Bydd Ffair Lyfrau Anarchaidd Caerdydd ar ddydd Sadwrn yng nghanolfan Cymunedol Cathays. Dewch erbyn 11yb i fwynhau y gweithdai, stondinau, cerddoriaeth a chaffi bwyd nid bomiau sydd yn cod arian er costau cyfreithiol diffynyddion protestiadau NATO.
Digwyddiad facebook a gwefan Anarchwyr De Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad.
Dim Ffiniau Moroco
Mae degau ar filoedd o bobl yn wynebu erledigaeth ddyddiol ym Moroco oherwydd polisïau ffin yr Undeb Ewropeaidd. Dewch i glywed am y frwydr barhaus dros urddas a rhyddid ym Moroco, a’r hyn y mae anarchwyr Ewropeaidd yn ei wneud i gefnogi.
Cyflwyniad Gomiwnyddiaeth Anarchaidd
Y gymdeithas yr ydym yn gobeithio amdani a’r ffyrdd i’w chreu gan Ffederasiwn Anarchaidd Bryste.
Gwrthwynebu IPP
Sgwrs ynglyn â’r “ddedfryd amhenodol i warchod y cyhoedd” (IPP) a gyhoeddwyd yn 2005, mae miloedd yn cael eu carcharu heb unrhyw ddyddiad rhyddhau.
Anarchiaeth a’r Iaith Gymraeg
A yw’r frwydyr dros anarchiaeth hefyd yn frwydr dros yr iaith? Mae’r mudiad iaith wedi radicaleiddio nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ond paham nad ydyn ni, fel y Catalwniaid a’r Gwyddelod, wedi cyfieithu ein prif gyfryngau i’r Gymraeg? Pam does nemor dim llenyddiaeth Anarchaidd yn y Gymraeg ? Dewch i drafod sut allem frwydro dros yr iaith fel anarchwyr, ein perthynnas gyda’r mudiad iaith brif ffrwd yn ogystal a sull allwn hybu syniadau anarchaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gormes gwrthdystio: Sut i frwydro nôl
O’r Heddlu cudd yn treiddio i grwpiau ymgyrchu i bolisi newydd yr Heddlu Metropolitan o “dalu-i-brotestio”, sut mae gwrthsefyll y gormes hyn a gwneud eu tactegau’n aneffeithiol.
Cyd-gymorth, cymdeithasau cyfeillgar a’u perthnasedd i’r frwydr gyfoes
Gan dynnu ar y ddau enghreifft hanesyddol, yn ogystal â ffurfiau sefydliadol presennol, gobeithia’r gweithdy hwn agor trafodaeth am y math o ddulliau a sefydliadau y gallai anarchwyr eu datblygu yn llwyddianus i greu y byd o ryddid, y cyfiawnder a’r cydraddoldeb yr ydym yn dyheu amdano. O gymdeithasau cyfeillgar, i brosiectau tai cydweithredol a ysbrydolwyd gan gydweithfeydd ffeministaidd, mae’r gorffennol yn frith o arbrofion o’r fath ond beth allwn ni ei ddysgu a’i ddefnyddio ym mrwydyr heddiw yn erbyn dominyddiaeth cyfalafol? Dyma’r cwestiynau canolog a fydd yn cael eu harchwilio yn ystod y gweithdy hwn.
Anarchwyr yn erbyn llymder – sut mae hynny’n gweithio?
Os ydym yn gwrthwynebu toriadau / llymder, a yw hynny’n golygu ein bod am wladwriaeth fawr? Dyma weithdy sydd yn mynd i’r afael â’r gwrth-ddweud o fewn y mudiad anarchaidd a’r mudiad ehangach yn erbyn llymder. Byddwn hefyd yn archwilio strategaethau ymarferol a datblygiadau posibl yn y dyfodol.
Anarchiaeth, am ysbaid: Atgofion o anarcho-pynk
Mae’r awdur Phillip Bounds yn rhoi ei berspectif personol o’r sin anarcho-pync yn Ne Cymru yn y 1980au cynnar, a dynnwyd o bennod yn ei lyfr newydd “Notes from the End of History: A memoir of the left in Wales”
Gwrthsefyll y Diwydiant Carchardai
Gweithdy cyflwyno cymhlethdod diwydiannol y carchar – sut mae’r wladwriaeth a chwmnïau yn elwa o garcharu bodau dynol. Byddwn yn cyflwyno brwydrau cyfredol, gan gynnwys ymgyrch newydd yn erbyn dyfodiad y carchar mwyaf ond un yn Ewrop i Ogledd Cymru.
Undebau llafur: rhan o’r ateb neu broblem
Mae undebau llafur wedi bod yn llais i’r dosbarth gweithiol ers dros 150 o flynyddoedd drwy frwydro i ennill llawer o’r hawliau cyflogaeth a gwelliannau i amodau gwaith yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw. Byddwn yn cymryd cipolwg ar hanes y mudiad llafur, o Tolpuddle a Merched Match, drwy ffurfio’r Blaid Lafur a brwydrau diwydiannol anferth y 70au, hyd at y presennol. Yna, byddwn yn gofyn ‘ydy undebau llafur yn dal i fod yn berthnasol heddiw – neu a ydynt wedi ieithrio o anghenion gweithwyr ar lawr gwlad?’ Byddwn yn cloi drwy ystyried y ffordd ymlaen, a ddylem ymgysylltu â’r undebau a gwneud iddynt weithio o’n plaid, neu a ddylem ystyried llwybr arall?
