Eisteddwch yn Llonydd

Eisteddwch yn Llonydd

gan Hwntw Arall

 

heddlumas

 

Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.

[Trefnwyr yr Eisteddfod yn baratoi am fygythiad Swffragetiaid, 1912]

 

A oes heddlu? Oes!
A oes pris mynediad? Oes!
A oes snobyddiaeth? Oes!

 

Y crachach a drefnodd yr Eisteddfod fodern. Rhan o ymgeision uwch-Gymru’r Oes Fictoria i buro’r genedl: dros Gymru ufudd, Cymru’r Beibl, Cymru parchus. Eu neges i bendefigion Loegr (ac i’w hun): Nid Cymry oedd Cymry terfysgoedd ‘Beca, nid iaith helyntus yw’r Gymraeg.

Mae ystyr “parchus” wedi newid wrth gwrs. Siwr, heddiw cawn yfed cwrw ar y maes a chawn jôcs budr a direidi ar y llwyfan (digon i droi bol Syr O. M. a’i fab – ac eraill hyd heddiw!). Ond cawn hefyd stondin i’n heddlu treisgar, stondinau i’r gwleidyddion cachaidd ac yn gynyddol i gorfforaethau di-wyneb.

(Ife hyn yw ein diwylliant, neu gyfle hysbysebu? Ni chawn drafod ar ôl y toriad)

Ond mae digon o “gythryblwyr” sydd wedi ac sydd yn herio’r trefn. Pe bai’n werinos Abertawe yn dwyn seddi’r crach yn Steddfod 1891, neu werinos heddiw yn ail-baentio stondinau, neu geir, neu yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn neu dros wasanaethau Cymraeg i blant, neu jest babell o feirdd yn anerchi’n eu tro yn erbyn bomiau ‘drones’ Prydeinig, ma traddodiad hir o Eisteddfodwyr radical.

syrifan

[Syr Ifan yn penderfynu bod angen chwyldro, Eisteddfod yr Urdd, 1927]

Maes i frwydro ynddi, maes i’w meddianu yw’r Eisteddfod felly. Dyma ein diwylliant, yn ôl pob sôn, ond nid ni sydd a’u meddiant. Da ni’n haeddu mwy na’r hyn ma nhw’n rhoi. Am yr holl genedlaethau o Gymry a ecsbloetiwyd, ac am ein hecsploetio heddiw, da ni’n haeddu Eisteddfod am ddim, a mwy eto. Eisteddfod heb heddlu. Eisteddfod heb gatiau. Eisteddfod sydd yn rhan o’r fro ac yn fflam dros Gymreigeiddio, nid ynys breifat a noddwyd gan gwmni wedi’u cuddio yn rhyw gae. Mae’n hen bryd i ‘Beca codi yn erbyn tollbyrth yr Eisteddfod.

Gloi nawr, cyn i’r stiwardiaid cau’r drysau.

 

nidoesheddlu

 

__________________________________
Beth am gasglu archif Eisteddfod radical? Dyma chydig casglais yn gloi.
Rhowch sylwad isod i ychwanegu mwy.

(Wrth gwrs, odd yr uchod yn son am “yr” Eisteddfod (Genedlaethol), ac ma pethe’n debyg iawn o ran Eisteddfod yr Urdd. Ond diddorol fydde cymharu hyn ag Eisteddfodau eraill. Odd croeso i’r heddlu yn Eisteddfod y Glowyr? Odd y crachach yn ddominyddu Eisteddfodau bwrlymus Merthyr yn yr 1820au?)

1891
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
Digon o helynt pan wnaiff dorf gwlyb a oedd wedi danto ar eistedd yn y glaw (chwalwyd rhan o’r pafiliwn gan storm) rhuthro i gymryd seddi cadw y crach yn y blaen (yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wag, ac o dan cysgod gweddill y pafiliwn). Ma Syr O.M ei hun yn ysgrifennu am ei ofn ar yr achlysur (yr oedd ef yn eistedd yn y seddi blaen yn barod, wrth gwrs).
[Ma Hywel Teifi Edwards yn ysgrifennu amdani yn llyfr a chyhoeddwyd gydag Eisteddfod diweddarach a ddigwyddodd yn Abertawe, rhaid i fi ei ffeindio a’u dyfynnu..]

