Na i ffasgiaid! Na i Islamoffobia!

Ffasgiaid yn galw am “brotest” gwrth-ffoaduriaid yng Nglyn Ebwy, ond ddim un ohonynt yn troi lan!

Wnath grŵp o’r enw “Welsh Resistance” creu ffys arlein am gal “brotest” gwrth-ffoaduriaid ar Awst yr 20fed yng Nglyn Ebwy, ond yn ôl pob sôn dath dim ohonynt! Yn lle, cynhaliwyd protest gwrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol a ddangosodd eu croeso i ffoaduriaid yn y cwm.

Blemaerffasgiaidlol Gêm hwyl: Ffindiwch y ffasgiaid! (cliw: mae’n amhosib)

Ma ffasgiaid yr ynys yn gyflym creu traddodiad o beidio dod allan i ddigwyddiadau eu hun! Digon o ddiddanwch yw “llinell amser” yr Wales Online:

14:41
Welsh Resistance have taken down their Facebook page

17:49
No sign of the protesters [y ffasgiaid, hynny yw] yet

18:04
Still no protesters

18:08
There’s no sign of the protesters in Wetherspoons pub

19:37
Nope… they still haven’t shown up

Haha!

Wrth gwrs, ma tueddiad pan ma ffasgiaid yn colli neu yn pyllu ymddangos i danamcangyfrif eu bygythiad. Ond mae trais ffasgaidd yn Dover ar ddechre’r flwyddyn, neu yn Abertawe yn ddiweddar, a digwyddiadau diweddarach Caerdydd (gwelir isod), yn ddigon i’n hatgoffa bod angen i ni amddiffyn ac hunan-ymdrefnu ein gilydd. A hyd yn oed heb gofio grwpiau ffasgaidd ymdrefnus, ma’r sefyllfa i ffoaduriaid yn parhau yn un hunllefus – pe bai’n gwladwriaethau Ewrop yn ymosod arnynt a’u carcharu, neu hiliaeth ac ymosodiadau dydd i ddydd oddi wrth ddinasyddion gwyn. Ma gwrthwynebu ffasgiaeth dim ond yn un rhan o’r frwydr.

 
Daily Mail cachaidd yn cam-gyhuddo Imam a Chanolfan Mwslemiaid yng Nghaerdydd

[Nodyn gynnwys: ma’r isod yn delio a hiliaeth uffernnol, ac yn cyffwrdd ar weithredoedd gall fod yn anodd i rai darllen.]

Mis yn ôl, cyhoeddodd y Daily Mail celwydd o erthygl  oedd yn ymosod ar bregethwr yng Nghaerdydd. Gan gymryd geiriau’r Shaykh Ali Hammuda allan o’u cyd-destun a’u troi yn llwyr, wnaethant ei gam-gyhuddo o gefnogi caethweision rhyw ac “ISIS”. Fel gellid disgwyl o’r Daily Mail, ymestynnwyd y cyhuddiad ffals i’r Ganolfan Al-Manar yng Nghaerdydd ac i Fwslemiaid i gyd.*

DailyFail

Mae’r Imam Ali Hammuda wedi eisoes pregethu yn erbyn caethweision ryw ac yn erbyn “ISIS”. Roedd yn pregethu yn erbyn “ISIS” hir gyn iddynt fod yn destun mawr i gyfryngau’r Gorllewin. Ysgrifennodd ymateb sownd i’r Daily Mail fanyn. Mae ei eiriau cau, sydd yn ein hatgoffa o hanes y babur newydd, yn werth ailadrodd:

“I feel proud that the only paper in the British press low enough to stoop to such a level was the Daily Mail. It is an honour to be smeared by the same paper that allied itself with Adolf Hitler in its smearing of Jews during the Holocaust.” Ie wir.

