‘Dadansoddiad Marcsaidd o ‘Caersint’ Angharad Price.’ gan Heledd Williams

Ysgrifenwyd y traethawd yma ar gyfer cwrs Prifysgol felly maddeuwch y ffurfioldeb, oedd hi’n berthnasol fel critique gwrth gyfalafol o’r Gymru sydd ohoni, dyna pam dwi di sticio fo fynnu fama!

Clawr Caersaint gan Angharad Price

Yn y traethawd hwn dadansoddaf ‘Caersaint’ gan Angharad Price. Nofel a bortreadai cymdeithas gyfoes Caernarfon ydyw. Credaf fod beirniadaeth Farcsaidd o’r nofel hon yn hynod weddus gan fod Marcsiaeth a’i theorïau llenyddol yn datgan yn sylfaenol mai:
‘Hierto, every form of society has been based, as we have already seen, on the antagonism of oppressing and opressed classes.’ Marx et al (2002, t. 232)
Golygir hyn yn y bôn mai gwrthdrawiadau rhwng dosbarthau cymdeithasol a yrrai hanes yn ei flaen (proses a elwir yn dilechdid faterol) ac yn ‘Caersaint’ gwelir y rhain yn dra amlwg. Gwelwn ar lefel arwynebol y tyndra rhwng sawl carfan o gymdeithas, sef y cyfalafwyr Cymraeg, y dosbarth canol apathetic, y dosbarth canol asgell chwith, y dosbarth gweithiol apathetic. Grym arall amlwg yn y nofel yw grym y cwmnïau cyfalafol rhyngwladol. Mae’r nofel wedi ei fritho a brandiau cwmnïau mawrion. Mae’n deg dweud felly ceir tyndra rhwng effaith anorfod cyfalafiaeth ddatblygedig (globleiddio) a’r gymuned a’i diwylliant cynhenid yn Nghaersaint.
Mae gwrthdrawiad amlwg rhwng Jaman o gefndir dosbarth gweithiol a Med y dyn busnes ond mae yno hefyd wrthdrawiadau dosbarth ar lefel fwy chymhleth a gant eu hamlygu yn iaith a diwylliant pobol Caersaint. Mae cwmnïau rhyngwladol Seisnig yn rhan o’u bywydau pob dydd a gwelwn fod hyn yn cael effaith ar yr iaith. Mae’r cyfalafwyr a’u cwmnïau rhyngwladol yn cael llawn gymaint o effaith ar y gymdeithas ag y mae Med y cyfalafwr bach lleol. Maent yn effeithio ar y gymuned mewn gwahanol ffyrdd. Wrth i Fed gymeryd mantais o grantiau’r cynulliad a hybu twristiaeth fel prif ddiwydiant (a’i fusnesau megis y Shamleek ) ni ddaw gwaith o safon na chyson trwy’r flwyddyn i’r ardal. Dywed Babs Inc yn y nofel;
‘Be nei di efo dy hun yn Caersaint? Mynd i labro yn y doc? Llnau toilets pobol dŵad?’ (Price 2010, t. 72)
Yn ogystal â hyn mae Med yn cefnogi menter o adeiladu fflatiau na all pobol leol eu fforddio;
‘Saeson wedi talu hanner miliwn am luxury apartments Phase 1’(Price 2010, t. 87)
Mae’r cynlluniau economaidd hyn yn ysgogi pobol ifanc i allfudo o’r gymuned Gymraeg yma i le mae gwaith ar gael ac mae cartrefi fforddiadwy. Buasai gweithgareddau Med yn debygol o gael effaith ar y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nhaersaint a dyma crux y nofel. Am hyn credaf y mae Angharad Pice yn ei bryderu. Mae’r cyfalafwyr rhyngwladol trwy’r busnesau di Gymraeg a.y.b. yr un mor gyfrifol am achosi tranc yr iaith mewn modd dra gwahanol. Yn hytrach na effeithio ar y nifer o siaradwyr yn y gymuned yn uniongyrchol maent yn debygol o effeithio ar gystrawen a geirfa Gymraeg a chaiff ei siarad ar lafar gan y pobl leol. Enghraifft yw hyn yw’r person yng Nghaffi Besanti. Gan iddo arfer a bwydlenni a bwyd yn uniaeth Saesneg, nid yw’n dealt y fwydlen Gymraeg yn y caffi ac mae’n ei weld yn abswrd a chwerthinllyd.
