“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

gan Hwntw Arall

 

Mi welwn wyr y Senedd yn ngrynhoi y’nghyd
Yn erbyn y tylodion yn gysson oll i gyd,
I godi cyfraith newydd, annedwydd oedd eu nad
A gwneud carcharau creulon i dlodion yr holl wlad.

Dyma bennill o hen faled y “Breuddwyd Hynod”: pennill rhu perthnasol i’n presennol hunllefus.

 

Wyrkhws, Tlodion a’r “Proletariat”

Mae’r baledwr Ywain Meirion yn ymosod ar drefn y wyrkhws. Tybiwyd y cenir am y tro gyntaf yn 1834, blwyddyn Deddf Newydd y Tlodion. Estynnwyd y system wyrkhws gan y ddeddf newydd. Dan y system hon carcharwyd tlodion yn llafurdai, lle gorfodwyd i weithio’n ddi-dâl.

Diffiniwyd “tlodion” gan y ddeddf fel rhai oedd yn gorfod llafurio er mwyn cynnal eu hun, rhai oedd yn gorfod gweithio er mwyn ennill eu bara beunyddiol [1]. Dyma ddiffiniad Karl Marx am y “proletariat” ychydig o flynyddoedd yn hwyrach: rheini heb ddim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Wrth gwrs, nid oedd angen i bawb gweithio – nid oedd pawb yn dlawd. Roedd gan y tirfeddianwyr a’r cyfalafwyr (a pherchnogion y llafurdai!) rent ac elw er mwyn bodoli. Ond fel mae Ywain Meirion yn ein hatgoffa, ni fydd gan y cyfoethog dim byd heb iddynt allu ecsploetio llafur y tlodion:

Pe gyrrid y tylodion i gyd o Frydain Fawr,
Ni fyddai ond boneddigion yn union yno’n awr:
Ffarwel am dreth i’r Brenin, na chwaith am drin y tir,
Na llongwr, crefftwr, sawdwr, na gweithiwr, dyma’r gwir.
[na chwaith llienwragedd, morwynion, droellwragedd, mamau…]

 

Caethiwo a Disgyblu

Pwrpas y wyrkhws oedd gweinyddu, rheoli a disgyblu’r tlodion. Ni chyfunwyd y disgyblu hyn i’r tlodion tu fewn i’w muriau yn unig: roedd yr adeiladau hefyd yn fygythiad parhaol i bawb oedd yn brwydro dros eu bywoliaeth tu allan iddynt. Os nad oeddynt yn gallu goroesi (talu am rent, am fwyd) trwy weithio tu allan i’r wyrkhws, fydd rhaid iddynt weithio tu mewn, dan amodau gwaeth eto, llawn cosbau llym a heb dal. Dyma’r “gwirionedd” a orfodwyd ar y byd: nid oes bywyd tu hwnt i waith. Felly bathwyd y dosbarth gweithiol.

Llaw yn llaw i’w disgyblaeth o’r tlawd, roedd gan y wyrkhws swyddogaeth o ran disgyblu rhywedd, y teulu, gallu, crefydd a hil. Rhannwyd y wyrkhws yn llym yn ôl rhywedd ac oedran, a orfodwyd rôliau penodol yn ôl hyn. Os anfonwyd tad i wyrkhws, rhaid i’w holl deulu mynd yn ogystal, er iddynt wedyn byw i’r rhan fwyaf ar wahan – deliodd y stad a’r dosbarth gweithiol yn ôl unedau teuluol, ond deallwyd a ffurfiwyd yr unedau hyn trwy ddisgyblaeth llym o’r rôliau teuluol gwahanol.

Bydd Mari Morgan hefyd, yn d’wedyd yr un dôn
Nad eill y nos gynhesu yn siwr heb gwm’ni Siôn…

Carcharwyd plant amddifad (fel yn Oliver Twist) – y wyrkhws yn gweithredu fel teulu sefydliadol [2]. I’r tlawd heb y gallu i weithio o gwbl (y tost, yr hen a’r anabl) na chefnogaeth arall, bywyd anodd y wyrkhws oedd yr unig fodd o oroesi. Cystadlodd y wyrkhws a’r gwallgofdy (asylum) i garcharu’r “gwallgof” (a gynyddol gaethiwyd ers yr oes fodern gynnar) [3]. Yr Eglwys Anglicanaidd oedd crefydd sefydledig y wyrkhws – caniatawyd rhai gwasanaethau anghydffurfiol ond ni chaniatawyd caplaniaid Catholig. I Iddewon, roedd ymarfer eu diwylliant a chrefydd yn y wyrkhws yn amhosib.