 

Ffasgiaid “Britain First” yn bygythio Mwslemiaid yn y ddinas

Defnyddiodd y ffasgiaid “Britain First” y camgyhuddiad fel esgus i fygwth Mwslemiaid Caerdydd. Uwchlwythwyd fideo ganddynt wythnos diwethaf sy’n dangos grŵp ohoynyt yn cerdded i mewn i’r Ganolfan Al-Manar gan fygwth y bobl oedd yno. Wrth adael ma un ohonynt yn weud: “we’ll be back”.

Plaid a gang-stryd hiliol a threisgar yw “Britain First”. Maent wedi gwthio mewn i Ganolfannau Mwslimaidd a Mosgiau yn y gorffennol. Maent yn ymosod, trwy eu rhetoreg ac yn ffisegol, ar Fwslemiaid a phobl nad yw’n gwyn. Mae ganddynt ideoleg asgell-dde eithafol o Gristnogaeth a Phrydeindod, ac arian ac aelodau oddi wrth gyn-filwyr. Yn Fehefin, cawsant “gwersyll hyfforddiant” yn Eryri, oedd yn gynnwys dysgu ymladd a chyllell. Mae nifer wedi cysylltu llofruddiwr yr AS Jo Cox, a digwyddodd ychydig o ddyddiau ar ôl y gwersyll, â “Britain First”.

CachwrsBritainFirst

Ar y degfed o Fedi, wythnos nesaf, ma “Britain First” yn bwriadu cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd. (Ma ganddynt digwyddiad ar Facebook. Dydyn nhw heb gyhoeddi lleoliad penodol.)

Nid oes lle i’r cachwrs ffasgaidd ma, nid yng Nghymru na nunman arall!

 
Eraill yn cofio hanes gwrth-ffasgaidd yng Nghymru

Ma eraill wedi bod yn cofio tair Cymraes gwrth-ffasgaidd o’n hanes. Aeth Thora Silverthorne, Margaret Powell a Fifi Roberts i ryfel cartref Sbaen yn y ’30au i gyfrannu yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth. Ysgrifennwyd erthygl ddiweddar amdanynt yn Gymraeg fanyn.

 

Croeso i ffoaduriaid!
Chwalwn Islamoffobia!
¡No pasarán!

 

________________________________

*Mae erthygl y Daily Mail yn dilyn cyhuddiadau eraill, llawn Islamoffobia, yn erbyn y Ganolfan Al-Manar. Dwy flynedd yn ôl, yn dilyn ymadawiad dau ddyn o Gaerdydd i ymladd am “ISIS”, ceisiodd y cyfryngau cyhuddo’r ganolfan o “radicaleiddio”, er iddynt wastad sefyll yn erbyn “ISIS”. Mae gan y Ganolfan ymatebion pwysig i’r camgyhuddiad hwn a’r celwyddau am Ali Hammuda. Ynddynt, mae’r Ganolfan yn galw am “heddwch a chyfiawnder cymdeithasol”. http://www.almanar.org.uk/page.php?page_id=8

Os nad yw’r camgyhuddiadau Islamaffobaidd hyn yn peri gormod o ofid, ma holl wefan wedi’u creu sydd yn llawn cach hiliol a chelwyddau yn erbyn Mosg Madina Caerdydd (a Mwslemiaid yn gyffredinnol). Nodyn cynnwys (“content note”): mae’n cynnwys hiliaeth uffernol, ac mae’r camgyhuddiadau yn ymdrin a weithredai gall fod yn anodd i rai darllen. https://tinyurl.com/jyavhdg

Bwysig nodi hefyd bod y cyfryngau Gorllewinol braidd byth yn sôn am y Mwslemiaid yn Syria sydd yn ymladd yn erbyn yr hyn a elwir “ISIS”, na chwaith am bobl sydd wedi gadael yr ynys hon i ymladd yn erbyn “ISIS”. Yn Syria a Chwrdistan, ar hyn o bryd, ma llwyth o grwpiau chwyldroadol gwahanol, sydd yn amddiffyn eu hun yn erbyn cyflafan y llywodraeth awdurdodol Assad, ac yn erbyn cyflafan “ISIS”. Mae “ISIS” a’r llywodraeth yn cyd-weithio wrth ymosod ar y gwrthryfel poblogaidd hwn. Ac yn y cyfamser, mae’r Gorllewin imperialaidd, peilotiaid a drones Prydeinig, yn gollwng bomiau arnynt. Mae anarchiaid yn y Gorllewin wedi denu sylw at frwydr y Cwrdiaid am ryddid, ond prin iawn sydd yn siarad am wrthryfel chwyldroadol gan Arabiaid yn Syria.
https://rabble.org.uk/syrian-revolutionaries-and-us-air-strikes/
https://eternispring.wordpress.com/

