Gwneud synnwyr o ecoffeminyddiaeth a’r ol-drefedigeithol.

Yr wyf wedi bod yn ymchwilio i beth yn union yw athroniaeth ecoffeminyddiaeth. Mae’n syniad weddol newydd felly ar adegau mae modd teimlo nad oes consensws eto ynglŷn â beth yn union ydi o! Defnyddwyd y term yn gyntaf y ffeminydd ffrenig Françoise d’Eaubonne yn ei llyfr Le Féminisme ou la Mort.
Un peth sy’n sicr ynglŷn â ecoffeminyddiaeth yw’r modd y mae’n cyd-berthnasu gorthrwm ecolegol gyda gorthrwm merched o dan system gyfalafol a patriarchaidd.
Offer neu adnodd i’w defnyddio yw’r ddaear a menywod o dan y drefn bresennol yn ol ecoffeminyddion. Un broblem yr wyf wedi dod ar ei thraws wrth ymchwilio i ecoffeminyddiaeth yw’r ffaith bod yna dau brif ffrwd ohono yn croes-ddweud eu gilydd i raddau.
Un feddylwraig sydd yn cynrychioli y ecoffeminyddiaeth ol-drefedigaethol a’r un (yn ol rhai) sydd yn breintio nodweddion ‘benywaidd’ yw Vandana Shiva.

Vandana Shiva

Vandana Shiva

Dywedai;
‘Ecological feminism creates the possibility of viewing the world as an active subject, not merely a resource to be manipulated and appropriated. It problemizes ‘production’ by exposing the destruction inherent in much of what capitalistic patriarchy has defined as productive and creates new spaces for the perception and experience of the creative act…
…Ultimately they [y cyfalafwyr] want to bring the act of production, the power of creation, which hereto lay with women and with nature, under their control, the control of the ‘pure’ male spirit’ (t.34-45 Ecofeminism)
Dywed eraill (megis Janet Biehl) mai’r gorthrymwyr a phatriarchaeth sydd wedi priodoli menywod gyda nodweddion ‘benywaidd’ anelwig . Credai felly bod breintio y nodweddion yma mae’r gorthrymwyr wedi priodoli i fenywod yn ddinistriol ac yn tanseilio hanfod ffeminyddiaeth.
I feddylwragedd fel Janet Biehl mae ‘ffeminyddiaeth’ yn ei hanfod yn syniad a geisiai ddileu’r rhagdybiaethau hyn ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng dynion a merched. Os mae ecoffeminyddion yn derbyn y rhagdybieithau a hyd yn oed eu dathlu mae hyn yn golygu eu bod i raddau yn cydsynu gyda syniadau patriarchaidd ynglyn a’r gwahaniaethau rhwng menywod a dynion mae feminyddion eraill yn ceisio brwydro!
O be yr wyf wedi ei ddarllen mae ecoffeminyddiaeth yn agos iawn yn athronyddol i anrcha-ffeminyddiaeth. Mae’n debyg I anarchiaeth yn y modd ei fod yn ddisgwrs agored sydd gyda anghytuno yn rhan anatod ohoni (hyd yn oed rhywbeth i ddathlu mentrwn ddweud!) Credaf ei fod yn wir bod ein system presenol yn egsbloitio y ddaear am ei hadnoddau ac yn egsbloitio menywod. Wrth eu troi fewniI cathweidion domestig, tanseilio eu hyder fel eu bod yn dibynu brynu nwyddau harddwch, eu gwneud yn gaethweision cyflogedig (wage slaves?) i enwi rhai.
Oes unrhyw un arall wedi ymchwilio i ecoffeminyddiaeth? Yr wyf wedi sylwi bod y ffrwd sydd yn ‘dathlu’r benywaidd’ yn dueddol o fod yn feddylwragedd ol-drefidigaethol, a bod y meddylwragedd sydd yn cyhuddo’r ffurf hon o ecoffeminyddiaeth o danseilio’r cysyniad o gydraddoleb yn orllewinol. Mae’r ddau du yn dadlau’n dda a dwi’n disgyn rhwng dwy stol. Beth yw eich barn chi?

