Aduniad Menywod a Phobl Trans* yn erbyn y cyd-berthynas diwydiannol carchar

WT-Week-Welsh-without-bleeds-724x1024

Pam yr Wythnos yma o Weithredu? Pam Rŵan?

Mae carchardai yn dinistrio bywydau. Bwriad Llywodraeth Prydain yw adeiladu 9 mega garchar newydd www.cape-campaign.org/community-action-on-prison-expansions-response-to-the-9-new-prisons-announced-yesterday erbyn 2020, tra bod mwy o fenywod a phobl thrans yn cael eu caethiwo a’u trin yn giaidd yn ein system garchar. Mae’r pwysau enfawr o gefnogi’r sawl ydym yn eu caru yn y carchar yn disgyn arnom ni sydd yn llafurio’n emosiynol, ariannol ac yn ymarferol i gefnogi pobl sydd wedi eu carcharu tra yn ogystal â hyn rydym yn gofalu am y gweddill sydd wedi eu gadael ar y tu allan. Mae’r cyd-berthynnas diwydiannol carchar yn dwyn ein bywydau gennym. Mae hefyd yn sefydliad hiliol ble mae pobl nad ŷnt yn wyn eu croen yn sicr wedi eu gorgynrychioli. Mae’n rhan o ymosodiad parhaol a hanes hir o batriarchaeth a chydymffurfiaeth-rhywedd yr ydym yn ei frwydro pob dydd. Mae’r wythnos hon yn ymgais at adennill ein bywydau.

Pwy a fyddwn yn ei groesawu yn y digwyddiad hwn?

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sydd yn uniaethu fel menywod, trawsryweddol, trawsrywiol, cwiar ryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol. Mae’n ofod bwriadol er mwyn rhannu gwybodaeth ymgyrchu, dulliau trefnu, sgiliau gweithredu uniongyrchol mewn awyrgylch cefnogol i’r sawl sydd yn aml yn cael eu domineiddio a’i nadu gan ddynion-sis.

Os ydych chi yn anghyfarwydd a’r termau yma, dyma ragor o wybodaeth: twac.wordpress.com/terminology.

 

Be fydd yn digwydd?

Bydd:

  • Sawl Diwrnod o Weithredu
  • Aduniad o dri diwrnod i ymchwilio i’r pynciau yma yn fwy trwyadl
  • Gweithdai, dangosiadau Ffilm & mwy

Bydd sawl diwrnod o weithredu, yn ogystal ag aduniad a fydd yn para tri diwrnod dros y penwythnos i ymchwilio i’r holl faterion yma yn drwyadl. Bydd gweithdai, trafodaethau, dangosiadau ffilm a rhagor yn plymio i ddyfroedd o feddwl o’r dull ydym yn ymateb i niwed, o drais rhyngbersonol, fel ymosod rhywiol, i drais strwythurol a thrais y wladwriaeth fel tlodi, canolfannau dal a charchar. Dyma ofod i ofyn cwestiynau beirniadol am sut symudwn du hwnt i’r wladwriaeth a ffurfio dulliau amgen.

 

Sut alla i ymwneud a hyn?

 

Cysylltwch â ni er mwyn helpu gwneud i hwn ddigwydd. Mae angen cefnogaeth arnom gyda:

  • Logisteg ymarferol e.e. sicrhau llety, bwyd, gofal plant
  • Codi arian
  • Hyrwyddo e.e. cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, rhwydweithio mewn digwyddiadau
  • Paratoi cynnwys, e.e. cysylltu â phobl i hwyluso trafodaethau
  • Cynllunio gweithredoedd

Os gwelwch yn dda e-bostiwch info@prisonabolition.org i ymuno a’r criw sydd yn trefnu’r digwyddiad.

Pwy sy’n trefnu’r digwyddiad yma a’r wythnos o weithredu?

 

Mae cydweithfa fach anffurfiol wedi dod o wythnos o Weithredu yn erbyn y Cyd-berthynnas Diwydiannol Carchar ym mis Tachwedd 2015 (www.cape-campaign.org/this-is-only-the-beginning-overview-of-the-week-of-action-against-the-prison-industrial-complex-november-2015). Rydym yn grŵp o fenywod cis a phobl (gender queer) sydd yn casáu carchar gyda’n holl eneidiau. Mae rhai ohonom wedi bod yn y carchar, eraill wedi treulio llawer gormod o ddyddiau mewn ystafelloedd aros ymweld â charchardai. Rydym wedi goroesi cael ein treisio, trais rhywiol, camdriniaeth. Nid ydym ni eisiau cael ein dominyddu can sis-ddynion, patriarchaeth na chyfalafiaeth unrhyw ragor. Mae pob un ohonom yn rhannu angerdd i adeiladu dulliau amgen o ymdrin â niwed na’r system garchar, sydd yn cefnogi goroeswyr trais ac ymateb i niwed yn ein cymunedau. Rydym wedi ein hysbrydoli’n fawr gan cymrodion sydd wedi trefnu gwersyll gweithredu Menywod a Trans Cascadia twac.wordpress.com/about. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr a pur debyg fyddwn yn gwneud llawer o gamgymeriadau ond rydym yn gwneud ein gorau i ysbrydoli gwrthwynebiad i’r Cyd-Berthynnas Diwydiant Carchar sydd yn gwenwyno ein bywydau.

Ymosodiadau rhywiol, ymddygiadau gothrymus a’n hymatebion iddynt.

Y mae AgrrrlsCaerdydd yn eich gwahodd i sgwrs agored ynglyn a ymosiadau rhywiol a ymddygiad gothrymus yn ein cymunedau a syniadau ynglyn a’m hymatebion cyfunol:

Be allwn ei wneud i gefnogi’r sawl sydd wedi profi ymosodiad rhywiol neu ymddygiad gothrymus yn ein cymunedau?