Oes y wyrkhws oedd hefyd oes y carchar, y ffatri, yr ysbyty ac yn hwyrach yr ysgol . Dyfeisiwyd a diwygiwyd gan yr un biwrocratiaid a chyfalafwyr tuag at yr un pwrpas o ddisgyblu a “chywiro’r” tlawd. Roedd gan y ffatri a’r ysbyty drysau dan glo yn ogystal i’r carchar a’r wyrkhws. Dyma ddatblygiad y “caethder mawr“, lle carcharwyd lluoedd o werin Ewrop wrth iddynt cael eu gorfodi oddi wrth y tir ar ddiwedd y canol oesoedd. [4]

CynllunWyrkhws

[Cynllun wyrkhws gynnar ar ffurf groes: y meistr yn y canol â’r trigolion wedi rhannu yn ôl oedran a rhywedd]

 

Llafur Di-dâl

Mae tybiaethau yn llyfryddiaeth Marx y bydd gwaith di-dâl a rhwymedig yn diflannu dros amser, wrth i gyfalafiaeth “aeddfedu”. Ond er bod pŵer, yn sawl man ac achos, nawr yn disgyblu trwy foddau llai “galed”, mae gwaith di-dâl heb os yn parhau fel rhan angenrheidiol o’r system gyfalafol. Tu mewn i garchardai ecsbloetiwyd llafur di-dâl, wrth i garcharorion creu dillad milwrol neu feinciau “cymunedol”. Tu allan, mae workfare a phrosiectau tebyg yn aros os nad yn lledu. Mae caethwasiaeth eu hun, lle nid yn unig ydi’r gwaith yn ddi-dâl ond mae’r person sy’n gweithio yn eiddo i’r caethfeistr, yn parhau – nid fel arhosiad o ryw oes gynt ond fel elfen bwysig bresennol o gyfalafiaeth. A thu allan o’r gweithle a’r carchar – yn y cartref ac yn weddill ein bywyd pob dydd mae llafur di-dâl, rhyweddol, yn hanfodol i barhad ac atgynhyrchiant y system gyfalafol (pwy sydd yn gofalu am y gweithwyr ar ôl iddynt orffen gwaith, fel y gallent fynd nôl i’r gweithle yfory?) [5].

 

Baledi Ymosodol

Cyfrwng y tlawd, y werin a’r dosbarth gweithiol oedd baledi i’r rhan fwyaf. Trwyddynt cawsant, a chawn ni heddiw, straeon eu profiadau, newyddion y pryd, digri, dioddefaint a doethineb. Cenir ar y strydoedd, yn yr awyr agored ac yn y ffeiriau. Dyma oedd eu blogiau a’u ffansins.

Mae cryn dipyn o faledi radical, megis “Y Breuddwyd Hynod”, sy’n ymosod (i raddfeydd gwahanol) ar drefn y dydd. Mae eraill yn adrodd hanes terfysgoedd, streiciau, protestiadau ac ati. Werinol oedd y baledwyr eu hun gan amlaf. Yn hwyrach yn eu bywyd, yn lle baledi aeth Ywain Meirion i gasglu a gwerthu carpiau, ac roedd diwedd ei oes yn flynyddoedd caled [6]. Rhaid cofio bod rhaid i’r baledydd fod yn garcus wrth ganu yn erbyn y drefn yn agored – rhag ofn i bŵer ymateb yn llym. Heb os, rhaid bod hyn wedi effeithio ar gynnwys y penillion yn sawl achos. Ar ddiwedd ei faled, mae gan Meirion fath o ymwadiad:

Wel dyma swm y breuddwyddwyd a welwyd geny ‘n wir,
Gobeithio na chawn ddyoddef dan fin y cleddyf clir

Ond, serch y cleddyf clir, ledled yr ynys ymosodwyd ar y wyrkhws yn ffisegol yn ogystal. Terfysgodd ‘Beca yn erbyn wyrkhws Llanfyllin, Arberth a Chaerfyrddin gan fygythio eraill [7]. Stori i godi’r galon yw adroddiad papur newydd am derfysg Caerfyrddin:

Their first object of attack was the Union workhouse, which was first entered, as our correspondent informs us, by “the bad boys of the town,” who had joined the Rebeccaites. They set about their mission of destruction in a very spirited manner, and commenced operations by freely throwing out of the windows feather-beds, chairs, portions of bedsteads, and whatever articles of furniture they could lay their hands upon, and they most undoubtedly thought their progress would not be stayed before the whole building would be razed to the ground. [8]

Fel mae eraill wedi datgan – rhaid cael barddoniaeth “yn y stryd”, neu feirw yw celfyddyd [9]. Daeth awen i strydoedd Caerfyrddin yn haf 1843.

