Na i ffasgiaid! Na i Islamoffobia!

Ffasgiaid yn galw am “brotest” gwrth-ffoaduriaid yng Nglyn Ebwy, ond ddim un ohonynt yn troi lan!

Wnath grŵp o’r enw “Welsh Resistance” creu ffys arlein am gal “brotest” gwrth-ffoaduriaid ar Awst yr 20fed yng Nglyn Ebwy, ond yn ôl pob sôn dath dim ohonynt! Yn lle, cynhaliwyd protest gwrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol a ddangosodd eu croeso i ffoaduriaid yn y cwm.

Blemaerffasgiaidlol Gêm hwyl: Ffindiwch y ffasgiaid! (cliw: mae’n amhosib)

Ma ffasgiaid yr ynys yn gyflym creu traddodiad o beidio dod allan i ddigwyddiadau eu hun! Digon o ddiddanwch yw “llinell amser” yr Wales Online:

14:41
Welsh Resistance have taken down their Facebook page

17:49
No sign of the protesters [y ffasgiaid, hynny yw] yet

18:04
Still no protesters

18:08
There’s no sign of the protesters in Wetherspoons pub

19:37
Nope… they still haven’t shown up

Haha!

Wrth gwrs, ma tueddiad pan ma ffasgiaid yn colli neu yn pyllu ymddangos i danamcangyfrif eu bygythiad. Ond mae trais ffasgaidd yn Dover ar ddechre’r flwyddyn, neu yn Abertawe yn ddiweddar, a digwyddiadau diweddarach Caerdydd (gwelir isod), yn ddigon i’n hatgoffa bod angen i ni amddiffyn ac hunan-ymdrefnu ein gilydd. A hyd yn oed heb gofio grwpiau ffasgaidd ymdrefnus, ma’r sefyllfa i ffoaduriaid yn parhau yn un hunllefus – pe bai’n gwladwriaethau Ewrop yn ymosod arnynt a’u carcharu, neu hiliaeth ac ymosodiadau dydd i ddydd oddi wrth ddinasyddion gwyn. Ma gwrthwynebu ffasgiaeth dim ond yn un rhan o’r frwydr.

 
Daily Mail cachaidd yn cam-gyhuddo Imam a Chanolfan Mwslemiaid yng Nghaerdydd

[Nodyn gynnwys: ma’r isod yn delio a hiliaeth uffernnol, ac yn cyffwrdd ar weithredoedd gall fod yn anodd i rai darllen.]

Mis yn ôl, cyhoeddodd y Daily Mail celwydd o erthygl  oedd yn ymosod ar bregethwr yng Nghaerdydd. Gan gymryd geiriau’r Shaykh Ali Hammuda allan o’u cyd-destun a’u troi yn llwyr, wnaethant ei gam-gyhuddo o gefnogi caethweision rhyw ac “ISIS”. Fel gellid disgwyl o’r Daily Mail, ymestynnwyd y cyhuddiad ffals i’r Ganolfan Al-Manar yng Nghaerdydd ac i Fwslemiaid i gyd.*

DailyFail

Mae’r Imam Ali Hammuda wedi eisoes pregethu yn erbyn caethweision ryw ac yn erbyn “ISIS”. Roedd yn pregethu yn erbyn “ISIS” hir gyn iddynt fod yn destun mawr i gyfryngau’r Gorllewin. Ysgrifennodd ymateb sownd i’r Daily Mail fanyn. Mae ei eiriau cau, sydd yn ein hatgoffa o hanes y babur newydd, yn werth ailadrodd:

“I feel proud that the only paper in the British press low enough to stoop to such a level was the Daily Mail. It is an honour to be smeared by the same paper that allied itself with Adolf Hitler in its smearing of Jews during the Holocaust.” Ie wir.

 

Ffasgiaid “Britain First” yn bygythio Mwslemiaid yn y ddinas

Defnyddiodd y ffasgiaid “Britain First” y camgyhuddiad fel esgus i fygwth Mwslemiaid Caerdydd. Uwchlwythwyd fideo ganddynt wythnos diwethaf sy’n dangos grŵp ohoynyt yn cerdded i mewn i’r Ganolfan Al-Manar gan fygwth y bobl oedd yno. Wrth adael ma un ohonynt yn weud: “we’ll be back”.

Plaid a gang-stryd hiliol a threisgar yw “Britain First”. Maent wedi gwthio mewn i Ganolfannau Mwslimaidd a Mosgiau yn y gorffennol. Maent yn ymosod, trwy eu rhetoreg ac yn ffisegol, ar Fwslemiaid a phobl nad yw’n gwyn. Mae ganddynt ideoleg asgell-dde eithafol o Gristnogaeth a Phrydeindod, ac arian ac aelodau oddi wrth gyn-filwyr. Yn Fehefin, cawsant “gwersyll hyfforddiant” yn Eryri, oedd yn gynnwys dysgu ymladd a chyllell. Mae nifer wedi cysylltu llofruddiwr yr AS Jo Cox, a digwyddodd ychydig o ddyddiau ar ôl y gwersyll, â “Britain First”.

CachwrsBritainFirst

Ar y degfed o Fedi, wythnos nesaf, ma “Britain First” yn bwriadu cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd. (Ma ganddynt digwyddiad ar Facebook. Dydyn nhw heb gyhoeddi lleoliad penodol.)

Nid oes lle i’r cachwrs ffasgaidd ma, nid yng Nghymru na nunman arall!

 
Eraill yn cofio hanes gwrth-ffasgaidd yng Nghymru

Ma eraill wedi bod yn cofio tair Cymraes gwrth-ffasgaidd o’n hanes. Aeth Thora Silverthorne, Margaret Powell a Fifi Roberts i ryfel cartref Sbaen yn y ’30au i gyfrannu yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth. Ysgrifennwyd erthygl ddiweddar amdanynt yn Gymraeg fanyn.

 

Croeso i ffoaduriaid!
Chwalwn Islamoffobia!
¡No pasarán!

 

________________________________

*Mae erthygl y Daily Mail yn dilyn cyhuddiadau eraill, llawn Islamoffobia, yn erbyn y Ganolfan Al-Manar. Dwy flynedd yn ôl, yn dilyn ymadawiad dau ddyn o Gaerdydd i ymladd am “ISIS”, ceisiodd y cyfryngau cyhuddo’r ganolfan o “radicaleiddio”, er iddynt wastad sefyll yn erbyn “ISIS”. Mae gan y Ganolfan ymatebion pwysig i’r camgyhuddiad hwn a’r celwyddau am Ali Hammuda. Ynddynt, mae’r Ganolfan yn galw am “heddwch a chyfiawnder cymdeithasol”. http://www.almanar.org.uk/page.php?page_id=8

Os nad yw’r camgyhuddiadau Islamaffobaidd hyn yn peri gormod o ofid, ma holl wefan wedi’u creu sydd yn llawn cach hiliol a chelwyddau yn erbyn Mosg Madina Caerdydd (a Mwslemiaid yn gyffredinnol). Nodyn cynnwys (“content note”): mae’n cynnwys hiliaeth uffernol, ac mae’r camgyhuddiadau yn ymdrin a weithredai gall fod yn anodd i rai darllen. https://tinyurl.com/jyavhdg

Bwysig nodi hefyd bod y cyfryngau Gorllewinol braidd byth yn sôn am y Mwslemiaid yn Syria sydd yn ymladd yn erbyn yr hyn a elwir “ISIS”, na chwaith am bobl sydd wedi gadael yr ynys hon i ymladd yn erbyn “ISIS”. Yn Syria a Chwrdistan, ar hyn o bryd, ma llwyth o grwpiau chwyldroadol gwahanol, sydd yn amddiffyn eu hun yn erbyn cyflafan y llywodraeth awdurdodol Assad, ac yn erbyn cyflafan “ISIS”. Mae “ISIS” a’r llywodraeth yn cyd-weithio wrth ymosod ar y gwrthryfel poblogaidd hwn. Ac yn y cyfamser, mae’r Gorllewin imperialaidd, peilotiaid a drones Prydeinig, yn gollwng bomiau arnynt. Mae anarchiaid yn y Gorllewin wedi denu sylw at frwydr y Cwrdiaid am ryddid, ond prin iawn sydd yn siarad am wrthryfel chwyldroadol gan Arabiaid yn Syria.
https://rabble.org.uk/syrian-revolutionaries-and-us-air-strikes/
https://eternispring.wordpress.com/

Eisteddwch yn Llonydd

Eisteddwch yn Llonydd

gan Hwntw Arall

 

heddlumas

 

Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.

