Radicaleiddio’r SRG gan Cai O’Marah

Radicaleiddio’r SRG

Ers imi gyfarfod Rhys Bowen Harries (ar y bas) yn Gŵyl Kaya dechrau’r mis Mehefin 2012, mae ein band (hefyd gyda aelod gwreiddiol, sef Antony Roberts – gitâr, a fy mrawd bach, Callum O’Marah – dryms) wedi mynd o nerth i nerth, efo’r uchafbwynt hyd yn hyn yn cynnwys cefnogi brenin cerddoriaeth reggae a roc a rôl Cymraeg, Geraint Jarman. Yn ogystal, gig yn Y Tap, Blaenau Ffestiniog gydag un o fandiau mwyaf cyffrous a dadleuol y sin ar hyn o bryd, sef Twmffat, ac ennill Brwydr y Bandiau Pesda Roc yn fraint anhygoel. Ond, wrth gofio’n ôl, er bod ein breuddwydion a dyheadau o newid y byd drwy ein cerddoriaeth yn enfawr, doeddwn i ddim yn credu bysa ein cerddoriaeth yn lledaenu yn llawer pellach na’r ‘stafell fyw. Ac i ddweud y gwir, roeddwn i yn darogan bod ein cerddoriaeth yn rhy ddadleuol i glustiau’r Gymru fach sydd wedi hen arfer efo synau swynol a cherddoriaeth pop sy’n canu am ddim byd o bwysigrwydd bellach.

Ond i ein syndod, mae pawb ym mhob gig danni wedi chware hyd yn hyn wedi bod yn gefnogol ofnadwy, ac mae ein llwyddiant diweddar yn destun bod pobl Cymru yn barod am fudiad radical unwaith eto. Ond, i ddweud hynny, hyd yn hyn mae Radio Rhydd wedi chware o flaen cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol Merthyr, Bethesda a Ffestiniog sy’n cael rhyddhad am noson, ac efallai fod y bobl  yma yn llawer mwy tuned in i’r anghyfiawnderau mae’r system gyfalafol yn creu, er gwaethaf yr holl ddifrawder ymysg y dosbarth gweithiol. Beth bynnag, mae’r sialens fwyaf eto i ddod – chware o flaen y dosbarth canol mewn trefi mwy ffynadwy fatha Aberystwyth. Ydyn nhw’n barod, neu awydd chwyldro? Ydi pobl Cymru yn barod i radicaleiddio’r SRG unwaith eto?

Radio Rhydd yn Pesda Roc

Y Sin Roc Gymraeg (SRG)

Ers bron i ddeg ‘mlynedd bellach, mae’r sin cerddorol yng Nghymru wedi bod mewn rhyw groundhog day time loop, a’r sin byth ‘di symud ymlaen o’r ‘post-Super Furry Animals/cool Cymru’ cyfnod. Er bod bandiau gwych gyda negeseuon a rhywbeth pwysig i ddweud wedi mynd a dod yn y cyfnod hwn (Pep Le Pew, Tystion, Pen-Ta-Gram,  Anweledig) tydi’r mwyafrif ddim yn cynnig rhywbeth newydd, rhywbeth peryglus, rhywbeth chwyldroadwy, rhywbeth radical a rhywbeth all pobl ifanc sy’n ceisio dal gafael ar hunaniaeth ac annibyniaeth wirioneddol uniaethu gyda. Yn ogystal, ‘does fawr ddim negeseuon a cherddoriaeth all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag yn bodoli yn y sin roc Cymraeg ar hyn o bryd. Fel canlyniad, yn fy marn i, mae ieuenctid Cymru wedi suddo mewn i fod yn genhedlaeth di-wleidyddol, difraw a diflas. Yn ogystal, mae’r sin roc Cymraeg yn llusgo yn ei flaen heb ddim cyfeiriad, tra bod bandiau dosbarth canol o gefndir  fel Glanaethwy (a sefydliadau pathetic dosbarth canol tebyg sy’n lladd unrhyw  siawns am unrhyw beth gwerth chweil i ddod o’r sin) yn gwneud yr headlines yn y cyfryngau Cymraeg.

Os yw Cymru am symud yn ei blaen fel cenedl ddewr, mae rhaid moderneiddio’r sin, mae rhaid radicaleiddio’r SRG, mae rhaid radicaleiddio a moderneiddio diwylliant Cymraeg yn gyfan gwbl. Hefyd mae’n rhaid llacio gafael y dosbarth canol ar ein diwylliant ni, ar ein cyfryngau ni, ac ar ein llywodraeth ni. Fel dywedodd y Twmffat -‘Mae aelodau Plaid Cymru yn gwisgo trôns Tori,’ ac mae hynny’n wir; Torïaid mewn cuddwisg genedlaethol yw’r mwyafrif.

