Anarchiaeth a Chenedelaetholdeb yn ‘Barn’

Dwy dudalen o hen rifyn o ‘Barn’ yn amddiffyn anarchiaeth fel athroniaeth i’w barchu. Rant difyr tu hwnt!

Tudalen 1

Tudalen 2

 

‘Cysyniadau Cyfalafol’

Amhosib yw di-ystyri effaith anferthol cyfalafiaeth ar ein bywydau. Gerllaw ein newynau a’n rhyfeloedd, gerllaw ein hecsploetio a’n hymraniad o’n gyd-ddyn, gerllaw poendod a diflastod bywyd pob dydd, y mae teyrnas cyfalaf wedi newid ein canfyddiad o’r pethau sylfaenol yn ein bywydau.

Datganodd Jean-François Lyotard fel pellach, mae gwybodaeth a ffeithiau yn cael eu cynhyrchu fel nwyddau ar y farchnad. Casglwyd ein gwybodaeth fel data yn storfeydd cyfrifiadurol anferthol, a pherchnogwyd y rhain gan gorfforaethau mawr. Mae google yn cofio a hyd yn oed dyfalu ymlaen llaw ein chwiliadau, facebook yn casglu llu o ddata ar ein hoff ffilmiau, hoff ffrindiau, rhywioldeb a’i brosesu a chategoreiddio a gwneud llu o gydberthnasau.  Pam? I’w werthu, i greu hysbysebion, i greu elw. Pwrpas gwybodaeth yw ei werth masnachol, nid ei wirionedd. Elw ac arian sydd pellach yn rheoli nid yn unig ein perthnasau cymdeithasol, ond sydd wedi difetha ein pwynt cyfernod o “wir” ac “anwir”. Llithra gymdeithas i’w medd’ dod anfwyn, heb gysyniadau o gywirdeb na chydlyniad, ond hysbysebion parhaus a drysiad llwyr.

Yn ei lyfr “Society and the Spectacle” amlyga Guy Debord fel mae’r byd hwn o rithiau, o gyfryngau, hysbysebion, olygfeydd mawr, yn teyrnasu. Yn hytrach na phobl yn rheoli eu bywydau, caiff eu rheoli gan rymoedd anweledig economaidd. Mae’r dirwasgiad, chwyddiant, diweithdra, yn nigwyddiadau gwrthrychol tu hwnt i’n rheolaeth fel pobl. Er bod dirwasgiad oherwydd y ffordd trefnwn ni ein cymdeithas, ymdriniwyd ag ef fel ryw drychineb naturiol, pŵer duwiol tu hwnt i’n rheolaeth. Mae’r perthnasau rhwng pobl, wedi troi mewn i berthnasau rhwng pethau ar y farchnad. Nid gweithredwyr ydym, ond gwylwyr, yn gwylio cwrs ein bywydau yn cael eu penderfynu ni, yn gwylio’r olygfa fawr, yr hysbysebion, y newyddion, yr Olympics, y Jiwbili. Gwyliwn pornograffig yn lle cael rhyw. Eisteddwn yn ein cartrefi yn gwneud dim byd, yn gwylio pobl eraill ar sioeau realiti yn gwneud dim byd.

Ond nid yw hyn yn ein bodloni. Mae cyfnodau o argyfyngau economaidd hefyd yng nghyfnodau o argyfyngau dirfodol, emosiynol. Yn ofer, ceisiwn lenwi’r bwlch wrth ddiffinio ein hun trwy’r hyn da ni’n prynu, trwy siopa mwy, ond mae’r rhith yn dechrau chwalu. Mae gwedd pob wyneb prysur ar strydoedd llwyd ein diffeithdir dinasol yn gwaeddi allan mewn ing: Ble ydw i? Beth ydw i’n neud? Beth yw’r pwynt?