[Trefnwyr yr Eisteddfod yn baratoi am fygythiad Swffragetiaid, 1912]

 

A oes heddlu? Oes!
A oes pris mynediad? Oes!
A oes snobyddiaeth? Oes!

 

Y crachach a drefnodd yr Eisteddfod fodern. Rhan o ymgeision uwch-Gymru’r Oes Fictoria i buro’r genedl: dros Gymru ufudd, Cymru’r Beibl, Cymru parchus. Eu neges i bendefigion Loegr (ac i’w hun): Nid Cymry oedd Cymry terfysgoedd ‘Beca, nid iaith helyntus yw’r Gymraeg.

Mae ystyr “parchus” wedi newid wrth gwrs. Siwr, heddiw cawn yfed cwrw ar y maes a chawn jôcs budr a direidi ar y llwyfan (digon i droi bol Syr O. M. a’i fab – ac eraill hyd heddiw!). Ond cawn hefyd stondin i’n heddlu treisgar, stondinau i’r gwleidyddion cachaidd ac yn gynyddol i gorfforaethau di-wyneb.

(Ife hyn yw ein diwylliant, neu gyfle hysbysebu? Ni chawn drafod ar ôl y toriad)

Ond mae digon o “gythryblwyr” sydd wedi ac sydd yn herio’r trefn. Pe bai’n werinos Abertawe yn dwyn seddi’r crach yn Steddfod 1891, neu werinos heddiw yn ail-baentio stondinau, neu geir, neu yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn neu dros wasanaethau Cymraeg i blant, neu jest babell o feirdd yn anerchi’n eu tro yn erbyn bomiau ‘drones’ Prydeinig, ma traddodiad hir o Eisteddfodwyr radical.

syrifan

[Syr Ifan yn penderfynu bod angen chwyldro, Eisteddfod yr Urdd, 1927]

Maes i frwydro ynddi, maes i’w meddianu yw’r Eisteddfod felly. Dyma ein diwylliant, yn ôl pob sôn, ond nid ni sydd a’u meddiant. Da ni’n haeddu mwy na’r hyn ma nhw’n rhoi. Am yr holl genedlaethau o Gymry a ecsbloetiwyd, ac am ein hecsploetio heddiw, da ni’n haeddu Eisteddfod am ddim, a mwy eto. Eisteddfod heb heddlu. Eisteddfod heb gatiau. Eisteddfod sydd yn rhan o’r fro ac yn fflam dros Gymreigeiddio, nid ynys breifat a noddwyd gan gwmni wedi’u cuddio yn rhyw gae. Mae’n hen bryd i ‘Beca codi yn erbyn tollbyrth yr Eisteddfod.

Gloi nawr, cyn i’r stiwardiaid cau’r drysau.

 

nidoesheddlu

 

__________________________________
Beth am gasglu archif Eisteddfod radical? Dyma chydig casglais yn gloi.
Rhowch sylwad isod i ychwanegu mwy.

(Wrth gwrs, odd yr uchod yn son am “yr” Eisteddfod (Genedlaethol), ac ma pethe’n debyg iawn o ran Eisteddfod yr Urdd. Ond diddorol fydde cymharu hyn ag Eisteddfodau eraill. Odd croeso i’r heddlu yn Eisteddfod y Glowyr? Odd y crachach yn ddominyddu Eisteddfodau bwrlymus Merthyr yn yr 1820au?)

1891
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
Digon o helynt pan wnaiff dorf gwlyb a oedd wedi danto ar eistedd yn y glaw (chwalwyd rhan o’r pafiliwn gan storm) rhuthro i gymryd seddi cadw y crach yn y blaen (yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wag, ac o dan cysgod gweddill y pafiliwn). Ma Syr O.M ei hun yn ysgrifennu am ei ofn ar yr achlysur (yr oedd ef yn eistedd yn y seddi blaen yn barod, wrth gwrs).
[Ma Hywel Teifi Edwards yn ysgrifennu amdani yn llyfr a chyhoeddwyd gydag Eisteddfod diweddarach a ddigwyddodd yn Abertawe, rhaid i fi ei ffeindio a’u dyfynnu..]

1912
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Swffragetiaid yn brotestio yn ystod ymweliad David Lloyd George.
https://www.casgliadywerin.cymru/story/378341

1957
Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
Paul Robeson, y canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil yn yr UDA a sawl achos arall, yn siarad dros ddolen trawsiwerydd i Will Paynter.
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

1958
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy
Paul Robeson yn dod i siarad yn bersonol, ar ôl i lywodraeth yr UDA ail-ganiatau ei basbort.
“You have shaped my life – I have learned from you. I am part of the working class.”
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

2006
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
“Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith Newydd ym mhabell y Blaid Lafur.”

2011
Eisteddfod yr Urdd, Abertawe
“Protest S4C – Rhaid i Cyw Fyw!”
http://archif.cymdeithas.org/2011/05/31/protest_s4c_-_rhaid_i_cyw_fyw.html

2014
Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd
“Cymdeithas yr Iaith yn amgylchynu Carwyn Jones a galw arno i ‘ddeffro’ ynglyn a sefyllfa’r Gymraeg, ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014”

2015
Eisteddfod yr Urdd, Llancaiach Fawr, Caerffili
Protest yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn o flaen stondin Prifysgol Aberystwyth.
http://www.bbc.com/cymrufyw/32932881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod
“Chwistrellwyd “Rydym ni yn Tazerio Plant” ac “ACAB” ar uned Dyfed-Powys yn yr Eisteddfod yn ol y wefan Indymedia. Dywed fod y weithred hon mewn unoliaeth a’r sawl sydd wedi profi creulondeb a thrais gan yr Heddlu.”
https://anerchiadanarchaidd.wordpress.com/2015/08/11/gweithredu-yn-erbyn-heddlu-dyfed-powys-yn-eisteddfod-meifod-2015/

“Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Cymraeg Ail Iaith, wrth iddyn nhw sgrapio car ar faes yr Eisteddfod ym Meifod”

2016
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
“Protest yn erbyn toriadau i wasanaethau Cymraeg i Blant”
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/226726-protest-yn-erbyn-toriadau-i-wasanaethau-cymraeg-i-blant-3

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

gan Hwntw Arall

 

Mi welwn wyr y Senedd yn ngrynhoi y’nghyd
Yn erbyn y tylodion yn gysson oll i gyd,
I godi cyfraith newydd, annedwydd oedd eu nad
A gwneud carcharau creulon i dlodion yr holl wlad.

Dyma bennill o hen faled y “Breuddwyd Hynod”: pennill rhu perthnasol i’n presennol hunllefus.

