Eisteddwch yn Llonydd

Eisteddwch yn Llonydd

gan Hwntw Arall

 

heddlumas

 

Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.

[Trefnwyr yr Eisteddfod yn baratoi am fygythiad Swffragetiaid, 1912]

 

A oes heddlu? Oes!
A oes pris mynediad? Oes!
A oes snobyddiaeth? Oes!

 

Y crachach a drefnodd yr Eisteddfod fodern. Rhan o ymgeision uwch-Gymru’r Oes Fictoria i buro’r genedl: dros Gymru ufudd, Cymru’r Beibl, Cymru parchus. Eu neges i bendefigion Loegr (ac i’w hun): Nid Cymry oedd Cymry terfysgoedd ‘Beca, nid iaith helyntus yw’r Gymraeg.

Mae ystyr “parchus” wedi newid wrth gwrs. Siwr, heddiw cawn yfed cwrw ar y maes a chawn jôcs budr a direidi ar y llwyfan (digon i droi bol Syr O. M. a’i fab – ac eraill hyd heddiw!). Ond cawn hefyd stondin i’n heddlu treisgar, stondinau i’r gwleidyddion cachaidd ac yn gynyddol i gorfforaethau di-wyneb.

(Ife hyn yw ein diwylliant, neu gyfle hysbysebu? Ni chawn drafod ar ôl y toriad)

Ond mae digon o “gythryblwyr” sydd wedi ac sydd yn herio’r trefn. Pe bai’n werinos Abertawe yn dwyn seddi’r crach yn Steddfod 1891, neu werinos heddiw yn ail-baentio stondinau, neu geir, neu yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn neu dros wasanaethau Cymraeg i blant, neu jest babell o feirdd yn anerchi’n eu tro yn erbyn bomiau ‘drones’ Prydeinig, ma traddodiad hir o Eisteddfodwyr radical.

syrifan

[Syr Ifan yn penderfynu bod angen chwyldro, Eisteddfod yr Urdd, 1927]

Maes i frwydro ynddi, maes i’w meddianu yw’r Eisteddfod felly. Dyma ein diwylliant, yn ôl pob sôn, ond nid ni sydd a’u meddiant. Da ni’n haeddu mwy na’r hyn ma nhw’n rhoi. Am yr holl genedlaethau o Gymry a ecsbloetiwyd, ac am ein hecsploetio heddiw, da ni’n haeddu Eisteddfod am ddim, a mwy eto. Eisteddfod heb heddlu. Eisteddfod heb gatiau. Eisteddfod sydd yn rhan o’r fro ac yn fflam dros Gymreigeiddio, nid ynys breifat a noddwyd gan gwmni wedi’u cuddio yn rhyw gae. Mae’n hen bryd i ‘Beca codi yn erbyn tollbyrth yr Eisteddfod.

Gloi nawr, cyn i’r stiwardiaid cau’r drysau.

 

nidoesheddlu

 

__________________________________
Beth am gasglu archif Eisteddfod radical? Dyma chydig casglais yn gloi.
Rhowch sylwad isod i ychwanegu mwy.

(Wrth gwrs, odd yr uchod yn son am “yr” Eisteddfod (Genedlaethol), ac ma pethe’n debyg iawn o ran Eisteddfod yr Urdd. Ond diddorol fydde cymharu hyn ag Eisteddfodau eraill. Odd croeso i’r heddlu yn Eisteddfod y Glowyr? Odd y crachach yn ddominyddu Eisteddfodau bwrlymus Merthyr yn yr 1820au?)

1891
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
Digon o helynt pan wnaiff dorf gwlyb a oedd wedi danto ar eistedd yn y glaw (chwalwyd rhan o’r pafiliwn gan storm) rhuthro i gymryd seddi cadw y crach yn y blaen (yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wag, ac o dan cysgod gweddill y pafiliwn). Ma Syr O.M ei hun yn ysgrifennu am ei ofn ar yr achlysur (yr oedd ef yn eistedd yn y seddi blaen yn barod, wrth gwrs).
[Ma Hywel Teifi Edwards yn ysgrifennu amdani yn llyfr a chyhoeddwyd gydag Eisteddfod diweddarach a ddigwyddodd yn Abertawe, rhaid i fi ei ffeindio a’u dyfynnu..]

