“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

“Breuddwyd Hynod”: Y Wyrkhws a Baledi Ymosodol

gan Hwntw Arall

 

Mi welwn wyr y Senedd yn ngrynhoi y’nghyd
Yn erbyn y tylodion yn gysson oll i gyd,
I godi cyfraith newydd, annedwydd oedd eu nad
A gwneud carcharau creulon i dlodion yr holl wlad.

Dyma bennill o hen faled y “Breuddwyd Hynod”: pennill rhu perthnasol i’n presennol hunllefus.

 

Wyrkhws, Tlodion a’r “Proletariat”

Mae’r baledwr Ywain Meirion yn ymosod ar drefn y wyrkhws. Tybiwyd y cenir am y tro gyntaf yn 1834, blwyddyn Deddf Newydd y Tlodion. Estynnwyd y system wyrkhws gan y ddeddf newydd. Dan y system hon carcharwyd tlodion yn llafurdai, lle gorfodwyd i weithio’n ddi-dâl.

Diffiniwyd “tlodion” gan y ddeddf fel rhai oedd yn gorfod llafurio er mwyn cynnal eu hun, rhai oedd yn gorfod gweithio er mwyn ennill eu bara beunyddiol [1]. Dyma ddiffiniad Karl Marx am y “proletariat” ychydig o flynyddoedd yn hwyrach: rheini heb ddim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Wrth gwrs, nid oedd angen i bawb gweithio – nid oedd pawb yn dlawd. Roedd gan y tirfeddianwyr a’r cyfalafwyr (a pherchnogion y llafurdai!) rent ac elw er mwyn bodoli. Ond fel mae Ywain Meirion yn ein hatgoffa, ni fydd gan y cyfoethog dim byd heb iddynt allu ecsploetio llafur y tlodion:

Pe gyrrid y tylodion i gyd o Frydain Fawr,
Ni fyddai ond boneddigion yn union yno’n awr:
Ffarwel am dreth i’r Brenin, na chwaith am drin y tir,
Na llongwr, crefftwr, sawdwr, na gweithiwr, dyma’r gwir.
[na chwaith llienwragedd, morwynion, droellwragedd, mamau…]

 

Caethiwo a Disgyblu

Pwrpas y wyrkhws oedd gweinyddu, rheoli a disgyblu’r tlodion. Ni chyfunwyd y disgyblu hyn i’r tlodion tu fewn i’w muriau yn unig: roedd yr adeiladau hefyd yn fygythiad parhaol i bawb oedd yn brwydro dros eu bywoliaeth tu allan iddynt. Os nad oeddynt yn gallu goroesi (talu am rent, am fwyd) trwy weithio tu allan i’r wyrkhws, fydd rhaid iddynt weithio tu mewn, dan amodau gwaeth eto, llawn cosbau llym a heb dal. Dyma’r “gwirionedd” a orfodwyd ar y byd: nid oes bywyd tu hwnt i waith. Felly bathwyd y dosbarth gweithiol.

Llaw yn llaw i’w disgyblaeth o’r tlawd, roedd gan y wyrkhws swyddogaeth o ran disgyblu rhywedd, y teulu, gallu, crefydd a hil. Rhannwyd y wyrkhws yn llym yn ôl rhywedd ac oedran, a orfodwyd rôliau penodol yn ôl hyn. Os anfonwyd tad i wyrkhws, rhaid i’w holl deulu mynd yn ogystal, er iddynt wedyn byw i’r rhan fwyaf ar wahan – deliodd y stad a’r dosbarth gweithiol yn ôl unedau teuluol, ond deallwyd a ffurfiwyd yr unedau hyn trwy ddisgyblaeth llym o’r rôliau teuluol gwahanol.

Bydd Mari Morgan hefyd, yn d’wedyd yr un dôn
Nad eill y nos gynhesu yn siwr heb gwm’ni Siôn…

Carcharwyd plant amddifad (fel yn Oliver Twist) – y wyrkhws yn gweithredu fel teulu sefydliadol [2]. I’r tlawd heb y gallu i weithio o gwbl (y tost, yr hen a’r anabl) na chefnogaeth arall, bywyd anodd y wyrkhws oedd yr unig fodd o oroesi. Cystadlodd y wyrkhws a’r gwallgofdy (asylum) i garcharu’r “gwallgof” (a gynyddol gaethiwyd ers yr oes fodern gynnar) [3]. Yr Eglwys Anglicanaidd oedd crefydd sefydledig y wyrkhws – caniatawyd rhai gwasanaethau anghydffurfiol ond ni chaniatawyd caplaniaid Catholig. I Iddewon, roedd ymarfer eu diwylliant a chrefydd yn y wyrkhws yn amhosib.