Aduniad Menywod a Phobl Trans* yn erbyn y cyd-berthynas diwydiannol carchar

WT-Week-Welsh-without-bleeds-724x1024

Pam yr Wythnos yma o Weithredu? Pam Rŵan?

Mae carchardai yn dinistrio bywydau. Bwriad Llywodraeth Prydain yw adeiladu 9 mega garchar newydd www.cape-campaign.org/community-action-on-prison-expansions-response-to-the-9-new-prisons-announced-yesterday erbyn 2020, tra bod mwy o fenywod a phobl thrans yn cael eu caethiwo a’u trin yn giaidd yn ein system garchar. Mae’r pwysau enfawr o gefnogi’r sawl ydym yn eu caru yn y carchar yn disgyn arnom ni sydd yn llafurio’n emosiynol, ariannol ac yn ymarferol i gefnogi pobl sydd wedi eu carcharu tra yn ogystal â hyn rydym yn gofalu am y gweddill sydd wedi eu gadael ar y tu allan. Mae’r cyd-berthynnas diwydiannol carchar yn dwyn ein bywydau gennym. Mae hefyd yn sefydliad hiliol ble mae pobl nad ŷnt yn wyn eu croen yn sicr wedi eu gorgynrychioli. Mae’n rhan o ymosodiad parhaol a hanes hir o batriarchaeth a chydymffurfiaeth-rhywedd yr ydym yn ei frwydro pob dydd. Mae’r wythnos hon yn ymgais at adennill ein bywydau.

Pwy a fyddwn yn ei groesawu yn y digwyddiad hwn?

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sydd yn uniaethu fel menywod, trawsryweddol, trawsrywiol, cwiar ryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol. Mae’n ofod bwriadol er mwyn rhannu gwybodaeth ymgyrchu, dulliau trefnu, sgiliau gweithredu uniongyrchol mewn awyrgylch cefnogol i’r sawl sydd yn aml yn cael eu domineiddio a’i nadu gan ddynion-sis.

Os ydych chi yn anghyfarwydd a’r termau yma, dyma ragor o wybodaeth: twac.wordpress.com/terminology.

 

Be fydd yn digwydd?

Bydd:

  • Sawl Diwrnod o Weithredu
  • Aduniad o dri diwrnod i ymchwilio i’r pynciau yma yn fwy trwyadl
  • Gweithdai, dangosiadau Ffilm & mwy

Bydd sawl diwrnod o weithredu, yn ogystal ag aduniad a fydd yn para tri diwrnod dros y penwythnos i ymchwilio i’r holl faterion yma yn drwyadl. Bydd gweithdai, trafodaethau, dangosiadau ffilm a rhagor yn plymio i ddyfroedd o feddwl o’r dull ydym yn ymateb i niwed, o drais rhyngbersonol, fel ymosod rhywiol, i drais strwythurol a thrais y wladwriaeth fel tlodi, canolfannau dal a charchar. Dyma ofod i ofyn cwestiynau beirniadol am sut symudwn du hwnt i’r wladwriaeth a ffurfio dulliau amgen.

 

Sut alla i ymwneud a hyn?

 

Cysylltwch â ni er mwyn helpu gwneud i hwn ddigwydd. Mae angen cefnogaeth arnom gyda:

  • Logisteg ymarferol e.e. sicrhau llety, bwyd, gofal plant
  • Codi arian
  • Hyrwyddo e.e. cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, rhwydweithio mewn digwyddiadau
  • Paratoi cynnwys, e.e. cysylltu â phobl i hwyluso trafodaethau
  • Cynllunio gweithredoedd

Os gwelwch yn dda e-bostiwch info@prisonabolition.org i ymuno a’r criw sydd yn trefnu’r digwyddiad.