1912
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Swffragetiaid yn brotestio yn ystod ymweliad David Lloyd George.
https://www.casgliadywerin.cymru/story/378341

1957
Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
Paul Robeson, y canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil yn yr UDA a sawl achos arall, yn siarad dros ddolen trawsiwerydd i Will Paynter.
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

1958
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy
Paul Robeson yn dod i siarad yn bersonol, ar ôl i lywodraeth yr UDA ail-ganiatau ei basbort.
“You have shaped my life – I have learned from you. I am part of the working class.”
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

2006
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
“Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith Newydd ym mhabell y Blaid Lafur.”

2011
Eisteddfod yr Urdd, Abertawe
“Protest S4C – Rhaid i Cyw Fyw!”
http://archif.cymdeithas.org/2011/05/31/protest_s4c_-_rhaid_i_cyw_fyw.html

2014
Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd
“Cymdeithas yr Iaith yn amgylchynu Carwyn Jones a galw arno i ‘ddeffro’ ynglyn a sefyllfa’r Gymraeg, ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014”

2015
Eisteddfod yr Urdd, Llancaiach Fawr, Caerffili
Protest yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn o flaen stondin Prifysgol Aberystwyth.
http://www.bbc.com/cymrufyw/32932881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod
“Chwistrellwyd “Rydym ni yn Tazerio Plant” ac “ACAB” ar uned Dyfed-Powys yn yr Eisteddfod yn ol y wefan Indymedia. Dywed fod y weithred hon mewn unoliaeth a’r sawl sydd wedi profi creulondeb a thrais gan yr Heddlu.”
https://anerchiadanarchaidd.wordpress.com/2015/08/11/gweithredu-yn-erbyn-heddlu-dyfed-powys-yn-eisteddfod-meifod-2015/

“Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Cymraeg Ail Iaith, wrth iddyn nhw sgrapio car ar faes yr Eisteddfod ym Meifod”

2016
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
“Protest yn erbyn toriadau i wasanaethau Cymraeg i Blant”
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/226726-protest-yn-erbyn-toriadau-i-wasanaethau-cymraeg-i-blant-3

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

gan Hwntw Arall

 

Mi welwn wyr y Senedd yn ngrynhoi y’nghyd
Yn erbyn y tylodion yn gysson oll i gyd,
I godi cyfraith newydd, annedwydd oedd eu nad
A gwneud carcharau creulon i dlodion yr holl wlad.

Dyma bennill o hen faled y “Breuddwyd Hynod”: pennill rhu perthnasol i’n presennol hunllefus.

 

Wyrkhws, Tlodion a’r “Proletariat”

Mae’r baledwr Ywain Meirion yn ymosod ar drefn y wyrkhws. Tybiwyd y cenir am y tro gyntaf yn 1834, blwyddyn Deddf Newydd y Tlodion. Estynnwyd y system wyrkhws gan y ddeddf newydd. Dan y system hon carcharwyd tlodion yn llafurdai, lle gorfodwyd i weithio’n ddi-dâl.

Diffiniwyd “tlodion” gan y ddeddf fel rhai oedd yn gorfod llafurio er mwyn cynnal eu hun, rhai oedd yn gorfod gweithio er mwyn ennill eu bara beunyddiol [1]. Dyma ddiffiniad Karl Marx am y “proletariat” ychydig o flynyddoedd yn hwyrach: rheini heb ddim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Wrth gwrs, nid oedd angen i bawb gweithio – nid oedd pawb yn dlawd. Roedd gan y tirfeddianwyr a’r cyfalafwyr (a pherchnogion y llafurdai!) rent ac elw er mwyn bodoli. Ond fel mae Ywain Meirion yn ein hatgoffa, ni fydd gan y cyfoethog dim byd heb iddynt allu ecsploetio llafur y tlodion:

