Na i ffasgiaid! Na i Islamoffobia!

Ffasgiaid yn galw am “brotest” gwrth-ffoaduriaid yng Nglyn Ebwy, ond ddim un ohonynt yn troi lan!

Wnath grŵp o’r enw “Welsh Resistance” creu ffys arlein am gal “brotest” gwrth-ffoaduriaid ar Awst yr 20fed yng Nglyn Ebwy, ond yn ôl pob sôn dath dim ohonynt! Yn lle, cynhaliwyd protest gwrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol a ddangosodd eu croeso i ffoaduriaid yn y cwm.

Blemaerffasgiaidlol Gêm hwyl: Ffindiwch y ffasgiaid! (cliw: mae’n amhosib)

Ma ffasgiaid yr ynys yn gyflym creu traddodiad o beidio dod allan i ddigwyddiadau eu hun! Digon o ddiddanwch yw “llinell amser” yr Wales Online:

14:41
Welsh Resistance have taken down their Facebook page

17:49
No sign of the protesters [y ffasgiaid, hynny yw] yet

18:04
Still no protesters

18:08
There’s no sign of the protesters in Wetherspoons pub

19:37
Nope… they still haven’t shown up

Haha!

Wrth gwrs, ma tueddiad pan ma ffasgiaid yn colli neu yn pyllu ymddangos i danamcangyfrif eu bygythiad. Ond mae trais ffasgaidd yn Dover ar ddechre’r flwyddyn, neu yn Abertawe yn ddiweddar, a digwyddiadau diweddarach Caerdydd (gwelir isod), yn ddigon i’n hatgoffa bod angen i ni amddiffyn ac hunan-ymdrefnu ein gilydd. A hyd yn oed heb gofio grwpiau ffasgaidd ymdrefnus, ma’r sefyllfa i ffoaduriaid yn parhau yn un hunllefus – pe bai’n gwladwriaethau Ewrop yn ymosod arnynt a’u carcharu, neu hiliaeth ac ymosodiadau dydd i ddydd oddi wrth ddinasyddion gwyn. Ma gwrthwynebu ffasgiaeth dim ond yn un rhan o’r frwydr.

 
Daily Mail cachaidd yn cam-gyhuddo Imam a Chanolfan Mwslemiaid yng Nghaerdydd

[Nodyn gynnwys: ma’r isod yn delio a hiliaeth uffernnol, ac yn cyffwrdd ar weithredoedd gall fod yn anodd i rai darllen.]

Mis yn ôl, cyhoeddodd y Daily Mail celwydd o erthygl  oedd yn ymosod ar bregethwr yng Nghaerdydd. Gan gymryd geiriau’r Shaykh Ali Hammuda allan o’u cyd-destun a’u troi yn llwyr, wnaethant ei gam-gyhuddo o gefnogi caethweision rhyw ac “ISIS”. Fel gellid disgwyl o’r Daily Mail, ymestynnwyd y cyhuddiad ffals i’r Ganolfan Al-Manar yng Nghaerdydd ac i Fwslemiaid i gyd.*

DailyFail

Mae’r Imam Ali Hammuda wedi eisoes pregethu yn erbyn caethweision ryw ac yn erbyn “ISIS”. Roedd yn pregethu yn erbyn “ISIS” hir gyn iddynt fod yn destun mawr i gyfryngau’r Gorllewin. Ysgrifennodd ymateb sownd i’r Daily Mail fanyn. Mae ei eiriau cau, sydd yn ein hatgoffa o hanes y babur newydd, yn werth ailadrodd:

“I feel proud that the only paper in the British press low enough to stoop to such a level was the Daily Mail. It is an honour to be smeared by the same paper that allied itself with Adolf Hitler in its smearing of Jews during the Holocaust.” Ie wir.

 

Ffasgiaid “Britain First” yn bygythio Mwslemiaid yn y ddinas

Defnyddiodd y ffasgiaid “Britain First” y camgyhuddiad fel esgus i fygwth Mwslemiaid Caerdydd. Uwchlwythwyd fideo ganddynt wythnos diwethaf sy’n dangos grŵp ohoynyt yn cerdded i mewn i’r Ganolfan Al-Manar gan fygwth y bobl oedd yno. Wrth adael ma un ohonynt yn weud: “we’ll be back”.

