Drama ‘Terfysgoedd Bangor’

Terfysgoedd Bangor gan Heledd Williams.

PopUpLargeUkRiots2

 

GOLYGFA 1. EXT/INT. BANGOR/FAN HEDDLU. DIWRNOD 1.

TERFYSG YM MANGOR. SHOT O ADEILADAU AR DAN AC O SIOPAU YN CAEL EU HYSBEILIO. MAE’R CAMERA YN SIGLEDIG AC YN GWIBIO O LE I LE I GYFLEU DRYSWCH.

CLYWN SGRECH. MAE’R CAMERA’N TORRI I DDAU HEDDWAS SYDD YN GWTHIO MERCH I’R LLAWR A’I HARESTIO. MAE UN HEDDWAS YN EI STAMPIO AR EI CHEFN. MAE KIM YN GWINGO AR Y LLAWR.

KIM

Dwi’n clywed twll yn llosgi yn dy bocad di mochyn. Cer off fi. Off!

HEDDWAS 1

Now love there’s no need for that…

MAE UN O’R HEDDWEISION YN PWYSO AR EI CHEFN GYDA’I BEN GLIN I STOPIO HI RHAG SYMUD, YNA MAE’N RHOI’R CYFFION AMDANI.

HEDDWAS 2

I am arresting you on suspicion of criminal damage. You do not have to say anything. But it may harm your defence if you do not mention when questioned something you later rely on in court. Anything you do say may be given in evidence.

MAE’R HEDDWAS YN CYMRYD KIM AT FAN HEDDLU AC YN EI RHOI YN Y CERBYD. MAE KIM YN NHYWYLLWCH Y FAN OND YN GALLU CLYWED ERAILL YN ANADLU.

CAWN SHOT O GLOC BANGOR YN LLOSGI GYDA’R FFLAMAU YN LLYFU WYNEB Y CLOC YN LLOSGI’R RHIFAU A’R BREICHIAU I FFWRDD, MAE ARWYNEB Y CLOC YN DU ERBYN HYN.

DUWCH:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

GOLYGFA 2. INT. YSTAFELL PROSESU GORSAF HEDDLU/CORRIDOR/CELL. DIWRNOD 1.

DUWCH. YNA MAE’R CAMERA YN SYMUD YN BELLACH AC YR YDYM YN GWELD MAI GWISG DU HEDDWAS YDI’R DUWCH YMA. YR YDYM YN EI GLYWED YN SIARAD CYN I NI EI WELD.

HEDDWAS 3

A wnei di dynnu dy gwfl a dy wregys os gweli di’n dda.

KIM

Eh?

HEDDWAS 3

Tyna dy felt a dy hwdi.

KIM

I be da chi isho cymryd hwdi fi?

HEDDWAS 3

Rhag ofn i ti grogi dy hyn. Tyna nhw.

TYNNAI KIM EI HWDI A’I GWREGYS YN LLETCHWITH, MAE’R HEDDWAS YN EI GWYLIO.

HEDDWAS 3

Tyrd efo fi.

MAE’R DDAU YN CERDDED I DRWY CORRIDOR O DDRYSAU TRYMION. MAE’N AGOR UN DRWS AC YN YSTUMIO IDDI FYND I MEWN.

MAE KIM YN CERDDED I MEWN AC MAE’R DRWS TRWM HAEARN YN CAEL EI GAU TU ÔL IDDI, MAE SŴN UCHEL Y DRWS YN CAU’N GLEP YN GWNEUD IDDI NEIDIO. YNA MAE SŴN GORIADAU YN EI CHLOI YN Y DRWS TU ÔL IDDI.

TORRI I:

 

 

 

 

 

 

 

GOLYGFA 3. INT. CELL/YSTAFELL CYMRYD FFOTOGRAFF. DIWRNOD 1.

CERDDAI KIM YN ÔL AC YMLAEN YN Y GELL. MAE’N CERDDED O UN PEN Y GELL FYCHAIN I’R LLALL MEWN TUA PHUM CAM. MAE SHOTS GWAHANNOL YN RHYNGDORRI OHONI HI MEWN GWAHANOL SAFLEOEDD YN Y GELL. MAE UN SHOT OHONI YN BWYTA CYMYSGEDD AFIACH YR OLWG O FFA, SELSIG A THATWS ALLAN O FOCS PLASTIG. UN ARALL OHONI YN CHWARAE SQUASH AR WAL Y GELL EFO CWPAN POLYSTYREN AC UN ARALL OHONI YN GWNEUD SIT UPS.

CERDDAI HEDDFERCH I’R GELL.