 

Wyrkhws, Tlodion a’r “Proletariat”

Mae’r baledwr Ywain Meirion yn ymosod ar drefn y wyrkhws. Tybiwyd y cenir am y tro gyntaf yn 1834, blwyddyn Deddf Newydd y Tlodion. Estynnwyd y system wyrkhws gan y ddeddf newydd. Dan y system hon carcharwyd tlodion yn llafurdai, lle gorfodwyd i weithio’n ddi-dâl.

Diffiniwyd “tlodion” gan y ddeddf fel rhai oedd yn gorfod llafurio er mwyn cynnal eu hun, rhai oedd yn gorfod gweithio er mwyn ennill eu bara beunyddiol [1]. Dyma ddiffiniad Karl Marx am y “proletariat” ychydig o flynyddoedd yn hwyrach: rheini heb ddim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Wrth gwrs, nid oedd angen i bawb gweithio – nid oedd pawb yn dlawd. Roedd gan y tirfeddianwyr a’r cyfalafwyr (a pherchnogion y llafurdai!) rent ac elw er mwyn bodoli. Ond fel mae Ywain Meirion yn ein hatgoffa, ni fydd gan y cyfoethog dim byd heb iddynt allu ecsploetio llafur y tlodion:

Pe gyrrid y tylodion i gyd o Frydain Fawr,
Ni fyddai ond boneddigion yn union yno’n awr:
Ffarwel am dreth i’r Brenin, na chwaith am drin y tir,
Na llongwr, crefftwr, sawdwr, na gweithiwr, dyma’r gwir.
[na chwaith llienwragedd, morwynion, droellwragedd, mamau…]

 

Caethiwo a Disgyblu

Pwrpas y wyrkhws oedd gweinyddu, rheoli a disgyblu’r tlodion. Ni chyfunwyd y disgyblu hyn i’r tlodion tu fewn i’w muriau yn unig: roedd yr adeiladau hefyd yn fygythiad parhaol i bawb oedd yn brwydro dros eu bywoliaeth tu allan iddynt. Os nad oeddynt yn gallu goroesi (talu am rent, am fwyd) trwy weithio tu allan i’r wyrkhws, fydd rhaid iddynt weithio tu mewn, dan amodau gwaeth eto, llawn cosbau llym a heb dal. Dyma’r “gwirionedd” a orfodwyd ar y byd: nid oes bywyd tu hwnt i waith. Felly bathwyd y dosbarth gweithiol.

Llaw yn llaw i’w disgyblaeth o’r tlawd, roedd gan y wyrkhws swyddogaeth o ran disgyblu rhywedd, y teulu, gallu, crefydd a hil. Rhannwyd y wyrkhws yn llym yn ôl rhywedd ac oedran, a orfodwyd rôliau penodol yn ôl hyn. Os anfonwyd tad i wyrkhws, rhaid i’w holl deulu mynd yn ogystal, er iddynt wedyn byw i’r rhan fwyaf ar wahan – deliodd y stad a’r dosbarth gweithiol yn ôl unedau teuluol, ond deallwyd a ffurfiwyd yr unedau hyn trwy ddisgyblaeth llym o’r rôliau teuluol gwahanol.

Bydd Mari Morgan hefyd, yn d’wedyd yr un dôn
Nad eill y nos gynhesu yn siwr heb gwm’ni Siôn…

Carcharwyd plant amddifad (fel yn Oliver Twist) – y wyrkhws yn gweithredu fel teulu sefydliadol [2]. I’r tlawd heb y gallu i weithio o gwbl (y tost, yr hen a’r anabl) na chefnogaeth arall, bywyd anodd y wyrkhws oedd yr unig fodd o oroesi. Cystadlodd y wyrkhws a’r gwallgofdy (asylum) i garcharu’r “gwallgof” (a gynyddol gaethiwyd ers yr oes fodern gynnar) [3]. Yr Eglwys Anglicanaidd oedd crefydd sefydledig y wyrkhws – caniatawyd rhai gwasanaethau anghydffurfiol ond ni chaniatawyd caplaniaid Catholig. I Iddewon, roedd ymarfer eu diwylliant a chrefydd yn y wyrkhws yn amhosib.

Oes y wyrkhws oedd hefyd oes y carchar, y ffatri, yr ysbyty ac yn hwyrach yr ysgol . Dyfeisiwyd a diwygiwyd gan yr un biwrocratiaid a chyfalafwyr tuag at yr un pwrpas o ddisgyblu a “chywiro’r” tlawd. Roedd gan y ffatri a’r ysbyty drysau dan glo yn ogystal i’r carchar a’r wyrkhws. Dyma ddatblygiad y “caethder mawr“, lle carcharwyd lluoedd o werin Ewrop wrth iddynt cael eu gorfodi oddi wrth y tir ar ddiwedd y canol oesoedd. [4]

CynllunWyrkhws

[Cynllun wyrkhws gynnar ar ffurf groes: y meistr yn y canol â’r trigolion wedi rhannu yn ôl oedran a rhywedd]

 

Llafur Di-dâl

Mae tybiaethau yn llyfryddiaeth Marx y bydd gwaith di-dâl a rhwymedig yn diflannu dros amser, wrth i gyfalafiaeth “aeddfedu”. Ond er bod pŵer, yn sawl man ac achos, nawr yn disgyblu trwy foddau llai “galed”, mae gwaith di-dâl heb os yn parhau fel rhan angenrheidiol o’r system gyfalafol. Tu mewn i garchardai ecsbloetiwyd llafur di-dâl, wrth i garcharorion creu dillad milwrol neu feinciau “cymunedol”. Tu allan, mae workfare a phrosiectau tebyg yn aros os nad yn lledu. Mae caethwasiaeth eu hun, lle nid yn unig ydi’r gwaith yn ddi-dâl ond mae’r person sy’n gweithio yn eiddo i’r caethfeistr, yn parhau – nid fel arhosiad o ryw oes gynt ond fel elfen bwysig bresennol o gyfalafiaeth. A thu allan o’r gweithle a’r carchar – yn y cartref ac yn weddill ein bywyd pob dydd mae llafur di-dâl, rhyweddol, yn hanfodol i barhad ac atgynhyrchiant y system gyfalafol (pwy sydd yn gofalu am y gweithwyr ar ôl iddynt orffen gwaith, fel y gallent fynd nôl i’r gweithle yfory?) [5].

 

Baledi Ymosodol

Cyfrwng y tlawd, y werin a’r dosbarth gweithiol oedd baledi i’r rhan fwyaf. Trwyddynt cawsant, a chawn ni heddiw, straeon eu profiadau, newyddion y pryd, digri, dioddefaint a doethineb. Cenir ar y strydoedd, yn yr awyr agored ac yn y ffeiriau. Dyma oedd eu blogiau a’u ffansins.