Paid â chyffwrdd a’n Coedwigoedd
Esboniad o’r bygythiadau o breifateiddio, masnacheiddio a dinistrio posibl Fforest of Dean a choetiroedd cyhoeddus eraill drwy gynigion diweddaraf y llywodraeth, a pham y mae’n rhaid i ni barhau i ymgyrchu i’w cadw yn ein dwylo ni
Anarchwyr ac etholiadau
Sgwrs a gweithdy cyfranogol ar y rhesymau dros wrthwynebiad llawer o anarchwyr i etholiadau seneddol a pham nad ydym yn dewis sefyll neu bleidleisio ynddynt.
Datguddiad Snowden a Gwyliadwriaeth y Wladwriaeth
Mae’r datgeliadau gan chwythwr chwiban Edward Snowden wedi cynnig cipolwg i wyliadwriaeth ar raddfa eang. Maent wedi ysgogi trafodaethau cyhoeddus ar natur hawliau sifil yn y byd digidol; posibiliadau a heriau cyfathrebu diogel; natur y wladwriaeth diogelwch; ansawdd y sylw yn y cyfryngau; a bygythiadau newydd i ryddid y wasg a gwrthdystio. Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi trosolwg o’r ffyrdd y mae’r wladwriaeth yn monitro ein cyfathrebu ar-lein, ac yn trafod y ddadl yn y cyfryngau ar ddatgeliadau Snowden, heriau i fynegiant ac i gweithredu, datblygu a defnyddio offer gwrth-gwyliadwriaeth, ac ymgyrchoedd hawliau digidol.
Y Gath Rydd Olaf
Yr Awdur Jon Blake yn siarad am lyfr radical i blant. Hefyd yr anawsterau o gyhoeddi ffuglen plant gwrth-gyfalafol.
Cyflwyniad i’r Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd
Mae’r rhwydwaith gweithredu anarchaidd yn sefydliad cenedlaethol o anarchwyr sydd yn estyn allan at gymunedau dosbarth gweithiol ar draws y DU i hyrwyddo gweithredu uniongyrchol. Dewch draw i glywed mwy am egwyddorion y rwydwaith a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cymru Ddi-Ffrac o’r Dechrau i’r Ddiwedd
Ers nifer o flynyddoedd mae cymunedau ledled Cymru wedi bod dan fygythiad egni eithafol ‘hollti hydrolig’ (Fracio), Methan Gwely Glo a Nwyeiddio Glo Tanddaearol. Mae pob techneg yn peri risgiau difrifol i iechyd pobl a’r amgylchedd. Ffurfiwyd Cymru ddi-ffrac yn 2013 er mwyn helpu i drefnu a chefnogi’r grwpiau rhanbarthol wrth weithio gyda sefydliadau eraill. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi addo i ymladd am foratoriwm yn erbyn ffracio, ond nid yw’r frwydr yn dod i ben yno gan ei fod yn aneglur os oes gan Gymru ddigon o bwerau datganoledig i ddeddfu ar bolisi ynni.
Easton Cowboys & Cowgirls: Clwb Chwaraeon Radicalaidd o’r tu fewn
A all clwb chwaraeon fod yn gyfrwng i wleidyddiaeth radicalaidd? Ffurfwyd Cowboys Easton 20 mlynedd yn ôl fel tîm pêl-droed cynghrair sengl Sul. Ers hynny grŵp yma o byncs ac ymgyrchwyr wedi ehangu i fod yn grwp aml-chwaraeon o 150+ wedi ei leoli ynghanol dinas Bryste. Fel clwb maent wedi teithio’r byd, codi symiau sylweddol o arian ar gyfer gwahanol achosion da ac yn cyfranu at ddatblygu rhwydwaith byd-eang o dimau gwrth ffasgaidd / gwrth hiliol. Bydd Will Simpson yn sôn sut y maent wedi gwneud hyn ac yn trafod y potensial ar gyfer chwaraeon ac ymgyrchu.
Dynarchwyr – Canllaw iddynt.
Golwg ysgafn ar wleidyddiaeth rhywedd o fewn anarchiaeth.
Gwrthwynebu Ffasgaeth
Mae ffasgiaeth yn Ewrop ar gynnydd. O’r blaidd Islamoffobaidd “Plaid Rhyddid” yn yr Iseldiroedd, Y Wawr Euraidd yng Ngwlad Groeg, Hwngari Jobbik a llwyddiant y Ffrynt Cenedlaethol yn Ffrainc. Yn y DU mae gennym y Torïaid a’r UKIP yn galw am bolisïau gwrth-fudo llymach i fwrw’r bai am ddirywiad yr economi, sydd yn cynyddu casineb hiliol. Yng Nghymru lle mae’r niferoedd sy’n byw mewn tlodi ymysg yr uchaf yn y DU, mae Siopau UKIP yn agor a chynnydd mewn grwpiau Ffasgaidd.
Ystyr Rhyddid.
Beth yw rhyddid? Ai peidio bod mewn caethiwed, neu a oes mwy iddo na hynny? A all rhyddid unigol fodoli heb ryddid ar y cyd? O ble daw ein hangen am ryddid? Yr awdur Paul Cudenec sy’n cyflwyno trafodaeth ar sylfaen athroniaeth anarchaidd.
Bwyd Nid Bomiau! Cnoi, tagu neu boeri?!
Galwad i bracsis ddychmygol ar y strydoedd. Dewch i weithdy rhyngweithiol a gychwynnwyd gan Bwyd Nid Bomiau Southampton ac eraill, wrth i ni edrych yn gwbl agored ar y benbleth amlwg o safbwynt y palmant. Sut i boeri’r hyn yr ydym am osgoi tagu arno?