‘Cysyniadau Cyfalafol’

Amhosib yw di-ystyri effaith anferthol cyfalafiaeth ar ein bywydau. Gerllaw ein newynau a’n rhyfeloedd, gerllaw ein hecsploetio a’n hymraniad o’n gyd-ddyn, gerllaw poendod a diflastod bywyd pob dydd, y mae teyrnas cyfalaf wedi newid ein canfyddiad o’r pethau sylfaenol yn ein bywydau.

Datganodd Jean-François Lyotard fel pellach, mae gwybodaeth a ffeithiau yn cael eu cynhyrchu fel nwyddau ar y farchnad. Casglwyd ein gwybodaeth fel data yn storfeydd cyfrifiadurol anferthol, a pherchnogwyd y rhain gan gorfforaethau mawr. Mae google yn cofio a hyd yn oed dyfalu ymlaen llaw ein chwiliadau, facebook yn casglu llu o ddata ar ein hoff ffilmiau, hoff ffrindiau, rhywioldeb a’i brosesu a chategoreiddio a gwneud llu o gydberthnasau.  Pam? I’w werthu, i greu hysbysebion, i greu elw. Pwrpas gwybodaeth yw ei werth masnachol, nid ei wirionedd. Elw ac arian sydd pellach yn rheoli nid yn unig ein perthnasau cymdeithasol, ond sydd wedi difetha ein pwynt cyfernod o “wir” ac “anwir”. Llithra gymdeithas i’w medd’ dod anfwyn, heb gysyniadau o gywirdeb na chydlyniad, ond hysbysebion parhaus a drysiad llwyr.

Yn ei lyfr “Society and the Spectacle” amlyga Guy Debord fel mae’r byd hwn o rithiau, o gyfryngau, hysbysebion, olygfeydd mawr, yn teyrnasu. Yn hytrach na phobl yn rheoli eu bywydau, caiff eu rheoli gan rymoedd anweledig economaidd. Mae’r dirwasgiad, chwyddiant, diweithdra, yn nigwyddiadau gwrthrychol tu hwnt i’n rheolaeth fel pobl. Er bod dirwasgiad oherwydd y ffordd trefnwn ni ein cymdeithas, ymdriniwyd ag ef fel ryw drychineb naturiol, pŵer duwiol tu hwnt i’n rheolaeth. Mae’r perthnasau rhwng pobl, wedi troi mewn i berthnasau rhwng pethau ar y farchnad. Nid gweithredwyr ydym, ond gwylwyr, yn gwylio cwrs ein bywydau yn cael eu penderfynu ni, yn gwylio’r olygfa fawr, yr hysbysebion, y newyddion, yr Olympics, y Jiwbili. Gwyliwn pornograffig yn lle cael rhyw. Eisteddwn yn ein cartrefi yn gwneud dim byd, yn gwylio pobl eraill ar sioeau realiti yn gwneud dim byd.

Ond nid yw hyn yn ein bodloni. Mae cyfnodau o argyfyngau economaidd hefyd yng nghyfnodau o argyfyngau dirfodol, emosiynol. Yn ofer, ceisiwn lenwi’r bwlch wrth ddiffinio ein hun trwy’r hyn da ni’n prynu, trwy siopa mwy, ond mae’r rhith yn dechrau chwalu. Mae gwedd pob wyneb prysur ar strydoedd llwyd ein diffeithdir dinasol yn gwaeddi allan mewn ing: Ble ydw i? Beth ydw i’n neud? Beth yw’r pwynt?

Mae crafangau cyfalaf yn ymdreiddio mor bell â’n canfyddiad o ofod ac amser. Wrth i’r byd globaleiddio, wrth inni gyfathrebu i ochr arall y byd mewn eiliad a theithio mewn oriau, y mae’n llawer llai. I arian, nid oes gofod pellach yn bodoli. Lle cynt, roedd rhaid symud tunellau o aur, nawr mi drawsgludwyd biliynau yn o bunnoedd yn electronig pob eiliad, ym mhob cyfeiriad a thros bob border. Prynwyd a werthwyd niferoedd anghredadwy o stociau a nwyddau, stociau mewn cwmni yn China, bareli o olew, stociau mewn ein bywydau ni a’n lles ni, trwy wasgiad bwtwn gan ddyn yn Wall St. Mae arian, ac felly cyfalaf, wedi trosgynnu ei gynrychiolaeth ffisegol, a bellach mae holl gyfoeth ein llafur, holl rym ein cymdeithas yn bydoli fel ystadegyn ar gyfrifiadur.