Mae cryn dipyn o faledi radical, megis “Y Breuddwyd Hynod”, sy’n ymosod (i raddfeydd gwahanol) ar drefn y dydd. Mae eraill yn adrodd hanes terfysgoedd, streiciau, protestiadau ac ati. Werinol oedd y baledwyr eu hun gan amlaf. Yn hwyrach yn eu bywyd, yn lle baledi aeth Ywain Meirion i gasglu a gwerthu carpiau, ac roedd diwedd ei oes yn flynyddoedd caled [6]. Rhaid cofio bod rhaid i’r baledydd fod yn garcus wrth ganu yn erbyn y drefn yn agored – rhag ofn i bŵer ymateb yn llym. Heb os, rhaid bod hyn wedi effeithio ar gynnwys y penillion yn sawl achos. Ar ddiwedd ei faled, mae gan Meirion fath o ymwadiad:

Wel dyma swm y breuddwyddwyd a welwyd geny ‘n wir,
Gobeithio na chawn ddyoddef dan fin y cleddyf clir

Ond, serch y cleddyf clir, ledled yr ynys ymosodwyd ar y wyrkhws yn ffisegol yn ogystal. Terfysgodd ‘Beca yn erbyn wyrkhws Llanfyllin, Arberth a Chaerfyrddin gan fygythio eraill [7]. Stori i godi’r galon yw adroddiad papur newydd am derfysg Caerfyrddin:

Their first object of attack was the Union workhouse, which was first entered, as our correspondent informs us, by “the bad boys of the town,” who had joined the Rebeccaites. They set about their mission of destruction in a very spirited manner, and commenced operations by freely throwing out of the windows feather-beds, chairs, portions of bedsteads, and whatever articles of furniture they could lay their hands upon, and they most undoubtedly thought their progress would not be stayed before the whole building would be razed to the ground. [8]

Fel mae eraill wedi datgan – rhaid cael barddoniaeth “yn y stryd”, neu feirw yw celfyddyd [9]. Daeth awen i strydoedd Caerfyrddin yn haf 1843.

Dros faledi ymosodol ac ymosodiadau baledol!

 

YBreuddwydHynod
[Baled y “Breuddwyd Hynod” gan Ywain Meirion, c. 1834]

 


Nodiadau
Mae llwyth o faledi, gan gynnwys cryn dipyn o faledi radical, ar gael arlein:

https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-llgc/baledi-cymru-ar-lein/

Baled arall ar yr un testun sydd gwerth ei ganu yw “Workhouse Merthyr”:

http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:LSCOP_BALLADS:44NLW_ALMA21729351050002419
[1] “II.1.5

It has never been deemed expedient that the provision should extend to the relief of poverty; that is, the state of one, who, in order to obtain a mere subsistence, is forced to have recourse to labour.
Adroddiad Comisiwn Deddf y Tlodion, 1834.
http://www.econlib.org/library/YPDBooks/Reports/rptPLC11.html#Part%20II,%20Section%201
Dedfrydwyd rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn, gan gynnwys yr uchod.

[2] http://www.workhouses.org.uk/education/

[3] http://pb.rcpsych.org/content/pbrcpsych/22/9/575.full.pdf
[4] Dyma ystyr arall proletariat: rhai heb dir. Mae’n gysylltiedig â’r ystyr uchod: heb iddynt fod ar y tir, nid oes gan y proletariat dim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Trwy ddiffinio’r proletariat yn fodd negatif fel hyn, mae’n cynnwys sawl grŵp gwahanol a chaewyd allan o fudiad traddodiadol y gweithwyr – rhai sydd yn gweithio yn y cartref, carcharwyr, y di-waith…

[5] I ddarllen mwy ar waith atgynhyrchiol di-dâl a brwydrau llafur domestig, gwelwch y Mudiad Cyflogau am Waith-Tŷ:
https://en.wikipedia.org/wiki/Wages_for_housework
a’r archif caring labour:
https://caringlabor.wordpress.com/

[6] http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-GRIF-OWE-1803.html

[7] http://www.workhouses.org.uk/Wales/
[8] https://sniggle.net/TPL/index5.php?entry=19Jun14

[9] “La poésie est dans la rue.
[“Mae barddoniaeth yn y stryd.”]
Slogan/graffiti o wrthryfel Mai ’68 yn Ffrainc.
https://libcom.org/history/slogans-68

Datganodd y Sefyllfiaid, a gymerodd rhan yn y gwrthryfel, bod celf a chelfyddyd (bourgeois) wedi marw – gan eu bod wedi llwyr cymathu gan gyfalaf(iaeth). Mae darn o gelf yn cynrychioli llafur sydd wedi ecsploetio ac felly sydd wedi marw, y llafur hyn wedi eu gwrthrychu yn nwyddau a’r “hynotddrych”. Yr unig (gwrth)gelf sydd ar ôl i wneud neu i fyw yw’r chwyldroadol, yr hyn sydd yn chwalu’r drefn gyfalafol. Nid yw “barddoniaeth yn y stryd” yn golygu graffiti barddonol neu anerchiad cyhoeddus felly (neu nid yw’n golygu’r rhain /yn unig/), ond yr hyn sydd yn farddonol am chwalu pŵer, barddoniaeth y barriced, terfysg cynganeddol.

 

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams
gan Hwntw Arall

Yn ei llyfr “Sugar & Slate”, adrodda Charlotte Williams atgofion personol a hanesion sydd ynghlwm iddynt. I’r Cymry gwyn, dyma storïau anghyfforddus – yn enwedig i rai (fel myfi) sy’n ffansio eu hun a’u cenedl yn radical. Amhosib fydda gywasgu’r llyfr, ond dyma ychydig o ddyfyniadau o’r hanesion sydd yn ymwneud â Chymru:

” “A CONGO COLONY IN WALES
Daily Graphic of Wednesday July 13th 1892

One of the prettiest spots of the many pleasant places on the main line between Chester and Holyhead is Colwyn bay, not inaptly termed the “Naples of Wales”. There the Congo Training Institute has been established under the patronage of King Leopold of the Belgians [1], to train African converts as missionaries, schoolmasters, and useful handicraftsmen. This Institute, which is only in its infancy as yet, owes its origin to a Welshman – the Rev. W. Hughes – who was sent out to the Congo by a missionary society, and was there when Mr. Stanley went to found the Free State. Seeing how rapidly the Europeans became victims of the climate, and how little could be done to Christianise and civilise the vast continent by the exertions of a few scattered workers, he cast about him to devise a plan for carrying on the work more efficiently and with less cost of human life. Before, however, he had matured a scheme he was relcutantly compelled to embark for England, nearly in a dying state. He took with him two coloured youths, one of whom he had redeemed from slavery… This opened a path by which the problem of civilising Africa could be carried out.

The two boys [o’r Congo] were stars wherever they went. They preached the mission in parish after parish throughout north and south Wales, where posters announced that the Reverend Williams Hughes would speak of his missionary travels and that the bechgyn duon would sing in Welsh, English and their native tongue. In the chapels they took up the hymnal and sang:

Doed Paganiaid yn eu tywyllwch,
Doed y Negro dua’u lliw,
Doed addolwyr yr eilunod,
I weld tegwch Iesu’n Dduw
Deued llu heb ddim rhi’
Fyth i ganu am Galfari.

[Hymn 419, Vs 3, Llyfr Emynau – Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd]

I think I know what it is like to be stranded at an outpost like Colwyn Bay; dislodged, dislocated. I imagine their lives played out in the little town with its ideas and images of the black man created through Bible culture. I know what its like to be a curiosity. To be loved for your quaintness and your difference in a way that means you will never be normal. When I recreate this past I touch home with a particular kind of dislocation.

But there is more to the Congo boys story than this. It lets me see an Africa with the eyes of Wales. I see the Welsh memory that comes from missionaries stories of their travels, that comes from the chapels, the chapel hymns and the Sunday schools, from the collection boxes; from Ma – a story of Africa that passes on and on and on down generations in which strangely I have two parts. A story in which somehow I am both looking at and looked upon.

