Eisteddwch yn Llonydd

Eisteddwch yn Llonydd

gan Hwntw Arall

 

heddlumas

 

Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.

[Trefnwyr yr Eisteddfod yn baratoi am fygythiad Swffragetiaid, 1912]

 

A oes heddlu? Oes!
A oes pris mynediad? Oes!
A oes snobyddiaeth? Oes!

 

Y crachach a drefnodd yr Eisteddfod fodern. Rhan o ymgeision uwch-Gymru’r Oes Fictoria i buro’r genedl: dros Gymru ufudd, Cymru’r Beibl, Cymru parchus. Eu neges i bendefigion Loegr (ac i’w hun): Nid Cymry oedd Cymry terfysgoedd ‘Beca, nid iaith helyntus yw’r Gymraeg.

Mae ystyr “parchus” wedi newid wrth gwrs. Siwr, heddiw cawn yfed cwrw ar y maes a chawn jôcs budr a direidi ar y llwyfan (digon i droi bol Syr O. M. a’i fab – ac eraill hyd heddiw!). Ond cawn hefyd stondin i’n heddlu treisgar, stondinau i’r gwleidyddion cachaidd ac yn gynyddol i gorfforaethau di-wyneb.

(Ife hyn yw ein diwylliant, neu gyfle hysbysebu? Ni chawn drafod ar ôl y toriad)

Ond mae digon o “gythryblwyr” sydd wedi ac sydd yn herio’r trefn. Pe bai’n werinos Abertawe yn dwyn seddi’r crach yn Steddfod 1891, neu werinos heddiw yn ail-baentio stondinau, neu geir, neu yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn neu dros wasanaethau Cymraeg i blant, neu jest babell o feirdd yn anerchi’n eu tro yn erbyn bomiau ‘drones’ Prydeinig, ma traddodiad hir o Eisteddfodwyr radical.

syrifan

[Syr Ifan yn penderfynu bod angen chwyldro, Eisteddfod yr Urdd, 1927]

Maes i frwydro ynddi, maes i’w meddianu yw’r Eisteddfod felly. Dyma ein diwylliant, yn ôl pob sôn, ond nid ni sydd a’u meddiant. Da ni’n haeddu mwy na’r hyn ma nhw’n rhoi. Am yr holl genedlaethau o Gymry a ecsbloetiwyd, ac am ein hecsploetio heddiw, da ni’n haeddu Eisteddfod am ddim, a mwy eto. Eisteddfod heb heddlu. Eisteddfod heb gatiau. Eisteddfod sydd yn rhan o’r fro ac yn fflam dros Gymreigeiddio, nid ynys breifat a noddwyd gan gwmni wedi’u cuddio yn rhyw gae. Mae’n hen bryd i ‘Beca codi yn erbyn tollbyrth yr Eisteddfod.

Gloi nawr, cyn i’r stiwardiaid cau’r drysau.

 

nidoesheddlu

 

__________________________________
Beth am gasglu archif Eisteddfod radical? Dyma chydig casglais yn gloi.
Rhowch sylwad isod i ychwanegu mwy.

(Wrth gwrs, odd yr uchod yn son am “yr” Eisteddfod (Genedlaethol), ac ma pethe’n debyg iawn o ran Eisteddfod yr Urdd. Ond diddorol fydde cymharu hyn ag Eisteddfodau eraill. Odd croeso i’r heddlu yn Eisteddfod y Glowyr? Odd y crachach yn ddominyddu Eisteddfodau bwrlymus Merthyr yn yr 1820au?)

1891
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
Digon o helynt pan wnaiff dorf gwlyb a oedd wedi danto ar eistedd yn y glaw (chwalwyd rhan o’r pafiliwn gan storm) rhuthro i gymryd seddi cadw y crach yn y blaen (yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wag, ac o dan cysgod gweddill y pafiliwn). Ma Syr O.M ei hun yn ysgrifennu am ei ofn ar yr achlysur (yr oedd ef yn eistedd yn y seddi blaen yn barod, wrth gwrs).
[Ma Hywel Teifi Edwards yn ysgrifennu amdani yn llyfr a chyhoeddwyd gydag Eisteddfod diweddarach a ddigwyddodd yn Abertawe, rhaid i fi ei ffeindio a’u dyfynnu..]