Oes y wyrkhws oedd hefyd oes y carchar, y ffatri, yr ysbyty ac yn hwyrach yr ysgol . Dyfeisiwyd a diwygiwyd gan yr un biwrocratiaid a chyfalafwyr tuag at yr un pwrpas o ddisgyblu a “chywiro’r” tlawd. Roedd gan y ffatri a’r ysbyty drysau dan glo yn ogystal i’r carchar a’r wyrkhws. Dyma ddatblygiad y “caethder mawr“, lle carcharwyd lluoedd o werin Ewrop wrth iddynt cael eu gorfodi oddi wrth y tir ar ddiwedd y canol oesoedd. [4]

CynllunWyrkhws

[Cynllun wyrkhws gynnar ar ffurf groes: y meistr yn y canol â’r trigolion wedi rhannu yn ôl oedran a rhywedd]

 

Llafur Di-dâl

Mae tybiaethau yn llyfryddiaeth Marx y bydd gwaith di-dâl a rhwymedig yn diflannu dros amser, wrth i gyfalafiaeth “aeddfedu”. Ond er bod pŵer, yn sawl man ac achos, nawr yn disgyblu trwy foddau llai “galed”, mae gwaith di-dâl heb os yn parhau fel rhan angenrheidiol o’r system gyfalafol. Tu mewn i garchardai ecsbloetiwyd llafur di-dâl, wrth i garcharorion creu dillad milwrol neu feinciau “cymunedol”. Tu allan, mae workfare a phrosiectau tebyg yn aros os nad yn lledu. Mae caethwasiaeth eu hun, lle nid yn unig ydi’r gwaith yn ddi-dâl ond mae’r person sy’n gweithio yn eiddo i’r caethfeistr, yn parhau – nid fel arhosiad o ryw oes gynt ond fel elfen bwysig bresennol o gyfalafiaeth. A thu allan o’r gweithle a’r carchar – yn y cartref ac yn weddill ein bywyd pob dydd mae llafur di-dâl, rhyweddol, yn hanfodol i barhad ac atgynhyrchiant y system gyfalafol (pwy sydd yn gofalu am y gweithwyr ar ôl iddynt orffen gwaith, fel y gallent fynd nôl i’r gweithle yfory?) [5].

 

Baledi Ymosodol

Cyfrwng y tlawd, y werin a’r dosbarth gweithiol oedd baledi i’r rhan fwyaf. Trwyddynt cawsant, a chawn ni heddiw, straeon eu profiadau, newyddion y pryd, digri, dioddefaint a doethineb. Cenir ar y strydoedd, yn yr awyr agored ac yn y ffeiriau. Dyma oedd eu blogiau a’u ffansins.

Mae cryn dipyn o faledi radical, megis “Y Breuddwyd Hynod”, sy’n ymosod (i raddfeydd gwahanol) ar drefn y dydd. Mae eraill yn adrodd hanes terfysgoedd, streiciau, protestiadau ac ati. Werinol oedd y baledwyr eu hun gan amlaf. Yn hwyrach yn eu bywyd, yn lle baledi aeth Ywain Meirion i gasglu a gwerthu carpiau, ac roedd diwedd ei oes yn flynyddoedd caled [6]. Rhaid cofio bod rhaid i’r baledydd fod yn garcus wrth ganu yn erbyn y drefn yn agored – rhag ofn i bŵer ymateb yn llym. Heb os, rhaid bod hyn wedi effeithio ar gynnwys y penillion yn sawl achos. Ar ddiwedd ei faled, mae gan Meirion fath o ymwadiad:

Wel dyma swm y breuddwyddwyd a welwyd geny ‘n wir,
Gobeithio na chawn ddyoddef dan fin y cleddyf clir

Ond, serch y cleddyf clir, ledled yr ynys ymosodwyd ar y wyrkhws yn ffisegol yn ogystal. Terfysgodd ‘Beca yn erbyn wyrkhws Llanfyllin, Arberth a Chaerfyrddin gan fygythio eraill [7]. Stori i godi’r galon yw adroddiad papur newydd am derfysg Caerfyrddin:

Their first object of attack was the Union workhouse, which was first entered, as our correspondent informs us, by “the bad boys of the town,” who had joined the Rebeccaites. They set about their mission of destruction in a very spirited manner, and commenced operations by freely throwing out of the windows feather-beds, chairs, portions of bedsteads, and whatever articles of furniture they could lay their hands upon, and they most undoubtedly thought their progress would not be stayed before the whole building would be razed to the ground. [8]

Fel mae eraill wedi datgan – rhaid cael barddoniaeth “yn y stryd”, neu feirw yw celfyddyd [9]. Daeth awen i strydoedd Caerfyrddin yn haf 1843.