Dros faledi ymosodol ac ymosodiadau baledol!

 

YBreuddwydHynod
[Baled y “Breuddwyd Hynod” gan Ywain Meirion, c. 1834]

 


Nodiadau
Mae llwyth o faledi, gan gynnwys cryn dipyn o faledi radical, ar gael arlein:

https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-llgc/baledi-cymru-ar-lein/

Baled arall ar yr un testun sydd gwerth ei ganu yw “Workhouse Merthyr”:

http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:LSCOP_BALLADS:44NLW_ALMA21729351050002419
[1] “II.1.5

It has never been deemed expedient that the provision should extend to the relief of poverty; that is, the state of one, who, in order to obtain a mere subsistence, is forced to have recourse to labour.
Adroddiad Comisiwn Deddf y Tlodion, 1834.
http://www.econlib.org/library/YPDBooks/Reports/rptPLC11.html#Part%20II,%20Section%201
Dedfrydwyd rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn, gan gynnwys yr uchod.

[2] http://www.workhouses.org.uk/education/

[3] http://pb.rcpsych.org/content/pbrcpsych/22/9/575.full.pdf
[4] Dyma ystyr arall proletariat: rhai heb dir. Mae’n gysylltiedig â’r ystyr uchod: heb iddynt fod ar y tir, nid oes gan y proletariat dim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Trwy ddiffinio’r proletariat yn fodd negatif fel hyn, mae’n cynnwys sawl grŵp gwahanol a chaewyd allan o fudiad traddodiadol y gweithwyr – rhai sydd yn gweithio yn y cartref, carcharwyr, y di-waith…

[5] I ddarllen mwy ar waith atgynhyrchiol di-dâl a brwydrau llafur domestig, gwelwch y Mudiad Cyflogau am Waith-Tŷ:
https://en.wikipedia.org/wiki/Wages_for_housework
a’r archif caring labour:
https://caringlabor.wordpress.com/

[6] http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-GRIF-OWE-1803.html

[7] http://www.workhouses.org.uk/Wales/
[8] https://sniggle.net/TPL/index5.php?entry=19Jun14

[9] “La poésie est dans la rue.
[“Mae barddoniaeth yn y stryd.”]
Slogan/graffiti o wrthryfel Mai ’68 yn Ffrainc.
https://libcom.org/history/slogans-68

Datganodd y Sefyllfiaid, a gymerodd rhan yn y gwrthryfel, bod celf a chelfyddyd (bourgeois) wedi marw – gan eu bod wedi llwyr cymathu gan gyfalaf(iaeth). Mae darn o gelf yn cynrychioli llafur sydd wedi ecsploetio ac felly sydd wedi marw, y llafur hyn wedi eu gwrthrychu yn nwyddau a’r “hynotddrych”. Yr unig (gwrth)gelf sydd ar ôl i wneud neu i fyw yw’r chwyldroadol, yr hyn sydd yn chwalu’r drefn gyfalafol. Nid yw “barddoniaeth yn y stryd” yn golygu graffiti barddonol neu anerchiad cyhoeddus felly (neu nid yw’n golygu’r rhain /yn unig/), ond yr hyn sydd yn farddonol am chwalu pŵer, barddoniaeth y barriced, terfysg cynganeddol.

 

Aduniad Menywod a Phobl Trans* yn erbyn y cyd-berthynas diwydiannol carchar

WT-Week-Welsh-without-bleeds-724x1024

Pam yr Wythnos yma o Weithredu? Pam Rŵan?

Mae carchardai yn dinistrio bywydau. Bwriad Llywodraeth Prydain yw adeiladu 9 mega garchar newydd www.cape-campaign.org/community-action-on-prison-expansions-response-to-the-9-new-prisons-announced-yesterday erbyn 2020, tra bod mwy o fenywod a phobl thrans yn cael eu caethiwo a’u trin yn giaidd yn ein system garchar. Mae’r pwysau enfawr o gefnogi’r sawl ydym yn eu caru yn y carchar yn disgyn arnom ni sydd yn llafurio’n emosiynol, ariannol ac yn ymarferol i gefnogi pobl sydd wedi eu carcharu tra yn ogystal â hyn rydym yn gofalu am y gweddill sydd wedi eu gadael ar y tu allan. Mae’r cyd-berthynnas diwydiannol carchar yn dwyn ein bywydau gennym. Mae hefyd yn sefydliad hiliol ble mae pobl nad ŷnt yn wyn eu croen yn sicr wedi eu gorgynrychioli. Mae’n rhan o ymosodiad parhaol a hanes hir o batriarchaeth a chydymffurfiaeth-rhywedd yr ydym yn ei frwydro pob dydd. Mae’r wythnos hon yn ymgais at adennill ein bywydau.