I guess it’s that type of story of Africa and black people that seeped into the cultural portraits of Wales. The missionaries went in the hundreds to the Dark Continent and all over the world, and brought home their tales to the parishes. Their ambitions were laid down forever in the lines of hymns – the most famous of all – “Draw, draw yn Tseina“:

Draw, draw yn Tseina a thiroedd Japan,
Plant bach melynion sy’n byw
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhob man
Neb i ddweud am Dduw
Iesu, cofia’r plant,
Iesu cofia’r plant,
Anfon genhadon ymhell dros y môr
Iesu, cofia’r plant.“”

Mae fy nhad yn cofio canu’r emyn olaf hwn. Aiff Charlotte Williams mlan i ddisgrifio meddylfryd y fath genhadon:

” There were lots of them, men and women – Evan Evans, Eluned Morgan, Betsy Cadwalader – writing home about their travels and their yearnings for home. Like the Reverend Williams Hughes they worked hard to take the word of God to people with gods of their own. At the same time they had to present what they did in a way that might be palatable to their own people. They had to tell about their work in a way that condemned exploitation and plunder and disassociated itself from the forces of colonialism. These travelers must have seen themselves as leaders of a superior style of Empire building, a moral crusade. They used the same maps as the colonisers, took the same routes and byways, but … Their mission was of a higher order. They managed to be both saviors of the natives and at the same time bolster a sense of Welsh pride and self-identity that had been so cruelly robbed and pillaged by the same English colonialisation. They could boast that their work was unsullied by ruthless imperialism and so claim the moral high ground.”

Rhaid cofio mi oedd yna Gymry â rhannau blaenllaw yng ngweithredoedd colonialaeth Prydeinig. Nid oedd hyn wedi’u cyfyngu i’r grefyddol. Roedd gweinyddwyr a milwyr, cyfalafwyr a gwladychwyr, caethfasnachwyr a chaethfeistri Cymreig a Chymraeg. Mae’r cyfenwau Cymreig, y Jonesys a’r Robertsys, sydd gan ddisgynyddion caethweision yn y Caribî heddiw, yn dyst i hanesion Cymry gormesol [2]. Mae cyfoeth adeiladau crand yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau arall yn gofnod arall. Wrth gwrs, dydi Charlotte Williams ddim yn gwadu hyn, ond hytrach yn dangos fel mae’r naratif o Gymry bach, Cristnogol, “moesol” yn un sydd yn cuddio cyfranogaeth waedlyd y Cymry i golonialaeth, cyfranogaeth yr oedd y cenhadon yma yn un rhan arall ohono.

Yn hwyrach, mae Williams yn adrodd darn o farddoniaeth Cymraeg,

“…a Children’s poem by Talhaiarn called “Brenin y Canibalyddion” – “King of the Cannibals”. It appeared in children’s books up until recently. It’s a lively raucous poem that thunders alog at a pace like drumming:

Mi draethaf chwedl fach i chwi
Yn loyw, hoyw, ffraeth a ffri,
Am frenin mawr ei fraint a’i fri,
Sef Brenin y Canibalyddion.
Ei hyd oedd ddwylath a lled llaw,
A’i ben ‘run llun a^ phen hen raw;
‘Roedd ganddo swyddogion, wyth neu naw,
A’i balas a wnaed o bridd a baw;
A’i enw oedd Brwchan-wchan-iach,
Llumangi-hyllgi-wichgi-wach,
A’i wisg yn crogi fel hen sach
Am Frenin y Canibalyddion.

Yn howcio, cowcio, llowcio’n lli,
Chwipio a hicio a chicio’r ci,
Yn strim-stam strellach yn ei sbri
Bydd Brenin y Canibalyddion.

‘Roedd trigain o wragedd yn ei dŷ,
Pob un yn ddu, pob un yn hy,
A deugain o hyll-dduach ddu,
Gan Frenin y Canibalyddion.
Ac felly i gyd ‘roedd ganddo gant
I foddio ei fyd ac i foethi ei fant;
A genid bob wythnos ddau o blant,
A’r Brenin a ganai gyda’i dant,
Gan ddawnsio i Wisgan-isgan-aw
A Sipog-llethog-lwythog-law,
Nes syrthio ar ei gefn i’r baw –
Ow! Frenin y Canibalyddion.

In later verses the grotesque King ends up eating his entire harem and several of his princes. “And their throats were cut one and all, every hideous horrible man and woman”.”

Yn wir, cynhwysid “Brenin y Canibalyddion” yng nghasgliad newydd “Mwy o Hoff Gerddi Cymru” yn 2010. Sawl flwyddyn ar ôl cyhoeddiad “Sugar & Slate” mae rhai dal yn gweld y darn yma o farddoniaeth fel un o’n ffefrynnau llenyddol. Dylse’r Cymry gwyn cydnabod y fath hiliaeth Gymreig a Chymraeg â siom, nid ei dathlu.

Mae Williams hefyd yn sôn am ei phrofiadau o ymgroesiad (neu ddiffyg ymgroesiad) brwydrau dros yr iaith a brwydrau yn erbyn hiliaeth, a hanes terfysg hil 1919 Caerdydd:

” I arrived back to find Wales was itself in an angry mood. Twenty years of Welsh-language politics had risen from a simmer to a boil. The conflict about housing had shifted to jobs. Whilst English-owned holiday homes weren’t being burned down anymore, the battles were being played out behind closed doors in County Hall and on the front line in the public offices and in the schools. I went back to lecturing at the university and continued to dangle uncomfortably between the English/Welsh animosities. It was an old battle that I had been caught up in before during my own student days. At that time there had been a moment of student activism of the type we hadn’t seen in Britain since the Sixties, only Britain didn’t seem particularly interested. I suppose it’s fair to say Britain was distracted. Toxteth and Brixton had been set alight as race politics moved onto the streets. It all seemed very far away, too far away for me to identify with.

It’s hard to believe that the first major race riots in Britain were in Wales. The Cardiff riot in 1919 was one of the fiercest racial out-breaks in history. Hundreds of people took to the streets in a melee of racial violence. Black people were attacked in the streets and in their homes by lynch mobs led by soldiers who had been drafted in to quell the violence. Ugly crowds rampaged through the streets rooting out black men, damned for working and damned for having relationships with local women. The disturbance led to the laying off and repatriation of hundreds of African and West Indian sailors who were blamed for trying to defend themselves. Suzanne’s grandfather was one of them.

What a lot of people don’t know is that the Cardiff riots triggered an upsurge in black consciousness in the West Indies and a major insurrection against British colonialism all over the Caribbean. It began when some Trinidadians who had been caught up in the conflict returned home. Within days they started rioting against white sailors in Port of Spain. The conflict grew and became a major dock strike that almost brought the Empire to its knees within days. Soldiers in Belize began an uprising against the white British, and in Jamaica, seamen were out fighting hand to hand with British sailors. There was so much unrest all over the West Indies that the Colonial Office was forced to take steps to protect British subjects in the region. The protests had links with struggles in America and spread across continents in the Pan Africanist movement. At home the memories of the Cardiff race riots were etched into black consciousness and became the touchstone for black people fighting against the colour bar in Britain during the Twenties and Thirties. None of this was part of our course at university. We were sitting in warm lecture rooms listening to lectures about Marx and the class war whilst out in the quadrangle Welsh-speaking students were painting anti-English slogans and noisily protesting about English oppression of the Welsh.

Language politics filled the air. I remember experiencing the sense that things were changing but that I wasn’t included in the battle. I couldn’t empathise with it all because for the great mass of us the agitation was unexplained, decontextualised, something to do with a history in which there were only two sides – Welsh or English – and for those of us who didn’t sit comfortably on either, there was no role at all. This great movement for Wales wasn’t taking us al along with it. On the contrary, out of necessity or neglect it was fast excluding us.”