Pe gyrrid y tylodion i gyd o Frydain Fawr,
Ni fyddai ond boneddigion yn union yno’n awr:
Ffarwel am dreth i’r Brenin, na chwaith am drin y tir,
Na llongwr, crefftwr, sawdwr, na gweithiwr, dyma’r gwir.
[na chwaith llienwragedd, morwynion, droellwragedd, mamau…]

 

Caethiwo a Disgyblu

Pwrpas y wyrkhws oedd gweinyddu, rheoli a disgyblu’r tlodion. Ni chyfunwyd y disgyblu hyn i’r tlodion tu fewn i’w muriau yn unig: roedd yr adeiladau hefyd yn fygythiad parhaol i bawb oedd yn brwydro dros eu bywoliaeth tu allan iddynt. Os nad oeddynt yn gallu goroesi (talu am rent, am fwyd) trwy weithio tu allan i’r wyrkhws, fydd rhaid iddynt weithio tu mewn, dan amodau gwaeth eto, llawn cosbau llym a heb dal. Dyma’r “gwirionedd” a orfodwyd ar y byd: nid oes bywyd tu hwnt i waith. Felly bathwyd y dosbarth gweithiol.

Llaw yn llaw i’w disgyblaeth o’r tlawd, roedd gan y wyrkhws swyddogaeth o ran disgyblu rhywedd, y teulu, gallu, crefydd a hil. Rhannwyd y wyrkhws yn llym yn ôl rhywedd ac oedran, a orfodwyd rôliau penodol yn ôl hyn. Os anfonwyd tad i wyrkhws, rhaid i’w holl deulu mynd yn ogystal, er iddynt wedyn byw i’r rhan fwyaf ar wahan – deliodd y stad a’r dosbarth gweithiol yn ôl unedau teuluol, ond deallwyd a ffurfiwyd yr unedau hyn trwy ddisgyblaeth llym o’r rôliau teuluol gwahanol.

Bydd Mari Morgan hefyd, yn d’wedyd yr un dôn
Nad eill y nos gynhesu yn siwr heb gwm’ni Siôn…

Carcharwyd plant amddifad (fel yn Oliver Twist) – y wyrkhws yn gweithredu fel teulu sefydliadol [2]. I’r tlawd heb y gallu i weithio o gwbl (y tost, yr hen a’r anabl) na chefnogaeth arall, bywyd anodd y wyrkhws oedd yr unig fodd o oroesi. Cystadlodd y wyrkhws a’r gwallgofdy (asylum) i garcharu’r “gwallgof” (a gynyddol gaethiwyd ers yr oes fodern gynnar) [3]. Yr Eglwys Anglicanaidd oedd crefydd sefydledig y wyrkhws – caniatawyd rhai gwasanaethau anghydffurfiol ond ni chaniatawyd caplaniaid Catholig. I Iddewon, roedd ymarfer eu diwylliant a chrefydd yn y wyrkhws yn amhosib.

Oes y wyrkhws oedd hefyd oes y carchar, y ffatri, yr ysbyty ac yn hwyrach yr ysgol . Dyfeisiwyd a diwygiwyd gan yr un biwrocratiaid a chyfalafwyr tuag at yr un pwrpas o ddisgyblu a “chywiro’r” tlawd. Roedd gan y ffatri a’r ysbyty drysau dan glo yn ogystal i’r carchar a’r wyrkhws. Dyma ddatblygiad y “caethder mawr“, lle carcharwyd lluoedd o werin Ewrop wrth iddynt cael eu gorfodi oddi wrth y tir ar ddiwedd y canol oesoedd. [4]

CynllunWyrkhws

[Cynllun wyrkhws gynnar ar ffurf groes: y meistr yn y canol â’r trigolion wedi rhannu yn ôl oedran a rhywedd]

 