Mae crafangau cyfalaf yn ymdreiddio mor bell â’n canfyddiad o ofod ac amser. Wrth i’r byd globaleiddio, wrth inni gyfathrebu i ochr arall y byd mewn eiliad a theithio mewn oriau, y mae’n llawer llai. I arian, nid oes gofod pellach yn bodoli. Lle cynt, roedd rhaid symud tunellau o aur, nawr mi drawsgludwyd biliynau yn o bunnoedd yn electronig pob eiliad, ym mhob cyfeiriad a thros bob border. Prynwyd a werthwyd niferoedd anghredadwy o stociau a nwyddau, stociau mewn cwmni yn China, bareli o olew, stociau mewn ein bywydau ni a’n lles ni, trwy wasgiad bwtwn gan ddyn yn Wall St. Mae arian, ac felly cyfalaf, wedi trosgynnu ei gynrychiolaeth ffisegol, a bellach mae holl gyfoeth ein llafur, holl rym ein cymdeithas yn bydoli fel ystadegyn ar gyfrifiadur.

Yn debyg fel mae arian yn ein canoli a chreu cysylltiadau byd eang, canolwyd amser. Cynt, rhywbeth annibynnol a hynodwedd oedd amser. Rhannwyd y dydd i ddeuddeg awr fras yn y Gorllewin cyn-diwydiannol. Ond y cyfnod o olau haul oedd hyn, felly yn yr haf, hirach oedd  awr a hirach oedd amser. Daeth clociau, ond prin un am bentref. Ni chanolwyd – roedd yr amser yn Abertawe yn wahanol i’r amser yn Aberhonddu “ar yr un pryd” – er nid oedd ffordd o wybod gan wahanwyd gan ofod mor fawr. Ond gyda diwydiannu daeth y rheilffordd, llai oedd y pellter, a safonwyd amser. Wrth i’r ffatri disodli’r fferm a’r gweithdy bychan, disgyblwyd amser. Ni ddewisodd y llafurwr mwyach pryd i ddechrau gweithio a phryd i fwynhau, ond osodwyd oriau gweithio gan y perchennog, a gosodwyd yr oriau arno ef gan gystadleuaeth a galwad y farchnad. Mecanyddwyd amser, ac erbyn heddiw mesurwyd yn union a chanolwyd dros y byd gan loerennau. (Wrth gwrs, nid oes amheuaeth am fudd hyn i ymchwiliadau gwyddonol; gorthrymder llym clociau o’n bywydau pob dydd yw’r broblem) Nifer yr oriau penderfyna nifer y punnoedd ein tâl. Wrth i ni siopa, rydym yn ystyried faint o oriau fydd rhaid gweithio er mwyn cael yr arian i brynu ryw nwydd. Wrth i’n horiau o lafur cael eu hecsploetio, wrth i ni golli rhan fawr ohonynt i’n bos sy’n talu ni llai na werth y nwydd cynhyrchwn, ac wrth i bob awr o waith fod yn wastraff o’n bywydau, rydym yn byw amser marw. I newid hyn, i “fyw heb amser marw” oedd cri chwyldroadol rhai megis Deboard, y Situationists, yn 1968. Mae cyfalaf fel cysyniad, elw, yn dibynnu ar amser yn llwyr – cyfradd elw sydd yn bwysig – mae derbyn mil o bunnoedd yr awr o fuddsoddiad yn well na mil o bunnoedd y mis. “Time is money”, nid oes amheuaeth. Felly trechwyd amser gan gyfalaf.

Yr ateb? Un syfrdanol ond un syml. Ie, rhaid meddiannu’r strydoedd, meddiannu’r ffatrïoedd, meddiannu’r ysgolion, y teuluoedd, ond rhaid hefyd ail-feddiannu amser, ein meddyliau ac felly ein bywydau. Pob tro y barnwn wybodaeth nid gan ei werth ariannol, ond ei wirionedd a’i brydferthwch, wnawn hyn. Pob tro y trown off y teledu, gan greu cerddoriaeth neu gelf neu fwynhad, a’n ffrindiau a dieithrid, nid am arian ond am bleser, wnawn hyn. Pob tro y anwybyddwn y clociau, gan fynd am dro diderfyn i’r coed, gan barhau i ddarllen neu ganu neu garu neu feddwi yn llawn brwdfrydedd tan oriau man y bore (heb ots bod gwaith yn hwyrach), wnawn hyn.