Wrth i ffasgiaid ceisio gorymdeithio eto a thrais hiliol yr heddlu parhau, nid yw brwydr 1919 drosodd. Anoddach efallai yw cydnabod dyfnder hiliaeth a goruchafiaeth gwyn, ei bresenoldeb nid yn unig yn ffasgydd neu heddwas “draw fynna”, ond hefyd yn ein perthnasau pob dydd a’n mudiadau radical “fanyn”. Mae geiriau Williams yn pwysleisio her fawr ac anghyfforddus i’r Cymry gwyn sydd ynghlwm a’r frwydr dros yr iaith a brwydrau eraill.

Ond mae hefyd digon o obaith yn llyfr Williams. Tua diwedd “Sugar & Slate” dengys, heb ddileu gwahaniaethau brwydrau gwahanol na chwaith israddio un i’r llall, bod gelynion tebyg a phosibiliadau o unoliaeth a chyd-frwydro.

” I am compelled to go back in time and meet up with the ancestors in the shadow of a great slateocracy, compelled to visit my history. I walk with them across a hundred years in the grounds of Penrhyn Castle from where Richard Pennant, the first Lord Penrhyn ran an empire built on profits from land ownership and a massive industrial wealth. … The twist for me is that this whole empire would not have been possible at all had it not been for the huge fortune Richard Pennant made from what he called his West India interests. It was the cruelly driven slaves; men, women and children who toiled and sweated for the huge sugar profits that built the industries in Wales. Out of the profits of slave-labour in one Empire, he built another on near-slave labour. The plantocracy sponsored the slateocracy in an intimate web of relationships where sugar and slate were the commodities and brute force and exploited labour were the building blocks of the Welsh Empire. My slate memories and my sugar memories are forged together. In the chapels on the high street of Bethesda the people turned over the pages of the abolitionist pamphlets and found the quarryman and the slave were like on in their resistance of the oppressor. The shared plight of the factory slaves at home and the plantation slaves elsewhere had an echo right across Wales with the quarrymen, the iron smelters, the black faced miners, all knew what it meant to be robbed, beaten down, have their language, their culture, name and place stolen from them”.

O’r gobaith hwn, ni chawn ddelwedd o genedl pur heb wahaniaethau, heb orthrymder, heb hanesion siomedig ac anodd. Yn hytrach, cawn Gymreictod cymhleth, â’u aml-berthnasau i’r brwydrau gwahanol yn erbyn gormes. Cymru llawn boen a ffraeo, a Chymru allwn fentro hoffi.

” I know why it is that I like Wales. I like it because it is fragmented, because there is a loud bawling row raging, because its inner pain is coming to terms with its differences and its divisions, because it realises it can’t hold on to the myth of sameness, past or present.”

 

_______________

[1] Am ychydig o gydestun erchyll o ran gweithredoedd Leopold II, gwelwch https://en.wikipedia.org/wiki/Leopold_II_of_Belgium#Exploitation.2C_atrocities.2C_and_death_toll .

[2] Gorfodwyd enwau “Cristnogol” ar gaethweision – yn aml gyfenwau’r meistri.

“CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth”

cwiâr yr hyn/rhai sydd yn gwrth i’r gwahanrywiaeth gorfodol, sydd yn gwrth i’r hetero a’r heteronormatif, sydd yn gwrth i’r unturywedd, gwrth i’r homoffobia, i’r trawsffobia ac i batriarchiaid arall. gwrth fel gwrthodedig ond hefyd gwrth fel gwrthwynebus. nid yn syth ac yn gywir ond ar gam. nid hoywon hapus, ond cwiâriaid grac.

Mae’r pamffled byr “CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth” ar gael fel pdf isod.

Dyma anerchiad grac a gwrth-gymathol yn erbyn hetero-batriarchaeth. Mae’n cwffio trawsffobia, homoffobia a “chachwrs patriarchaidd”. Yn dilyn eraill, mae’n defnyddio’r gair cwiâr fel Cymregeiddiad o’r gair Saesneg queer. Yn ogystal, mae’n cynnwys cwiâriadur – geiriadur o eiriau cwiâr a thraws, yn y Gymraeg. Lyfli.

Mae’r pamffled ar gael mewn ffurf darllen neu argraffu (a lledu!) – cliciwch ar y dolennau isod i’w weld a/neu lawrlwytho!

CwiarDarllen.pdf

CwiarPrintio.pdf

 

(I gysylltu a’r pamffled, ebostiwch “cwiar(at)riseup(dot)net”. (nodwch y newid yng nghyfeiriad ers yr argraffiad cyntaf))

 

Llythyr agored Dydd Gwyl Dewi i bobl Cymru

“Gallwn bod yn falch fod Cymru yn genedl sydd â hanes cryf o gofleidio gwahanol ddiwylliannau a chymunedau ble rydym yn byw mewn heddwch gyda ein gilydd.”

Dyma lythyr agored at bobl Cymru …

Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH

Wrth i Gymru ddathlu ei Diwrnod Cenedlaethol, ystyriwn diwylliant a hanes unigryw Cymru yn ogystal a gofyn cwestiynau am yr hyn y mae Cymru yn ei olygu i ni yn awr ac yn y dyfodol. Rydym am ofyn heddiw a yw traddodiad Cymru o chroesawu pobl o bob cwr o’r byd o dan fygythiad. Mae’n ymddangos i ni fod rhai o’r pobl fwyaf bregus yn cael eu bradychu mewn gwlad a oedd wedi gaddo hafan iddynt…

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ddiweddar y gall Cymru fod yn falch o’i chymdeithas aml-ddiwylliannol. Dywedodd fod Cymru yn draddodiadol wedi croesawu “gwahanol ddiwylliannau a chymunedau” i fyw gyda’i gilydd mewn hedd.

Fodd bynnag, cyrchwyd un teulu o Gaerdydd ar doriad gwawr yn eu cartref gan yr Asiantiaeth Ffiniau y flwyddyn diwethaf. Beth oedd eu “trosedd”? Mae’n debyg bod y fordd eu cafodd eu deffro yn ogystal a’r holl bethau fe wnaethon nhw ddioddef ers hynnu wedi ei gyfiawnhau gan y ffaith nad oeddent yn derbyn safbwynt y Swyddfa Gartref – sef y dylent fod yn byw yn yr Aifft yn hytrach na Cymru, ar ol iddynt ffoi o sefyllfa beryglus yn yr Aifft. Er bod carcharu plant diniwed yn y Deyrnas Unedig i fod i wedi dod i ben, cafodd dau blentyn o’r teulu bach yma o Gardydd eu rhoi o dan glo, a’u methu gan Barnardos yn y broses (elusen sydd yn ymwneud a’r carchardai I deuluoedd yma). Fe wnaethant dioddef mwy fyth wrth i’w Mam niweidio ei hun mewn ymgais anobeithiol i achub ei phlant rhag niwed gwaeth fyth yn yr Aifft.

Buom hefyd yn pryderu berson ifanc o Gasnewydd, a oedd yn wreiddiol o Taiwan a phwy oedd wedi cael eu cadw yn ddiweddar yng Ngorsaf Heddlu Casnewydd am ddyddiau lawer dan orchmynion llywodraeth y DU. Mae ei ffrindiau yn poeni am ei hiechyd a lles yn gyffredinol oherwydd holl straen yr oedd yn ei hwynebu o’r posibiliad o gael ei dychwelyd yn orfodol i Taiwan.

Yn y pen draw fe collodd hi’r frwydr ac ar ôl rhywyn ymosod arni yng nghanolfan cadw Yarl’s Wood, ac yna ar ol y siwrne arteithiol i Taiwan, y mae bellach yn y carchar. O dan glo am yr ail dro am y “drosedd” o wrthod gwneud yr hyn yr oedd y fyddin yn gofyn ohoni yn ei gwlad, yn bell o’i ffrindiau a gwaith elusennol yng Nghasnewydd lle roedd yn rhan o fywyd y gymuned yn y cornel hon o Gymru.

