“CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth”

cwiâr yr hyn/rhai sydd yn gwrth i’r gwahanrywiaeth gorfodol, sydd yn gwrth i’r hetero a’r heteronormatif, sydd yn gwrth i’r unturywedd, gwrth i’r homoffobia, i’r trawsffobia ac i batriarchiaid arall. gwrth fel gwrthodedig ond hefyd gwrth fel gwrthwynebus. nid yn syth ac yn gywir ond ar gam. nid hoywon hapus, ond cwiâriaid grac.

Mae’r pamffled byr “CWIÂR: Y Gymraeg vs Hetero-Batriarchaeth” ar gael fel pdf isod.

Dyma anerchiad grac a gwrth-gymathol yn erbyn hetero-batriarchaeth. Mae’n cwffio trawsffobia, homoffobia a “chachwrs patriarchaidd”. Yn dilyn eraill, mae’n defnyddio’r gair cwiâr fel Cymregeiddiad o’r gair Saesneg queer. Yn ogystal, mae’n cynnwys cwiâriadur – geiriadur o eiriau cwiâr a thraws, yn y Gymraeg. Lyfli.

Mae’r pamffled ar gael mewn ffurf darllen neu argraffu (a lledu!) – cliciwch ar y dolennau isod i’w weld a/neu lawrlwytho!

CwiarDarllen.pdf

CwiarPrintio.pdf

 

(I gysylltu a’r pamffled, ebostiwch “cwiar(at)riseup(dot)net”. (nodwch y newid yng nghyfeiriad ers yr argraffiad cyntaf))

 

Ffeminyddion yn cwffio Transffobia

mynegai

Yr oedd y cyfieithiad yma gan Anarchist Welsh Translation

Rydym yn falch o gyflwyno datganiad ar y cyd, hynny yw, at ein gwybodaeth (a byddem wrth ein bodd i fod yn anghywir) y cyntaf o’i fath.  Yn y testun hwn byddwch yn canfod datganiad o undod ffeministaidd gyda hawliau trans*, a lofnodwyd gan ffeministiaid /menywyddion o wledydd gwahanol sy’n dymuno i gadarnhau y gall a dylai ffeministiaeth / menywyddiaeth fod yn gartref ar gyfer pobl trans* yn ogystal â sis.  Mae wedi cael ei lofnodi gan ymgyrchwyr, blogwyr, academyddion, ac artistiaid. Yr hyn yr ydym i gyd yn argyhoeddedig y dylai ffeministiaeth groesawu pobl trans* a bod pobl trans* yn hanfodol i genhadaeth ffeministiaeth i eirioli ar gyfer menywod a phobl eraill sydd wedi eu gormesu, eu hecsbloetio, ac eraill sydd ar y cyrion o ganlyniad i systemau a phobl batriarchaidd a  gwreig-gasäwyr.

Os ydych yn blogiwr(aig)/ awdur(es) / academydd / addysgwr(aig) / artist / ymgyrchydd /neu mewn sefyllfa o unrhyw fath i gael argraff ar drafodaeth neu weithredu ffeministaidd neu menwyaidd ac yr hoffech i lofnodi’r datganiad hwn, rhowch wybod i ni!  Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar y dudalen gyswllt neu gallwch yrru e-bost atom.  Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Datganiad o Ffeministiaeth a Menywyddiaeth Trans-Gynhwysol.

Rydym ni, yr ysgolheigion, awduron, artistiaid, ac addysgwyr, trans* a sis sydd wedi llofnodi isod yn dymuno yn gyhoeddus ac yn agored i gadarnhau ein hymrwymiad i ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n trans*-gynhwysol.