Pwy a fyddwn yn ei groesawu yn y digwyddiad hwn?

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sydd yn uniaethu fel menywod, trawsryweddol, trawsrywiol, cwiar ryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol. Mae’n ofod bwriadol er mwyn rhannu gwybodaeth ymgyrchu, dulliau trefnu, sgiliau gweithredu uniongyrchol mewn awyrgylch cefnogol i’r sawl sydd yn aml yn cael eu domineiddio a’i nadu gan ddynion-sis.

Os ydych chi yn anghyfarwydd a’r termau yma, dyma ragor o wybodaeth: twac.wordpress.com/terminology.

 

Be fydd yn digwydd?

Bydd:

  • Sawl Diwrnod o Weithredu
  • Aduniad o dri diwrnod i ymchwilio i’r pynciau yma yn fwy trwyadl
  • Gweithdai, dangosiadau Ffilm & mwy

Bydd sawl diwrnod o weithredu, yn ogystal ag aduniad a fydd yn para tri diwrnod dros y penwythnos i ymchwilio i’r holl faterion yma yn drwyadl. Bydd gweithdai, trafodaethau, dangosiadau ffilm a rhagor yn plymio i ddyfroedd o feddwl o’r dull ydym yn ymateb i niwed, o drais rhyngbersonol, fel ymosod rhywiol, i drais strwythurol a thrais y wladwriaeth fel tlodi, canolfannau dal a charchar. Dyma ofod i ofyn cwestiynau beirniadol am sut symudwn du hwnt i’r wladwriaeth a ffurfio dulliau amgen.

 

Sut alla i ymwneud a hyn?

 

Cysylltwch â ni er mwyn helpu gwneud i hwn ddigwydd. Mae angen cefnogaeth arnom gyda:

  • Logisteg ymarferol e.e. sicrhau llety, bwyd, gofal plant
  • Codi arian
  • Hyrwyddo e.e. cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, rhwydweithio mewn digwyddiadau
  • Paratoi cynnwys, e.e. cysylltu â phobl i hwyluso trafodaethau
  • Cynllunio gweithredoedd

Os gwelwch yn dda e-bostiwch info@prisonabolition.org i ymuno a’r criw sydd yn trefnu’r digwyddiad.

Pwy sy’n trefnu’r digwyddiad yma a’r wythnos o weithredu?

 

Mae cydweithfa fach anffurfiol wedi dod o wythnos o Weithredu yn erbyn y Cyd-berthynnas Diwydiannol Carchar ym mis Tachwedd 2015 (www.cape-campaign.org/this-is-only-the-beginning-overview-of-the-week-of-action-against-the-prison-industrial-complex-november-2015). Rydym yn grŵp o fenywod cis a phobl (gender queer) sydd yn casáu carchar gyda’n holl eneidiau. Mae rhai ohonom wedi bod yn y carchar, eraill wedi treulio llawer gormod o ddyddiau mewn ystafelloedd aros ymweld â charchardai. Rydym wedi goroesi cael ein treisio, trais rhywiol, camdriniaeth. Nid ydym ni eisiau cael ein dominyddu can sis-ddynion, patriarchaeth na chyfalafiaeth unrhyw ragor. Mae pob un ohonom yn rhannu angerdd i adeiladu dulliau amgen o ymdrin â niwed na’r system garchar, sydd yn cefnogi goroeswyr trais ac ymateb i niwed yn ein cymunedau. Rydym wedi ein hysbrydoli’n fawr gan cymrodion sydd wedi trefnu gwersyll gweithredu Menywod a Trans Cascadia twac.wordpress.com/about. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr a pur debyg fyddwn yn gwneud llawer o gamgymeriadau ond rydym yn gwneud ein gorau i ysbrydoli gwrthwynebiad i’r Cyd-Berthynnas Diwydiant Carchar sydd yn gwenwyno ein bywydau.