Dros faledi ymosodol ac ymosodiadau baledol!

 

YBreuddwydHynod
[Baled y “Breuddwyd Hynod” gan Ywain Meirion, c. 1834]

 


Nodiadau
Mae llwyth o faledi, gan gynnwys cryn dipyn o faledi radical, ar gael arlein:

https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-llgc/baledi-cymru-ar-lein/

Baled arall ar yr un testun sydd gwerth ei ganu yw “Workhouse Merthyr”:

http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:LSCOP_BALLADS:44NLW_ALMA21729351050002419
[1] “II.1.5

It has never been deemed expedient that the provision should extend to the relief of poverty; that is, the state of one, who, in order to obtain a mere subsistence, is forced to have recourse to labour.
Adroddiad Comisiwn Deddf y Tlodion, 1834.
http://www.econlib.org/library/YPDBooks/Reports/rptPLC11.html#Part%20II,%20Section%201
Dedfrydwyd rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn, gan gynnwys yr uchod.

[2] http://www.workhouses.org.uk/education/

[3] http://pb.rcpsych.org/content/pbrcpsych/22/9/575.full.pdf
[4] Dyma ystyr arall proletariat: rhai heb dir. Mae’n gysylltiedig â’r ystyr uchod: heb iddynt fod ar y tir, nid oes gan y proletariat dim byd i werthu oni bai am eu gallu i lafurio. Trwy ddiffinio’r proletariat yn fodd negatif fel hyn, mae’n cynnwys sawl grŵp gwahanol a chaewyd allan o fudiad traddodiadol y gweithwyr – rhai sydd yn gweithio yn y cartref, carcharwyr, y di-waith…

[5] I ddarllen mwy ar waith atgynhyrchiol di-dâl a brwydrau llafur domestig, gwelwch y Mudiad Cyflogau am Waith-Tŷ:
https://en.wikipedia.org/wiki/Wages_for_housework
a’r archif caring labour:
https://caringlabor.wordpress.com/

[6] http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-GRIF-OWE-1803.html

[7] http://www.workhouses.org.uk/Wales/
[8] https://sniggle.net/TPL/index5.php?entry=19Jun14

[9] “La poésie est dans la rue.
[“Mae barddoniaeth yn y stryd.”]
Slogan/graffiti o wrthryfel Mai ’68 yn Ffrainc.
https://libcom.org/history/slogans-68

Datganodd y Sefyllfiaid, a gymerodd rhan yn y gwrthryfel, bod celf a chelfyddyd (bourgeois) wedi marw – gan eu bod wedi llwyr cymathu gan gyfalaf(iaeth). Mae darn o gelf yn cynrychioli llafur sydd wedi ecsploetio ac felly sydd wedi marw, y llafur hyn wedi eu gwrthrychu yn nwyddau a’r “hynotddrych”. Yr unig (gwrth)gelf sydd ar ôl i wneud neu i fyw yw’r chwyldroadol, yr hyn sydd yn chwalu’r drefn gyfalafol. Nid yw “barddoniaeth yn y stryd” yn golygu graffiti barddonol neu anerchiad cyhoeddus felly (neu nid yw’n golygu’r rhain /yn unig/), ond yr hyn sydd yn farddonol am chwalu pŵer, barddoniaeth y barriced, terfysg cynganeddol.

 

Advertisements

Gwneud synnwyr o ecoffeminyddiaeth a’r ol-drefedigeithol.

Yr wyf wedi bod yn ymchwilio i beth yn union yw athroniaeth ecoffeminyddiaeth. Mae’n syniad weddol newydd felly ar adegau mae modd teimlo nad oes consensws eto ynglŷn â beth yn union ydi o! Defnyddwyd y term yn gyntaf y ffeminydd ffrenig Françoise d’Eaubonne yn ei llyfr Le Féminisme ou la Mort.
Un peth sy’n sicr ynglŷn â ecoffeminyddiaeth yw’r modd y mae’n cyd-berthnasu gorthrwm ecolegol gyda gorthrwm merched o dan system gyfalafol a patriarchaidd.
Offer neu adnodd i’w defnyddio yw’r ddaear a menywod o dan y drefn bresennol yn ol ecoffeminyddion. Un broblem yr wyf wedi dod ar ei thraws wrth ymchwilio i ecoffeminyddiaeth yw’r ffaith bod yna dau brif ffrwd ohono yn croes-ddweud eu gilydd i raddau.
Un feddylwraig sydd yn cynrychioli y ecoffeminyddiaeth ol-drefedigaethol a’r un (yn ol rhai) sydd yn breintio nodweddion ‘benywaidd’ yw Vandana Shiva.

