Na i ffasgiaid! Na i Islamoffobia!

Ffasgiaid yn galw am “brotest” gwrth-ffoaduriaid yng Nglyn Ebwy, ond ddim un ohonynt yn troi lan!

Wnath grŵp o’r enw “Welsh Resistance” creu ffys arlein am gal “brotest” gwrth-ffoaduriaid ar Awst yr 20fed yng Nglyn Ebwy, ond yn ôl pob sôn dath dim ohonynt! Yn lle, cynhaliwyd protest gwrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol a ddangosodd eu croeso i ffoaduriaid yn y cwm.

Blemaerffasgiaidlol Gêm hwyl: Ffindiwch y ffasgiaid! (cliw: mae’n amhosib)

Ma ffasgiaid yr ynys yn gyflym creu traddodiad o beidio dod allan i ddigwyddiadau eu hun! Digon o ddiddanwch yw “llinell amser” yr Wales Online:

14:41
Welsh Resistance have taken down their Facebook page

17:49
No sign of the protesters [y ffasgiaid, hynny yw] yet

18:04
Still no protesters

18:08
There’s no sign of the protesters in Wetherspoons pub

19:37
Nope… they still haven’t shown up

Haha!

Wrth gwrs, ma tueddiad pan ma ffasgiaid yn colli neu yn pyllu ymddangos i danamcangyfrif eu bygythiad. Ond mae trais ffasgaidd yn Dover ar ddechre’r flwyddyn, neu yn Abertawe yn ddiweddar, a digwyddiadau diweddarach Caerdydd (gwelir isod), yn ddigon i’n hatgoffa bod angen i ni amddiffyn ac hunan-ymdrefnu ein gilydd. A hyd yn oed heb gofio grwpiau ffasgaidd ymdrefnus, ma’r sefyllfa i ffoaduriaid yn parhau yn un hunllefus – pe bai’n gwladwriaethau Ewrop yn ymosod arnynt a’u carcharu, neu hiliaeth ac ymosodiadau dydd i ddydd oddi wrth ddinasyddion gwyn. Ma gwrthwynebu ffasgiaeth dim ond yn un rhan o’r frwydr.

 
Daily Mail cachaidd yn cam-gyhuddo Imam a Chanolfan Mwslemiaid yng Nghaerdydd

[Nodyn gynnwys: ma’r isod yn delio a hiliaeth uffernnol, ac yn cyffwrdd ar weithredoedd gall fod yn anodd i rai darllen.]

Mis yn ôl, cyhoeddodd y Daily Mail celwydd o erthygl  oedd yn ymosod ar bregethwr yng Nghaerdydd. Gan gymryd geiriau’r Shaykh Ali Hammuda allan o’u cyd-destun a’u troi yn llwyr, wnaethant ei gam-gyhuddo o gefnogi caethweision rhyw ac “ISIS”. Fel gellid disgwyl o’r Daily Mail, ymestynnwyd y cyhuddiad ffals i’r Ganolfan Al-Manar yng Nghaerdydd ac i Fwslemiaid i gyd.*

DailyFail

Mae’r Imam Ali Hammuda wedi eisoes pregethu yn erbyn caethweision ryw ac yn erbyn “ISIS”. Roedd yn pregethu yn erbyn “ISIS” hir gyn iddynt fod yn destun mawr i gyfryngau’r Gorllewin. Ysgrifennodd ymateb sownd i’r Daily Mail fanyn. Mae ei eiriau cau, sydd yn ein hatgoffa o hanes y babur newydd, yn werth ailadrodd:

“I feel proud that the only paper in the British press low enough to stoop to such a level was the Daily Mail. It is an honour to be smeared by the same paper that allied itself with Adolf Hitler in its smearing of Jews during the Holocaust.” Ie wir.

 

Ffasgiaid “Britain First” yn bygythio Mwslemiaid yn y ddinas

Defnyddiodd y ffasgiaid “Britain First” y camgyhuddiad fel esgus i fygwth Mwslemiaid Caerdydd. Uwchlwythwyd fideo ganddynt wythnos diwethaf sy’n dangos grŵp ohoynyt yn cerdded i mewn i’r Ganolfan Al-Manar gan fygwth y bobl oedd yno. Wrth adael ma un ohonynt yn weud: “we’ll be back”.