‘‘Mi fasa’r hogyn yn debycach o’u trio nhw tasa fo’n dallt be ydyn nhw,’ meddai un cwsmer eto. ‘Llyfnyn Ffrwythog Anllaethog, myn cythral!’’(Price 2010, t. 60)
Daw uchafbwynt y nofel mewn gwrthdrawiad dosbarth a gwleidyddol uniongyrchol. Mae’r modd nad yw Trefor (yn y dechrau) yn cefnogi cais Jaman (er iddo fod yn ddrwgdybus o Med) yn enghraifft o eidioleg, greddf nad yw mewn gwirionedd o fudd iddo ef na’i gymuned.
Y mae hyn yn fy arwain at fodd arall o ddadansoddi testun yn Farcsaidd, sef tynnu sylw at ragfarnau afresymegol fel hyn a’u datgelu fel eidiolegau ffals a atgyfnerthai hegemoni’r dosbarth llywodraethol; y bwrgais. Nid oedd Trefor eisiau Jaman herio Med nac yn credu buasai’n llwyddo. Bu Trefor yn ei ddychanu hyd yn oed;
‘Tynnu godfather Caersaint yn dy ben’
‘I fod yn lord mayor o Caersaint’
‘Chwara plant, gwisgo fynnu, actio’r ffŵl’(Price 2010 tt. 284/5)
Y syniad tu ôl hwn yw bod uwchstrwythur a gynhwysai’r ‘eidiolegau’ yma yn codi o’r sylfaen economaidd. Mae’r sylfaen economaidd (cyfalafiaeth yng nghyd-destun y nofel) yn llywio natur yr eidiolegau ffals a fodolai fel ‘synwyr cyffredin’ yn yr uwchstwythyr (diwylliant, y cyfryngau a.y.b.). Atgyfnerthai’r eidiolegau hyn y fydolwg fwrgeisiol a geisiai gyfiawnhau neu gefnogi eu statws dyrchafedig afresymegol. Dywed ‘The Comunist Maniffesto’
‘The ruling ideas of each age have ever been the ideas of the ruleing class’ Marx et al (2002, t. 241)
Mae’r eidialogau hyn a’r bydolwg sydd yn gwneud y system gyfalafol ymddangos fel peth ‘naturiol’ yn hollbwysig i’r dosbarth llywodraethol gadw ei grym. Yr oedd Gramsci yn feddyliwr Marcsaidd o’r farn;
‘Gall cyfalafiaeth barhau os oes elfennau eraill ohoni yn gryf mewn argyfwng’(Williams 2009, t. 510)
Felly os yr yw eidiolegau ‘synnwyr cyffredin’ ffals yn llechu yn ein cymdeithas heb eu herio, gall hyn yn ol Gramsci atal chwyldro’r proletariat a fyddai fel arall wedi adwaithio’n naturiol i’w sefyllfa economaidd druenus. Dilechdid faterol yw’r theori hon fod gwrthdrawiadau rhwng dosbarthiadau cymdeithasol sydd yn symud hanes yn ei flaen ac yn golygu bod system newydd yn disodli hen system wrth i groes- ddyweudiadau sylfaenol o fewn y system ddod i’r amlwg. Dyma agwedd ymarferol dadansoddiad Marcsaidd o destun, soniodd Gramsci am ‘ryfel eidiolegol’, golygai hyn i Farcswyr fod y frwydr yn erbyn system orthrymus gyfalafol angen cael ei ymladd ar sawl ffrynt, yn eidiolegol yn ogystal a ymgyrchu’n uniongyrchol.
Dyma un enghraifft o’r eidiolegau hyn ar waith. Roedd bod yn berchen ar dŷ roi hwb seicolegol i Jaman yn y nofel. Mae hyn yn ‘synnwyr cyffredin’ yng nghyd-destun ein cymdeithas gyfoes ac yn y nofel ond nid yw hyn yn taro deuddeg yn rhesymegol. Paham bod enw ar ddarn o bapur rhoi’r fath hyder i unigolyn? Yr eidioleg cyfalafol bod perchnogaeth yn arwydd o safle cymdeithasol dyrchafedig yw hyn. Pa wahaniaeth yw os yr ydych yn rhentu yntau prynu eich cartref mewn gwirionedd? Fel dywedir Williams;
‘dadleuai fod nodweddion y drefn , sef….cystadlu dros eiddo preifat … rhyw fath o resymeg naturiol … sydd yn caethiwo dyn.’ (2009, t. 503)
Ymddengys yr elfen gystadleuol, afresymegol ei fod yn berchen ar dŷ ym meddylfryd Jaman yn y nofel.