KIM

Da chi di deud wrthai tair gwaith rŵan fy mod i’n cael mynd allan yn fuan… dwi heb hyd yn oed cael ffonio neb eto…

HEDDFERCH 1

Mae arnai ofn dy fod gorfod aros yma tan yforu rŵan. Mi fyddi di’n mynd bore yfory i gael gwrandawiad yn llys yr ynad.

KIM

Eh? Pam?

HEDDFERCH 1

Iddynt gael penderfynu os cei ferchniaeth.

KIM

Eh? Dwim yn dallt y gair Cymraeg na ia….

HEDDFERCH 1

Merchniaeth ydi’r gair Cymraeg am bail. Os na fyddi di’n cael merchniaeth mi fydd rhaid i ti aros yn y ddalfa tan ac yn ystod dy achos llys. Mwy na thebyg i Glostershire yr ei di.

KIM YN DECHRAU ANADLU’N DDWFN. MAE’N BENYSGAFN.

KIM

Dwi’n teimlo’n dizzy

HEDDFERCH 1

Mae’n rhaid i sylwi bod be wnes ti yn drosedd ddifrifol…

KIM

Dwi’m yn poeni ia… Pissd off gai’m noson call o gwsg yn y twll o le ‘ma.

HEDDFERCH

Cei dabledi cysgu gan y nyrs os wyt ti eisiau…

KIM

Dim diolch.

PWYSLAIS BLIN AR Y ‘DIM’. MAE’N RHOI EI PHEN YN EI BREICHIAU, NID YW’N EDRYCH AR YR HEDDFERCH RHAGOR.

MAE’R HEDDFERCH YN GADAEL. SHOT AGOS O KIM YN CODI EI PHEN O’I BREICHIAU A GWELWN FOD DAGRAU AR EI GWYNEB.

MAE KIM YN CODI A DECHRAU CAMU O UN PEN O’R GELL I’R LLALL YN EI RHWYSTREDIGAETH.

YN SYDYN MAE KIM YN RHOI DWY LAW YN ERFYN AC YN PLYGU AR EI GLINIAU WRTH YMYL Y FATRES BLASTIG YN Y GELL.

KIM

Duw, Bydysawd, Ffet, Bob dim.. Dim byd… whatefyr wyt ti sy’ neud y pendyrfyniada cach ‘ma… Allaim neud sens o hyn… dwi angan… dwi’m yn dallt be sy digwydd… Ydwi am fynd lawr am hyn? Allai ddim mynd i jêl ia…

Ffwcio hynna… hanar pobol sy mynd lawr yn dod allan yn smackheds.…Dwi ‘misho mynd i jêl.. Dwi ofn… dwi ofn y moch ma.. Ma nhw medru neud be bynnag ma nhw isho… Sut ma hyna’n deg? Dwi ofn… dwi ofn i’r reiats sbredio ‘ma… be tasa rwin yn roi’r copshop ar dân? Sa’r moch yn byth gadal ni allan… be os ma nhw’n neud wbath i fi? Neu’n deud celwydd fel ddaru nhw efo Phil a Fred o’r blaen..Dwi ofn, Helpa fi… Fyddai’n dda o hyn ymlaen..

Dwin sori am bebynag dwi di neud yn rong… Sori…

DISTAWRWYDD AM YSBAID.

Odd be neshi i landio ‘ma ‘im yn teimlo’n rong… fellu sut allith o fod? Oedd o fatha .. fatha rhyddid…nefoedd ella…odda ni’n rhydd… Ydwin sâl felly? Ella dwi’n sick.. pobol sick sy teimlo’n dda yn neud petha drwg… sut ellith hanar y dre fod efo’r un salwch ddo? Dwim yn dallt de… dwim yn dallt.. helpa fi gael allan o hyn… chdi… bebynag wyt ti sy’ ‘di achosi..creu.. hyn… Help..

SŴN GORIADAU A DRWS YN GWICHIAN AGOR.

HEDDWAS JOHN

Come with me.

KIM YN EDRYCH YN SYN OND HAPUS AM EILIAD, MAE’N MEDDWL EI BOD YN CAEL EI RHYDDHAU. BOD EI GWEDDI WEDI CAEL EI HATEB.

HEDDWAS JOHN

We’re just going to take your prints now all right? DNA and so forth…

MAE GWYNEB KIM YN DISGYN MEWN SIOMEDIGAETH. MAE’R HEDDWAS YN RHOI CYFFION AR EI DWYLO AC YN EI HARWAIN DRWY’R CORRIDOR O DDRYSAU HAEARN AC I MEWN I YSTAFELL FEDDYGOL YR OLWG.