Dim rhagor o deledu Cymraeg i Garcharorion.

prison<!–[if gte mso 9]>

Yn HMP Altcourse, ble mae llawer o ddynion o ogledd Cymru yn cael eu carcharu, yr wyf wedi dysgu gan un o’r carcharorion nad oes hawl ganddynt wylio S4C rhagor. Y mae’r sianel Gymraeg yn un o lawer o sianeli na fydd y carcharorion medru ei wylio o hyn ymlaen.  Dyma rhan o’r diwygiad yn ‘breintiau’ carcharorion gan y gwenidog Chris Grayling i lymhau ar y profiad o fod yn y carchar (fel nad oedd y profiad ddigon drwg eisioes). Nid yw bod mewn carchar yn brofiad braf yn amlwg, a mae’r hiraeth y mae’r carcharorion yn ei deimlo siwr o fod yn eu llethu ar adegau. Efallai bod clywed ychydig o Gymraeg ar y teledu yn ychydig o gysur iddynt, mewn carchar gwbl Seisnig.

Fel anarchydd, ni chredaf bod carchardai yn datrys unrhyw broblemau cymdeithasol, dim ond yn eu cuddio o olwg gweddlill cymdeithas. Ceir datganiad difyr o bersbectif anarchaidd ar garchar gan Croes Ddu Anarchaidd Brighton. Y mae charchar yn syniad diweddar yn ein hanes ac yr oedd cyfreithiau Hywel Dda er engrhaifft gyda’r pwyslais ar iawndal yn hytrach na carcharu. Mae y mwyafrif llethol o fobl mewn carchardai gyda phroblemau iechyd meddwl, yn aelod o leafrif ethnig neu o gefndir difreintiedig.

Dylai carchororion gael wylio’r sianel Gymraeg?

Taithwybodaeth y Groes Ddu Anarchaidd o Belarws yng Nghaerdydd

 Bydd Croes Ddu Anarchaidd Caerdydd yn cynnal sgwrs gan gyfaill o’r Groes Ddu Anarchaidd yn Belarws yn The Wells Hotel ar Ddydd sadwrn y 23 ain o Chwefror.Bydd bwyd fegan ar gael am gyfraniad yn dilyn y sgwrs. Dyma’r digwyddiad ar Facehook.

Amser: 6.00yh ar y 23ain o Chwefror

Lleoliad: The Wells Hotell, 77 Stryd Craddock, Glanyrafon, CF11 6EW

Dolen i wefan Croes Ddu Anarchaidd Caerdydd.

BEARUS ABC

Croeso i bawb.

Cefndir y Taithwyodaeth

Er gwaethaf croesawu rhyddhad Pavel Syramolatau ym mis Medi 2012, mae 5 cymrodyr a gefnogir gan y Groes Ddu Anarchaidd yn dal mewn carchardai ym Melarws ac yn wynebu blynyddoedd mewn carchar ers iddynt gael eu ffeindio’n euog o amrywiaeth o droseddau yn 2011.

Cafodd Artsiom Prakapenka ei garcharu am ymosod ar bencadlys y KGB yn Bobruisk, mewn unoliaeth gyda anarchwyr a cafodd eu harestio yn 2010. Mae’n wynebu 7 mlynedd o garchar.

Artsiom Prakapenka

Artsiom Prakapenka

 Mae Jauhen Vaskovich yn gwynebu yr un peth, wedi ei gyhuddo o’r un drosedd.

Gwynebai Ihar Alinevich 8 mlynedd o garchar, wei ei gyhuddo o ymosod ar y llysgenhadaeth Rwsieg yn Minsk mewn unoliaeth gyda anarchwyr o Rwsia yn yr achos Khimki a oedd o broffil uchel. Fe’i cafwyd yn euog hefyd o losgi bwriadol yn y Belarusbank ac ymosod ar ycasino ‘Shangri La’ . Mae’n gwadu y cyhuddiadau hyn i gyd, ond cafodd ei herwgipio gan heddlu cudd pan oedd ym Moscow a cafodd ei ecstradeiddio’n anghyfreithhlon i Belarws. Cafodd ei gyhuddo hefyd o gymryd rhan mewn gwrthdystiad wrth-filitaraidd ger y pencadlys y ‘Staff Cyffredinol’ yn Minsk.

 

Banner yn galw am ryddhad  Ihar Alinevich ac eraill.

Banner yn galw am ryddhad Ihar Alinevich ac eraill.

Cafodd Aliaksandr Frantskievich ei ddedfrydu i 3 blynedd o garchar am gymryd rhan mewn ymosodiad ar adeilad Ffederasiwn yr Undebau Llafur (a reolwyd gan y wladwriaeth) ac am hacio cyfrifiadurol. Er bod ganddo broblemau iechyd difrifol (dim ond un aren sydd ganddo ef) mae dal yn cael ei ddal mewn ‘cell cyn-achos llys’.