‘‘Cartrefi ar werth .’ Gwenais yn hunanfodlon. Roedd gan rai ohonom gartref yn barod.’ Price (2010 t. 50)
Enghraifft arall yw pryd mi wnaeth Babs Inc newid ei edrychiad gan dalu iddo gael ei eillio a phrynu siwt iddo. Yr ydym yn cymryd yn ganiataol bod hyn yn gwneud synnwyr wrth fod hyn yn gwneud Jaman edrych yn fwy ‘proffesiynol’ ac yn sgil hynny yn fwy gweddus i fod yn faer.
Ond ydi’r ymateb yma’n dal dŵr yn rhesymegol? Be gyd-berthynasai edrychiad Jaman i’w allu i wneud swydd Maer? Dydi hyn ddim yn taro deuddeg felly gellir dehongli ‘r rhagfarn yma fel ‘eidioeg’. Buasai Marcsydd yn credu bod y consensws afresymegol fod pobol a edrychai’n smart fwy tebygol o wneud swydd uchel ei statws yn well o fudd i’r bwrgeisiwr ac am y rheswm hwn dyma pam mae’n bodoli fel eidioleg. Gan eu bod nhw (Bwrgeiswyr) ag arian i dalu am siwtiau ac am nwyddau harddwch wrth reswm mae’r bwrgeisiwr yn elwa o’e eidioleg ffals yma.
Gwn fod Angharad Price yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor , wrth ystyried geiriau Raymond Williams;
‘Social being determines conciousness’ Williams (1980, t. 31)
Buaswn yn disgwyl i’w safle dosbarth canol beri iddi beidio a cwestiynu eidiolegau trechaf yr oes fel person sydd yn aelod o garfan freintiedig o’r gymdeithas. Er hyn fe ymddengosai Price i fod ag agwedd iach o gwestynu’r drefn yn ei nofel. Atgyfnerthai hyn syniadau’r meddyliwr Marcsaidd Gramsici bod modd ymwrthod a’r eidiolegau a fuasai yn atgyfnerthu buddianu dosbarth eich hunain (yn wahanol i Farx a gredai mai eich sefyllfa faterol sydd yn penderfynu’n derfynol eich ‘ymwybyddiaeth’).
Mae Angharad Price yn wedi llwyddo (yn ôl Marcswyr) i weld realiti rhesymegol tu hwnt i’r eidiolegau ffals ac fe welir hyn yn ei nofel. Med y cyfalafwr yw’r ddrwgweithredwr ystrydebol a Gwyn yw’r ysglyfaeth diniwed ei amgylchiadau anlwcus. Diddorol yw ei llysenwau, ‘Gwyn’ a ‘Jaman’. Credaf mai adlewyrchu meddylfryd Price ydynt, bod llawer o’r proletariat yn ysglyfaeth anlwcus (Jaman) ddiniwed (ystyr Gwyn) y gyfundrefn gyfalafol.
Er ar yr wyneb fe ymddengys ei bod yn cydymdeimlo tuag at y proletariat, ceir ysbaid (yn debygol yn ddiarwybod iddi) a ddengys rhagfarn ‘synnwyr cyffredin’ eidioleg trechaf yr oes.
Un enghraifft o hyn yw’r modd nad oes portread proletariat fel cymeriad cyflawn yn ei nofel. Mae Jaman yn dod o gefndir dosbarth gweithiol ond yr oedd dim ond ‘o werth’ ysgrifennu amdano tan iddo etifeddu tŷ Arfonia Bugbird. Gwn fod etifeddu’r tŷ yn ganolig i’r plot ond mae eithaf cyfleus mai yr unig ran o fywyd Jaman y cawn bortread cyflawn ohono yw wedi iddo etifeddu tŷ ac ar y ffordd i fod yn ‘ddosbarth canol’.
Nid yw cymeriadau megis Jaman, Almut, y Spicters, Tonwen yn byw mewn tai cyngor a gorfod byw ar nawdd y wladwriaeth neu’n gweithio mewn swydd isel ei statws (mae Almut yn bwriadu agor caffi gydag arian ei mam). Nid yw cymeriadau ‘Y Mona’ ond yn ystradebau a’i hatgyfnerthir gan eu llysenwau. Maent yno i dywallt arlliw o hiwmor ar y nofel ac yno er mwyn i Jaman adweithio a hwy. Dydyn ni ddim yn dod i adnabod cymhlethdodau seicolegol Pen Menyn na Heulwen Hŵr. Er bod Jaman yn ddi-waith mae ganddo arian Arfonia ac mae yn treulio ei ddyddiau yn hamddenol. Does dim darlun cyflawn o gynni economaidd y proletariat.