Plaid a gang-stryd hiliol a threisgar yw “Britain First”. Maent wedi gwthio mewn i Ganolfannau Mwslimaidd a Mosgiau yn y gorffennol. Maent yn ymosod, trwy eu rhetoreg ac yn ffisegol, ar Fwslemiaid a phobl nad yw’n gwyn. Mae ganddynt ideoleg asgell-dde eithafol o Gristnogaeth a Phrydeindod, ac arian ac aelodau oddi wrth gyn-filwyr. Yn Fehefin, cawsant “gwersyll hyfforddiant” yn Eryri, oedd yn gynnwys dysgu ymladd a chyllell. Mae nifer wedi cysylltu llofruddiwr yr AS Jo Cox, a digwyddodd ychydig o ddyddiau ar ôl y gwersyll, â “Britain First”.

CachwrsBritainFirst

Ar y degfed o Fedi, wythnos nesaf, ma “Britain First” yn bwriadu cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd. (Ma ganddynt digwyddiad ar Facebook. Dydyn nhw heb gyhoeddi lleoliad penodol.)

Nid oes lle i’r cachwrs ffasgaidd ma, nid yng Nghymru na nunman arall!

 
Eraill yn cofio hanes gwrth-ffasgaidd yng Nghymru

Ma eraill wedi bod yn cofio tair Cymraes gwrth-ffasgaidd o’n hanes. Aeth Thora Silverthorne, Margaret Powell a Fifi Roberts i ryfel cartref Sbaen yn y ’30au i gyfrannu yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth. Ysgrifennwyd erthygl ddiweddar amdanynt yn Gymraeg fanyn.

 

Croeso i ffoaduriaid!
Chwalwn Islamoffobia!
¡No pasarán!

 

________________________________

*Mae erthygl y Daily Mail yn dilyn cyhuddiadau eraill, llawn Islamoffobia, yn erbyn y Ganolfan Al-Manar. Dwy flynedd yn ôl, yn dilyn ymadawiad dau ddyn o Gaerdydd i ymladd am “ISIS”, ceisiodd y cyfryngau cyhuddo’r ganolfan o “radicaleiddio”, er iddynt wastad sefyll yn erbyn “ISIS”. Mae gan y Ganolfan ymatebion pwysig i’r camgyhuddiad hwn a’r celwyddau am Ali Hammuda. Ynddynt, mae’r Ganolfan yn galw am “heddwch a chyfiawnder cymdeithasol”. http://www.almanar.org.uk/page.php?page_id=8

Os nad yw’r camgyhuddiadau Islamaffobaidd hyn yn peri gormod o ofid, ma holl wefan wedi’u creu sydd yn llawn cach hiliol a chelwyddau yn erbyn Mosg Madina Caerdydd (a Mwslemiaid yn gyffredinnol). Nodyn cynnwys (“content note”): mae’n cynnwys hiliaeth uffernol, ac mae’r camgyhuddiadau yn ymdrin a weithredai gall fod yn anodd i rai darllen. https://tinyurl.com/jyavhdg

Bwysig nodi hefyd bod y cyfryngau Gorllewinol braidd byth yn sôn am y Mwslemiaid yn Syria sydd yn ymladd yn erbyn yr hyn a elwir “ISIS”, na chwaith am bobl sydd wedi gadael yr ynys hon i ymladd yn erbyn “ISIS”. Yn Syria a Chwrdistan, ar hyn o bryd, ma llwyth o grwpiau chwyldroadol gwahanol, sydd yn amddiffyn eu hun yn erbyn cyflafan y llywodraeth awdurdodol Assad, ac yn erbyn cyflafan “ISIS”. Mae “ISIS” a’r llywodraeth yn cyd-weithio wrth ymosod ar y gwrthryfel poblogaidd hwn. Ac yn y cyfamser, mae’r Gorllewin imperialaidd, peilotiaid a drones Prydeinig, yn gollwng bomiau arnynt. Mae anarchiaid yn y Gorllewin wedi denu sylw at frwydr y Cwrdiaid am ryddid, ond prin iawn sydd yn siarad am wrthryfel chwyldroadol gan Arabiaid yn Syria.
https://rabble.org.uk/syrian-revolutionaries-and-us-air-strikes/
https://eternispring.wordpress.com/