1912
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam
Swffragetiaid yn brotestio yn ystod ymweliad David Lloyd George.
https://www.casgliadywerin.cymru/story/378341

1957
Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
Paul Robeson, y canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil yn yr UDA a sawl achos arall, yn siarad dros ddolen trawsiwerydd i Will Paynter.
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

1958
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy
Paul Robeson yn dod i siarad yn bersonol, ar ôl i lywodraeth yr UDA ail-ganiatau ei basbort.
“You have shaped my life – I have learned from you. I am part of the working class.”
https://teifidancer-teifidancer.blogspot.com/2016/08/paul-robeson-941898-23176-and-people-of.html

2006
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
“Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith Newydd ym mhabell y Blaid Lafur.”

2011
Eisteddfod yr Urdd, Abertawe
“Protest S4C – Rhaid i Cyw Fyw!”
http://archif.cymdeithas.org/2011/05/31/protest_s4c_-_rhaid_i_cyw_fyw.html

2014
Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd
“Cymdeithas yr Iaith yn amgylchynu Carwyn Jones a galw arno i ‘ddeffro’ ynglyn a sefyllfa’r Gymraeg, ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014”

2015
Eisteddfod yr Urdd, Llancaiach Fawr, Caerffili
Protest yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn o flaen stondin Prifysgol Aberystwyth.
http://www.bbc.com/cymrufyw/32932881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod
“Chwistrellwyd “Rydym ni yn Tazerio Plant” ac “ACAB” ar uned Dyfed-Powys yn yr Eisteddfod yn ol y wefan Indymedia. Dywed fod y weithred hon mewn unoliaeth a’r sawl sydd wedi profi creulondeb a thrais gan yr Heddlu.”
https://anerchiadanarchaidd.wordpress.com/2015/08/11/gweithredu-yn-erbyn-heddlu-dyfed-powys-yn-eisteddfod-meifod-2015/

“Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Cymraeg Ail Iaith, wrth iddyn nhw sgrapio car ar faes yr Eisteddfod ym Meifod”

2016
Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint
“Protest yn erbyn toriadau i wasanaethau Cymraeg i Blant”
http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/226726-protest-yn-erbyn-toriadau-i-wasanaethau-cymraeg-i-blant-3

Parti yn y Stryd / Reclaim the Streets

CARS CANNOT DANCE: When they move they are violent and brutish, they lack sensitivity and rhythm.

CARS CANNOT PLAY: When they diverge from the straight and narrow, they kill.

CARS CANNOT SOCIALISE: They privatise, separate, isolate and alienate.

Dechreuwyd y brotest a elwir yn Reclaim the Streets gan y mudiad Earth First. Parti mawr yn y lon ydyw yn ei hanfod gyda systemau sain yn rheiddio cerddoriaeth techno neu bass gan amlaf. Protest ydyw yn erbyn ceir. Yr ydym ni wedi goroesi am filiynau o flytnyddoedd hebddyn nhw, pam ein bod ni yn teimlo bod rhaid cael ceir arnom ni rwan?!

Mae Reclaim the streets wedi digwydd dwywaith o’r blaen yng Nghaerdydd hyd y gwn i. Y tro cyntaf yn 1996 yr oedd yn lwyddiant, gyda canoedd yn dawnsio a cael hwyl yn enw amddiffyn y ddaear. Gwelais ffoto o’r miri yng ngharafan ffrind i mi. Oedd o’n edrych fatha laff! Yr ail dro gwnaeth ymgyrchwyr drio cynal Reclaim the Streets yng Nghaerdydd fe wnaeth sawl un eu harestio.

Mae dangosiad o ffilm ddogfen ynghylch Reclaim the Streets yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 12eg o Ebrill – dewch am 6:30yh i ddechrau am7yh

 

Hannes protestiadau lonydd yn ynysoedd Prydain-‘Reclaim the Streets’ Ffilm yn y Wells Hotel

reclaim_the_steets_poster_cymraeg

Mae’r Red and Black Umbrella wedi ymuno gyda y Wells Hotel (77 stryd Craddock, Riverside) i gyflwyno digwyddiad deuddydd ynghylch a ‘Hannes protestiadau lonydd yn ynysoedd Prydain’.

Yr oedd y mudiad yn wrth-gyfalafol, yn erbyn ceir, ac yn cynnwys pobl o bob math o gefndiroedd i ddathlu yn y stryd a dangos i’r gyfraith bod protestio medru bod yn hwyl. Does dim rhaid gwario llwyth i gael amser da! Dewch i wylio’r ffilm i ddarganfod mwy.

Bydd bwyd vegan ar gael am gyfraniad. Bydd yr elw yn cael ei roi i’r ‘Combe Haven Defenders’ a grwpiau protestio lon eraill.