Mae darn arall o’r nofel yn chwarae ar y myth dosbarth canol bod merched ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn beichiogi er mwyn cael tŷ gan y cyngor. Mae’n amwys os yw Angharad Price yn dychanu y myth tabloidaidd yma yntau yn ei blethu yn ‘realiti’ ei nofel gan awgrymu ei wirionedd. Price (2010 t. 276)
Un peth annelwig arall yn y nofel yw’r modd y mae Jaman yn piciad bob hyn a hyn i Woolworths. Woolworths oedd un o’r cwmnïau mawr a fethdaliodd yn ystod yr argyfwng economaidd y blynyddoedd diwethaf yma. Paham felly, os mai portread o Gaernarfon cyfoes yw hwn, gyda phob dim arall a ddisgrifir yn y dre wedi ei hadlewyrchu- bod Woolworths dal agored pan mae’r darllenydd yn gwybod ei bod wedi cau? Ydi Angharad Price yn ceisio anwybyddu’r argyfwng economaidd? Nid oes son amdano, mae ambell gyfeiriad at ddiweithdra fel problem onid yw yn broblem gyffredinol yng ngogledd Cymru? Ydi Angharad Price yn anwybyddu ffaeleddau economaidd cyfalafiaeth drwy bortreadu Caersaint fel lle na ddigwyddodd y fath argyfwng? Mae’n bosib yr oedd hyn yn fwriadol, ac yn ddyfais a ysgogai’r darllenydd i gwestiynu. Onid yw’r holl nofel ynglŷn â’r Jaman yn newid o fod yn ddyn ifanc apathetic i un a heriai’r drefn? Wrth gymell enw Woolworths fe gofiwn y cwmni mawr ddaeth yn ysglyfaeth i argyfwng y banciau. Cwyd argyfwng y banciau gwestiynau ynglŷn â chyfalafiaeth, nid yw’n hollol gadarn na heb ffaeleddau.
I Farcswyr nid yn unig er mwyn cael dealltwriaeth ddwysach o destun yn unig mae dadansoddiad Marcsaidd yn gallu bod yn ddefnyddiol. Pwrpas ymarferol dadansoddiad Marcsaidd buasai i ddatgelu eidiolegau ffals a gefnogai’r gyfundrefn gyfalafol. Fel dywed Natalie Williams
‘Dadleuai Marx fod datgelu’r byd materol fel y prif ddylanwad ar berthynas dyn a’r byd yn rhoi’r arf cryfaf iddo i wireddu ei ryddfreiniad’ (2009, t. 502)
Mae dadansoddi’n Farcsaidd yn un modd o wneud hyn, datgelai eidiolegau ffals yn ymwybyddiaeth pobol y cyfnod. Datgelai hegemoni’r dosbarth llywodraethol, yr hyn a gynhaliai eu safle breintiedig ar draul y mwyafrif. Felly er bod dadansoddiad Marcsaidd o destun yn hynod ddifyr mae mwy iddo na hyn. Mae gan ddiwylliant effaith ar ymwybyddiaeth yr unigolyn sy’n rhan o’r diwylliant hwnnw fel dywed Peter Barry;
‘..literature is shown to be of crucial importance in its own right, not just a helpless and passive reflector of the economic base whare the real busness of society goes on’ (2002 t. 165)

Llyfryddiaeth
Barry, Peter. 2002. Beginning Theory. Manchester: Manchester University Press
Willimas, Natalie. 2009. Marcsiaeth a Rhyddfreiniad. Yn:
Daniel, J. a Gealy, W. Gol. Hanes Athroniaeth y Gorllewin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Marx, K. a Engels, F. 2002. The Communist Maniffesto. London: Penguin Books
Price, A. 2010. Caersaint. Talybont: Y Lolfa
Roberts, W.O. 1992. Nes Na’r Hannesydd neu Y Nofel Hanes. Yn:
Rowlands, J. Gol. Sglefrio ar eririau. Llandysul: Gwasg Gomer
Williams, Raymond. 2005. Culture and Materialism. London: Verso

 

Gadael sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael sylw