Cafwyd Mikalai Dziadok hefyd yn euog o yr ymosod ar adeiladau y ‘Shangri La’ ac yr undebau llafur, a chymryd rhan yn y gwrthdystiad wrth-militaraidd, fe’i dedfrydwyd i 4.5 mlynedd ar ôl cael ei ddal yn anghyfreithlon gan yr awdurdodau. Mae hefyd yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

 

Mikalai Dziadok

Mikalai Dziadok

Mae’r difrod troseddol y mae’r cymrodwyr yma wedi cael eu cyhuddo ohono ddim ond yn dod i swm o arian llai na ychydig ganoedd o ddoleri ym mhob achos. Maent yn cael eu cadw mewn amodau garw, adlewyrchai hyn y ffaith nad ynt yn ufuddhau i drefn y carchar.

Mae’r euogfarnau hyn yn rhan o ormes ideolegol o’r anarchwyr yn Belarws. Maent yn deillio o’r adfywiad mewn anarchiaeth ym Melarws yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wahanol i rai wledydd eraill a oedd yn gyn-aelodau o’r Undeb Sofietaidd ac unbenaethau modern eraill, nid yw anarchwyr yn ffurfio cyfran fach o’r carcharorion a wrthdystiai o blaid democratiaeth ac yn erbyn y wladwriaeth a’i llygredigaeth. Maent mewn gwirionedd bron yn cyfrio am hanner y ‘carcharorion gwleidyddol’ yn Belarws. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn bosibl cael diddymiad o’r amser carcharu os byddwch yn derbyn eich euogrwydd ac yn ysgrifennu ac erfyn am faddeuant gan y wladwriaeth. Nid yw y 5 yma yn fodlon gwneud hyn.

Mae’r ABC Belarwseg wedi ymgyrchu’n gyson iddynt gael eu rhyddhau, ac yn y tymor byr er mwyn caniatáu ymweliadau, meddyginiaeth, llythyrau a llenyddiaeth i’r carcharorion. Maent hefyd yn codi arian ar gyfer ffioedd cyfreithwyr ac i brynu bwyd i’r cymrodyr. Gyda chefnogaeth gan y Ffederasiynau Anarchaidd Rhyngwladol (IFA-IAF) y maent yn mynd ar daith drwy Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen a’r DU, er mwyn codi ymwybyddiaeth a sbarduno unoliaeth pellach. Mae siawns dda o lwyddo (oleiaf yn rhannol) oherwydd mae’r Llywydd Belarwsaidd, Alexander Lukashenko wedi mynegi dymuniad i’r wlad ymuno â’r UE. Mae son y caiff hyn ei ystyried os yw sefyllfa hawliau dynol yn y wlad yn cael ei ymdrin ag ef.

Bydd y siaradwr ABC Belarws yn y DU tua canol mis Chwefror – tan canol mis Mawrth i drafod y sefyllfa ar gyfer gweithredwyr yn y wlad ac i adeiladu unoliaeth ar gyfer y carcharorion.Os gwelwch yn dda ystyriwch drefnu cyfarfod.

Am fwy o wybodaeth am y carcharorion a’r ABC yn Belarus: http://abc-belarus.org

Y cefndir uchod wedi ei gyfieithu o’r wefan wreiddiol yma.

‘Cyfweliad gyda Jamie Befan, Ymgyrchydd Ieithyddol’ O’r ffansin ‘Ffwff’

jamie-bevan

Dyma gyfweliad wnaeth Jamie Befan i’r ail rifyn o ‘Ffwff’. Os yr hoffech gopi ebostiwch eich enw, cyfeiriad a nifer o gopiau yr hoffech i daldydin@hotmail.co.uk a nai bostio un atoch, hawdd! Cost postio 60c a gofynwn am gyfraniad o rhw bunt i Ffwff ei hyn.

Fe wnes di weithredu yn erbyn y Toriaid yn 2011, be nes di a pam nes di hyn?

Amserwyd y gweithred i gydfynd ag ymweliad David Cameron i Gaerdydd a’r Cynhadledd toriaid. Torron ni mewn i swyddfa’r toriaid yng Nghaerdydd a chwistrellu slogannau ar y waliau. Fel roedden yn disgwyl cafodd hwn llwyth o sylw. Y rheswm? Wel gweithred yn wrthwynebu y toriadau i S4C yn y bon oedd hi ond wrth gwrs mae’r peth yn mynd llawer bellach na sianel Cymraeg… Mae angen wrthwynebu unrhyw bygythiad i’r iaith Gymraeg ac ymgyrch S4C oedd y cyfle a daeth i mi. Mae wanhau’r iaith Gymraeg a’r hunaniaeth unigryw sydd gyda ni fan hyn mond yn mynd tuag at cryfhau’r ‘mono-culture’ mae cyfalafiaeth yn gwthio arnom. Byd delfrydol i’r cwmnioedd enfawr megis Tescos yw un lle ma pawb yn bwyta, siarad, gwisgo, meddwl a siopa yn yr un lle. Rhan bach ni yng nghymru o’r frwydr yn erbyn cyfalafiaeth yw’r brwydr dros y Gymraeg, er mwyn sicrhau’r hawl i bawb bod yn unigolyn.