Yn ôl eich clociau heirdd,

 Bob bore codwch chwi:

Y wawr neu wyneb haul

 Yw’r cloc a’n cyfyd ni;

Y dyddiaduron sydd

 Yn nodi ‘r haf i chwi;

Ond dail y coed yw’r llyfr

 Sy’n dod â’r haf i ni.

O Alun Mabon, John Ceiriog Hughes

Blew ac Anarcha-Ffeminyddiaeth.

Gwrthdystiad anarcha-ffeminyddol neu tocynistiaeth arwynebol er hawliau merched?

Blew. Cedors. Fflwff. Bethbynag yr hoffet ei alw mae POB merch efo’r sylwedd yma yn tyfu allan o’i chorff. Taset ti’n dod o blaned estron ac yn landio yng Nghymru baset yn cael maddeuant am gredu fel arall.

Pam ein bod ni gyd yn shafio/waxio/eipilateio/whateverarallsytynublewio?

Yn Asia, Affrica a llawer o ddiwyllianau eraill nid yw’r genod yn eillio eu blew. Fe ymdengys hefyd mai peth eithaf diweddar ydio yn ein cymdeithas gorllewinol ni hefyd mor ddiweddar a’r 20 fed ganrif (os mae unrhywun wedi gweld cynchgrawn las o’r 70’au fyddech yn gwybod ‘nunuin be dwi feddwl).

Paham bod merched Cymru methu dychmygu gadael y ty gyda coes flewog, neu cesail llawn cedor? Ma rhai genod ofn mynd am noson allan heb eillio eu ffrwch! Nid yn unig mae hyn yn boen yn gont (pardon the pun) ond yn beryg! Man le sensitif iawn! Un slip bach a dani yr gwrthwyneb i fwcd (mewn ffordd drwg) am sbel.

Mae rhai yn dweud mai yn yr is ymwybod bod y gymdeithas gyfalafol-batriarchaidd sydd ohoni yn ceisio nid yn unig i gael ni i deimlo’n wael am ein hunain fel bod rhaid i ni wario pres i deimlo’n ‘normal’. Gellir dweud hefyd fod eillio ar un lefel yn ein troi yn blant, creaduriaid sydd ddim i’w cymeryd o ddifri fel pobol cyflawn a meddwl aeddfed. Blew yw’e arwydd cyntaf o aeddfedrwydd rhywiol.. ai ffordd arall anymwybodol o’n troi ni’n blant ydi’r pwysau cymdeithasol aruthrol ‘ma i eillio?

Meddyliwch am y peth… Buasai peidio eillio yn safio amser, arian, gwastraff i’r amgylchedd… fydd o’n safio poeni a stressio (da nin rhyw prysur sa da chi ‘di sylwi, only so much multitasking fedra ni manijo). Buasai hefyd yn safio cesail amrwd sydd yn digwydd os yr ydych yn teimlo bod rhaid i chi shafio bob yn ael dydd, ma’n brifo!

Dwi heb shafio ers mis. Ia, dwi gwbo… Ffoc. Ing. Hell.  Dwi heb gael y hyder i adael y ty mewn sgert eto ond mi nes i fynd allan mewn top bach strappi i gig a dwi’n meddwl welodd ambell i berson mod i heb shafio’r pitts! Ych a fi!

Oedd bobl yn malio? Na, dwi ddim am flaterio fy hyn, gan rhanfwya bobl stwff pwysicach i boeni am fel arfar! Oedd y lle llawn lefftis admittedly (gig ‘love music hate racism’ oedd o). Buaswn i ddim mor hyderys yn Vodka Revs neu Clwb Ifor hyd yn oed a ma fanno arfer llawn teips arti ffartis sydd efo llun Freida Kahlo fel banner facebook nhw neu riw rwtsh fela.