Radio Rhydd yn Llosgi Jac yr Undeb mewn perfformiad yn Tynal Tywyll

Uchelgais i rôl Radio Rhydd mewn sin newydd

 Cyn inni ddechrau’r band, ein bwriad oedd creu rhyw fath o sianel radio peirat, neu anghyfreithlon (heb drwydded) lle fedrith unrhyw berson dros y wlad, neu hyd  yn oed y byd, gyfrannu tuag ato mewn termau cerddorol, neu farddonol, neu jest er mwyn pregethu, rantio a thrafod gwleidyddiaeth. Dim ond hwyrach ymlaen y trawsffurfiodd y syniad yma mewn i fand, a’r syniad o greu sianel radio yn disgyn lawr y pan, am y tro. Nawr, wrth feddwl am ein rôl ni mewn sin newydd o fewn ffiniau Cymru, mae’n rhaid cyfaddef fod ganom ni syniadau enfawr, gan gynnwys ceisio ysbrydoli mwy o fandiau yng Nghymru i gymryd llwybr syml mewn termau o ganu efo angerdd ac am rywbeth sy’n bwysig, rhywbeth all pobl dros y wlad, a hyd yn oed y byd cyfan uniaethu gyda.

I mi, mae’n anodd ofnadwy gwahaniaethu rhwng y celfyddydau a gwleidyddiaeth, wrth fod gan y celfyddydau’r potensial o gael rôl mor fawr i chware mewn  mudiadau gwrthwynebol. A nawr, ella’n bwysicach na byth, mae angen bandiau radical i ganu’n wleidyddol oherwydd mae’r craciau o du fewn i’r system gyfalafol yn dangos yn gliriach nac erioed o’r blaen. Mae rŵan yn amser perffaith i ymosod ar y system, ac mae’r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, yn offeryn cryf ofnadwy i’w ddefnyddio er mwyn gwneud hynny. Felly, dwi’n meddwl mai’n rôl ni o fewn sin newydd ydi i geisio cicio petha’i  ffwrdd unwaith eto, ar draws Cymru, swydd debyg i’r hyn wnaeth Y Tystion, ond bron i bymtheg ‘mlynedd yn ddiweddarach. Ac wrth fod y system gyfalafol yn creu gymaint o anghyfartaledd, yn atal pobl rhag byw bywydau boddhaol, yn ffafrio cystadleuaeth dros undod a ffyniant i bawb, rhyfel dros heddwch, casineb dros gariad, monopoleiddio dros hunan-gynaladwyo, elw dros bobl a buddion unigol dros gymunedau, mae’n amlwg fod newid yn y ffyrdd mae cymdeithas yn cael ei rhedeg angen digwydd; ac mae hi fyny  i’n cenhedlaeth ni i hybu’r newid cymdeithasol a gwleidyddol yma drwy brotest mewn ffyrdd cerddorol, celfyddydol a phrotestio. Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo ni; beth am o leiaf wneud rhywbath positif hefo fo, neu beth am o leiaf greu cerddoriaeth sy’n herio’r  status quo yn hytrach na cherddoriaeth sy’n ei atgyfnerthu!

Radio Rhydd yn Pesda Roc

Radicaleiddio’r SRG: Ydio’n digwydd?

Mae sawl band anhygoel, gwrthryfelgar a pheryg wedi grasau’r sin roc Cymraeg yn y gorffennol; ella’n fwyfwy amlwg yw bandiau pync yr 80’au, fel Yr Anhrefn a bandiau hip hop y 90’au a’r 00’au cynnar. Felly, ar ôl bron i ddeg ‘mlynedd o dawelwch a diffyg cyffro, ydi’n amser i fand peryglus a gwrthryfelgar arall daro’r sin fatha bom yn ffrwydro? Y cwestiwn mwyaf ydi: A yw pobl Cymru  yn gyffredinol hyd yn oed awydd diwygio’r sin cerddorol? Ydy ieuenctid Cymru hyd yn oed yn hiraethu am fand sy’n dweud fuck off  i bob awdurdod, band all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag ef ar bob lefel, band all wneud i bobl ifanc unwaith eto deimlo fel eu pont yn rhan o fudiad pwysig mewn hanes. Ydi pobl Cymru awydd y math yma o fand ar hyn o bryd? Yn fy marn i, mae’r sin yn llwgu am y math yma o fand, am fersiwn Cymraeg o’r Clash, Sex Pistols, King Blues, Anti-Flag, Ramones, Rage Against the Machine, ac mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen. Mae’n amser diwygio, mae’n amser newid, mae’n amser am welliant, mae’n amser i’r ieuenctid ddeffro unwaith eto, mae’n amser i roi sin cerddorol yng Nghymru lle all pobl ifanc deimlo’n rhan o fudiad, rhan o amser, teimlo’n fyw, a dweud fuck off heb i neb sbïo’n hurt. Felly, ydi newid yn digwydd o fewn y sin? Ar hyn o bryd, nac ydi, ond mae’r gefnogaeth mae Radio Rhydd wedi derbyn hyd yn hyn mewn gigs efallai’n dystiolaeth fod pobl yng Nghymru awydd diwygio’r sin, neu o leiaf yn hiraethu am fand mwy cyffrous, fwy peryglus, fwy gwrthryfelgar; Band hefo neges a rhywbath pwysig i’w ddweud!