Disgrifia’r profiad o fynd trwy’r system ‘gyfiawnder’ ac yna i’r carchar.

Poen yn y tin! Dyw’r system ddim wedi cael ei greu er mwyn wasanaethu cyfiawnder. Yn hytrach mae’r system yn gweithredu i lesteirio unrhyw fath o weithgaredd sy’n bodoli tu allan i buddion y cyfoethog a’r cwmnïau sy’n rheoli. Mae’r system cyfiawnder yn weithredu o’r safbwynt nad oes unrhyw safbwynt arall.

O ran y Gymraeg mae nhw union fel unrhyw sefydliad arall. Ma gyda nhw cynlluniau iaith ar bapur ond prin iawn ma swyddogion nhw yn cymryd y peth o ddifrif nac yn weithredu’ch hawliau. Tro ar ôl tro baswn yn cwyno iddynt am ddiffyg hwn neu’r llall yn y Gymraeg, derbyn ymdduheiriad ac yna union yr un peth yn digwydd mis lawr y ffordd.

Carchar? Mae’n hollol amlwg i unrhywun hanner gall nad yw’r system o gloi pobol lan mewn cell a gadael i ddiflastod chwalu ei meddyliau yn wneud iotyn o dda i unrhywun. Ar wahân i hwnna edrych ar yr ochor da wnes i a derbyn y cyfnod fel seibiant bach o’r byd go iawn. 

Yr oedd y sgriws yn dy drin yn wael yn y carchar pan treuliast mwy na mis o dan glo yr haf yma. Nid oedd unrhyw darpariaeth Cymraeg er gwaethaf dy brotestiadau. Oes gen ti gyngor i unrhywun sydd yn debygol o fynd i’r carchar sut y dylynt sicrhau eu bod yn cael darpariaeth Cymraeg neu sut dylent fynd ati i brotestio tra bont yn y carchar i’w hennill?

Y prif beth, i fi (a dwi’n deall bod sawl ffordd o brotestio), oedd i roi eich hunain uwchben nhw trwy ymddwyn yn cwrtais a phwyllog trwy’r amser. Tria paid a gadael eu bygythiadau upseto di. Ma nhw’n disgwyl i rhywun cico bant neu gwylltio, sdim clem da nhw beth i’w wneud os ma rhywun yn actio yn wahanol. Ti’n gweld llygaid nhw yn mynd a stem yn dod mas ei glustiau, a’i ymenydd yn dweud ‘Compiwtar says no!’Yn y pendraw beth alla nhw wneud i ti na allet ti ymdopi gyda? Bwydo ti crap, atal alwadau ffon, atal ymweliadau.So what? O’n i’n eistedd yna yn meddwl ‘Wel, fi sydd yn iawn’. Mae’n anhygoel faint o nerth mae gwybod eich bod chi’n iawn yn rhoi i chi. Os ti’n iawn, ti’n iawn a does neb yn gallu cymryd hwnna i ffwrdd o ti.

Roedd y sgriws jest yn weithredu fel ma nhw wedi cael ei hyfforddi, diffyg ymwybyddiaeth a diffyg parch at phobol yn gyffredinol, dim awydd i ddangos esiampl da nac enyn parch.

Ni wnaeth y cyfrayngau Cymraeg dalu hanner digon o sylw i dy brotest yn y ddwy mlynedd diwethaf yma yn fy marn i. Gwylltiais wrth weld Golwg yn rhoi rhyw gyflwynydd deledu di-dalent ar eu blaendalen tra yr oeddet ti yn y carchar drost yr iaith!  Ni welais siw na miw am dy safiad. Paham ti’n meddwl fod y cyfryngau fel hyn yng Nghymru? Nid oedd y cyfryngau fel hyn 20 mlynedd yn ol.