Llafur Di-dâl

Mae tybiaethau yn llyfryddiaeth Marx y bydd gwaith di-dâl a rhwymedig yn diflannu dros amser, wrth i gyfalafiaeth “aeddfedu”. Ond er bod pŵer, yn sawl man ac achos, nawr yn disgyblu trwy foddau llai “galed”, mae gwaith di-dâl heb os yn parhau fel rhan angenrheidiol o’r system gyfalafol. Tu mewn i garchardai ecsbloetiwyd llafur di-dâl, wrth i garcharorion creu dillad milwrol neu feinciau “cymunedol”. Tu allan, mae workfare a phrosiectau tebyg yn aros os nad yn lledu. Mae caethwasiaeth eu hun, lle nid yn unig ydi’r gwaith yn ddi-dâl ond mae’r person sy’n gweithio yn eiddo i’r caethfeistr, yn parhau – nid fel arhosiad o ryw oes gynt ond fel elfen bwysig bresennol o gyfalafiaeth. A thu allan o’r gweithle a’r carchar – yn y cartref ac yn weddill ein bywyd pob dydd mae llafur di-dâl, rhyweddol, yn hanfodol i barhad ac atgynhyrchiant y system gyfalafol (pwy sydd yn gofalu am y gweithwyr ar ôl iddynt orffen gwaith, fel y gallent fynd nôl i’r gweithle yfory?) [5].

 

Baledi Ymosodol

Cyfrwng y tlawd, y werin a’r dosbarth gweithiol oedd baledi i’r rhan fwyaf. Trwyddynt cawsant, a chawn ni heddiw, straeon eu profiadau, newyddion y pryd, digri, dioddefaint a doethineb. Cenir ar y strydoedd, yn yr awyr agored ac yn y ffeiriau. Dyma oedd eu blogiau a’u ffansins.

Mae cryn dipyn o faledi radical, megis “Y Breuddwyd Hynod”, sy’n ymosod (i raddfeydd gwahanol) ar drefn y dydd. Mae eraill yn adrodd hanes terfysgoedd, streiciau, protestiadau ac ati. Werinol oedd y baledwyr eu hun gan amlaf. Yn hwyrach yn eu bywyd, yn lle baledi aeth Ywain Meirion i gasglu a gwerthu carpiau, ac roedd diwedd ei oes yn flynyddoedd caled [6]. Rhaid cofio bod rhaid i’r baledydd fod yn garcus wrth ganu yn erbyn y drefn yn agored – rhag ofn i bŵer ymateb yn llym. Heb os, rhaid bod hyn wedi effeithio ar gynnwys y penillion yn sawl achos. Ar ddiwedd ei faled, mae gan Meirion fath o ymwadiad:

Wel dyma swm y breuddwyddwyd a welwyd geny ‘n wir,
Gobeithio na chawn ddyoddef dan fin y cleddyf clir

Ond, serch y cleddyf clir, ledled yr ynys ymosodwyd ar y wyrkhws yn ffisegol yn ogystal. Terfysgodd ‘Beca yn erbyn wyrkhws Llanfyllin, Arberth a Chaerfyrddin gan fygythio eraill [7]. Stori i godi’r galon yw adroddiad papur newydd am derfysg Caerfyrddin:

Their first object of attack was the Union workhouse, which was first entered, as our correspondent informs us, by “the bad boys of the town,” who had joined the Rebeccaites. They set about their mission of destruction in a very spirited manner, and commenced operations by freely throwing out of the windows feather-beds, chairs, portions of bedsteads, and whatever articles of furniture they could lay their hands upon, and they most undoubtedly thought their progress would not be stayed before the whole building would be razed to the ground. [8]

Fel mae eraill wedi datgan – rhaid cael barddoniaeth “yn y stryd”, neu feirw yw celfyddyd [9]. Daeth awen i strydoedd Caerfyrddin yn haf 1843.

Dros faledi ymosodol ac ymosodiadau baledol!