Bu cynnydd amlwg mewn gweithgarwch ffeministaidd dransffobig yr haf hwn gan gynnwys: y llyfr sydd ar y gweill gan Sheila Jeffreys o Routledge, y llythyr dienw gelyniaethus ac yn fygythiol at Dallas Denny ar ôl iddi a Dr Jamison Green ysgrifennu at Routledge ynghylch eu pryderon am y llyfr, a’r datganiad a ddosbarthwyd yn eang yn ddiweddar o’r enw “Forbidden Discourse: The Silencing of Feminist Critique of ‘Gender’” wedi’i lofnodi gan nifer o ffeminyddion amlwg, ac yr ydym yn gresynu i ddweud, cyfeiliornus. Dyma sydd wedi bod yn arbennig o amlwg.  Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn yr hinsawdd o dransffobia prif ffrwd ffyrnig sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn y sylw a roddir i dreial Chelsea Manning a datganiad dilynol ynghylch ei hunaniaeth o ran rhywedd, a’r llofruddiaethau diweddar o ferched draws ifanc o liw, gan gynnwys Islan Nettles a Domonique Newburn, y targedau diweddaraf mewn hanes hir o drais yn erbyn menywod traws o liw.  O ystyried y digwyddiadau hyn, mae’n bwysig ein bod yn siarad o blaid ffeministiaeth a menywyddiaeth sy’n cefnogi pobl trans*.

Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a pharchu’r adeiladu cymhleth o hunaniaethau rhywedd /rhyw, i gydnabod menywod trans* fel menywod ac yn eu cynnwys holl ofodau sydd ar gyfer menywod; i gydnabod dynion trans* fel dynion a gwrthod y naratif o ddyn sy’n eu gwahardd rhag unrhyw beth, i gydnabod y fodolaeth cwiars, di-deuaidd, adnabod pobl a derbyn eu dynoliaeth; ar gyfer ymchwil trylwyr, meddylgar a nuanced a dadansoddiadau rhyw, rhywedd, a rhywioldeb sy’n derbyn pobl trans* fel awdurdodau ar eu profiadau eu hunain ac yn deall bod y cyfreithlondeb eu bywydau ddim yno ar gyfer i neb ei drafod, ac i ymladd yr ideolegau deublyg o trawsffobia a phatriarchaeth yn eu holl ffurfiau.

Mae ffeministiaeth trawsffobig yn gwrthod cydnabod llawer o bobl trans* a phobl ciwar fel ffeministiaid neu menywyddion a llawer o ffeministiaid/menywyddion sis gyda’u chwiorydd, brodyr, ffrindiau, a chariadon trans*,  mae’n ffeministiaeth sydd yn rhy aml yn eu gwrthod, ac nid y gwrthwyneb. Mae’n anwybyddu’r pwysau hanesyddol a roddir gan y proffesiwn meddygol ar bobl trans* i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw anhyblyg er mwyn cael y “rhodd” o’r cymorth meddygol y maent fel bodau dynol gyda hawl iddo.  Drwy osod “menyw” fel hunaniaeth gydlynol, sefydlog mae ffeminyddion transffobig yn ei blismona, mae ffeminyddion transffobig yn gwrthod mewnwelediad dadansoddi croesdoriadol, yn darostyngu bob hunaniaeth arall i fenywdod a phob gorthrymder arall i batriarchaeth.  Maent yn gwrthod cydnabod eu pŵer a braint hunain.

Rydym yn cydnabod bod ffeministiaid transffobig wedi defnyddio trais a bygythiadau o drais yn erbyn pobl trans* a’u partneriaid, ac rydym yn condemnio ymddygiad o’r fath.  Rydym yn cydnabod bod rhethreg transffobig yn cael effeithiau niweidiol iawn ar fywydau go iawn bobl trans*; tyst i hyn yw carchariad CeCe MacDonald mewn cyfleuster ar gyfer dynion.  Rydym hefyd yn cydnabod y niwed penodol mae transffobia yn achosi i bobl trans* o liw pan fydd yn cyfuno â hiliaeth, a’r trais mae’n annog.