Pwy sy’n trefnu’r digwyddiad yma a’r wythnos o weithredu?

 

Mae cydweithfa fach anffurfiol wedi dod o wythnos o Weithredu yn erbyn y Cyd-berthynnas Diwydiannol Carchar ym mis Tachwedd 2015 (www.cape-campaign.org/this-is-only-the-beginning-overview-of-the-week-of-action-against-the-prison-industrial-complex-november-2015). Rydym yn grŵp o fenywod cis a phobl (gender queer) sydd yn casáu carchar gyda’n holl eneidiau. Mae rhai ohonom wedi bod yn y carchar, eraill wedi treulio llawer gormod o ddyddiau mewn ystafelloedd aros ymweld â charchardai. Rydym wedi goroesi cael ein treisio, trais rhywiol, camdriniaeth. Nid ydym ni eisiau cael ein dominyddu can sis-ddynion, patriarchaeth na chyfalafiaeth unrhyw ragor. Mae pob un ohonom yn rhannu angerdd i adeiladu dulliau amgen o ymdrin â niwed na’r system garchar, sydd yn cefnogi goroeswyr trais ac ymateb i niwed yn ein cymunedau. Rydym wedi ein hysbrydoli’n fawr gan cymrodion sydd wedi trefnu gwersyll gweithredu Menywod a Trans Cascadia twac.wordpress.com/about. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr a pur debyg fyddwn yn gwneud llawer o gamgymeriadau ond rydym yn gwneud ein gorau i ysbrydoli gwrthwynebiad i’r Cyd-Berthynnas Diwydiant Carchar sydd yn gwenwyno ein bywydau.

Bloc Radicalaidd y Gweithwyr

“DAW DYDD PRYD FYDD EIN DISTAWRWYDD FWY PWERUS NA’R LLEISIAU RYDYCH YN CROGI HEDDIW.”

(Agust Spies ar y sgaffold cyn ei ddineyddiad)

Chicago

Bydd Anarchwyr De Cymru yn gwrthdystio yng Nghaerdydd i ddathlu Calan Mai eleni. Yn wreiddiol yn ŵyl baganaidd, mae gan yr ŵyl y banc Calan Mai gyfoes ei wreiddiau yn y frwydr ar gyfer “y diwrnod wyth awr” a mae’n cael ei ddathlu ar draws y byd fel Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae hyn i gofio undebwyr llafur anarchaidd a cafodd ei dienyddio yn Chicago yn 1887. Cawsant eu cyhuddo ar gam o daflu bom ar yr heddlu a oedd yn gwasgaru torf yn y Haymarket yn ystod gwrthdystiad a oedd yn cynnwys dros 400,000 o weithwyr yn Chicago ar y 4ydd o Fai, 1886.

Ni farwodd y syniad anarchaidd gyda’r gweithwyr hyn yn 1887 ac mae’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i lawer sydd yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ar draws y byd. Rydym yn galw ar bawb sy’n brwydro dros byd o gyfiawnder, urddas a rhyddid i ddod at ei gilydd i ymuno â ni y Calan Mai yma yng Nghaerdydd.

Dewch â’ch baneri coch a du a baneri brwydr dosbarth!

Byddwn yn cwrdd am 12 canol dydd ym mhen deheuol Heol Y Santes Fair, dan bont y rheilffordd ger y Wetherspoons y Great Western. Mae’r orymdaith yn cychwyn am 12.30 drwy strydoedd canol Dinas Caerdydd i rhywle…. heb areithiau y biwrocratiaid!!!

Protest: Nid yw Heddlu Cudd yn esgus dros gam-drin

24fed o Fawrth am 6yh tu allan i Orsaf Heddlu Canolog Caerdydd

copshop

Mae wedi bod dros bum mlynedd ers i ni ddysgu nad oedd Mark “Marco” Jacobs yn anarchydd arall yn y sin ymgyrchu yn ne Cymru, ac roedd mewn gwirionedd yn aelod o’r heddlu cudd.