Anarchiaeth Copenhagenaidd gan Cai O’Marah

O Gymru fach teithiais i ddinas enfawr, a brif ddinas Denmarc, Copenhagen, lle rwyf wedi aros a’u hymweld ers bron i fis bellach. Mae’r ddinas hon, a’r wlad gynt yn drefedigaeth i’r Almaen Natsïaeth, wedi cael rhith-garwriaeth efo gwleidyddiaeth radical yr adain chwith, a falle’r digwyddiadau mwyaf amlwg yw sefydliad tref rydd Christiannia yn yr ardal Christianshavn o’r ddinas. Yn y dechrau dim ond un mewn mor o sgwats wedi eu seilio ar egwyddorion anarchiaeth oedd Christiannia, ond bellach mae wedi datblygu i fod yn dref gwbl ymreoliaethol a hunan gynaladwy. Mae llawer o bethe all anarchwyr ym Mhrydain a Chymru ddysgu o’r hyn digwyddodd yn Christiannia, er enghraifft defnyddio agwedd a ethic DIY er mwyn addysgu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn allu bod yn hunan gynaladwy, ac adeiladu tai ei’n hunain drwy ddefnyddio adnoddau wedi eu hailgylchu drwy freeganiaeth e.e. Cael hyd i adnoddau fatha pren, metal, teclynnau pren a metal ac yn y blaen.

Tai, a chychod hunan gynaladwy a gafodd ei adeiladu drwy ddefnyddio sgiliau DIY, a agwedd freeganiaeth.

Mae llawer o feddylwyr adain chwith wedi gwneud hyn, ac yn dal i’w wneud drwy adeiladu cychod, tai a’n tyfu bwyd, llysiau ayyb nid dim ond yn Christiannia, ond hefyd mewn canolfannau cymdeithasol ar hyd a lled y ddinas, fatha’r ‘Youth House’ yn ardal Nørrebro, a’r ‘South Harbour,’ lle mae cymdeithas o bobl a oedd methu fforddio talu rhent yn y ddinas, a’n seilio ar   wleidyddiaeth radical adain chwith, wedi adeiladu tai cwbl hunan gynaladwy eu hunain, a llawer o’r tai yn gychod sydd wedi eu hadeiladu gan bobl heb sgiliau proffesiynol, ond sydd wedi addysgu eu hunain mewn sgiliau DIY. Hefyd, mae’n bwysig i nodi bod ym mis Mawrth 2007 cafodd canolfan, neu sgwat, yr ‘Youth House,’ ei dadfeddiannu gan yr heddlu, a chafodd cefnogaeth gan hofrennydd militaraidd.

Yn dilyn hyn disgynnodd ardal Nørrebro i ddwylo 2,500 o brotestwyr yn llosgi’r strydoedd. Er bod dulliau di-drais yn gallu bod yn effeithiol er mwyn datgelu a chyhoeddi tactegau milain yr heddlu, mae hwyrach angen fwy o hwb a dewder gwleidyddol yng Nghymru, ac yn bendant, yn fy marn i mae angen rhyddhau ei’n meddyliau o’r cysyniad cenedlaethol sy’n ei’n twyllo ni i gefnogi’n llywodraeth sydd yn dal i reoli ei’n bywydau a’n poeni dim am ei’n safonau byw ni, a’n ceisio, heb ddim rhwystr i’w ei’n atal ni rhag byw bywydau hunan gynaladwy.