Vandana Shiva

Vandana Shiva

Dywedai;
‘Ecological feminism creates the possibility of viewing the world as an active subject, not merely a resource to be manipulated and appropriated. It problemizes ‘production’ by exposing the destruction inherent in much of what capitalistic patriarchy has defined as productive and creates new spaces for the perception and experience of the creative act…
…Ultimately they [y cyfalafwyr] want to bring the act of production, the power of creation, which hereto lay with women and with nature, under their control, the control of the ‘pure’ male spirit’ (t.34-45 Ecofeminism)
Dywed eraill (megis Janet Biehl) mai’r gorthrymwyr a phatriarchaeth sydd wedi priodoli menywod gyda nodweddion ‘benywaidd’ anelwig . Credai felly bod breintio y nodweddion yma mae’r gorthrymwyr wedi priodoli i fenywod yn ddinistriol ac yn tanseilio hanfod ffeminyddiaeth.
I feddylwragedd fel Janet Biehl mae ‘ffeminyddiaeth’ yn ei hanfod yn syniad a geisiai ddileu’r rhagdybiaethau hyn ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng dynion a merched. Os mae ecoffeminyddion yn derbyn y rhagdybieithau a hyd yn oed eu dathlu mae hyn yn golygu eu bod i raddau yn cydsynu gyda syniadau patriarchaidd ynglyn a’r gwahaniaethau rhwng menywod a dynion mae feminyddion eraill yn ceisio brwydro!
O be yr wyf wedi ei ddarllen mae ecoffeminyddiaeth yn agos iawn yn athronyddol i anrcha-ffeminyddiaeth. Mae’n debyg I anarchiaeth yn y modd ei fod yn ddisgwrs agored sydd gyda anghytuno yn rhan anatod ohoni (hyd yn oed rhywbeth i ddathlu mentrwn ddweud!) Credaf ei fod yn wir bod ein system presenol yn egsbloitio y ddaear am ei hadnoddau ac yn egsbloitio menywod. Wrth eu troi fewniI cathweidion domestig, tanseilio eu hyder fel eu bod yn dibynu brynu nwyddau harddwch, eu gwneud yn gaethweision cyflogedig (wage slaves?) i enwi rhai.
Oes unrhyw un arall wedi ymchwilio i ecoffeminyddiaeth? Yr wyf wedi sylwi bod y ffrwd sydd yn ‘dathlu’r benywaidd’ yn dueddol o fod yn feddylwragedd ol-drefidigaethol, a bod y meddylwragedd sydd yn cyhuddo’r ffurf hon o ecoffeminyddiaeth o danseilio’r cysyniad o gydraddoleb yn orllewinol. Mae’r ddau du yn dadlau’n dda a dwi’n disgyn rhwng dwy stol. Beth yw eich barn chi?

Portread o Emma Goldman – Anarchwraig a Ffeminyddwraig.


“Nid yw trosedd yn ddim ond egni wedi ei gamgyfeirio” Dyma ddyfyniad a ddengys i’r dim optimistiaeth eithafol yr anarchyddes Emma Goldman. Wedi ei magu yn rhan o Rwsia (Lithuania heddiw) yn ystod y 19eg ganrif o dan unbeniaeth hirfaith o 300 mlynedd y Romanoviaid, nid oes syndod iddi edrych tuagat yr U.D.A. mewn gobaith o fywyd newydd.

Ymfudodd Emma Goldman o Rwsia i America yn 16 oed. Tybed beth oedd ar ei meddwl ar y siwrne hon wrth iddi adael gwlad mor hynafol, byd o ferddwr- i wlad ifanc a byrlymus. Wedi dweud hyn sylwn ar eironi mai yn Rwsia ddigwyddodd y chwyldro dosbarth gweithiol cyntaf yn y byd!