HEDDFERCH SASHA

Cheers John. I’ll take it from here.

HEDDFERCH SASHA YN TROI AT KIM.

Cymraeg ti ia?

KIM

Ia.

HEDDFERCH SASHA

Tyrd yma i mi gymryd dy lun, wedyn mi gymerai dy ôl bys a sampl o DNA.

KIM

Ydio mynd i frifo? Cael y DNA allan llu?

HEDDFERCH SASHA

HANNER GWENU.

Nafydd cyw, o du fewn dy foch ydio. Eistedda lawr.

CEIR SHOT AGOS O KIM YN EDRYCH I FYW LLYGAID YR HEDDFERCH WRTH IDDI GYMRYD SAMPL O DNA O’I BOCH GYDA BLAGURUN COTWM. YNA MAE’N CYMRYD EI LLUN, EI BYSBRINT A’I MESURIADAU HEB WNEUD CYSWLLT A LLYGAID KIM UNWAITH.

HEDDFERCH SASHA

You can take her back now John.

TORRI I:

 

GOLYGFA 4. INT. CELL/SIOP BOOTS BANGOR/CELL. DIWRNOD 1.

MAE’R HEDDWAS YN AGOR Y DRWS IDDI GERDDED YN ÔL I MEWN I’W CHELL. YNA MAE’N CLOI’R DRWS, AC MAE KIM YN GORWEDD AR Y FATRES BLASTIG. MAE’N EDRYCH YN FREGUS, MEWN SAFLE FEL PETASAI YN FABAN MEWN CROTH. CAWN SIOT BIRD’S EYE OHONI HI YN Y GELL. MAE KIM YN EDRYCH FEL BABAN A’R GELL YN GROTH DYWYLL, LAITH O’I CHWMPAS. CLYWN SŴN DWR YN DIFERU. CAWN SHOT AGOS OHONI’N CAU EI LLYGAID YNA MAE’N PYLU I ÔL-FFLACHIAU O’R TERFYSGOEDD. MAE’R SŴN DWR YN DRIPIO YN RADDOL TROI MEWN I SŴN CRACIAN TAN.

YN YR SHOT YMA O’R TERFYSG MAE KIM YN UN O GRIW SYDD YN YSBEILIO’R SIOP BOOTS.

YNA MAE ÔL-FFLACHIAD ARALL OHONI YN SEFYLL YN YR UN LLE YN BOOTS AG YR OEDD HI’N SEFYLL YN YR ÔL-FFLACHIAD BLAENOROL. YN YR ÔL FFLACHIAD YMA MAE’N RHOI EI CV I REOLWR Y SIOP.

KIM

Dwi’n clwad bod chi efo jobs yn mynd fama? Genai CV i chi…

RHEOLWR

Diolch. Byddwn ni mewn cysylltiad os fydd unrhyw beth ar gael.

KIM YN CERDDED I FFWRDD AT YR ADRAN COLUR. MAE’N EDRYCH AR Y LLUNIAU O FERCHED PRYDFERTH YN YR HYSBYSEBION. YNA MAE’N EDRYCH ARNI HI EI HUN MEWN DRYCH AC YN CYFFWRDD EI BOCH, YNA’N EDRYCH NÔL AR Y LLUN O FERCH DENAU DDI-NAM YN YR HYSBYSEB. MAE’N CERDDED O’R SIOP WRTH BASIO’R RHEOLWR ETO O BELLTER. MAE’N EI GLYWED YN SIARAD GYDAG UN O’R GWEITHWYR.

RHEOLWR

Ma ‘na eneth newydd yn dod i weithio yma ar Workfare am chwe mis, felly cofia i gymryd yr hysbyseb yna o’r papur newydd ynglŷn am swyddi gwag ar gael…

MAE KIM YN EDRYCH ETO AR YR HYSBYSEBION O FERCHED TENAU, DI NAM AC MAENT I GYD YN CHWERTHIN ARNI HI. MAE’N GADAEL Y SIOP YN EDRYCH FEL EI BOD AR FIN BEICHIO CRIO.

MAE’R ÔL-FFLACHIAD YN MYND YN ÔL ATI HI YN BOOTS YN YSBEILIO’R LLE AC YN MALU HYSBYSEB O FERCH BRYDFERTH. MAE POBL ERAILL O’I CHWMPAS YN GWNEUD YR UN PETH.

