyfweliad o raglen ‘Pethe’ ar S4C