Sut allwn ymateb mewn dull sydd yn peri newid positif a be yw ein cysyniadau o gyfiawnder?

Be yw ‘proses atebolrwydd’?

Bydd Sohvi, anarchydd sydd wedi golygu y zine newydd “What about the rapists? Anarchist approaches to crime and justice”. Yr oedd Sohvi yn meddwl bod y diffyg llenyddiaeth ar ymatebion cymunedau i ymddugiad gothrymus yn tanseilio hygrededd anarchiaeth. I geisio newid hyn, astudiodd y gyfraith a theori cyfreithiol am pum blynedd – er bod rhanfwyaf ei ysbrydolieaeth yn dod o syniadau anrchaidd a’r hyn a gwna ei chymrodion yn yn y gorffennol a’r presennol. Bydd hi yn trafod ei cyfranniadau i’r zine, sydd yn son am y prif syniadau ar y thema hyn.

Ar gael i lawrlwytho yma: http://dysophia.org.uk/wp-content/uploads/2014/09/Dys5-WhatAboutTheRapistsWeb2.pdf

Bydd ffansins eraill ar gael am rodd yn ogystal a bwyd.

Dydd Sul, 26fed o Hydref am 5yh yng Nghanolfan Cymunedol Cathays

Rhaglen Safaiad Casnewydd 26 Mai -1af o Fehefin

Safiad Casnewydd Colour

Dyma’r rhaglen ar gyfer yr wythnos, mwy i’w gadarnhau!

26 Mai – 1 Mehefin

Wythnos gyfa o ddigwyddiadau mewn lleoliad yng Nghasnewydd

Llun 26fed:

11:00 -17:00: Ail-greu Murlun y Siartwyr

13-16: Sesiwn Blas ar Hunanamddiffyniad i Fenywod – Merched yn unig

16:00: Hyfforddiant Gwybod dy Hawliau gyda’r Heddlu

19:30: Y Gymuned, Democratiaeth ac Siartiaeth

Maw 27fed:

11:00: Hawliau Anifeiliaid

13:00: Na i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd. Ynni Niwclear = Arfau Niwclear gan South West against Nuclear

14:00yh:Ffracio yn Nghymru

14:00-17:00: Gweithdy Stencil / graffiti

16:00-18:00: Gweithdy Cymorth Cyntaf sylfaenol

19.30: Ymgyrch Traffordd y Levels a Ffracio yng Nghasnewydd

Mercher 28fed:

14:00-17:00: Gweithdy gwneud banneri.

Amser i’w gadarnhau: Unoliaeth y Babell De – Strategaethau ar gyfer ymdopi â diweithdra 21ain Ganrif

14:00: Hyfforddiant Pŵer Gweithiwr gan yr IWW

Amser ‘w gadarnhau: Curwch Treth y Llofftydd

19:00: Stopio llafur gorfodol”Workfare” gan Boycott Workfare.

Iau 29fed:

14:00-17:00: Gweithdy gwneud bathodynau

15:00-16:30: Pam Dynion yn erbyn Patriarchaeth? (croeso i bob rhywedd)

Amser i’w gadarnhau: Cyflwyniad Dim Ffiniau Moroco

19:30: Ffiniau a hiliaeth, yn ogystal â ffilm am genedlaetholdeb.

Heyd! Stondin wrth-Ffasgaidd

Gwe 30fed:

12:30: Diddymu Carchardai

Amser i’w gadarnhau: Agweddau Hanesyddol Anarchiaeth

Amser i’w gadarnhau: Anarchiaeth i ddechreuwyr

19:30 – ‘Sut gallwn ni ddinistrio cyfalafiaeth ac yn gwneud bydoedd newydd o anarchiaeth a rhyddid?’ – Gweithdy gan Kaput (https://network23.org/kaput/)

Hwyrach bydd gig acwstig gyda Cosmo, Emu Lou a Raz yn ogystal â “Dancing Queer” perfformiad bolddawnsio.

Sadwrn 31fed

Diwrnod o brotest a theatr stryd

19:30: Sgwrs gan bobl ar taith gerdded Urddas o Fryste i Gaerdydd.

Sul 1af

12:30: Sesiwn ar gwrthsefyll y rhyfeloedd drônau – gyda phwyslais ar ymwrthedd i Barc Aberporth yng Nghymru a Banc Barclays, buddsoddwr mewn technoleg drônau.

14:00: Atal Recriwtio milwrol yn Ne Cymru.

16:00: Gwrthsefyll Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd – cyflwyniad gan Stop NATO Cymru.

18:30: Cyfarfod trefnu i adeiladu ar y gwrthwynebiad yn erbyn UwchgynhadleddNATO. Croeso i bawb!

Bob dydd:

Te a chacennau rhad ac am ddim drwy’r wythnos.

Pryd poeth rhad ac am ddim bob nos.

Arddangosfa anarchiaeth

Ffansins a Llyfrau
Manylion y Lleoliad yn yn cael eu datgenlu yn agosach at yr amser.

Er mwyn helpu neu wneud rhodd bwyd, deunyddiau neu arian, dewch draw am sgwrs neu e-bostiwch stopnatocymru @ riseup.net

Beth yw’r Syrcas Symudol Anarchaidd?

Mae gan y Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd gynlluniau i gynnal digwyddiadau tebyg o amgylch y DU gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o anarchiaeth ac adeiladu mudiad fydd gyda’r cryfder i weithredu dros newid. Ewch i http://www.anarchistaction.net am fwy o wybodaeth.

 

  • Calendr

    • Gorffennaf 2020
      Ll Ma Me I G Sa Su
       12345
      6789101112
      13141516171819
      20212223242526
      2728293031  
  • Chwilio