Dim ond ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fe wnaeth gwirfoddolwr arall a oedd yn byw yng Nghaerdydd ers iddo ffoi o Irac yn 2011 cael ei gymeryd hefyd. Cafodd ei garcharu wrth iddo fynd i 2adrodd” – rhywbeth mae llawer o newydd-ddyfodiadau yng Nghymru yn cael eu gorfodi i’w wneud gan gyfreithiau llym sydd yn ymrannu ac yn rheoli.

Fe’i cipwyd o’i wely gan 8 swyddog a’i orfodi ar awyren yn erbyn ei ewyllys a’i hedfan yn ôl i barth rhyfel lle cafodd ei arestio ar ôl iddo gyrraedd, ac i ffwrdd oddi wrth ei ffrindiau a chyd-weithwyr elusennol yng Nghaerdydd.

Rydym yn gofidio am eraill sydd yn creu bywyd yng Nghymru, lle y mae pobl sydd wedi dod yma mewn heddwch wedi cael eu croesawu os ydynt wedi cael eu geni yma a’i peidio.

Ond tra byddwn yn parhau i geisio i gefnogi ein cyfeillion a cafodd eu cymryd o dan orfodaeth yn ddiweddar, rhaid ein pryderon nawr gael eu ffocysu ar un sydd yn parhau i fod yn y DU sef Osama …

Dim ond tri mis yn ôl i heddiw, fe wnaeth damwain traffig bychan cychwyn cyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at llywodraeth y DU ymyrryd ym mywyd cwpl Cymraeg,  yn eu cadw ar wahân heddiw, ac yn ceisio i’w gwahanu am byth.

Yr oedd ein ffrindiau yn hapus yn eu perthynas, yng Nhlyn Ebwy gyda eu tri o blant ifanc a Osama, a oedd yn ffigwr tad anhygoel yn eu bywydau a oedd yn gwneud pob un ohonynt yn hapus.

Cafodd y cwpl yma eu cadw ar wahân ar ddiwrnod Nadolig a dydd San Ffolant y flwyddyn yma, dyddiau pryd y mae cariadon eisiau treulio diwrnod gyda’i gilydd, ac yn y flwyddyn yr oeddent wedi cynllunio i briodi eu gilydd.

Mae’r Swyddfa Gartref yn ymddangos yn amharod i wrando ar yr hyn sy’n resymol ac yn benderfynol o gadw gwpl annwyl a diniwed ar wahân, er gwaethaf yr ymrwymiad David Cameron y dylai plant gael ffigwr tad da yn eu bywydau a pwysigrwydd anfesuradwy teuluoedd.

A oedd yn gymaint o broblem i Lywodraeth y DU bod Osama, ffigwr tad i’r tri o blant ifanc hyn  yn y Gorllewin er iddo gael ei eni yn Libya, gwlad sydd ar hyn o bryd mewn anrhefn ar ol rhyfel Gorllewinol? Ni ddylai hyn fod ots o gwbwl. Mae wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yr oedd yn aelod poblogaidd o’i gymuned leol, hyd nes iddo gael ei rwygo oddi wrtho ac ei wahanu oddi wrth ei gariad a’r ddynes oedd am ei briodi.

Yn ogystal a hyn, beth sydd hefyd yn rwbio halen yn y briw yw bod NATO, sef y sefydliad a oedd gyda buddiannau strategol yn y rhyfel a gychynwyd yn Libya a’r anhrefn a ddilynodd, yn dod i dde Cymru ar gyfer uwchgynhadledd y flwyddyn hon, pan fydd y rheini yr effeithir arnynt fwyaf gan weithredoedd NATO ar yr un pryd yn cael eu cymryd yn orfodol o’r un tir. Bydd NATO yn cael eu croesawu i de Cymru, er nad yw y dyn ifanc diniwed hyn wedi derbyn y fath groeso.

Rydym am i bobl ledled Cymru, y DU a’r byd i gymryd camau heddiw, ar Dydd Gŵyl Dewi, ac hefyd rydym yn galw ar y rhai mewn grym i gymryd camau i adlewyrchu eu addewidion am deuluoedd yn hytrach na rhwygo hwn ar wahân.

Mae Osama dal i fod yn canolfan gadw Campsfield House. Mae ei sefyllfa yn fregus iawn, ac mae’n disgwyl “cyfarwyddiadau symud” pellach unrhyw ddiwrnod. Os gwelwch yn dda, helpwch o i ddod yn ôl i Gymru, ble mae’n perthyn …

Gallwch weithredu drwy’r camau canlynol:

  • Rhannwch neges hon i bobl ar y diwrnod hwn pryd mae’r Cymry yn adlewyrchu ar ei threftadaeth ac meddwl am ei dyfodol.
  • E-bostiwch Ysgrifennydd Cartref y DU i adael iddynt wybod bod Cymru yn dal yn gryf yn ei thraddodiad o groeso a “cofleidio gwahanol ddiwylliannau a chymunedau” fel y mae Carwyn Jones wedi ei ddatgan.
  • Gweler www.facebook.com/keeposamasafeincardiff a www.keeposamasafeincardiff.wordpress.com ar gyfer engrheifftiau o lythyrau a chamau gweithredu eraill.
  • Dilynwch @SWal3Solidarity ar trydar am newyddion am ein cyfeillion o Gymru sydd y mae llywodraeth y DU wedi chwalu eu bywydau.
  • Cysylltwch â ni drwy southwalessolidarity@hotmail.com am ffyrdd eraill ymarferol y gallwch gefnogi’r ymgyrchoedd hyn.

Gan i hiliaeth ac ofn, trwy bropaganda adain-dde, barhau i rannu cymunedau, rydym yn galw ar bobl yng Nghymru i gadw ein cymunedau ynghyd ac ymuno yn y frwydr i atal yr aflonyddu hyn ar bobl sy’n cael eu herlid er nad wedi cyflawni unrhyw drosedd. Os gwelwch yn dda helpwch i wneud Cymru yn Genedl Hafan, ble mae pobl yn cael eu croesawu bob amser, a bod yr ofn bod y mae’r cyfryngau yn ei greu yn cael ei oresgyn, a fod phob cymuned yn dod at ei gilydd i ddod i adnabod ei gilydd ac unwaith eto yn falch o’u cryfder o amrywiaeth o ein trigolion a’n hymwelwyr. Ni ddylai unrhyw un gael eu cymryd yn orfodol oddi ar y tir y maent am ei alw’n gartref, boed yng Nghymru neu unrhyw le arall yn y byd. Dylai pawb yng Nghymru, fel ym mhobman arall yn y byd fod gyda’r hawl i fyw mewn heddwch, fel yn nhraddodiad y tir cyfoethog, amrywiol a hardd hyn.

Unoliaeth De Cymru

Wedi ei gyfieithu gan “Anarchist Welsh Transation”

Datganiad Stop NATO Cymru

Wedi ei gymryd o Indymedia.

Ddoe fe cafodd sawl banner ei ollwng mewn mannau gawhanol yn Casnewydd, de Cymru mewn gweithred o unoliaeth gyda’r NATO 3 ag i lawnsio y datganiad isod a cafodd ei ddosbarthu i pobl yn canol y dref.
514866.jpg.indyscaled
Am ragor o wyboadaeth am y NATO 3 dilynnwch y ddolen yma.