Advertisements

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams

Hiliaeth a Chymreictod: “Sugar & Slate” Charlotte Williams
gan Hwntw Arall

Yn ei llyfr “Sugar & Slate”, adrodda Charlotte Williams atgofion personol a hanesion sydd ynghlwm iddynt. I’r Cymry gwyn, dyma storïau anghyfforddus – yn enwedig i rai (fel myfi) sy’n ffansio eu hun a’u cenedl yn radical. Amhosib fydda gywasgu’r llyfr, ond dyma ychydig o ddyfyniadau o’r hanesion sydd yn ymwneud â Chymru:

” “A CONGO COLONY IN WALES
Daily Graphic of Wednesday July 13th 1892

One of the prettiest spots of the many pleasant places on the main line between Chester and Holyhead is Colwyn bay, not inaptly termed the “Naples of Wales”. There the Congo Training Institute has been established under the patronage of King Leopold of the Belgians [1], to train African converts as missionaries, schoolmasters, and useful handicraftsmen. This Institute, which is only in its infancy as yet, owes its origin to a Welshman – the Rev. W. Hughes – who was sent out to the Congo by a missionary society, and was there when Mr. Stanley went to found the Free State. Seeing how rapidly the Europeans became victims of the climate, and how little could be done to Christianise and civilise the vast continent by the exertions of a few scattered workers, he cast about him to devise a plan for carrying on the work more efficiently and with less cost of human life. Before, however, he had matured a scheme he was relcutantly compelled to embark for England, nearly in a dying state. He took with him two coloured youths, one of whom he had redeemed from slavery… This opened a path by which the problem of civilising Africa could be carried out.

The two boys [o’r Congo] were stars wherever they went. They preached the mission in parish after parish throughout north and south Wales, where posters announced that the Reverend Williams Hughes would speak of his missionary travels and that the bechgyn duon would sing in Welsh, English and their native tongue. In the chapels they took up the hymnal and sang:

Doed Paganiaid yn eu tywyllwch,
Doed y Negro dua’u lliw,
Doed addolwyr yr eilunod,
I weld tegwch Iesu’n Dduw
Deued llu heb ddim rhi’
Fyth i ganu am Galfari.

[Hymn 419, Vs 3, Llyfr Emynau – Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd]

I think I know what it is like to be stranded at an outpost like Colwyn Bay; dislodged, dislocated. I imagine their lives played out in the little town with its ideas and images of the black man created through Bible culture. I know what its like to be a curiosity. To be loved for your quaintness and your difference in a way that means you will never be normal. When I recreate this past I touch home with a particular kind of dislocation.

But there is more to the Congo boys story than this. It lets me see an Africa with the eyes of Wales. I see the Welsh memory that comes from missionaries stories of their travels, that comes from the chapels, the chapel hymns and the Sunday schools, from the collection boxes; from Ma – a story of Africa that passes on and on and on down generations in which strangely I have two parts. A story in which somehow I am both looking at and looked upon.

I guess it’s that type of story of Africa and black people that seeped into the cultural portraits of Wales. The missionaries went in the hundreds to the Dark Continent and all over the world, and brought home their tales to the parishes. Their ambitions were laid down forever in the lines of hymns – the most famous of all – “Draw, draw yn Tseina“:

Draw, draw yn Tseina a thiroedd Japan,
Plant bach melynion sy’n byw
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhob man
Neb i ddweud am Dduw
Iesu, cofia’r plant,
Iesu cofia’r plant,
Anfon genhadon ymhell dros y môr
Iesu, cofia’r plant.“”

Mae fy nhad yn cofio canu’r emyn olaf hwn. Aiff Charlotte Williams mlan i ddisgrifio meddylfryd y fath genhadon:

” There were lots of them, men and women – Evan Evans, Eluned Morgan, Betsy Cadwalader – writing home about their travels and their yearnings for home. Like the Reverend Williams Hughes they worked hard to take the word of God to people with gods of their own. At the same time they had to present what they did in a way that might be palatable to their own people. They had to tell about their work in a way that condemned exploitation and plunder and disassociated itself from the forces of colonialism. These travelers must have seen themselves as leaders of a superior style of Empire building, a moral crusade. They used the same maps as the colonisers, took the same routes and byways, but … Their mission was of a higher order. They managed to be both saviors of the natives and at the same time bolster a sense of Welsh pride and self-identity that had been so cruelly robbed and pillaged by the same English colonialisation. They could boast that their work was unsullied by ruthless imperialism and so claim the moral high ground.”