 

YBreuddwydHynod
[Baled y “Breuddwyd Hynod” gan Ywain Meirion, c. 1834]

 


Nodiadau
Mae llwyth o faledi, gan gynnwys cryn dipyn o faledi radical, ar gael arlein:

https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-llgc/baledi-cymru-ar-lein/

Baled arall ar yr un testun sydd gwerth ei ganu yw “Workhouse Merthyr”:

http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:LSCOP_BALLADS:44NLW_ALMA21729351050002419
[1] “II.1.5

It has never been deemed expedient that the provision should extend to the relief of poverty; that is, the state of one, who, in order to obtain a mere subsistence, is forced to have recourse to labour.
Adroddiad Comisiwn Deddf y Tlodion, 1834.
http://www.econlib.org/library/YPDBooks/Reports/rptPLC11.html#Part%20II,%20Section%201
Dedfrydwyd rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn, gan gynnwys yr uchod.

[2] http://www.workhouses.org.uk/education/

[3] http://pb.rcpsych.org/content/pbrcpsych/22/9/575.full.pdf
[4] Dyma ystyr arall proletariat: rhai heb dir. Mae’n gysylltiedig â’r ystyr uchod: heb iddynt fod ar y tir, nid oes gan y proletariat dim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Trwy ddiffinio’r proletariat yn fodd negatif fel hyn, mae’n cynnwys sawl grŵp gwahanol a chaewyd allan o fudiad traddodiadol y gweithwyr – rhai sydd yn gweithio yn y cartref, carcharwyr, y di-waith…

[5] I ddarllen mwy ar waith atgynhyrchiol di-dâl a brwydrau llafur domestig, gwelwch y Mudiad Cyflogau am Waith-Tŷ:
https://en.wikipedia.org/wiki/Wages_for_housework
a’r archif caring labour:
https://caringlabor.wordpress.com/

[6] http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-GRIF-OWE-1803.html

[7] http://www.workhouses.org.uk/Wales/
[8] https://sniggle.net/TPL/index5.php?entry=19Jun14

[9] “La poésie est dans la rue.
[“Mae barddoniaeth yn y stryd.”]
Slogan/graffiti o wrthryfel Mai ’68 yn Ffrainc.
https://libcom.org/history/slogans-68

Datganodd y Sefyllfiaid, a gymerodd rhan yn y gwrthryfel, bod celf a chelfyddyd (bourgeois) wedi marw – gan eu bod wedi llwyr cymathu gan gyfalaf(iaeth). Mae darn o gelf yn cynrychioli llafur sydd wedi ecsploetio ac felly sydd wedi marw, y llafur hyn wedi eu gwrthrychu yn nwyddau a’r “hynotddrych”. Yr unig (gwrth)gelf sydd ar ôl i wneud neu i fyw yw’r chwyldroadol, yr hyn sydd yn chwalu’r drefn gyfalafol. Nid yw “barddoniaeth yn y stryd” yn golygu graffiti barddonol neu anerchiad cyhoeddus felly (neu nid yw’n golygu’r rhain /yn unig/), ond yr hyn sydd yn farddonol am chwalu pŵer, barddoniaeth y barriced, terfysg cynganeddol.

 

Arundhati Roy a herio diwylliannol yng Nghymru

“Dylai ein strategaeth fod – nid yn unig i ymladd Ymerodraeth wyneb yn wyneb ond i warchae arni. Ei hamddifadu o ocsigen. Ei chywilyddio. Ei gwawdio. Gyda’n celf, ein cerddoriaeth, ein llên, ein styfnigwrydd, ein llawenydd, ein hathrylith, ein hymroddiad di-ildio – a’n gallu i adrodd ein storïau ein hunain. Storïau sy’n wahanol i’r rhai y cyflyrwyd ni’n feddyliol i’w credu.

Fe fydd y chwyldro corfforaethol yn dymchwel os gwrthodwn ni brynu yr hyn maen nhw’n ei werthu – eu syniadau nhw, eu fersiwn nhw o hanes, eu rhyfeloedd nhw, eu harfau nhw, eu syniad nhw fod y cyfan yn anorfod.”
– Arundhati Roy

images

Mae nifer o grwpiau fel Afiach  wrthi yng Nghymru yn herio’n ddiwylliannol. Maent wedi rhyddhaui CD i godi arian i Stop G8 yr wythnos hon.  Be am grwpiau eraill? Siwr bod grwpiau tebyg ar draws Cymru?