SHOT AGOS O KIM YN AGOR EI LLYGAID. SIOT BIRD’S EYE OHONI YN Y GELL UNWAITH ETO. MAE SŴN GRIDDFAN TAWEL O DU HWNT WALIAU’R GELL. MAE’N GORCHUDDIO EI GWYNEB GYDA BLANCED GOCH LACHAR, LLIW GWAED FEL PETAI’N CEISIO ERTHYLU EI HUN O’R GELL DRWY GUDDIO ODDI TANO. MAE’R SŴN GRIDDFAN O’R CELLOEDD ERAILL YN ANEGLUR A BRON FEL WHITE NOISE YN Y CEFNDIR.

TORRI I:

 

GOLYGFA 5. INT. YSTAFELL CYFWELD. DIWRNOD 1.

KIM YN EISTEDD YN LLIPA MEWN CADAIR. MAE BWRDD RHYNGDDI HI A’R HEDDWAS A HEDDFERCH SYDD YN EI CHYFWELD. MAE SŴN Y PEIRIANT RECORDIO YN GWNEUD WHITE NOISE YN Y CEFNDIR.

HEDDWAS

Felly pam wnes di…

KIM

No Comment.

HEDDWAS

Ble oedd…

KIM

No Comment.

HEDDWAS YN DIFFODD Y TÂP.

HEDDWAS

Yli, dwyt ti ddim yn helpu dy hun wrth beidio cydweithio efo ni sti. Does dim byd yr hoffwn i fwy na i gael hyn allan o’r ffordd… I ti gael mynd adra de….Tyd ‘laen..

KIM

Sgenai dim byd i ddeutha chi…

HEDDWAS YN TROI’R PEIRIANT RECORDIO YN ÔL YMLAEN AC YN PARHAU I OFYN CWESTIYNAU A KIM YN TORRI AR DRAWS WRTH DDWEUD NO COMMENT BOB TRO.

TORRI I:

 

 

 

GOLYGFA 6. INT. CORRIDOR/CELL. DIWRNOD 1.

CAIFF KIM YN CAEL EI HARWAIN NÔL AT Y GELL. MAE SHOT O KIM YN CERDDED EFO’R HEDDWAS TU ÔL IDDI.

KIM

Ydwi medru gal cawod fama?

HEDDWAS 3

Mae’n dibynnu os mae’n gyfleus. Bydd rhaid aros tan mae’r un o’r heddferched ar gael i gymryd ti am gawod.

KIM

Cymryd fi am gawod?

HEDDWAS 3

Fydd rhaid i rywyn dy fonitro di… alla i ddim gwneud hynny yn anffodus.

DISTAWRWYDD

Fe wnâi rhoi gwybod i’r heddferched dy fod eisiau cawod.. os ydynt yn cael siawns fe allen nhw dy gymryd di am un.

KIM

Diorots.

KIM NOL YN Y GELL. MAE SŴN SGRECHIADAU A GRIDDFAN TERFYSGWYR ERAILL WEDI CAEL EI HARESTIO. YNA DUWCH.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

GOLYGFA 7. INT. LLYS YR YNAD CAERNARFON. DIWRNOD 2.

CAWN SHOT O DDUWCH GLOGYN YR YNAD. MAE’N SYMUD Y CLOGYN AC MAE’N DADORCHUDDIO EI HUN. MAE SHOT CANOL OHONO EF YN EDRYCH YN HUNANBWYSIG AR BAWB YN Y LLYS DROS EI SBECTOL.

BARNWR

Kimberly Mai Jones yr wyf yn gwarantu merchniaeth i chi ar yr amod na wnewch chi fynd i ganol dref Bangor eto tan yr ydych yn dod yn ôl i’r llys hwn ar y 23ain o Fedi. Os yr ewch chi i ganol dref Bangor cyn y dyddiad yma byddych yn gallu cael eich arestio a’ch remandio tan fydd yr achos drosodd.

SHOT AGOS OHONO YN TARO’R MORTHWYL PREN, YN LLE SAIN MORTHWYL YN TARO’R PREN MAE SŴN DRWS Y GELL YN CAEL EI GAU’N GLEP.

TORRI I:

 

GOLYGFA 8. EXT. CAERNARFON. DIWRNOD 2.

O’R GLEC MAE’N TORRI’N SYDYN AT SHOT O KIM YN NEIDIO, FEL Y GWNAETH GYNT PAN GLEPIODD Y DRWS YN Y GELL. MAE HI DŶ ALLAN LLYS YR YNAD YNG NGHAERNARFON. GWELWN PAM Y MAE HI’N EDRYCH FEL Y MAE WEDI CAEL SIOC OHERWYDD Y MAE’N EDRYCH AR DDYN IFANC MEWN GWASGOD A THROWSUS MELFARÉD. MAE SHOT O’R DDAU YN SEFYLL YN EDRYCH AR EI GILYDD. CYFERBYNIAD LLWYR RHWNG Y LLIWIAU PINC A LLACDOD TRACWISG KIM A LLIWIAU MWSOG SIÂP ANHYBLYG, DILLAD Y DYN.