Rhaid cofio mi oedd yna Gymry â rhannau blaenllaw yng ngweithredoedd colonialaeth Prydeinig. Nid oedd hyn wedi’u cyfyngu i’r grefyddol. Roedd gweinyddwyr a milwyr, cyfalafwyr a gwladychwyr, caethfasnachwyr a chaethfeistri Cymreig a Chymraeg. Mae’r cyfenwau Cymreig, y Jonesys a’r Robertsys, sydd gan ddisgynyddion caethweision yn y Caribî heddiw, yn dyst i hanesion Cymry gormesol [2]. Mae cyfoeth adeiladau crand yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau arall yn gofnod arall. Wrth gwrs, dydi Charlotte Williams ddim yn gwadu hyn, ond hytrach yn dangos fel mae’r naratif o Gymry bach, Cristnogol, “moesol” yn un sydd yn cuddio cyfranogaeth waedlyd y Cymry i golonialaeth, cyfranogaeth yr oedd y cenhadon yma yn un rhan arall ohono.

Yn hwyrach, mae Williams yn adrodd darn o farddoniaeth Cymraeg,

“…a Children’s poem by Talhaiarn called “Brenin y Canibalyddion” – “King of the Cannibals”. It appeared in children’s books up until recently. It’s a lively raucous poem that thunders alog at a pace like drumming:

Mi draethaf chwedl fach i chwi
Yn loyw, hoyw, ffraeth a ffri,
Am frenin mawr ei fraint a’i fri,
Sef Brenin y Canibalyddion.
Ei hyd oedd ddwylath a lled llaw,
A’i ben ‘run llun a^ phen hen raw;
‘Roedd ganddo swyddogion, wyth neu naw,
A’i balas a wnaed o bridd a baw;
A’i enw oedd Brwchan-wchan-iach,
Llumangi-hyllgi-wichgi-wach,
A’i wisg yn crogi fel hen sach
Am Frenin y Canibalyddion.

Yn howcio, cowcio, llowcio’n lli,
Chwipio a hicio a chicio’r ci,
Yn strim-stam strellach yn ei sbri
Bydd Brenin y Canibalyddion.

‘Roedd trigain o wragedd yn ei dŷ,
Pob un yn ddu, pob un yn hy,
A deugain o hyll-dduach ddu,
Gan Frenin y Canibalyddion.
Ac felly i gyd ‘roedd ganddo gant
I foddio ei fyd ac i foethi ei fant;
A genid bob wythnos ddau o blant,
A’r Brenin a ganai gyda’i dant,
Gan ddawnsio i Wisgan-isgan-aw
A Sipog-llethog-lwythog-law,
Nes syrthio ar ei gefn i’r baw –
Ow! Frenin y Canibalyddion.

In later verses the grotesque King ends up eating his entire harem and several of his princes. “And their throats were cut one and all, every hideous horrible man and woman”.”

Yn wir, cynhwysid “Brenin y Canibalyddion” yng nghasgliad newydd “Mwy o Hoff Gerddi Cymru” yn 2010. Sawl flwyddyn ar ôl cyhoeddiad “Sugar & Slate” mae rhai dal yn gweld y darn yma o farddoniaeth fel un o’n ffefrynnau llenyddol. Dylse’r Cymry gwyn cydnabod y fath hiliaeth Gymreig a Chymraeg â siom, nid ei dathlu.

Mae Williams hefyd yn sôn am ei phrofiadau o ymgroesiad (neu ddiffyg ymgroesiad) brwydrau dros yr iaith a brwydrau yn erbyn hiliaeth, a hanes terfysg hil 1919 Caerdydd:

” I arrived back to find Wales was itself in an angry mood. Twenty years of Welsh-language politics had risen from a simmer to a boil. The conflict about housing had shifted to jobs. Whilst English-owned holiday homes weren’t being burned down anymore, the battles were being played out behind closed doors in County Hall and on the front line in the public offices and in the schools. I went back to lecturing at the university and continued to dangle uncomfortably between the English/Welsh animosities. It was an old battle that I had been caught up in before during my own student days. At that time there had been a moment of student activism of the type we hadn’t seen in Britain since the Sixties, only Britain didn’t seem particularly interested. I suppose it’s fair to say Britain was distracted. Toxteth and Brixton had been set alight as race politics moved onto the streets. It all seemed very far away, too far away for me to identify with.