Plaid a gang-stryd hiliol a threisgar yw “Britain First”. Maent wedi gwthio mewn i Ganolfannau Mwslimaidd a Mosgiau yn y gorffennol. Maent yn ymosod, trwy eu rhetoreg ac yn ffisegol, ar Fwslemiaid a phobl nad yw’n gwyn. Mae ganddynt ideoleg asgell-dde eithafol o Gristnogaeth a Phrydeindod, ac arian ac aelodau oddi wrth gyn-filwyr. Yn Fehefin, cawsant “gwersyll hyfforddiant” yn Eryri, oedd yn gynnwys dysgu ymladd a chyllell. Mae nifer wedi cysylltu llofruddiwr yr AS Jo Cox, a digwyddodd ychydig o ddyddiau ar ôl y gwersyll, â “Britain First”.

CachwrsBritainFirst

Ar y degfed o Fedi, wythnos nesaf, ma “Britain First” yn bwriadu cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd. (Ma ganddynt digwyddiad ar Facebook. Dydyn nhw heb gyhoeddi lleoliad penodol.)

Nid oes lle i’r cachwrs ffasgaidd ma, nid yng Nghymru na nunman arall!

 
Eraill yn cofio hanes gwrth-ffasgaidd yng Nghymru

Ma eraill wedi bod yn cofio tair Cymraes gwrth-ffasgaidd o’n hanes. Aeth Thora Silverthorne, Margaret Powell a Fifi Roberts i ryfel cartref Sbaen yn y ’30au i gyfrannu yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth. Ysgrifennwyd erthygl ddiweddar amdanynt yn Gymraeg fanyn.

 

Croeso i ffoaduriaid!
Chwalwn Islamoffobia!
¡No pasarán!

 

________________________________

*Mae erthygl y Daily Mail yn dilyn cyhuddiadau eraill, llawn Islamoffobia, yn erbyn y Ganolfan Al-Manar. Dwy flynedd yn ôl, yn dilyn ymadawiad dau ddyn o Gaerdydd i ymladd am “ISIS”, ceisiodd y cyfryngau cyhuddo’r ganolfan o “radicaleiddio”, er iddynt wastad sefyll yn erbyn “ISIS”. Mae gan y Ganolfan ymatebion pwysig i’r camgyhuddiad hwn a’r celwyddau am Ali Hammuda. Ynddynt, mae’r Ganolfan yn galw am “heddwch a chyfiawnder cymdeithasol”. http://www.almanar.org.uk/page.php?page_id=8

Os nad yw’r camgyhuddiadau Islamaffobaidd hyn yn peri gormod o ofid, ma holl wefan wedi’u creu sydd yn llawn cach hiliol a chelwyddau yn erbyn Mosg Madina Caerdydd (a Mwslemiaid yn gyffredinnol). Nodyn cynnwys (“content note”): mae’n cynnwys hiliaeth uffernol, ac mae’r camgyhuddiadau yn ymdrin a weithredai gall fod yn anodd i rai darllen. https://tinyurl.com/jyavhdg

Bwysig nodi hefyd bod y cyfryngau Gorllewinol braidd byth yn sôn am y Mwslemiaid yn Syria sydd yn ymladd yn erbyn yr hyn a elwir “ISIS”, na chwaith am bobl sydd wedi gadael yr ynys hon i ymladd yn erbyn “ISIS”. Yn Syria a Chwrdistan, ar hyn o bryd, ma llwyth o grwpiau chwyldroadol gwahanol, sydd yn amddiffyn eu hun yn erbyn cyflafan y llywodraeth awdurdodol Assad, ac yn erbyn cyflafan “ISIS”. Mae “ISIS” a’r llywodraeth yn cyd-weithio wrth ymosod ar y gwrthryfel poblogaidd hwn. Ac yn y cyfamser, mae’r Gorllewin imperialaidd, peilotiaid a drones Prydeinig, yn gollwng bomiau arnynt. Mae anarchiaid yn y Gorllewin wedi denu sylw at frwydr y Cwrdiaid am ryddid, ond prin iawn sydd yn siarad am wrthryfel chwyldroadol gan Arabiaid yn Syria.
https://rabble.org.uk/syrian-revolutionaries-and-us-air-strikes/
https://eternispring.wordpress.com/

Advertisements

Plan-B o Barcelona gan Ken Vegan

Gwersi anarchaidd ymarferol i helpu trechu’r credit crunch.

Er i bawb meddwl “Na – gallai fath beth fyth digwydd go iawn”  –  ar ddiwedd mis Hydref 2008, ddaeth economi’r byd yn ofnadwy o agos at fethu’n llwyr. Mae llywodraethau bellach wedi gwario biliynau i geisio achub y system ariannol ac rydan ni i gyd wedi gwneud ein gorau glas i anghofio sut roedden ni o fewn trwch blewyn i weld pob banc, busnes a llywodraeth yn dymchwel. Mewn cyflwr meddwl o wadu’r gwirionedd ydan ni  –  Ond pwy a wyr pa mor hir nes fydd y marchnadoedd rhyngwladol i gyd mewn panig o fynd yn fethdalwyr unwaith eto?