DILWYN

Sut wyt ti erstalwm? Ti’n iawn?

KIM

Be ti’n neud ‘ma?

DILWYN

Ddaru Anti Jini, dy fam ffonio fi… Dydi’r bysus dal ddim yn mynd ers y terfysgoedd.. Felly gofynnodd hi a buaswn i yn rhoi llety i ti am heno…

KIM

O… iawn..

DISTAWYDD LLETCHWITH.

KIM

Ti dal yn byw yn tai na ddim yn bell o’r Job Centre?

DILWYN

Dwi adra yn gweld ‘nhad i, ydw… ym Mryste ydw’i fel arfer, yn y Brifysgol fanno…

KIM

O.

DILWYN

Awn ni?

KIM

Iawn.

Y DDAU YN DECHRAU CERDDED.

DILWYN

So… ti’n iawn felly?

KIM

Well rŵan diolch…

DISTAWRWYDD.

Pen fi’n teimlon dwlal ‘rôl ddim cysgu.. a dwi llwgu rŵan ia.. bwyd yn y gell yn sgỳm…

DILWYN

Mae cariad ‘nhad am wneud Casserole hyfryd i ni heno.. Cawn ni hwnna toc..

KIM

Aidial John Peel.

DILWYN

YN SYN.

Sut wyt ti’n gwybod am John Peel?

KIM

Eh?

DILWYN

Dim byd… oeddwn i jest ddim yn disgwyl baset ti’n gwybod am John Peel y DJ…

KIM

Mbo jest dywediad ydio ia? Odd yncl Llew arfar ddeud o..

DILWYN

Brawd mam? Heb ei weld o ers oes pys..

DISTAWRWYDD MAE’R DDAU YN PASIO GRAFFITI AR BONT SYDD YN DWEUD, ‘DIM TORIADA’ A ‘CELWYDD YW CYFALAFIAETH’ YN OGYSTAL Â GRAFFITI FEL ‘KYLE GRASS’.

KIM

Gai scafio ffag gin ti?

DILWYN

Mae’n ddrwg gen i, dwi’m yn ysmygu..

KIM

O…

TORRI I:

GOLYGFA 8. EXT/INT. GARDD DILWYN/PORTS TY DILWYN/LOLFA DILWYN. DIWRNOD 2.

MAE’R DDAU WEDI CYRRAEDD TŶ MAWR. MAE DILWYN YN AGOR Y GIÂT I KIM. MAE YNA ARDD FAWR O FLAEN Y TŶ, LLAWN BLODAU, COEDEN GYDAG AFALAU COCHION ARNO A PHWLL GYDA PHYSGOD AUR ANFERTH YNDDO. PAN GYRHAEDDAI’R DDAU’R STEPEN DDRWS DYWED DILWYN:

DILWYN

Dyma ni. Ti’n meindio tynnu dy esgidiau yn y ports? House rules ma’ arnai ofn.

KIM

Oce… Dal dy drwyn ta ‘chos dwi heb gael newid sana fi ers cwpwl o ddyddia!

CERDDAI’R DDAU I MEWN I’R TŶ MAWR. MAE’R TU MEWN YN CHWAETHUS GYDAG ARGRAFFIADAU O WAITH KYFFIN WILLIAMS AR Y WAL. CAWN SHOT YN EDRYCH I LAWR AR Y DDAU YN TYNNU EU HESGIDIAU. MAE SANAU PINC KIM GYDA SÊR COCH ARNYNT YN GWRTHGYFERBYNNU EFO SANAU DU, PLAEN DILWYN. MAENT YN CERDDED I’R LOLFA BLE MAE BRETHYN CYMREIG YN GORCHUDDIO’R SOFFA A CHADEIRIAU.

DILWYN

Hoffet ti ddiod? Mae’n siŵr fydd swper ddim yn barod am sbel fach…

KIM

KIM YN EDRYCH AR DECANTER LLAWN WISGI AR OCHOR Y SOFFA. MAE’N OEDI CYN ATEB.

Dwi’n iawn…

DISTAWRWYDD.

DILWYN

Be am wylio’r teledu?

DILWYN YN TROI’R TELEDU YMLAEN. MAE YNA GYFWELIAD YNGLŶN Â’R TERFYSGOEDD.