1912
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Swffragetiaid yn brotestio yn ystod ymweliad David Lloyd George.
https://www.casgliadywerin.cymru/story/378341

1957
Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
Paul Robeson, y canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil yn yr UDA a sawl achos arall, yn siarad dros ddolen trawsiwerydd i Will Paynter.
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

1958
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy
Paul Robeson yn dod i siarad yn bersonol, ar ôl i lywodraeth yr UDA ail-ganiatau ei basbort.
“You have shaped my life – I have learned from you. I am part of the working class.”
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

2006
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
“Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith Newydd ym mhabell y Blaid Lafur.”

2011
Eisteddfod yr Urdd, Abertawe
“Protest S4C – Rhaid i Cyw Fyw!”
http://archif.cymdeithas.org/2011/05/31/protest_s4c_-_rhaid_i_cyw_fyw.html

2014
Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd
“Cymdeithas yr Iaith yn amgylchynu Carwyn Jones a galw arno i ‘ddeffro’ ynglyn a sefyllfa’r Gymraeg, ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014”

2015
Eisteddfod yr Urdd, Llancaiach Fawr, Caerffili
Protest yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn o flaen stondin Prifysgol Aberystwyth.
http://www.bbc.com/cymrufyw/32932881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod
“Chwistrellwyd “Rydym ni yn Tazerio Plant” ac “ACAB” ar uned Dyfed-Powys yn yr Eisteddfod yn ol y wefan Indymedia. Dywed fod y weithred hon mewn unoliaeth a’r sawl sydd wedi profi creulondeb a thrais gan yr Heddlu.”
https://anerchiadanarchaidd.wordpress.com/2015/08/11/gweithredu-yn-erbyn-heddlu-dyfed-powys-yn-eisteddfod-meifod-2015/

“Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Cymraeg Ail Iaith, wrth iddyn nhw sgrapio car ar faes yr Eisteddfod ym Meifod”

2016
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
“Protest yn erbyn toriadau i wasanaethau Cymraeg i Blant”
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/226726-protest-yn-erbyn-toriadau-i-wasanaethau-cymraeg-i-blant-3

Advertisements

Lawnsio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Arlein!

Mae Anarchwyr De Cymru, Croess Ddu Caerdydd, Bwyd Nid Bomiau Cymru, Rhwydwaith Sgwatwyr Caerdydd a grwpiau tebyg angen gwasanaeth cyfieithu Cymraeg effeithiol a chyson.

Mae’r rhestr ebyst welshtranslation@lists.riseup.net yn un o gyfieithwyr gwirfoddol sy’n medru gwneud y gwaith yma. Byddwn ond yn cyfieithu:

Dogfennau / posteri / taflenni / gwefannau ac ati sydd yn di-elw, nad ynt yn hierarchaidd ac o safbwynt anarcho-sosialaidd (mwy neu lai).

Y syniad yw hyrwyddo yr e-bost i grwpiau ymgyrchu yng Nghymru, yna maent yn medru anfon beth bynnag y maent angen ei gyfieithu atom. Mi fydd gwirfoddolwyr sydd ar y rhestr ebyst yn optio imewn i gyfieithu ac yna yn ei bostio fynnu ar y grwp mewnol i’r cyfieithiad gael ei brawfddarllen. Yna caiff y cyfieithiad gorffenedig yn cael ei yrru nol at y grwp/pobl a wnaeth ofyn amdano.

ACC

Mi fyddym yn cychwyn ar cyfieithu gwefan ‘Frack Free Wales’  (heb ei lawnsio eto) fel ein prosiect cyntaf.

Mae’r frwydr dros hawliau iaith yng Nghymru yn frwydr yn erbyn Globaleiddio. Dylai propaganda ymgyrchoedd anarcho-sosialaidd, amgylcheddol a.y.y.b. fod yn ddwyieithog yng Nghymru.

Ydych chi eisiau gwirfoddoli? Ebostiwch ar welshtranslation@lists.riseup.net a cewch eich hysgwannegu i’r rhestr ebyst!