Yn debyg fel mae arian yn ein canoli a chreu cysylltiadau byd eang, canolwyd amser. Cynt, rhywbeth annibynnol a hynodwedd oedd amser. Rhannwyd y dydd i ddeuddeg awr fras yn y Gorllewin cyn-diwydiannol. Ond y cyfnod o olau haul oedd hyn, felly yn yr haf, hirach oedd  awr a hirach oedd amser. Daeth clociau, ond prin un am bentref. Ni chanolwyd – roedd yr amser yn Abertawe yn wahanol i’r amser yn Aberhonddu “ar yr un pryd” – er nid oedd ffordd o wybod gan wahanwyd gan ofod mor fawr. Ond gyda diwydiannu daeth y rheilffordd, llai oedd y pellter, a safonwyd amser. Wrth i’r ffatri disodli’r fferm a’r gweithdy bychan, disgyblwyd amser. Ni ddewisodd y llafurwr mwyach pryd i ddechrau gweithio a phryd i fwynhau, ond osodwyd oriau gweithio gan y perchennog, a gosodwyd yr oriau arno ef gan gystadleuaeth a galwad y farchnad. Mecanyddwyd amser, ac erbyn heddiw mesurwyd yn union a chanolwyd dros y byd gan loerennau. (Wrth gwrs, nid oes amheuaeth am fudd hyn i ymchwiliadau gwyddonol; gorthrymder llym clociau o’n bywydau pob dydd yw’r broblem) Nifer yr oriau penderfyna nifer y punnoedd ein tâl. Wrth i ni siopa, rydym yn ystyried faint o oriau fydd rhaid gweithio er mwyn cael yr arian i brynu ryw nwydd. Wrth i’n horiau o lafur cael eu hecsploetio, wrth i ni golli rhan fawr ohonynt i’n bos sy’n talu ni llai na werth y nwydd cynhyrchwn, ac wrth i bob awr o waith fod yn wastraff o’n bywydau, rydym yn byw amser marw. I newid hyn, i “fyw heb amser marw” oedd cri chwyldroadol rhai megis Deboard, y Situationists, yn 1968. Mae cyfalaf fel cysyniad, elw, yn dibynnu ar amser yn llwyr – cyfradd elw sydd yn bwysig – mae derbyn mil o bunnoedd yr awr o fuddsoddiad yn well na mil o bunnoedd y mis. “Time is money”, nid oes amheuaeth. Felly trechwyd amser gan gyfalaf.

Yr ateb? Un syfrdanol ond un syml. Ie, rhaid meddiannu’r strydoedd, meddiannu’r ffatrïoedd, meddiannu’r ysgolion, y teuluoedd, ond rhaid hefyd ail-feddiannu amser, ein meddyliau ac felly ein bywydau. Pob tro y barnwn wybodaeth nid gan ei werth ariannol, ond ei wirionedd a’i brydferthwch, wnawn hyn. Pob tro y trown off y teledu, gan greu cerddoriaeth neu gelf neu fwynhad, a’n ffrindiau a dieithrid, nid am arian ond am bleser, wnawn hyn. Pob tro y anwybyddwn y clociau, gan fynd am dro diderfyn i’r coed, gan barhau i ddarllen neu ganu neu garu neu feddwi yn llawn brwdfrydedd tan oriau man y bore (heb ots bod gwaith yn hwyrach), wnawn hyn.

Yn ôl eich clociau heirdd,

 Bob bore codwch chwi:

Y wawr neu wyneb haul

 Yw’r cloc a’n cyfyd ni;

Y dyddiaduron sydd

 Yn nodi ‘r haf i chwi;

Ond dail y coed yw’r llyfr

 Sy’n dod â’r haf i ni.

O Alun Mabon, John Ceiriog Hughes