CYFLWYNWRAIG TELEDU

We now have in the studio psychiatrist and medical journalist Theodore Dalrymple to give his view on why the riots have happened…

THEODORE DALRYMPLE

My view is that the sense of entitlement, so common among Britain’s youth is the root cause for the riots. The British youth are today among the most unpleasant and violent in the world as a result of the overbearing nanny welfare state.

DILWYN YN TROI’R TELEDU I FFWRDD YN FRYSIOG.

DILWYN

Be am wylio ffilm yn lle? Neu wrando ar ychydig o gerddoriaeth?

KIM

Be? Di’r niws yn neud ti deimlo’n awcwyrd? Ti teimlo’n rhyfadd mod i yma?

DILWYN

Paid â malu awyr… dim ond gofyn os oeddyt ti awydd gwylio ffilm nes i..

KIM

Os ti ddim isho fi fod yma allai aros yn tŷ met fi..

DILWYN

Na, na ti’n iawn yn fama.. Wnes i addo i dy fam buaswn ni’n rhoi llety i ti heno…

KIM

Be? Rhag ofn fi fynd allan a peintio’r byd yn goch?

DILWYN

Sori? Be ti feddwl? ‘Paint the town red’ neu ‘peintio’r byd yn wyrdd’ to drio ddweud ia?

KIM

Y ddau.. Dyna pam raid i mi aros fama ynde? I ti gadw llygad arnai? I wneud yn siŵr fy mod i’n bihafio..

DILWYN

Paid â mynd i ganlyniadau…

KIM

Eh?

DILWYN

Gwrnada Kim Bach… Yli.. sgenai ddim problem efo cael ti yma… jest ma’n rhyfadd yn dydi…efo’r terfysgoedd yma’n dinistrio’r wlad… A ma’ nghyfnither i.. rwi’n sy’n perthyn i mi… wedi bod yn rhan o hynna…

KIM

Dwi ‘di gorfod mynd i llys unwaith heddiw ‘ma’n barod… paid ti dechra barnu fi ‘fyd!

DILWYN

Dydw i ddim yn dy farnu di! Dwi’n dallt yn iawn sti… ma rhywun fel ti.. rhywun o gefndir sosio-economaidd fel dy ochor di o’r teulu, efallai wedi gwneud hyn fel adwaith i…

KIM

Ti ‘di’n colli fi. Sos be? Be ma Sos i neud efo hyn!? A be ti feddwl ochor fi o’r teulu…

DILWYN

Well, dim amarch ond… mae dy ochor di o’r teulu mymryn llai… breintiedig..

KIM

Eh?

DILWYN

Ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor, a dwyt ti na dy fam yn gweithio…

KIM

Paid a dechra ia.. dwi di bod yn chwilio am waith ers dwy mlynadd.. dosa i’m byd allan yna.. dim gwaith… a ma mam yn sâl dydi… yn feddyliol… a mai’n yfad bob dydd ‘fyd… tasa ochor chdi o’r teulu ‘di boddro dod i weld ni, basa chdi’n gwbo hynna…

DISTAWRWYDD.

DILWYN

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny…

KIM

Ia… wel..

DISTAWRWYDD.

DILWYN

Doeddwn i ddim efo unrhyw syniad Kim… Ond dwi dal yn meddwl dydi hynny ddim yn esgus am y terfysgoedd er efallai bod hyn yn egluro pam y digwyddasant nhw..

DISTAWRWYDD. MAE KIM ERBYN HYN AR ERCHWYN EI SEDD A DILWYN YN EDRYCH YN LLETCHWITH.

DILWYN

Dwi angan wisgi bach, ti’sho un?

MAE DILWYN YN ARLLWYS WISGI I’W HUNAIN AC UN I KIM CYN IDDI GAEL SIAWNS I ATEB. MAE’N RHOI’R GLASIAD IDDI AC YN EISTEDD YN OL AR Y SOFFA. MAE KIM YN YMLACIO YCHYDIG WRTH IDDI GYMRYD DRACHT O’R CHWISGI.

DILWYN

DILWYN YN EBYCHU.

Pam nes di ymuno efo’r terfysgoedd Kim?

KIM

Alla i ofyn cwestiwn i chdi gynta? Pam wyt ti mor siŵr oedd y reiats ddim y peth iawn.. i neud?

DILWYN

Be ti feddwl? Ma pobol di marw yn y terfysgoedd ‘ma Kim… a lot o bobol wedi colli eu bywoliaeth nhw. Dwi ddim yn dy edliw di ond dwi wedi synnu ti ddim fel dy fod yn edifarhau… chwilfrydig dwi… pam nesdi ymuno a’r terfysg?