It’s hard to believe that the first major race riots in Britain were in Wales. The Cardiff riot in 1919 was one of the fiercest racial out-breaks in history. Hundreds of people took to the streets in a melee of racial violence. Black people were attacked in the streets and in their homes by lynch mobs led by soldiers who had been drafted in to quell the violence. Ugly crowds rampaged through the streets rooting out black men, damned for working and damned for having relationships with local women. The disturbance led to the laying off and repatriation of hundreds of African and West Indian sailors who were blamed for trying to defend themselves. Suzanne’s grandfather was one of them.

What a lot of people don’t know is that the Cardiff riots triggered an upsurge in black consciousness in the West Indies and a major insurrection against British colonialism all over the Caribbean. It began when some Trinidadians who had been caught up in the conflict returned home. Within days they started rioting against white sailors in Port of Spain. The conflict grew and became a major dock strike that almost brought the Empire to its knees within days. Soldiers in Belize began an uprising against the white British, and in Jamaica, seamen were out fighting hand to hand with British sailors. There was so much unrest all over the West Indies that the Colonial Office was forced to take steps to protect British subjects in the region. The protests had links with struggles in America and spread across continents in the Pan Africanist movement. At home the memories of the Cardiff race riots were etched into black consciousness and became the touchstone for black people fighting against the colour bar in Britain during the Twenties and Thirties. None of this was part of our course at university. We were sitting in warm lecture rooms listening to lectures about Marx and the class war whilst out in the quadrangle Welsh-speaking students were painting anti-English slogans and noisily protesting about English oppression of the Welsh.

Language politics filled the air. I remember experiencing the sense that things were changing but that I wasn’t included in the battle. I couldn’t empathise with it all because for the great mass of us the agitation was unexplained, decontextualised, something to do with a history in which there were only two sides – Welsh or English – and for those of us who didn’t sit comfortably on either, there was no role at all. This great movement for Wales wasn’t taking us al along with it. On the contrary, out of necessity or neglect it was fast excluding us.”

Wrth i ffasgiaid ceisio gorymdeithio eto a thrais hiliol yr heddlu parhau, nid yw brwydr 1919 drosodd. Anoddach efallai yw cydnabod dyfnder hiliaeth a goruchafiaeth gwyn, ei bresenoldeb nid yn unig yn ffasgydd neu heddwas “draw fynna”, ond hefyd yn ein perthnasau pob dydd a’n mudiadau radical “fanyn”. Mae geiriau Williams yn pwysleisio her fawr ac anghyfforddus i’r Cymry gwyn sydd ynghlwm a’r frwydr dros yr iaith a brwydrau eraill.

Ond mae hefyd digon o obaith yn llyfr Williams. Tua diwedd “Sugar & Slate” dengys, heb ddileu gwahaniaethau brwydrau gwahanol na chwaith israddio un i’r llall, bod gelynion tebyg a phosibiliadau o unoliaeth a chyd-frwydro.

” I am compelled to go back in time and meet up with the ancestors in the shadow of a great slateocracy, compelled to visit my history. I walk with them across a hundred years in the grounds of Penrhyn Castle from where Richard Pennant, the first Lord Penrhyn ran an empire built on profits from land ownership and a massive industrial wealth. … The twist for me is that this whole empire would not have been possible at all had it not been for the huge fortune Richard Pennant made from what he called his West India interests. It was the cruelly driven slaves; men, women and children who toiled and sweated for the huge sugar profits that built the industries in Wales. Out of the profits of slave-labour in one Empire, he built another on near-slave labour. The plantocracy sponsored the slateocracy in an intimate web of relationships where sugar and slate were the commodities and brute force and exploited labour were the building blocks of the Welsh Empire. My slate memories and my sugar memories are forged together. In the chapels on the high street of Bethesda the people turned over the pages of the abolitionist pamphlets and found the quarryman and the slave were like on in their resistance of the oppressor. The shared plight of the factory slaves at home and the plantation slaves elsewhere had an echo right across Wales with the quarrymen, the iron smelters, the black faced miners, all knew what it meant to be robbed, beaten down, have their language, their culture, name and place stolen from them”.