Pan mae ffeministiaid eithrio menywod trans* o lochesi fenywod, bydd menywod trans* yn cael eu gadael yn agored i’r mathau gwaethaf o wreig-gasineb treisgar, boed mewn llochesi i ddynion, ar y stryd, neu mewn cartrefi sy’n cam-drin.  Pan bo ffeministiaid mynnu bod menywod trans* yn cael eu heithrio o ystafelloedd ymolchi merched a bod pobl cwiar yn dewis ystafell ymolchi wedi eu marchio’n ddeuol, maent yn gwneud cymryd rhan yn y sffêr cyhoeddus yn amhosibl bron, ac yn cydsynio ag anystwythder o hunaniaeth rhywedd sef be mae ffeministiaeth wedi ymladd yn ei herbyn yn hanesyddol, a chodi rhwystr arall i gyflogaeth y bobl hyn.  Pan fo ffeministiaid dysgu tranasffobia, maent yn gyrru myfyrwyr trans* i ffwrdd oddi wrth addysg a’r cyfleoedd y mae’n ei ddarparu.

Rydym hefyd yn gwrthod y syniad bod beirniadaethau ymgyrchwyr trans* o ragfarn trawsffobig yn “tawelu” unrhyw un.  Nid yw beirniadaeth yr un fath â distewi. Rydym yn cydnabod bod y pwyslais diweddar ar y rhethreg dreisgar hon yn ôl y ffeministiaid transffobig yn dod o fenywod trans* ar-lein, a bod hyn yn anwybyddu’r 40 a mwy o’r hanes o rethreg dreisgar a dileol wedi ei leisio gan ffeministiaid amlwg yn erbyn menywod trans*, dynion trans* , a phobl cwiar.  Mae’n anwybyddu’r strategaeth fwriadol rhai o ffeministiaid trawsffobig adnabyddus o gymryd rhan mewn aflonyddu afieithus a pharhaus, a phrofocio pobl trans*, yn enwedig menywod trans*, yn y gobaith o ysgogi ymatebion dig, sydd wedyn yn cael eu defnyddio i beintio portread ffug o fenywod trans* fel gormeswyr a menywod ffeministaidd sis fel dioddefwyr. Mae’n anwybyddu bod y ‘dod allan’ o fenywod trans* yn gyhoeddus mae rhai ffeministiaid trawsffobig wedi cymryd rhan ynddo, waeth beth y niwed y mae’n ei wneud i fywydau’r menywod, a’r perygl y mae’n eu rhoi’r menywod trans* ynddo.  Mae’n dibynnu ar y rhethreg niweidiol o euogrwydd ar y cyd, gan ddefnyddio unrhyw enghraifft o rethreg dreisgar o’r fath, dim ots y ffynhonnell – a’r dicter gellid ei gyfiawnhau gan unrhyw fenyw trans* – i gondemnio pob menyw trans*, ac i gyfiawnhau eu gwaharddiad parhaus a’r gwrthod parhaus o’u hawliau sifil.

P’un a ydym yn sis, trans*, deuaidd-nodedig, neu cwiar, ni fyddwn yn gadael i disgwrs ffeministaidd neu menywyddol lithro’n ôl neu fynd yn ferddwr, byddwn yn bwrw ymlaen yn ein dealltwriaeth o ryw, rhywedd, a rhywioldeb ar draws disgyblaethau gwahanol.  Er ein bod yn parchu enillion mawr a brwydrau caled a ymladdwyd gan ymgyrchwyr yn y 1960au a’r 1970au, rydym yn gwybod nad yw’r ymgyrchwr hynny yn anffaeledig a ni all cynnydd stopio gyda hwy os ydym yn gobeithio aros yn ddeallusol onest, moesol, ac yn wleidyddol effeithiol.  Yn bwysicaf oll, rydym yn cydnabod nad yw damcaniaethau yn fwy pwysig na fywydau go iawn bobl go iawn, byddwn yn gwrthod unrhyw ddamcaniaeth o ran rhyw, rhywedd neu rywioldeb sy’n galw arnom i aberthu anghenion unrhyw grŵp gorthrymedig neu sydd ar y cyrion.  Mae pobl yn fwy pwysig na theori.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dosbarthiadau, ein hysgrifennu, ac mae ein hymchwil yn gynhwysfawr o fywydau pobl trans*.

‘Sis’- Gair a fathwyd am ‘cis’