Ffynodd Emma Goldman fel ymgyrchyddes yn Efrog Newydd. Ar ol iddi astudio gweldyddiaeth ar ben ei hun (nid oedd ei thad yn fodlon iddi gael addysg ffurfiol yn Rwsia) o’r diwedd yr oedd hi yn rhan o symudiad yr undebau llafur a hithau ei hun yn gweithio mewn ffatri yn Rochester, Efrog Newydd. Yr oedd ei hareithiau yn dennu canoedd ac yn aml iawn cafodd ei harestio. Pwnc tanseilio’r drefn a syfrdanodd ac a wylltiodd yr awdurdodau mwy na dim. Yr oedd yr agwedd o gydraddoldeb rhwng hil a rhyw a’r pwyslais ar ddileu dosbarthiadau ariannol a bregethai yn hollol annerbyniol i feddylfryd yr 19ef ganrif hwyr yn yr U.D.A.
Dyfyniad sydd yn danos ei chrefft a geiriau ac a danlinellai eu diffyg ffydd mewn awdurdod yw hwn:
“Y wladwriaeth yw allor rhyddid gwelidyddol ac fel allor crefyddol y mae yno i’r pwrpas o aberthu dynol ryw”.
Fel y gwelwn yr oedd Emma Goldman yn areithwraig ffynring, nid yr oedd hi fel llawer yn poeni am beth oedd eraill yn meddwl ohoni. Credaf bod  gan lawer o fenywod ofn bod yn angerddol yn enwedig mewn sefyllfaoedd gwleidyddol gan eu bod ofn edrych yn hysterical neu fel petaent yn ddi-reswm a gor-emosiynol, ond nid oedd y sterioteip yma yn poeni dim ar Goldman. Rheibiai eu cwestiynau yr hyn a gymer y mwyafrif yn ganiataol – gwelai ffawd dynol ryw fel peth rhy bwysig i gilio ohono’n ddistaw a pharchus, nid oedd ei delwedd personol o’i hyn yn effeithio ar y ffordd y byddai hi’n gwneud yr hyn a gredai i fod yn gyfiawn.
Cafodd Emma Goldman ei herlid o’r U.D.A. ac aeth i’r Undeb Sofietaidd tra bu Lenin mewn grym. Yr oedd y sefyllfa wedi’r chwyldro yn peri cryn ofid iddi, a gan ei bod yn lleisio’i drwgdybiaethau ynglyn a parth yr U.S.S.R. cafodd ei herlid unwaith eto. Wedi cael ei herlid o un wlad i’r llal yn Ewrop daeth i fyw i’r Deyrnas Unedig. Wedi ei holl bregethu yn condemio’r modd mae priodi yn gwneud caethwas o’r ferch, er mwyn aros ym Mhrydain, priododd neb llai na glowr o dde Cymru.
Peth rhyfedd yw i mi ei bodcyn lleied o fobol wediclwed am ddynes anghygoel hon, er bod ei bywyd wedi bod gymaint o ysbrydolaerth.
Wrth edrych ar gefn clawr detholiad o’i hareithiau gwelaf lun o ddynes di-lol yn ei chwedegau, tebyg iawn i hen athrawes ysgol. Gwallt llwydwyn wedi ei bentyrru yn chwit chwat ar ei phen. Gorffwyasa sbectol enfawr megis dau waleod potel gwin ar ei thrwyn pwt. Y mae hi’n fenyw mewn oed yn y llun hwn a gwyneb crebachllyd fel deilen grin, ond ym mhob crych ar ei gwyneb gwelaf y gofid a phenderfynniad oedd ganddi i newid y byd er gwell.

Dim ond braslun o Emma Goldman yw hwn, mae ei chysyniad eithafol o ryddid, ac optimistiaeth mewn potensial dynol ryw yn ysbrydolaeth. Yn ein hoes ni o gymedroldeb a gwrth- eithafiaeth y mae hi yn dangos bod rhaid anelu’n uchel, ac hyd yn oed os anelwn am y lleuad, os methwn ni, fe wnawn lanio ymysg y ser.

Ffansin ffrwchweddus ‘Ffwff’!

Ffansin newydd ‘Ffwff’!

Celf clawr gan Mererid Haf Merecoincidence.

Yr ydym eisiau cyfranwyr i ffansin gwrth-awdurdodol i’r genod! Cartŵn, celf, erthygl, barddoniaeth, stori, profiad, ryseitiau, cyfarwyddiadau i greu rhywbeth adref steil D.I.Y. rhyw neu rhywiaeth… be bynnag da chi isho! Gyrrwch e-bost at daldydin@hotmail.co.uk neu gadewch sylw yma  os ydych chi awydd cyfrannu.. Mae modd i chi wneud tudalen A5 a’i sganio a’i ddanfon dros y we os ydych chi’n byw yn bell o Wynedd.

Be ydi ffansin? Dyma Heledd Williams yn trio egluro yn ‘Steddfod yr Urdd 2011 y diwrnod yr oedd gweithdy ffansins yr oedd yn ei gynnal ar y maes ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Fideo oddi ar blog y Twll.