Dwi’n meddwl mi gafodd y carchariad tipyn o sylw yn enwedig wedi i mi gwrthod cydymffurfio a’i system seisnigaidd o fewn y carchar. Un peth a gwylltiodd fi oedd i eistedd yn fy nghell a gwylio datganiad ar y newyddion gan y comisiynydd a llywodraethwr y carchar yn dweud bod popeth wedi sortio a bod gwasanaeth Gymraeg nawr ar gael yn y carchar. Hwn 2 munud ar ôl i’r sgriw dweud i fi ‘You’ll be eating shit for the next fornight unless you fill in that form!’ I meddwl bod yr awdurdodau yn gallu cael ei celwyddau mas mor cyhoeddus tra roedd y sefyllfa dal yn parhau, wel roedd hwnna’n tipyn o ysgytwad. Yn y bon, dyn ni’n trio defnyddio’r wasg i’n fantais ni ond llais y system a’r chyfoethog ydynt yn y pendraw ac yn rhan o’r ymdrech i gadw y poblogaeth i lawr ac yn gweithio. Dyna pam mae ddulliau cyfarthrebu amgen mor bwysig, ddulliau nad oes ganddynt reolaith drosto fel y wasg anibynol, graffiti, y we, FFWFF! a.y.b.

Yr wyt wedi bod yn y carchar ddwywaith, wyt ti’n meddwl byddyn nhw yn dy roi yn y carchar trydedd tro am dy weithred?

Pwy a wyr? Dwi ddim yn bwriadu talu dirwy nhw (£1000 od, sydd yn cynnwys £12 o iawndal i ailfframio llun o Winston Churchill!). Soi di clywed unrhywbeth ganddynt eto ond cawn weld. Tasa nhw ddim yn danfon fi nol am fethu a talu ma fe fel bo nhw’n cyfaddef nad yw’r system yn gweithio ac yn y pendraw yr unig peth sy gyda nhw drosto ti yw ofn. Os nad wyt ti’n ofni unrhywbeth does dim gafael gyda nhw drosto ti ac yna rwyt ti’n rydd (wel rhydd o un aspect o’r system mawr ma ta beth).

Yr wyt yn wreiddiol o Ferthyr Tudfil. Beth wyt ti’n credu rhaid newid i’r Gymraeg fod yn brif iaith gymunedol ym Merthyr unwaith eto?

Agwedd. Ar sawl lefel. Os mae agweddau tuag at y Gymraeg yn newid o fewn yr awdurdod efallai byddent yn gallu ymateb yn well i’r galw am yr Iaith Gymraeg. Mae’n syndod faint o bobol sy’n cefnogi cynnal yr iaith, sydd ddim wdi cael y cyfle ond sydd dal am weld dyfodol. Ar yr un llaw ma dych chi awdurdod lleol sy’n palu cachu ambyti ‘does neb eisiau’r iaith’ ‘Mae’r iaith yn rhy ddrud’ ‘blah blah blah’ ac ar y llaw arall ma gyda chi’r tystiolaeth o gwmpas chi bod pobol yn  gyffredinol yn weld werth mewn cadw’r iaith.

Cefaist dy arrestio pan ddoth Mrs Windsor i Ferthyr, be ydi dy farn di ar y frenhiniaeth?

Bag o rwtch! Dyn ni’n clywed tro ar ôl tro ein bod yn gwlad democrataidd ac yn defnyddio hwnna fel sail i fynd i ryfel ond y wirionedd yw rith yw’r cyfan. Sut allwn cyfiawnhai teulu sydd yn byw oddi ar y bobol cyffredin sydd heb ei ethol na dewis gan y pobol, sydd uwchben pob math o gyfraith gan gynnwys gyfreithiau rhyddid gwybodaeth. Nobs!

Wyt ti yn rhan o unrhyw ymgyrchoedd ar y funud?

Ambell i un! Y rhan fwyaf yn ymwneud a’r iaith Gymraeg gan mai hwnna yw fy nghyfle i i frwydro yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol byd eang. Os gallwn amddiffyn a pharchu ein bodolaeth ni fel unigolion unrigryw byddwn mewn well lle i wneud yr un peth i unigolion y byd drosodd.

O ble yr wyt ti’n cael y nerth i barhau i ymgyrchu yng ngwyneb yr holl apathi?

Trwy gwybod fy mod i’n iawn, trwy dderbyn ma na sawl ffordd i wneud pethau (a derbyn bod angen sawl plan o attack er mwyn cyrraedd y nod), fy nheulu.

Oes unrhywbeth arall yr hoffet ychwanegu?

Dim ond trwy gwerthfawrogi a chadw yr hyn sydd gyda ni i gynnig y byd gallwn wirioneddol gwerthfawrogi a chadw yr hyn sydd gydag eraill i’w cynnig.

Oh ie, pob bendith i Ffwffs!

Diolch i ti am dy safiad(au!) a diolch am y cyfweliad yma gyda FFWFF!