O’r gobaith hwn, ni chawn ddelwedd o genedl pur heb wahaniaethau, heb orthrymder, heb hanesion siomedig ac anodd. Yn hytrach, cawn Gymreictod cymhleth, â’u aml-berthnasau i’r brwydrau gwahanol yn erbyn gormes. Cymru llawn boen a ffraeo, a Chymru allwn fentro hoffi.

” I know why it is that I like Wales. I like it because it is fragmented, because there is a loud bawling row raging, because its inner pain is coming to terms with its differences and its divisions, because it realises it can’t hold on to the myth of sameness, past or present.”

 

_______________

[1] Am ychydig o gydestun erchyll o ran gweithredoedd Leopold II, gwelwch https://en.wikipedia.org/wiki/Leopold_II_of_Belgium#Exploitation.2C_atrocities.2C_and_death_toll .

[2] Gorfodwyd enwau “Cristnogol” ar gaethweision – yn aml gyfenwau’r meistri.

Rhaglen Safaiad Casnewydd 26 Mai -1af o Fehefin

Safiad Casnewydd Colour

Dyma’r rhaglen ar gyfer yr wythnos, mwy i’w gadarnhau!

26 Mai – 1 Mehefin

Wythnos gyfa o ddigwyddiadau mewn lleoliad yng Nghasnewydd

Llun 26fed:

11:00 -17:00: Ail-greu Murlun y Siartwyr

13-16: Sesiwn Blas ar Hunanamddiffyniad i Fenywod – Merched yn unig

16:00: Hyfforddiant Gwybod dy Hawliau gyda’r Heddlu

19:30: Y Gymuned, Democratiaeth ac Siartiaeth

Maw 27fed:

11:00: Hawliau Anifeiliaid

13:00: Na i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd. Ynni Niwclear = Arfau Niwclear gan South West against Nuclear

14:00yh:Ffracio yn Nghymru

14:00-17:00: Gweithdy Stencil / graffiti

16:00-18:00: Gweithdy Cymorth Cyntaf sylfaenol

19.30: Ymgyrch Traffordd y Levels a Ffracio yng Nghasnewydd

Mercher 28fed:

14:00-17:00: Gweithdy gwneud banneri.

Amser i’w gadarnhau: Unoliaeth y Babell De – Strategaethau ar gyfer ymdopi â diweithdra 21ain Ganrif

14:00: Hyfforddiant Pŵer Gweithiwr gan yr IWW

Amser ‘w gadarnhau: Curwch Treth y Llofftydd

19:00: Stopio llafur gorfodol”Workfare” gan Boycott Workfare.

Iau 29fed:

14:00-17:00: Gweithdy gwneud bathodynau

15:00-16:30: Pam Dynion yn erbyn Patriarchaeth? (croeso i bob rhywedd)

Amser i’w gadarnhau: Cyflwyniad Dim Ffiniau Moroco

19:30: Ffiniau a hiliaeth, yn ogystal â ffilm am genedlaetholdeb.

Heyd! Stondin wrth-Ffasgaidd

Gwe 30fed:

12:30: Diddymu Carchardai

Amser i’w gadarnhau: Agweddau Hanesyddol Anarchiaeth

Amser i’w gadarnhau: Anarchiaeth i ddechreuwyr

19:30 – ‘Sut gallwn ni ddinistrio cyfalafiaeth ac yn gwneud bydoedd newydd o anarchiaeth a rhyddid?’ – Gweithdy gan Kaput (https://network23.org/kaput/)

Hwyrach bydd gig acwstig gyda Cosmo, Emu Lou a Raz yn ogystal â “Dancing Queer” perfformiad bolddawnsio.

Sadwrn 31fed

Diwrnod o brotest a theatr stryd

19:30: Sgwrs gan bobl ar taith gerdded Urddas o Fryste i Gaerdydd.

Sul 1af

12:30: Sesiwn ar gwrthsefyll y rhyfeloedd drônau – gyda phwyslais ar ymwrthedd i Barc Aberporth yng Nghymru a Banc Barclays, buddsoddwr mewn technoleg drônau.

14:00: Atal Recriwtio milwrol yn Ne Cymru.

16:00: Gwrthsefyll Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd – cyflwyniad gan Stop NATO Cymru.