Ers hynny mae nifer o bobl a gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan ei ddefnydd o berthnasau rhywiol fel tacteg ymdreiddiad wedi gweithredu’n gyfreithiol i geisio gwneud y system gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.

Ar ben hyn, yn warthus, mae Heddlu De Cymru a’r Heddlu Metropolitan wedi cadw amddiffyniad “Ni chadarnhaid na gwadiad” ar bob agweddau o weithredoedd Heddwas Jacobs.

Ar ddydd Mercher y 25ain o Fawrth fe fyddwn yn gwrthwynebu’r “amddiffyniad” yma yn Llysoedd Brenhinol Cyfiawnder, Llundain.

Ymunwch efo ni’r noson gynt am brotest tu allan i Swyddfa Heddlu Caerdydd Canolog i dynnu sylw at yr achos a’r broblem o blismona cudd yn gyffredinol

Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/452508508246682/

Rhaglen Ffair Lyfrau Anarchaidd Caerdydd

Bydd Ffair Lyfrau Anarchaidd Caerdydd ar ddydd Sadwrn yng nghanolfan Cymunedol Cathays. Dewch erbyn 11yb i fwynhau y gweithdai, stondinau, cerddoriaeth a chaffi bwyd nid bomiau sydd yn cod arian er costau cyfreithiol diffynyddion protestiadau NATO.

Digwyddiad facebook a gwefan Anarchwyr De Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad.

1781986_783411218398731_3520801868833357490_n
———————————-

Dim Ffiniau Moroco
Mae degau ar filoedd o bobl yn wynebu erledigaeth ddyddiol ym Moroco oherwydd polisïau ffin yr Undeb Ewropeaidd. Dewch i glywed am y frwydr barhaus dros urddas a rhyddid ym Moroco, a’r hyn y mae anarchwyr Ewropeaidd yn ei wneud i gefnogi.

Cyflwyniad Gomiwnyddiaeth Anarchaidd
Y gymdeithas yr ydym yn gobeithio amdani a’r ffyrdd i’w chreu gan Ffederasiwn Anarchaidd Bryste.

Gwrthwynebu IPP
Sgwrs ynglyn â’r “ddedfryd amhenodol i warchod y cyhoedd” (IPP) a gyhoeddwyd yn 2005, mae miloedd yn cael eu carcharu heb unrhyw ddyddiad rhyddhau.

Anarchiaeth a’r Iaith Gymraeg
A yw’r frwydyr dros anarchiaeth hefyd yn frwydr dros yr iaith? Mae’r mudiad iaith wedi radicaleiddio nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ond paham nad ydyn ni, fel y Catalwniaid a’r Gwyddelod, wedi cyfieithu ein prif gyfryngau i’r Gymraeg? Pam does nemor dim llenyddiaeth Anarchaidd yn y Gymraeg ? Dewch i drafod sut allem frwydro dros yr iaith fel anarchwyr, ein perthynnas gyda’r mudiad iaith brif ffrwd yn ogystal a sull allwn hybu syniadau anarchaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gormes gwrthdystio: Sut i frwydro nôl
O’r Heddlu cudd yn treiddio i grwpiau ymgyrchu i bolisi newydd yr Heddlu Metropolitan o “dalu-i-brotestio”, sut mae gwrthsefyll y gormes hyn a gwneud eu tactegau’n aneffeithiol.