KIM

Dwi gwbo… ma pobol ‘di marw yn llefydd erill efo’r riots ma.. ond be ‘di pobol ‘tha chdi ddim yn sylwi bod pobol yn cael eu lladd ar y stryd drwy’r adag. Lladd eu hunan efo drygs neu lladd eu gilydd drost drygs.. Marw yn slo bach yn gweithio ‘tha mulod… Neu byw ar chwim a pills tan ma brens nhw’n pydru yn ‘u pengloga…

Mbo.. Da ni crafu byw bob dydd, a diom jest ni ma pawb lle dani byw yn stryglo yr un peth… a’r stwff ma’r heddlu’n neud.. haslo a haslo ni… malu pobol.. deud celwydd… Oddo’n neis dial arna nw i fod yn onast.. Dangos idda nhw, i’r cops a pobol efo pres bo ni medru neud be dani isho..

Dwnim ia..  ma’n anodd sympythysio efo pobl yn ‘colli bywoliaeth’ pan ti rioed di cael bywoliaeth iawn dy hyn… digon o bres i acshyli byw dim jest bodoli… eniwe… ma bron bob shop gafodd ei trasho yn berthyn i rhyw filonare gôc.. be wahaniaeth idda fo ‘dio go iawn?

DILWYN

Dwi’n cydymdeimlo efo dy sefyllfa ‘di Kim… Ond ddaru’r dynion busnes yna weithio’n galed i sefydlu eu hunain a’u busnesau llwyddiannus.. dim ond am eu bod yn filiynyddion, pam wyt ti’n meddwl ma’n iawn i ysbeilio eu heiddo? Does gan neb hawl wneud hynny… Sut basa ti’n teimlo tasa pobl yn gwneud hyna i dy eiddo di?

KIM

KIM YN CHWERTHIN.

Pa eiddo? Fel o ti’n deud dwi’n byw mewn tŷ cownsil! A cyw, tasa gwaith calad yn gorffan efo cyfoeth basa hanar y stad yn milionares!

MAE’R DDAU YN EDRYCH AR GLOC AR Y SILFF BEN TAN, YNA MAE’N TORRI I ÔL-FFLACHIAD O WYNEB CLOC BANGOR YN LLOSGI. MAE WYNEB Y CLOC YN HOLLOL DDU OND AM Y FFRAM METAL CRWN SY’N GOLEUO’N ORENGOCH.

MAE KIM YN EBYCHU.

Dwi mor ffed yp fyw felma… ac wedyn pawb yn trio guilt tripio fi… y papur, pobol… allai’m gwatsiad y teli heb rhyw dwat fel Jeremy Kyle yn deud bo fobol ar benefits yn sgym.. pobol fatha fi…a’r job centre yn haslo.. trio ffindio unrhyw esgus i stopio pres fi. Be nai wedyn? Llwgu? Begian? Gwerthu’n nhin ar sgwâr Caernarfon?

DILWYN YN CHWERTHIN YN LLETCHWITH.

KIM

Dwi hollol o ddifri… dwi’n teimlon crap… mod i methu gal job… dwi methu edrych ar ôl mam…ma’r graduras yn byw mewn cachfa… doesnam pres i drwsho’r lle a ma’r cownsil ‘di hen anghofio amdana ni… ma hi’n flin neu’n crio neu ‘di meddwi drw’r amsar ia… pan mai’n cal mymryn o bres mai jest wario fo ar bwz… ma’r ddynas yn gaeth…

KIM YN ARLLWYS RHAGOR O WISGI I’W HUNAIN AC YN EI YFED AR EI THALCEN. MAE’N EISTEDD YN OL YN Y SOFFA. AC YN DWEUD GYDA GWYNEB FEL EI BOD YN BELL I FFWRDD WRTH IDDI SYLLU MEWN I’R CLOC:

Dwi ‘rioed wedi teimlo rhyddid fel y penwsos ma yn Bangor.. ddaru pob dim arall doddi i ddim byd.

TORRI I:

GOLYGFA 9. INT/EXT. LLOFFT SBÂR YN TŶ DILWYN/BANGOR. DIWRNOD 2.

SHOT BIRD’S EYE O KIM YN GORWEDD MEWN GWELY.