18:30: Cyfarfod trefnu i adeiladu ar y gwrthwynebiad yn erbyn UwchgynhadleddNATO. Croeso i bawb!

Bob dydd:

Te a chacennau rhad ac am ddim drwy’r wythnos.

Pryd poeth rhad ac am ddim bob nos.

Arddangosfa anarchiaeth

Ffansins a Llyfrau
Manylion y Lleoliad yn yn cael eu datgenlu yn agosach at yr amser.

Er mwyn helpu neu wneud rhodd bwyd, deunyddiau neu arian, dewch draw am sgwrs neu e-bostiwch stopnatocymru @ riseup.net

Beth yw’r Syrcas Symudol Anarchaidd?

Mae gan y Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd gynlluniau i gynnal digwyddiadau tebyg o amgylch y DU gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o anarchiaeth ac adeiladu mudiad fydd gyda’r cryfder i weithredu dros newid. Ewch i http://www.anarchistaction.net am fwy o wybodaeth.

 

Gwynebu’r National Front yn Abertawe 9/3/2013

Ar y 9fed o Fawrth 2013 ddaeth grŵp o hilgwn i Abertawe i brotestio ar gyfer ‘World White Pride Day’.

Gwn i ddim amdanoch chi ond dwi’n gweld hyn fel ychydig o baradocs. World White Pride? Ewropeaid ydi pobl gwyn yn wreiddiol, pam buasai pobol Asia, Affrica, brodorion Awstralia yn ‘dathlu’ pobol gwyn? Yn enwedig o gysidro’r erchylltra a achoswyd ac sydd dal yn cael ei achosi gan y byd gwyn a gorllewinol drwy imperialaeth fodern a chyfalafiaeth. Rhyfeloedd, distryw amgylcheddol, egsbloitio di-ben draw a tactegau hull y divide and rule... Pwy uffar fuasai’n falch o bod yn wyn?

Ymunodd Antifa o bob rhan o Ynysoedd Prydain gyda Antifa Abertawe i wrthwynebu yr hyn oedd yn digwydd ar y diwrnod yma.

Daeth tua 400 o wrth-ffasgwyr hefyd i Abertawe er mwyn cynnal protest statig gyferbyn a ble yr oedd y ffasgwyr wedi cynllunio cynnal eu protest nhw. Yr oedd y ddau ‘ochor’ wedi eu gwahanu gan gae a llu o blismyn ar geffylau, dim ond tua 50 ffasgydd ddoth i’r brotest er mwyn ‘dathlu gwynder eu croen’. Da iawn chi am ‘bod yn wyn’ fechgyn, os mai dyma pinacl llwyddiant eich bywyd mae’n dweud lot amdanoch chi dydi?

Gwrth-ffasgwyr

Gwrth-ffasgwyr

Yr oedd faniau reiat, heddlu ar geffylau, heddlu ar droed, heddlu cudd (plainclothes) faniau ‘cymorth cyntaf’ rhyfedd oedd yn amlwg yn dilyn protestwyr i bob man yn gorchuddio’r ddinas.

Yn ôl rhai yr oedd ffasgwyr yn cyfarfod yn nhafarn Yates fel y gwnaethant rhai blynyddoedd nol yn eu protest hiliol diwethaf (ond y tro hynny dan faner y ‘Welsh Defence Leauge’).

Llun o ffasgwyr Abertawe pan oeddynt yn defnyddio'r fanner 'Welsh Defence Leuge'

Llun o ffasgwyr Abertawe pan oeddynt yn defnyddio’r fanner ‘Welsh Defence Leuge’

Yr oedd arsylwyr cyfreithiol (legal observers) yn bresennol ar draws Abertawe ac yn cymryd rhifau heddlu ac yn eu gwylio rhag ofn iddynt hambygio pobl neu weithredu’n anghyfreithlon. Yr oedd grŵp Antifa yn barod i wynebu’r ffasgwyr yn uniongyrchol. Dyma’r prif wahaniaeth rhwng tactegau Antifa a grwpiau gwrth-ffasgaidd eraill.