Er i holl arbenigwyr yn y papurau ac ar y teledu cytuno bod y system yn wallgofrwydd llwyr wnaeth y cyfryngau ddim rhoi sylw i unrhyw leffitis smyg i hyd yn oed ddweud ‘told you so’ heb sôn am cael y cyfle i gynnig unrhyw Plan-B.

Roeddwn wybod bod cyfalafiaeth mewn trafferth go iawn pan wnaeth y Daily Telegraph cyhoeddi ‘Handy Guide to Bartering” yn cynghori ei ddarllenwyr i ddefnyddio gwefannau fel “u-exchange.com” i gyfnewid nwyddau a gwasanaethau yn lle gorfod dibynnu ar arian.

Oedd hwn yn Plan-B y Daily Telegraph yn achos meltdown economaidd llwyr? Trefn yn seiliedig ar rannu, cytuno ac yn gwneud heb forgeisi, cyfraddau llog, cyfranddaliadau ac elw? Y Daily Telegraph… y papur mwya Prydainig, ceidwadol a sefydliadol ohonynt i gyd yn crybwyll system anarchaidd? Beth ydan nhw’n gwybod eu bod heb ddweud wrthyn ni?

Am wn i, dim ond unwaith cafodd system anarchaidd ei brofi ar raddfa gweddol fawr – yn Catalunya yn y 1930au. Ac yn ôl pob tebyg gyda chryn dipyn o lwyddiant, am gyfnod byr o leiaf.

Yn ei lyfr ‘Homage to Catalonia’ disgrifiodd  y bonheddwr Saesneg George Orwell sut oedd yn credu oedd wedi cyrraedd nefoedd egalitaraidd wrth weld Barcelona ym 1936:

“In the barbers’ shops were Anarchist notices (the barbers were mostly Anarchists) solemnly explaining that barbers were no longer slaves… Every shop and cafe had an inscription saying that it had been collectivized… Waiters and shop-walkers looked you in the face and treated you as an equal.

I had dropped more or less by chance into the only community of any size in Western Europe where political consciousness and disbelief in capitalism were more normal than their opposites…Many of the normal motives of civilised life – snobbishness, money-grubbing, fear of the boss, etc. – had simply ceased to exist. The ordinary class-division of society had disappeared to an extent that is amost unthinkable in the money-tainted air of England; there was no one there except the peasants and ourselves, and no one owned anyone else as his master”

Datblygodd athroniaeth anarchiaeth yn y 19fed ganrif fel ateb i’r tlodi a gormes a dioddefodd miliynau o bobl mewn yn nwyrain Ewrop. Roedd yr anarchwyr cynnar yn credu doedd dim modd i’r tsar, yr eglwysi a llond llaw o feistri diwydiannol dal eu gafael ar holl rym a chyfoeth am byth – roedd pobl gyffredin yn sicr o ddisodli eu gormeswyr yn hwyr neu’n hwyrach. Bwriad anarchwyr oedd creu cymdeithas heb feistri yn seiliedig ar gyd-weithio a rhannu yn hytrach nag ecsploetio.

Ychydig dros gan mlynedd yn ôl ddaeth mudiadau anarchiaeth i fodolaeth o amgylch y byd, llawer ohonynt yn heddychlon ond rhai eraill yn defnyddio tactegau chwyldroadol i drio cael gwared ac ambell i frenin neu unben. Ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, yn y cyfnod Fictorianaeth, manteisiodd wleidyddion a’r wasg ar y ‘bygythiad anarchaidd’ i ddychryn y poblogaeth.

Cyn hir bu hysteria llwyr am anarchwyr, oedd yn ôl papurau fel y Daily Telegraph, yn benderfynol o ladd canoedd o bobl diniwed gyda bomiau mewn theatrau neu o dan drenau.  Yn ôl y wasg boblogaidd roedd yr anarchwyr yn hawdd i’w hadnabod gyda’u barfau hirion a llygaid cochion. ‘Ffanatics’, ‘estronwyr’, ‘Iddewon’, ‘mewnfudwyr o’r dwyrain’. Swnio’n gyfarwydd? Ie, fel y ‘bygythiad Mwslemiaid’ yn ein hoes ni, roedd pleidleisiau i’w hennill a phapurau newydd i’w gwerthu trwy ddychryn a pharanoia.