Oeddwn i eitha balch o’m hyn, mynd allan heb eillio.. OND ar ol meddwl am y peth.. ydi hyn go iawn yn assertio hawl fi i neud be dwisho heb boeni am ‘cymdeithas’ bondigrybwyll ‘ma? Pam ma genod yn dioddef gorthwm ar draws y byd, cael eu cam drin a dioddef go iawn pa hawl sgena i feddwl dwi wedi gwneud y Suffergettes yn prowd wrth beidio eillio am fis o ‘mywyd?

Ydi hyn yn docynistiaeth ofer? Ydio’n dda i’r mudiad ffeminyddol chwarae i mewn i ddwylo’r ystradebau yma?

Dyweddodd yr arch anarchyddes ffeminyddol Emma Goldman;

‘Direct action is the logical, consistent method of Anarchism.’

Ellir dweud bod tyfu’ch blew yn weithred yn erbyn patriarchiaeth? Wn i ddim, basa paentio blew ar goesa merched ar bob billboard  ella mwy fatha gweithred uniongyrchol ‘go iawn’.. Mae angaen dychymyg er mwyn tanseilio’r eidiolegau mae’r system yn ei gynnal. Yn ogystal a chydig o geillia ac amynedd.

Am y tro dwi eitha bodlon efo bod yn slebog siani flewog, ma hynnu’n ddechreuad. (A)

Erthygl gan Jam dy Fam

Sgwrs Gyda Sgwatwyr – Erthygl i bapur newydd y Brifysgol.

Yr wythnos yma fe fydd y Llywodraeth yn pleidleisio ar deddf a fuasai yn gwneud Sgwatio (byw mewn adeilad gwag heb ganiatâd) yn anghyfreithlon.  Fel adwaith i hyn mae criw o anarchwyr wedi dechrau Sgwat mewn tafarn sydd wedi bod yn wag ers 5 mlynedd yng Nghaerdydd. Gan y criw yma gynlluniau mawr ar gyfer atgyweirio’r adeilad a’i droi fewn i ganolfan cymdithasol ar gyfer y gymuned leol.

Dywedodd Efa eu bod yno’n syml  ‘achos man wast o adeilad neis’. Ychwanegodd hefyd eu bod wrthi’n trwsio’r adeilad ac am ei ddefnyddio fel canolfan gymdeithasol i’r gymuned. Yno fydd pobol lleol yn gallu dysgu sgiliau drwy weithdai, cael  bwyd am ddim mewn ‘people’s kitchen’ unwaith yr wythnos a bydd yr adeilad hefyd ar gael i pobol gynnal cyfarfodydd. Yn barod mae cyfarfod ‘Bwyd Nid Bomiau’ wedi ei gynnal yno. Grŵp ydynt sydd yn hel bwyd o sgipiau archfachnadoedd, ei goginio, ac yna ei roi i bobol am ddim ar y stryd. Maent hefyd yn rhannu taflenni sydd yn tanlinellu’r modd mae cyfalafiaeth yn creu gwastraff bwyd enbyd. Does dim modd cyfiawnhau gwastraff fel hyn o ystyried bod un plentyn yn marw o newyn bob tair eiliad rhywle yn y byd.