Cyd-gymorth, cymdeithasau cyfeillgar a’u perthnasedd i’r frwydr gyfoes
Gan dynnu ar y ddau enghreifft hanesyddol, yn ogystal â ffurfiau sefydliadol presennol, gobeithia’r gweithdy hwn agor trafodaeth am y math o ddulliau a sefydliadau y gallai anarchwyr eu datblygu yn llwyddianus i greu y byd o ryddid, y cyfiawnder a’r cydraddoldeb yr ydym yn dyheu amdano. O gymdeithasau cyfeillgar, i brosiectau tai cydweithredol a ysbrydolwyd gan gydweithfeydd ffeministaidd, mae’r gorffennol yn frith o arbrofion o’r fath ond beth allwn ni ei ddysgu a’i ddefnyddio ym mrwydyr heddiw yn erbyn dominyddiaeth cyfalafol? Dyma’r cwestiynau canolog a fydd yn cael eu harchwilio yn ystod y gweithdy hwn.

Anarchwyr yn erbyn llymder – sut mae hynny’n gweithio?
Os ydym yn gwrthwynebu toriadau / llymder, a yw hynny’n golygu ein bod am wladwriaeth fawr? Dyma weithdy sydd yn mynd i’r afael â’r gwrth-ddweud o fewn y mudiad anarchaidd a’r mudiad ehangach yn erbyn llymder. Byddwn hefyd yn archwilio strategaethau ymarferol a datblygiadau posibl yn y dyfodol.

Anarchiaeth, am ysbaid: Atgofion o anarcho-pynk
Mae’r awdur Phillip Bounds yn rhoi ei berspectif personol o’r sin anarcho-pync yn Ne Cymru yn y 1980au cynnar, a dynnwyd o bennod yn ei lyfr newydd “Notes from the End of History: A memoir of the left in Wales”

Gwrthsefyll y Diwydiant Carchardai
Gweithdy cyflwyno cymhlethdod diwydiannol y carchar – sut mae’r wladwriaeth a chwmnïau yn elwa o garcharu bodau dynol. Byddwn yn cyflwyno brwydrau cyfredol, gan gynnwys ymgyrch newydd yn erbyn dyfodiad y carchar mwyaf ond un yn Ewrop i Ogledd Cymru.

Undebau llafur: rhan o’r ateb neu broblem
Mae undebau llafur wedi bod yn llais i’r dosbarth gweithiol ers dros 150 o flynyddoedd drwy frwydro i ennill llawer o’r hawliau cyflogaeth a gwelliannau i amodau gwaith yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw. Byddwn yn cymryd cipolwg ar hanes y mudiad llafur, o Tolpuddle a Merched Match, drwy ffurfio’r Blaid Lafur a brwydrau diwydiannol anferth y 70au, hyd at y presennol. Yna, byddwn yn gofyn ‘ydy undebau llafur yn dal i fod yn berthnasol heddiw – neu a ydynt wedi ieithrio o anghenion gweithwyr ar lawr gwlad?’ Byddwn yn cloi drwy ystyried y ffordd ymlaen, a ddylem ymgysylltu â’r undebau a gwneud iddynt weithio o’n plaid, neu a ddylem ystyried llwybr arall?

Paid â chyffwrdd a’n Coedwigoedd
Esboniad o’r bygythiadau o breifateiddio, masnacheiddio a dinistrio posibl Fforest of Dean a choetiroedd cyhoeddus eraill drwy gynigion diweddaraf y llywodraeth, a pham y mae’n rhaid i ni barhau i ymgyrchu i’w cadw yn ein dwylo ni

Anarchwyr ac etholiadau
Sgwrs a gweithdy cyfranogol ar y rhesymau dros wrthwynebiad llawer o anarchwyr i etholiadau seneddol a pham nad ydym yn dewis sefyll neu bleidleisio ynddynt.

Datguddiad Snowden a Gwyliadwriaeth y Wladwriaeth
Mae’r datgeliadau gan chwythwr chwiban Edward Snowden wedi cynnig cipolwg i wyliadwriaeth ar raddfa eang. Maent wedi ysgogi trafodaethau cyhoeddus ar natur hawliau sifil yn y byd digidol; posibiliadau a heriau cyfathrebu diogel; natur y wladwriaeth diogelwch; ansawdd y sylw yn y cyfryngau; a bygythiadau newydd i ryddid y wasg a gwrthdystio. Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi trosolwg o’r ffyrdd y mae’r wladwriaeth yn monitro ein cyfathrebu ar-lein, ac yn trafod y ddadl yn y cyfryngau ar ddatgeliadau Snowden, heriau i fynegiant ac i gweithredu, datblygu a defnyddio offer gwrth-gwyliadwriaeth, ac ymgyrchoedd hawliau digidol.