Dad-ansoddi, Cyf-un-drefn, Byw gan YOLO Morgrug/annwg

Pa beth yw byw? Gofynodd Waldo un ddiwrnod. Onid Waldo oedd y cyntaf?

Naddo. Pa faint o hen blant bach na ofynodd, nac anghofiof (ar ol i lwch y byd ddod i’w lygaid ar ol i niwl yr oesoedd a fu aros drostynt

ar ol i guriad llaw hen athro neu hen riant neu’r un hen system neu’r un hen ffycin stori

ein curo i lawr tro ar ol tro ar ol tro) yr un cwestiwn, pam?

Pam fod eira’n wyn? Shut up. Medde Dafydd Iwan.

Cofiwch Macsen, medde fe. Wel, anghofiof Macsen y Gymru. Anghofiof Macsen ei wreiddiau.

[Radical, yw i newid pethe wrth y wreiddiau, yng nghalon y broblem

yng nghalon ein cenedl, calon ein byd, the heart of our heartless world fel dwedodd un dwpsyn]

Aeth Macsen i Rufain. Megis Caractacus cynt. Trowsant yn Rufeinwyr.

Aros mae’r mynyddoedd. Ond rhuo wna y gwynt..

Pa gwynt? Gwynt yr oesoedd? Gwynt ein natur? Gwynt ysbryd pob cenhedlaeth

THE NIGHT-MARE OF ALL PAST GENERATIONS (WALDO, WYT TI’N COFIO?) HANGS LIKE

A NIGHT-MARE ON THE BRAIN OF THE LIVING DEAD [GROUCHO MARX]

Gwynt yr ysbryd aflan. Gwynt yr hen Dduwiau. Gwynt a sathrwyd pob oes

Gan fod oesoedd, rhybuddia hanes, yn dod i ben

Rhaid cwympo pob cenhedlaeth. Rhaid marw pob ymeradwr. Rhaid chwalu pob ymerodraeth

Groegiaid. Rhufain. Barbariaid (pwy?). Llychlynwyr. ….. Tseina. India. Amsterdamned. Prydain.

Ffrainc. Prydain. Prydain. Prydain. God save the fucking joke of a Queen

[A madman is not only a beggar who thinks she is a Queen, but a Queen who thinks

she is a Queen. And is a beggar. Medde Lacan. Twpsyn uffarn]

Prydain. Prwsia. Prydain. America. Ac ynteu… Yr Undeb Sofietaidd. Anghenfil newydd

a chlodforwyd yn Duw. Chwalwyd. India. China. Diwedd. Y BYD?

Eto. Ac eto. Ac eto. Rhagwelwyd. IESU FFYCIN GRIST

A’i Iddew neu Rufeiniwr? Pwy laddwyd? Pwy roddwyd ar groes, ac yna ar faner?

NID ANGOR OND FANER YW’R GROES I GYRRU’R DOSBARTH GWEITHIOL YMLAEN

Medde Nic y Glais. Y Stalinydd.

Oleia aeth yn ol i’w wreiddiau. Cuddiodd yn y Cwm. Ffoi yr anghenfil yn

ei amenydd. Marw’n hen. Deall y dinistr. Ond farw ta beth.

A’i cuddio wnawn?

NADDO

SAFWN

YN

Y

BW_____LCH?

P’UN?

Bwlch y cwm? Cymrodyr, cwm, Cymrodorion, Cymry

ond am beth? Am third way arall? Saunders, Hitler, Tony Blair

Naddo. Nid oes trydydd ffordd. Nid oes unrhyw ffordd. Ond dianc y ffordd.

Ail greu heol ein hanes. Pa bwlch?

¡No pasaran! Medde nhw. Ond laddwyd. Gan y ffasgwyr

P’un? The Gentle General, fel bapteiddiwyd gan y Daily Mail?