Mynegodd Efa ei barn ynglŷn a’r deddf a buasai yn gwneud Sgatio’n anghyfreithlon;

‘Dwi’n meddwl ma’n syniad drwg, does dim byd yn rong efo cymryd adeilada… dydi’r adeilad yma ddim wedi cael ei ddefnyddio ers 5 mlynedd felly man jyst eistedd yma yn disgwyl i ddisgyn fewn i’r llawr, felly man iawn i ni neud defnydd ohono. Dydw i ddim yn gweld pam ddyla hynna fod yn anghyfreithlon’

Gofynnais wrth Efa ynglŷn a’r heddlu, ac os yr oeddynt wadi cael unrhyw drafferth ganddynt;

 ‘Gaetho  ni unlawful police raid neithiwr, ma section 6 yn amddiffyn squatters. Os mae nhw (yr heddlu) yn torri fewn ellith nhw fynd i jel am 6 mis a cal ffein o 5000 o bunoedd. Neithiwr nath yr heddlu ddod mewn a malu clo ni, natha ni adal nhw fewn yn y diwadd achos odda ni ddim isho nhw torri’r drws dim mwy nag oeddan nhw wedi’n barod so odd hynan fatha scary, slightly exciting. Lwcus natha nhw adal ni lonydd achos dodda nw ddim efo hawl i fod yma eniwe ond heddlu ydyn nhw so geith nhw neud be ma nhw isho rili.’

Ychwanegodd Cravos, sgwatiwr arall;

‘Da ni yma i aros, ac os cawn ni ein symyd ymlaen nawn ni jest sgwatio adeilad arall achos ma na lot o adeilada gwag yn Caerdydd’

Mae’r Sgwat ei hyn yn le wefreiddiol i fod, mae pobol cerddorol a celfyddydol yno felly’n amal mae rhywyn yn chwarae offeryn neu’n creu celf pan nad ynt wrthi’n trwshio’r lle. Os yr hoffech fynd i ymweld a nhw a efallai rhoi help llaw efo’r holl waith atgyweirio, ewch a cnociwch ar eu drws yn y dafarn  ar waelod Cliffton Street yn Splott. 

Mae hanner miliwn o dai gwag yn DU, 5 mil o fobol ar restrau aros am dai a degau  o filoedd yn ddigartref.  Gennyf pob parch at y rhai sydd wrthi’n sgwatio ac yn wir gobeithio na fydd y llywodraeth mor ffôl a gwneud Sgwatio yn anghyfreithlon.

Radio Llibertat efo Eddie Ladd a Cravos

http://www.radioamgen.com/sioe/157/sioe157.mp3

Rhys Mwyn yn Mwydro

Pync anarchaidd o argyhoeddiad dyma rhai o’i fwydradau ar y we… dwi weld o dipyn o lipstic anarchydd (ddim yn un sy’n gweithredu o ddifrif er anarchiaeth ond yn hoff o’r delwedd) be ydych chi’n ei feddwl?

Rhaid i mi ddewud dwi’n hoff o’r dyfyniad yma ganddo..

‘yr unig ffordd y medrith rhywun weithredu yn greadigol ac yn gelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg yw drwy godi dau fys yn wyneb difaterwch, ac yn llythrennol drwy biso yn erbyn y gwynt’

Mae difaterwch eraill yn ddigon i lethu unrhywun gan anobaith weithiau! Ond os nad ydych yn trio yr ych wedi methu cyn dechrau.. PISWCH YN ERBYN Y GWYNT BOBOL!! cauy! (chwerthin allan yn uchel!)

Efrydau Athronyddol – Ffederaliaeth Proudhon

Dyma’r cofnodolyn ar y we am ddim, yn ymdrin a Proudhon ‘tad anarchiaeth’. Pwynt difyr o’r erthygl, mae’r awdur yn ymdebygu ‘Lladrad yw eiddo’ Proudhon i hen ddywediad pobl Dyffryn Ogwen;

‘Tasa ti’n dwyn dafad oddi ar y mynydd ers talwm mi gaet dy grogi. Tasa ti’n dwyn y mynydd, mi gaet dy neud yn Lord.’

Da de!

Anarchiaeth v Cristnogaeth yng Nghymdeithas yr Iaith?

Blog difyr gan Rhys Llwyd ynglyn ag Anarchiaeth.

  • Calendr

    • Gorffennaf 2020
      Ll Ma Me I G Sa Su
       12345
      6789101112
      13141516171819
      20212223242526
      2728293031  
  • Chwilio