Y Gath Rydd Olaf
Yr Awdur Jon Blake yn siarad am lyfr radical i blant. Hefyd yr anawsterau o gyhoeddi ffuglen plant gwrth-gyfalafol.

Cyflwyniad i’r Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd
Mae’r rhwydwaith gweithredu anarchaidd yn sefydliad cenedlaethol o anarchwyr sydd yn estyn allan at gymunedau dosbarth gweithiol ar draws y DU i hyrwyddo gweithredu uniongyrchol. Dewch draw i glywed mwy am egwyddorion y rwydwaith a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cymru Ddi-Ffrac o’r Dechrau i’r Ddiwedd
Ers nifer o flynyddoedd mae cymunedau ledled Cymru wedi bod dan fygythiad egni eithafol ‘hollti hydrolig’ (Fracio), Methan Gwely Glo a Nwyeiddio Glo Tanddaearol. Mae pob techneg yn peri risgiau difrifol i iechyd pobl a’r amgylchedd. Ffurfiwyd Cymru ddi-ffrac yn 2013 er mwyn helpu i drefnu a chefnogi’r grwpiau rhanbarthol wrth weithio gyda sefydliadau eraill. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi addo i ymladd am foratoriwm yn erbyn ffracio, ond nid yw’r frwydr yn dod i ben yno gan ei fod yn aneglur os oes gan Gymru ddigon o bwerau datganoledig i ddeddfu ar bolisi ynni.

Easton Cowboys & Cowgirls: Clwb Chwaraeon Radicalaidd o’r tu fewn
A all clwb chwaraeon fod yn gyfrwng i wleidyddiaeth radicalaidd? Ffurfwyd Cowboys Easton 20 mlynedd yn ôl fel tîm pêl-droed cynghrair sengl Sul. Ers hynny grŵp yma o byncs ac ymgyrchwyr wedi ehangu i fod yn grwp aml-chwaraeon o 150+ wedi ei leoli ynghanol dinas Bryste. Fel clwb maent wedi teithio’r byd, codi symiau sylweddol o arian ar gyfer gwahanol achosion da ac yn cyfranu at ddatblygu rhwydwaith byd-eang o dimau gwrth ffasgaidd / gwrth hiliol. Bydd Will Simpson yn sôn sut y maent wedi gwneud hyn ac yn trafod y potensial ar gyfer chwaraeon ac ymgyrchu.

Dynarchwyr – Canllaw iddynt.
Golwg ysgafn ar wleidyddiaeth rhywedd o fewn anarchiaeth.

Gwrthwynebu Ffasgaeth
Mae ffasgiaeth yn Ewrop ar gynnydd. O’r blaidd Islamoffobaidd “Plaid Rhyddid” yn yr Iseldiroedd, Y Wawr Euraidd yng Ngwlad Groeg, Hwngari Jobbik a llwyddiant y Ffrynt Cenedlaethol yn Ffrainc. Yn y DU mae gennym y Torïaid a’r UKIP yn galw am bolisïau gwrth-fudo llymach i fwrw’r bai am ddirywiad yr economi, sydd yn cynyddu casineb hiliol. Yng Nghymru lle mae’r niferoedd sy’n byw mewn tlodi ymysg yr uchaf yn y DU, mae Siopau UKIP yn agor a chynnydd mewn grwpiau Ffasgaidd.

Ystyr Rhyddid.
Beth yw rhyddid? Ai peidio bod mewn caethiwed, neu a oes mwy iddo na hynny? A all rhyddid unigol fodoli heb ryddid ar y cyd? O ble daw ein hangen am ryddid? Yr awdur Paul Cudenec sy’n cyflwyno trafodaeth ar sylfaen athroniaeth anarchaidd.