MAE KIM YN GWYLIO’R WAWR TRWY’R FFENESTR, MAE’N EDRYCH AR Y WAWR YN CODI TU OL PEINT O DDŴR WRTH YMYL EI GWELY FELLY MAE’R GOLAU I GYD WEDI PLYGU. MAE SŴN ADAR YN TRYDAR. MAE’N CAU EI LLYGAID A GWELD DELWEDD O FANGOR ULW. YNA MAE EIDDEW YN TYFU AR GLOC BANGOR SYDD WEDI EI LOSGI. MAE’R TYFIANT YN GWASGARU. MAE’R GWYRDDNI’N LLEDAENU AC MAE GLASWELLT, COED A LLWYNI YN GORCHUDDIO’R BRIF STRYD. MAE GAN RHAI O’R PLANHIGION NEWYDD GNAU NEU FFRWYTHAU YN TYFU ARNYNT. MAE AMRYWIAETH O ANIFEILIAID YN STRAFFAGLU ALLAN O RHAI O’R LLWYNI.

CAWN SHOT O KIM YN CERDDED TRWY’R ARDD YMA, MAE’N CAU EI LLYGAID A CHYMRYD ANADL DWFN. MAE NYTH GWENYN MEWN COEDEN GYFAGOS AC MAE’N SYNNU ATO. YNA MAE’N PIGO MWYAR DUON AC YN BLASU UN. EDRYCHAI I FYNNU O’R LLWYN A GWELD COEDEN LLAWN AFALAU COCHION. CERDDAI TUAG ATYNT AC YN ESTYN EI LLAW I DYNNU UN.

CYN IDDI GAEL SIAWNS I GYFFWRDD YR AFAL MAE SARFF YN YMDDANGOS, YN CROGI O’R GOEDEN. MAE’R SARFF MEWN SIÂP DOLEN, FEL DOLEN YR OEDDYNT YN DEFNYDDIO I GROGI TERFYSGWYR YN YR OESOEDD CANOL.

SARFF

Paid ti a bwyta’r afalau cochion yma..

KIM

Paid â deud bo rhywun berchen ar y goeden ‘ma? Dwi’n siŵr bydyn nhw ddim yn meindio os gymerai un afal bach…

SARFF

Ronald Mc Donald sydd pia’r goeden…. Coeden Cyfalaf yw hon.

I rai fel o, mae arian yn tyfu ar goed. Coed teulu cenedlaethau o fobol fel ti. Mae blynyddoedd maith o’ch bywydau yn wrtaith i’r goeden gyfalaf.

Mae’r boncyff yn bydredig, ac nid yw’r afal yn rhoi maeth ond mae’r ffrwythau’n blasu fel ambrosia y Duwiau.

Os fwytei di’r afal hwn cei dy alltudio o’r ardd hon ble nad oes aur nac arian na phapur na chyfalaf.. dim ond cyd-gymorth a’r hyn y mae’r ddaear yn darparu.. dim archfarchnadoedd.. dim dillad crand, dim tŷ neis, dim car cyflym…  dim ond modd i fyw heb gloc na wats yn mesur a chyfri’r oriau.

KIM

Fel mod i fyth am allu gael y petha yna yn y byd arall… A’i Duw neu’r diafol wyt ti?

SARFF

Dwi’n siŵr dyna ofynnodd pobl yr Almaen i’w hunain o dan Füher Adolf Hitler… Pa wahaniaeth?

KIM

Wel dwyt ti ddim am stopio fi… tasa fama’n baradwys go iawn basa na ddim rheola dwl fela… Buasai’r goeden yna i bawb sy ffansi afal… Twll tin Ronald cont!

MAE’R SARFF YN LAPIO EI HUN O GWMPAS EI GWDDW CYN IDDI GAEL SIAWNS I FWYTA’R AFAL. WRTH I KIM SGRECHIAN CLYWN TROSLAIS DILWYN.

DILWYN

Stopia! Na! Paid!

PYLU I:

GOLYGFA 10. INT. CORRIDOR YN TY DILWYN.

CAWN SHOT O DILWYN YN GAFAEL O AMGYLCH KIM YN Y CORRIDOR UWCHBEN Y GRISIAU.

DILWYN

Oeddet ti’n cerdded yn dy gwsg… oeddet ti’n sgrechian hefyd… oeddwn i’n poeni buaset ti’n disgyn lawr y grisiau… felly nes i dy ddal di…

KIM

Chdi nath stopio fi fyta’r afal…

DILWYN YN DAL I AFAEL ARNI. MAE’N EDRYCH YN SERCHOG AR KIM AC YN GWNEUD YSTUM I DRIO EI CHUSANU HI.

DUWCH.

Gadael sylw

Dim sylwadau eto.

Comments RSS TrackBack Identifier URI

Gadael sylw