Gorchuddiodd llawer o ymgyrchwyr Antifa eu hwynebau a gwisgo mewn du gan fod ffasgwyr yn dueddol o roi eu lluniau ohonynt ar wefan o’r enw redwatch. Mae’r wefan hon annog neo-nazis i ymosod ar ymgyrchwyr asgell chwith a’r Antifa drwy roi eu lluniau a gwybodaeth amdanynt are eu gwefan. Fe wnaeth yr heddlu eu gorfodi i dynnu eu mygydau drwy ddefnyddio Secion 60 arnynt yn ystod y dydd

Fe wnaeth yr heddlu ddal y grŵp Antifa yn y diwedd ar ol rhedeg ar eu hol am sbel yn ol y son, yna eu gorchymyn i dynnu eu mygydau a ffilmio eu hwynebau. Cafodd yr Antifa eu dal am amser tu allan Yates yn canol y dre gan yr heddlu (am gario arfau peryg… fflagiau!) cyn cael eu egortio i’r cae ble yr oedd y prif brotest. Yma yr oedd modd i’r heddlu gadw gwell llygaid arnynt a’u cadw rhag gwynebu’r ffasgwyr, fe wnaeth heddlu geisio archwilio rhai o’r Antifa ond llwyddodd rhai i gerdded iffwrdd yn y dryswch.

Defnyddiodd yr heddlu Section 60, Section 12 a 14 ar yr Antifa.

Beth allech chi wneud? Gadewch wybod i’r cwmni bws eich bod yn anniddig ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi gwasanaethu’r hilgwn. Mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod ble oedd gig hiliol Blood and Honour y National Front yn cael ei gynnal. Fe wnai ei bostio unwaith mae rhagor o wybodaeth.

Hilgwn y National Front yn Abertawe

Hilgwn y National Front yn Abertawe

Mae’n hollbwysig gwrthwynebu’r baw yma ymhob ffordd. Yn Ewrop mae grwpiau fel hyn yn llofruddio pobl ddiniwed heddiw ac yn hanesyddol mae pobl fel hyn wedi lladd miloedd fel yn yr ail ryfel byd ac yn rhyfel cartref Sbaen.

'David Powell's collection of SS knives' oddi ar UK Indymedia. Un arwydd o pa mor beryglus yw y pobl yma.

‘David Powell’s collection of SS knives’ oddi ar UK Indymedia. Un arwydd o pa mor beryglus yw y pobl yma.

Gwybodaeth am ffasgwyr Abertawe ar UK Indymedia.

Dyma  gwefan yr Antifa Cymreig.

Dim Ffiniau! Hafan i Mrs S a’i phlant!

Ffilm o’r teulu yn cael eu herwgipio gan y UKBA

‘I’m scared that I might never be able to see them again, because I might never be able to go back to Egypt. It’s really dangerous – which is why they are seeking asylum. I don’t want them to die,’
Shrouk, merch hynaf Mrs S
Cyrhaeddodd Mrs S a’i dau o blant yn Y DU ym mis Tachwedd 2007 ar ôl ddioddef 15 mlynedd o drais yn yr Aifft. Fe wnaeth eu merch ieuengaf aros ar ôl yn yr Aifft ac fe wnaeth y Swyddfa Gartref ei helpu hi a’i aduno gyda’i theulu yn saff yn y DU. Mae eu hachos a phob hawl i apelio wedi cael ei wrthod, er bod y teulu cyfan o dan fygythiad difrifol o drais neu hyd yn oed marwolaeth gan ‘honour killing’ os caffent eu gyrru yn ôl i’r Aifft.

Mae Mrs S wedi bod yn erchi hafan oddi wrth gwr creulon a treisgar, fe wnaeth ei weithredoedd ef roi bywydau hi a’i phlant mewn perygl dros 15 mlynedd hyd at yr eithafiaeth o farwolaeth a chael eu treisio. Fe wnaeth yr awdurdodau yn yr Aifft anwybyddu’r achos yma o drais yn y cartref gan fod ei gŵr hi gyda chysylltiadau agos gyda’r heddlu, y gyfraith ac awdurdodau eraill.

Dylai Mrs S gael ei hamddiffyn yn ôl cyfraith ryngwladol confensiwn Reffugee yr UN gan fod ei bywyd hi a’i phlant mewn perygl. Yr ydym yn galw ar weinidog y DU ar gyfer Mewnfudo iddo roi caniatâd i Mrs S a’i phlant i aros yn y DU ar y sail yma.
Dyma’r Deisib
Gwefan Dim Ffiniau De Cymnru

Gwefan Facebook

Dyma be ddigwyddodd wedyn ar indymedia