Bwyd Nid Bomiau! Cnoi, tagu neu boeri?!
Galwad i bracsis ddychmygol ar y strydoedd. Dewch i weithdy rhyngweithiol a gychwynnwyd gan Bwyd Nid Bomiau Southampton ac eraill, wrth i ni edrych yn gwbl agored ar y benbleth amlwg o safbwynt y palmant. Sut i boeri’r hyn yr ydym am osgoi tagu arno?

Ffair Lyfrau Anarchaidd Caerdydd

Bydd Ffair Lyfrau Anarchaidd Caerdydd ar y 21fed o Chwefror, 2015 yn Nghanolfan Gymunedol Cathays. Croeso i bawb.

Ffeiriau llyfrau yw arddangosfa y mudiad anarchaidd a’r prif gofod i gyfarfod ar ol protestiadau. Mae wedi bod yn bum mlynedd ers cynnal y ffair lyfrau anarchaidd diwetthaf yng Nghaerdydd.

Fel y tro diwethaf, bydd dau ofod cynnal gweithdai ar gyfer sgyrsiau a cyfarfodydd, yn ogystal a neuadd o stondinau, yn ogystal a chreche, bar, caffi a mwy. Gyda’r hwyr bydd gig a digwyddiad cymdeithasol.

Bydd sesiwn arbennig gan Anarco Gyfieithu ynghylch yr Iaith Gymraeg ac Anarchiaeth:

“A yw’r frwydyr dros anarchiaeth hefyd yn frwydr dros yr iaith? Mae’r mudiad iaith wedi radicaleiddio nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ond paham nad ein bod fel Catalwniaid a Gwyddelod wedi cyfieithu ein prif gyfryngau amgen i’r Gymraeg? Pam does nemor dim llenyddiaeth Anarchaidd yn y Gymraeg ar gael? Dewch i drafod sut allem frwydro dros yr iaith fel anarchwyr, ein perthynnas gyda’r mudiad iaith brif ffrwd yn ogystal a sull allwn hybu syniadau anarchaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae’r ffair lyfrau anarchaidd yn bwcio stondinau a gweithdai ar hyn o bryd. E-bostiwch cardiffanarchistbookfair@riseup.net am ymholiadau.

 

1781986_783411218398731_3520801868833357490_n

Unoliaeth Llys Gwrth-Militaraidd 6ed Ionawr 2015

10882224_995369783822762_2177029404176923947_n

Unoliaeth Llys Gwrth-Militaraidd 6ed Ionawr 2015
Amser: 09:15 yb
Dyddiad: Dydd Mawrth 6ed Ionawr, 2015
Lleoliad: Llys Ynadon Caerdydd
Cyfeiriad: Ffordd Fitzalan, Caerdydd CF24 0RZ

Dyma unoliaeth llys er mwyn cefnogi dau o bobl lleol sy’n gwynebu cyhuddiadau llym am yr honniad eu bod wedi ceisio amharu ar y ffair arfau DPRTE. y flwyddyn diwethaf. Maent wedi eu cyhuddo o “ddifrodi” nwyddau moethus masnachwyr arfau a trefnwyr y digwyddiad gyda paent plant.

Bydd y brotest dangos unolieath byr y tu allan i’r llys o 09:15 yb ar ddydd Mawrth y 6ed o Ionawr, 2015. Croeso i banneri gwrth militaraidd ac i’r rheiny sydd yn dymuno’n dda i’r ddau. Wedyn bydd rhai ohonom yn cefnogi’r diffynyddion o’r oriel gyhoeddus.

APÊL TYST BRYS:

****************************

A oeddech chi yn y brotest yn erbyn Ffair Arfau DPRTE yng Nghaerdydd yn Arena Motorpoint yn Hydref 2014? Hyd yn oed os ydych yn credu nad ydych yn gweld unrhyw beth efallai y byddwch yn gallu darparu tystiolaeth amddiffyn defnyddiol ynghylch naws y dydd.
Os ydych yn credu y gallech fod yn help anfonwch e-bost at: bristoldefendantsolidarity@riseup.net