Wrth grwydro o amgylch y ddinas, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod cysyniad gwleidyddol cryf iawn yn bodoli o fewn meddyliau pobl ifanc Copenhagen, a sin tanddaearol yn defnyddio canolfannau cymdeithasol fatha’r ‘Youth House’ er mwyn cynnal nosweithiau cerddorol ac yn y blaen. Fel esiampl, ymwelais i a pharti cerddoriaeth reggae yn yr ‘Youth House.’ Wrth imi gyrraedd yr safle sylweddolais ar y faner enfawr a’r arysgrif ‘the police has lost control of this part of the city’ yn chwifio o flaen yr mynedfa, a wrth cerdded mewn i’r feniue llawn graffitti radical, a bas uchel yn crynu’r llawr, a’r arogyl melys marijuana yn peillio’r awyr, dwi’n sylwi bod teimlad undod cryf yn bresennol yn yr ‘stafell. Yn ogystal, mae’r celfyddydau’n offeryn gryf i’w ddefnyddio er mwyn rhoi neges wleidyddol allan, a mae sawl wal graffiti oamgylch yr ddinas yn rhoi lwyfan i bobl mynegi ei barn personol fel arall fysynt heb cael yr cyfle i’w wneud. Mae un engheraifft o slogan radical gwleidyddol welais yn ystod yr trip o danodd.

Graffitti ‘your money is worth shit to us’ Copenhagen.

Mae hefyd cymdeithas o bobl sydd wedi adeiladu ei tai eu hynain, a’n byw yn hollol hunan gynaladwy yn bodoli yn ardal Vesterbro o’r ddinas. Mae’r rhain yn defnyddio nwyddau cynaladwy fatha pŵer solar i greu trydan, a’r rhan fwyaf o dai efo gerddi llysiau i dyfu bwyd.

Tai hunain gynaladwy.

Egni pwer solar a gerddi llysau.

Er bod anarchiaeth wedi hybu a ffynnu i raddau yn Copenhagen, mae dal o bell ffordd yn ddinas berffaith, a rhyddfrydol. Er enghraifft mae agwedd ceidwadol iawn yn dal tir gyda llawer o bobl y ddinas, a hyn i raddau oherwydd yr agwedd bod system lles cryf yn bodoli yn y wlad felly all bobl ddim cwyno am bolisïau’r llywodraeth ayyb. Hefyd, er bod llawer o dwristiaid sydd yn ymweld â Christiannia ar yr rhan amlaf yn meddwl bod hon yn system berffaith, sy’n gweithio’n grêt, mae dal yn gweithredu ar system hierarchaidd, gyda phobl ar y top yn gwneud penderfyniadau fatha pwy sy’n cael yr hawl i fyw yn y dref, polisïau a ‘gyfreithiau’r dref. Yn ogystal, ymatebodd pennaeth y dref yn hurt ofnadwy tuag at ddefnyddwyr cyffuriau cryfach na marijuana, wrth daflu nhw allan a dechrau ymgyrch propaganda gwrthgyffuriau o fewn ffiniau Christiannia. Yn fy marn i mae’r gwrthodiad o ffyrdd bobl eraill o fyw fel hyn ddim yn seilio ar egwyddorion anarchiaeth. Hefyd, does ddim system o ddemocratiaeth uniongyrchol yn bodoli yn Christiannia, felly dim ond y biwrocratiaid ar y top sydd yn gwneud penderfyniadau yn y dref.

Yn debyg, ers mis bellach rwyf wedi bod yn aros, cyfrannu a gweithio i brosiect cymdeithasol sydd â nod o greu byd fwy hunan gynaladwy drwy ddulliau ac ethos DIY, a’n gweithio’n galed ofnadwy er mwyn ceisio llwyddo yn y nod hwn. Enw’r prosiect yw Flydendeby. (Floating City)

Er bod y grŵp yn seilio ar egwyddorion anarchiaeth, mae dal strwythurau awdurdod a phŵer yn bodoli. Fel esiampl, mae grŵp o bedwar pobl yn gwneud penderfyniadau annemocrataidd a’n gysgodus iawn, a’r penderfyniadau yma’n effeithio gweithgareddau’r gwirfoddolwyr, neu polisiau i’w ymwneud efo’r prosiect. Tydi’r penderfyniadau yma ddim yn cael ei thrafod efo’r grŵp cyfan, a rhan amlaf ddim yn cael eu datgelu’n glir i weddill y grŵp. Mae teimlad o ofn ac amheuaeth gyda’r grŵp yma tuag at fewnfudwyr i raddau, a hyn yn bennaf oherwydd ofn colli rheolaeth o’i phrosiect nhw, a’u hawydd i reoli’r prosiect. Mae’r hyn y bod gemau pŵer yn cael eu chwarae mewn sgwats anarchaidd yn codi cwestiynau mawr, a’n bennaf, y cwestiwn mwyaf pwysig efallai; Ydy strwythurau pŵer yn anochel mewn cymdeithas? Neu os modd gwthio’r system pŵer ac awdurdod o’m cymdeithas?!

Band newydd Anarchaidd o Bethesda

Radio Rhydd

Cliciwch ar y dolen i glywed eu caneuon newydd. Fyddych chi’n hoffi rhein os ydych chi’n ffans o Rage Against the Machine! Caneuon i lawrlwytho yn rhad ac am ddim, cyd-gymorth de!