Neu Brydain, a rhoddodd y Llynges tu fas i Barcelona, y gwniau’n pwyntio

Neu dife Stalin sydd i feio? Ie. Rhaid mai’r anarchwyr oedd yn iawn

NADDO

Cipiwyd pwer. Ha! Productivism eto. Ewch yn ol i waith medded “nhw”.

Y CNT. Dyna joc. Workers against work. Na, dim gulags

Nid yw label anarchiaeth yn ein hachub rhag ein pechodau

Nid fwy na chroes o gwmpas ein gwddf

Nid yw Dic Penderyn ein Merthyr Tydfil

Nid yw Grist ein Cof

Nid yw ein hunan aberth i Protestant Work Ethic

Yn mynd i’n hachub. Nid yn y bywyd hon.

Y byd hon. Y byd hon a’i nuclear bomb.

A’i ecological bomb.

Na.

Ginsberg. Ef a ddwedodd

Ef a welodd

The best of my generation…

dragged on to… the generation game!

Ie. Gwelodd. Ond fethodd. Moloch yn parhau. Mamon heb gwympo.

Carl Solomon, tro ar ol tro, tro ar ol tro, tro ar ol tro

Tan i bawb anghofio. Tan i Waldo anghofio, fod gam-dreiglo

ddim yn phechod! na! Cham-dreiglo, ail-threiglo

Dyna yw bywyd iaith. Standardeiddio, dyna yw ei farwolaeth

The King is dead. Long live the King! Glyndwr is dead.

Long live Rhodri Morgan! Thatcher is dead. Long live Cameron!

The revolution is dead. Viva la revolution! The revolution is betrayed (again!)

Long live the revolution! Mae’r iaith Gymraeg (o fyddid iddi barhau) is ffycin dead.

HIR FYW PA IAITH

IAITH Y GORMESWR?

EIN HIAITH? EIN? A’I HORGRAFF ANNWYL YN RHYW LYFR SANCTAIDD

Na. Tu hwnt. Marx tu hwnt i Marx

[a wnaeth ffycio ei blant, ffycio ei chamber maid [fel tystyiwyd ei eiriau olaf]

a wnaeth rhedyg yn paranoid tan iddo osgoi’r Paris Comiwn ei hun]

EFE yw y DEAD GENERATION yn nawr. EFE rhaid troelli ar ei ben.

Derrida tu hwnt i Derrida. Oh, deconstruction! How nice! We could make a

PHILOSOPHY EXAMINATION OUT OF THAT, DISCUSS

YOU WILL BE MARKED AT THE END OF YOUR LIFE

JUDGED. AND THEN YOU WILL REACH THE AFTERLIFE.

Ac fe fydd o’n shit. Ffycin shit. Llithro yn nol i’r llonyddwch

Neu Nefoedd, adar, Duw, golau, a ffycin Efengylwyr

HEB DDIM I WNEUD OND GWENU, O NA NEIS!

Neu. cer off dy gompiwter.

cer off dy ben. cer off dy sedd

gwena. gwena fel gwyllt-fenyw

wanko yn dy law dde, ymestyna am y faner di fanerog

cacha ar dy sgimren. LLOSGA YSBRYDION DY FEDDWL

Nid ferthyr. Nid ffycin Buddhist monk tanbaid arall

Nid Arab Spring arall

Surprise surprise, YOU’RE SAYING THAT THE REVOLUTION WAS BETRAYED?

WELL DUH

REVOLUTION MEANS A CIRCLE

FFUCK REVOLUTION. REVOLUTION BEYOND REVOLUTION

END THE TORTURE, THE CONSTANT TORMENT, OF THE HUMAN RACE

How?

SOCIALISME OU BARBARIE – BOTH ARE THE SAME IT NOW SEEMS

So. Either there is the final orgasm

OF WAR AND DEATH AND TEARS AGAIN, OF (american) DREAMS DENIED

Or. You take the blue pill. Turn off the Matrix.