Ail-feddianwn Caerdydd!

Mae’r mudiad ‘Occupy’ a ddechreuwyd gyda 17 pabell yn Wall St, Efrog Newydd (Cylgrawn gwych o’r enw Adbusters sy’n gyfrifol am hyn) ond bellach wedi lledaenu fel brech heintus ar draws y byd. Un sy’n boendod i’r awdurdodau a chaiff ei hamlygu wrth weld y modd ffiaidd mae’r heddlu adweithio i’r protestiadau. Defnyddiwyd bwledi rwber a chwistrelli pupur i symud y protestwyr heddychlon yma mewn rhai llefydd. Does dim syndod fod Heddlu De Cymru wedi ymateb i’r ymdrech cyntaf i feddiannu Caerdydd (wrth ymyl y Castell) gyda grym arswydus (fideo o hyn). Cafodd pobol yn llythrennol eu gwthio o’r fan gan heddlu ar geffylau. Cafodd 6 eu harestio, rhai ohonynt yn fyfyrwyr yn y brifysgol hon. Gwrthododd 2 ohonynt rybudd ac maent am ymddangos o flaen llys ynadon Caerdydd yn yr wythnosau nesaf. Beth ddigwyddodd i’r hawl i wrthdystio’n heddychlon? Ydym yn agosáu at fyw mewn gwladwriaeth dotalitaraidd, Orweliaidd?
Pam bod pobol yn fodlon campio yn oerni gaeaf a chael eu hambygio gan yr heddlu? I ba bwrpas mae’r bobol yma yn protestio? Yn syml, gwrthdystiad yn erbyn cyfalafiaeth ydi ‘Occupy’. Yn erbyn y banciau sydd wedi achosi’r crisis economaidd, yn erbyn y toriadau diangen ac yn erbyn y bobol sydd yn elwa’n fawr ar draul y llai ffodus. Cyfalafiaeth yw’r system economaidd bresennol sydd yn golygu bod pobol yn newynu’n ddiangen, yr amgylchedd yn cael ei ddinistrio a bod arian yn hytrach nag anghenion pobol yn pennu popeth.
Cri’r protestwyr yw ‘Ni yw’r 99%’. Cyfeiriai hyn at y 1% cyfoethog, y cyfalafwyr y maent yn eu protestio yn ei herbyn ac sydd a gymaint o rym dros eu bywydau. Os yr hoffech ddysgu rhagor am hyn a thrafod be sydd yn amgen i gyfalafiaeth, ewch da chi ar Transport House a siaradwch gyda Occupy Cardiff.
Yr oeddwn yn bresennol dydd Sadwrn diwethaf yn yr ymdrech i ail sefydlu ‘Meddiannwn Caerdydd’. Yr oedd yr heddlu yno yn disgwyl amdanom ac wrth i ni wneud placardiau ar y llawr, fe wnaethon nhw fygwth ein harestio. Fe wnaethon nhw hefyd bygwth ein harestio os yr oeddwn yn gorymdeithio trwy’r ddinas gyda baneri er mwyn godi ymwybyddiaeth ynglŷn â Occupy Cardiff. Ar ôl trafod a thrafod penderfynodd y grŵp i gampio yn Transport House, adeilad undebau Cymru. Yma ni fyddwn yn cael ein herlid gan yr Heddlu.

Fe wnaeth grŵp ‘Bwyd nid Bomiau’ ddod a swper cynnes at y gwersyllwyr ar y noson gyntaf. Dywedodd y rhai a fu’n campio’r noson honno bod rhaid i un neu ddau aros yn effro drwy’r nos gan i bobol feddw ddod draw i gega. Ar wahân i ambell feddwyn o’r BNP mae’r adborth gan y cyhoedd ynglŷn â Occupy Cardiff wedi bod yn ffafriol, mae pobol yn chwilfrydig amdano.
Bydd gweithdai a gwersi Arabeg a Chymraeg yn cael eu rhoi yng ngwersyll Occupy Cardiff. Ewch draw os gewch chi siawns am sgwrs, neu i gampio os yr ych yn ddewr! Un nod gan Occupy yw dechrau’r sgwrs ynglŷn â be all fod yn amgen i gyfalafiaeth. Does dim rhaid derbyn toriadau na derbyn yr 1% yn sbwylio’r blaned hon i ni gyd. Dilynwch Occupy Cardiff ar twitter neu facebook os hoffech ragor o wybodaeth.