Felly inni heddiw mae gair ‘anarchydd’ yn dal i daflu fyny’r ddelwedd i’n meddyliau o rywun peryglus sydd ar fin gwneud rhywbeth ofnadwy. Ond  ar ddechrau’r 20fed ganrif, llwyddodd undebau llafur ‘Anarcho-Sindicalaidd’ (Syndicale yw’r gair Ffrangeg am undeb), denu miloedd o aelodau yn yr Unol Dalaethiau ac fe lwyddwyd ennill llawer o welliannau yn safonau byw yn cynnwys y diwrnod gweithio 8 awr gyntaf. Mae’n debyg roedd Anarcho-Sindicalwyr yn ne Cymru, yn ardal Castell Nedd yn arbennig a chafodd y term ‘Anarcho-Sindicaliaeth’ ei fathu gan Gymro o’r enw Sam Mainwaring (Penrhiwtyn, 1841-1907).

Ond yn Rwsia a Sbaen, a nid Castell Nedd, ble bu uchelwyr ag eglwysi holl-rymus gyda bywydau pobl cefn gwlad heb eu newid llawer am ers dyddiau’r taeogion – gwelwyd y brwdfrydedd mwyaf am well ddyfodol yn seiliedig ar syniadaeth anarchaidd.

Er i anarchwyr Rwsia brwydro ochr ac ochr a’r comiwnyddion yn chrwydro 1917 cawsant bron i gyd eu lladd neu gyrru i Siberia yn fuan wedi’r Bolsiefics ennill. Roedd gwrthwynebiad llwyr yr anarchwyr i syniadau o lywodraeth canolog a gorfod dilyn ordars o uwchben yn fygythiad mawr i Stalin.

Felly dim ond am gyfnod byr, yn Sbaen yn y 1930au, gwelwyd mudiad anarchaidd digon cryf i allu cymryd grym, cyn hwythau cael eu trechu yn 1939 gan luoedd ffasgaidd yn rhyfel sifil y wlad. Yn ein hoes ni mae’n anodd credu roedd poblogaeth gyfan yn dewis ffurfio cymdeithas yn seiliedig ar rannu, ac yn ceisio gwneud i ffwrdd ag arweinwyr ac elw. Ond mae’n werth cadw esiampl Barcelona 1936 mewn cof fel Plan-B, rhag ofn, un diwrnod bydd Huw Edwards yn cyhoeddi bod pob banc yn y byd wedi methu a bod arian, masnach a threfn llywodraethau bellach wedi darfod. Cofia edrych os bydd gan y Daily Telegraph ragor o gyngor anarchaidd handi yn y cyfamser!

Ysgrifennwyd yr Erthygl yma i ‘Tu Chwith’ yn 2008 gan Ken Vegan.

Anarch-be?

Mae’r gair ‘anarchiaeth’ yn dod o’r gair Groeg ‘anarchos’ a olygir ‘heb reolwyr’.

Y dyn cyntaf a alwodd ei hyn yn anarchydd (yn ol bbc 4!) oedd Pierre Joseph Proudhon.

Dyedodd; ‘Mae eiddo yn ladrad’ ac ‘Trefn yw anarchiaeth’.

75 Mlynedd yn ol yn ystod y rhyfel cartref bu ardal eang o ogledd Sbaen dan drefn lled anarcho-sindicalaidd. Dyma engrhaifft ymarferol o sut all gymdeithas weithio o dan gyfundrefn amgen i gyfalafiaeth neu chomiwnyddiaeth totalitaraidd.

Anarchwyr yng Nghymru heddiw?

Mae grwp South Wales Anarchists yn cyfarfod yng Nghaerdydd yn gyson ac yn trefnu gweithgareddoedd megis ‘Bwyd nid Bomiau’, gweithgareddau gwrth ffasgaidd/gwrth hiliol ac cefnogi protestiadau yn erbyn y toriadau (trefnu bysgwyr yn erbyn y toriadau er engrhaifft).

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad a thueddiadau gwrth-gyfalafol a mae rhai o’u haelodau yn anarchwyr o argyhoeddiad (gan gynnwys Osian Jones a Ffred Ffransis, treuliodd y ddau amser mewn carcher am weithredu’n ddi-drais).

 Mae popeth drwy gyfrwng y gymraeg (yn wahanol i South Wales Anarchists). Maent yn ymgyrchu yn erbyn cwmniau mawrion a phleidiau gwleidyddol (o Blaid Cymru i’r Ceidwadwyr) er mwyn cael chwarae teg i’r iaith Gymraeg mewn trefn sy’n milwrio yn ei herbyn. Mae’r dull di-drais yn ganolog i’w hathroniaeth fel mudiad, rhywbeth yr wyf yn ei barchu’n fawr!

Gallwn fynd trwy ein bywydau a’r credoau mwyaf cadarn a gwych ond os nad ym yn ‘neud nid deud’ nid ynt gweth y gwacter yn ein hymenydd!