Flee. Run comrade, for the old world is behind you

Run comrade, for I am calling you comrade

Run

Run
NAKED

into the sun

PAID A RHOI FFYC, deud nid gweud, gweud nid deud

POPETH. DIM BYD. DIM. BYD. 01010101010101

STOPA DARLLEN HON STOPA DARLLEN HON STOPA DARLLEN HON

DAW HANES I’W DDIWEDD. RHYW DDYDD. MEDDEN NHW

MEDDE PWY? NYNI.

THE RIDDLE OF HISTORY DOTH REPEATETH, TOO MANY TIMES
UNTIL WE MAKE IT STOP

EVERY REPETITION IS SIMPLY

A RELAPSE INTO THE SUBCONSCIOUS, A FORGETTING

COFIWCH I ANGHOFIO, ANGHOFIWCH I GOFIO

ANSWER THE RIDDLE

PUNCH THE SPHINX IN THE NOSE UNTIL IT BLOWS OFF

ESCAPE YOUR OWN NIGHTMARE, YOUR OWN DREAMS

FOR THEY ARE ONLY YOURS

And then. Let children become Men. Men become mice. Pupils become teachers.

Death become life. And let Jerusalem again be built

Before Babylon falls. And let us simply

DANCE

TAN DDAW

Y DIWEDD.

Vajazzleo Ffwff! – Angen nawdd, cyfrannwyr a help i’w rannu.

Mae Ffwff yn ffansin anarcha-ffeminyddol dwyieithog o Gymru. Yr unig gylchgrawn ‘go iawn’ i ferched yn y Gymraeg yw ‘Y Wawr’ (cylchgrawn Merched y Wawr)! Doeddwn i ddim yn meddwl bod hyn yn neud y tro, be sy yna i genod radicalaidd? Dwnim amdanoch chi ond dydw i ddim eisiau darllen Cachu Cosmo a allai ddim uniaethu efo merched y Wawr fel hogan yn ei 20’au sy’n byw mewn dinas. Misoedd ar ol cyhoeddi y Ffwff cyntaf, fe ddes i ar draws zine o’r enw Bitch sydd ar gael drwy recordiau Afiach, yr artist Elen Mai Wyn Jones sydd tu ol i’r cyfres yma, da i wybod na dim Ffwff ydi’r unig zine dwyieithog ffeminyddol!

Felly dyma ni, bron blwyddyn yn ddiweddarach, yn chwilio am gyfraniadu i’r pedwerydd Ffwff a wedi llwyddo cyhoeddi’r zine yn chwarterol a rhoi’r rhan fwyaf allan am ddim!

Mae’r student loan olaf wedi dod i’r banc (!) ac ar ol i hwnnw fynd mae dyfodol Ffwff mor ansicr a dyfodol ei golygyddion! Felly dyma alwad at philanthropaid roi rhodd i gadw ni fynd, a cael gwobrau am wneud hyn! Tanysgrifiadau a ol rifynnau o Ffwff, a mae isafswm y rhodd yn fychan iawn! Gwnewch hyn drwy Sponsorcraft: https://sponsorcraft.com/p/ffwffcymru/

Louise Michelle - Anarchyddes Ffrenig

Louise Michelle – Anarchyddes Ffrenig

Os ydych eisiau stocio Ffwff ar stondin neu sio, neu eisiau copiau i eich Canolfan Cymdeithasol lleol, gyrrwch neges drwy’r e-bost uchod. Mae Ffwff nid am elw ac yr ydym yn gofyn am gyfranniad o’r gost argraffu a postio ble bo hynny’n bosib. Os ydych chi’n hollol sgint… gallen ni ei yrru o am ddim i chi ta waeth, dyna ydi cyd gymorth de?

Yn bwysicach fyth yr ydyn eisiau cyfranaiadau! Celf, llenyddiaeth, erthyglau, jocs, ryseitiau… Gyrrwch eich stwff at daldydin@hotmail.co.uk i ni ei roi o yn Ffwff (ond cadwch mewn golwg pa fath o zine ydi o, da chi!)

  • Calendr

    • Gorffennaf 2017
      L Ma Me I G Sa Su
      « Hyd    
       12
      3456789
      10111213141516
      17181920212223
      24252627282930
      31  
  • Chwilio