514868.jpg.indyscaledDatganiad Stop NATO Cymru

Eleni, bydd NATO yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, de Cymru. Yn gynnar ym mis Medi 2014 bydd Obama, Hollande, Cameron, Merkel ac eraill yn dod at ei gilydd ar gyrion y ddinas hanesyddol Gymreig hon. Mae’r ‘arweinwyr rhyngwladol’ hyn a’u cynghreiriaid i gyd yn uniongyrchol gyfrifol am farwolaeth ar raddfa eang, teithiau artaith anghyfreithlon, a rhyfeloedd a gaiff eu hymladd er mwyn diogelu buddiannau busnes Gorllewinol a llwybrau cyflenwi adnoddau. Bydd llawer o bobl o Gasnewydd, Caerdydd, Bryste a thu hwnt, yn gwrthwynebu’r gynhadledd ac yn defnyddio amrywiaeth o dactegau i wrthdystio yn ei erbyn. Rydym ni yn rhwydwaith wrth-gyfalafol, wrth-militaraidd yn ne Cymru yn cynllwynio i hwyluso mobileiddiadau a darparu lle i weithdai, digwyddiadau rhannu sgiliau, a digwyddiadau cymdeithasol cael eu cynnal. Rydym yn trefnu heb arweinwyr ac nid ydym yn cytuno gyda bomiau na meistri.

Mae NATO yn aml wedi defnyddio’r term ‘ymyrru’n ddyngarol’ i gelu’r ffaith eu bod mewn gwirionedd yn ymladd dros fuddiannau strategol, economaidd a gwleidyddol y dosbarth elit o fewn aelod-wledydd NATO. Mae militariaeth a chyfalafiaeth yn rhan o’r un strwythur pŵer byd-eang. Mae beirniadaeth a chyfwynebiaeth o gyfalafiaeth yn agwedd anhepgor o ein safiad gwrth-militaraidd.

Ar hyn o bryd, mae NATO yn gynghrair arfog gyda dros 5000 arf niwclear. Fe’i sefydlwyd (i fod) i amddiffyn y ddwy ochr yn ystod y Rhyfel Oer, a dylai wedi cael eu diddymu pan ddaeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Yn lle hynny, mae wedi ehangu a dod yn rym cynghreiriol ymosodol, yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd gyda meddylfryd croesgadwr.

Am bron i ddeng mlynedd mae wedi bod yn cynnal y rhyfel yn Afghanistan, rhanbarth hanesyddol arwyddocaol rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain, lle mae tua 100,000 o sifiliaid diniwed wedi marw a thair miliwn o bobl ddiniwed wedi dod yn ffoaduriaid.

Nid yw beirniadaeth o filitariaeth a chyfalafiaeth yn dod i ben gyda NATO: Y mae’r gwariant milwrol blynyddol fyd-eang ar hyn o bryd dros £ 1.072.600.000.000. Amcangyfrifir fod y gwariant hwn yn hafal i £150 y pen yn fyd eang. Cyllideb filwrol y DU yw’r pedwerydd mwyaf yn y byd. Yn y cyfnod hwn o gynni mae’n rhaid i ni fynnu i wybod pam bod gwariant milwrol mor uchel a datgelu creulondeb y rheini mewn safleoedd o bŵer yn rhyngwladol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwynebu materion llawer pwysicach na llongau tanfor ac awyrennau ymladd. Mae pobl eisiau arian cael ei wario ar gyfleusterau lleol a hygyrchedd i isadeiledd iechyd a cymdeithasol. Hyd yn oed pan wnaiff y fyddin rhai torriadau, mae’r rhain bron wedi bod yn gyfan gwbl effeithio ar bobl – yn hytrach na phethau fel prynu arfau- drwy leihau personél, cyflogau is a phensiynau. Mae’r DU dal yn bwriadu i wario bron £160,000,000,000 ar arfau newydd erbyn 2022, gan gynnwys £35.8 biliwn ar longau tanfor niwclear sydd wedi eu dylunio i beidio cael eu defnyddio.

Er bod pobl o gwmpas y byd yn ei chael yn anodd darparu’r pethau fwyaf sylfaenol ar gyfer eu teuluoedd, mae llywodraethau yn dal i afradu adnoddau helaeth ar ymyriadau milwrol sydd yn wastraffus o adnoddau ac o fywydau, ac yn adlewyrchu paradeimau sydd wedi dyddio.

Mae’r UDA, o dan banner NATO, dal i weithio i osod system ‘amddiffyniad taflegryn’ yn Ewrop, ac yn profocio ras arfau gyda Rwsia. Nid ydym yn cytuno gyda’u cynlluniau ar ein cyfer. Mae pobl mewn cymunedau ledled Ynysoedd Prydain yn gwrthdystio yn erbyn canolfannau milwrol yn eu hardal. O Aberporth, Ceredigion i Menwith Hill yn Swydd Efrog a RAF Waddington yn Swydd Lincoln, ac o Faslane ger Glasgow i EDO yn Brighton, mae pobl leol yn gwrthwynebu militariaeth.

Mae gan Gasnewydd hanes radicalaidd. Yr oedd gwrthryfel y Siartwyr, sydd yn dathlu ei 175ain mlwyddiant eleni, y gwrthryfel arfog ar raddfa eang olaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cafodd darn poblogaidd o gelf gyhoeddus a oedd yn dathlu’r gwrthryfel, ei chwalu yn gynnar (cyn iddo gael ei hamserlennu) fel rhan o ail ddatblygiad canol y dref, sydd yn cael ei harianu gan fenthyciad o £90miliwn a roddwyd i ddatblygwyr gan y cyngor wrth iddyn nhw dorri cyllideb gwasanaethau sylfaenol. Mae’r cais naïf i ailfywiogi’r dref drwy bwmpio arian cyhoeddus i gwmnïau preifat yn ymuno rhestr hir sydd yn cynnwys LG, Y Cwpan Ryder, a nawr cynhadledd NATO.

Gyda miloedd o bobl o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt, rydym am wrthwynebu cynhadledd NATO a pharhau i weithredu yn erbyn militariaeth, creiriau Rhyfel-Oer, a chyllidebau amddiffyn chwyddedig.

Gobeithiwn y byddwch chi’n medru ymuno gyda’r digwyddiadau, mobileiddiadau a gweithgareddau i wrthwynebu NATO a’r arweinwyr rhyngwladol sydd yn dod i Gasnewydd. Mae llawer wedi ei gynllunio rhwng nawr a mis Medi. Rydym yn bwriadu bod yn rwydwaith agored a chynhwysol, yn gweithio gyda’n gilydd, gyda chymaint o fobl a phosib i ganfod strwythurau lleol a rhyngwladol nad ydynt yn hierarchaidd fel strwythurau amgen i’r systemau o ecsbloetio, tra bod yn ymwybodol o ymdreiddiad posib y wladwriaeth a corfforaethol i’n mudiad. Caiff ein gwefan ei ddiweddaru gyda newyddion a gwybodaeth, dyma ein e-bost;  stopnatocymru@riseup.net

Stop NATO Cymru, rhan o’r Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd

wedi ei gefnogi gan

Anarchwyr De Cymru, Cymru Wales IWW, Bwyd nid Bomiau Caerdydd, Bwyd nid Bomiau Abertawe, Dim Ffiniau De Cymru, Bryste yn Erbyn y Fasnach Arfau

Dilynwch y ddolen hon i weld lluniau’r banneri:  http://www.indymedia.org.uk/en/2014/01/514865.html Stop NATO Cymru

  • Calendr

    • Gorffennaf 2017
      L Ma Me I G Sa Su
      « Hyd    
       12
      3456789
      10111213141516
      17181920212223
      24252627282930
      31  
  • Chwilio