Arundhati Roy a herio diwylliannol yng Nghymru

“Dylai ein strategaeth fod – nid yn unig i ymladd Ymerodraeth wyneb yn wyneb ond i warchae arni. Ei hamddifadu o ocsigen. Ei chywilyddio. Ei gwawdio. Gyda’n celf, ein cerddoriaeth, ein llên, ein styfnigwrydd, ein llawenydd, ein hathrylith, ein hymroddiad di-ildio – a’n gallu i adrodd ein storïau ein hunain. Storïau sy’n wahanol i’r rhai y cyflyrwyd ni’n feddyliol i’w credu.

Fe fydd y chwyldro corfforaethol yn dymchwel os gwrthodwn ni brynu yr hyn maen nhw’n ei werthu – eu syniadau nhw, eu fersiwn nhw o hanes, eu rhyfeloedd nhw, eu harfau nhw, eu syniad nhw fod y cyfan yn anorfod.”
- Arundhati Roy

images

Mae nifer o grwpiau fel Afiach  wrthi yng Nghymru yn herio’n ddiwylliannol. Maent wedi rhyddhaui CD i godi arian i Stop G8 yr wythnos hon.  Be am grwpiau eraill? Siwr bod grwpiau tebyg ar draws Cymru?

Dad-ansoddi, Cyf-un-drefn, Byw gan YOLO Morgrug/annwg

Pa beth yw byw? Gofynodd Waldo un ddiwrnod. Onid Waldo oedd y cyntaf?

Naddo. Pa faint o hen blant bach na ofynodd, nac anghofiof (ar ol i lwch y byd ddod i’w lygaid ar ol i niwl yr oesoedd a fu aros drostynt

ar ol i guriad llaw hen athro neu hen riant neu’r un hen system neu’r un hen ffycin stori

ein curo i lawr tro ar ol tro ar ol tro) yr un cwestiwn, pam?

Pam fod eira’n wyn? Shut up. Medde Dafydd Iwan.

Cofiwch Macsen, medde fe. Wel, anghofiof Macsen y Gymru. Anghofiof Macsen ei wreiddiau.

[Radical, yw i newid pethe wrth y wreiddiau, yng nghalon y broblem

yng nghalon ein cenedl, calon ein byd, the heart of our heartless world fel dwedodd un dwpsyn]

Aeth Macsen i Rufain. Megis Caractacus cynt. Trowsant yn Rufeinwyr.

Aros mae’r mynyddoedd. Ond rhuo wna y gwynt..

Pa gwynt? Gwynt yr oesoedd? Gwynt ein natur? Gwynt ysbryd pob cenhedlaeth

THE NIGHT-MARE OF ALL PAST GENERATIONS (WALDO, WYT TI’N COFIO?) HANGS LIKE

A NIGHT-MARE ON THE BRAIN OF THE LIVING DEAD [GROUCHO MARX]

Gwynt yr ysbryd aflan. Gwynt yr hen Dduwiau. Gwynt a sathrwyd pob oes

Gan fod oesoedd, rhybuddia hanes, yn dod i ben

Rhaid cwympo pob cenhedlaeth. Rhaid marw pob ymeradwr. Rhaid chwalu pob ymerodraeth

Groegiaid. Rhufain. Barbariaid (pwy?). Llychlynwyr. ….. Tseina. India. Amsterdamned. Prydain.

Ffrainc. Prydain. Prydain. Prydain. God save the fucking joke of a Queen

[A madman is not only a beggar who thinks she is a Queen, but a Queen who thinks

she is a Queen. And is a beggar. Medde Lacan. Twpsyn uffarn]

Prydain. Prwsia. Prydain. America. Ac ynteu… Yr Undeb Sofietaidd. Anghenfil newydd

a chlodforwyd yn Duw. Chwalwyd. India. China. Diwedd. Y BYD?

Eto. Ac eto. Ac eto. Rhagwelwyd. IESU FFYCIN GRIST

A’i Iddew neu Rufeiniwr? Pwy laddwyd? Pwy roddwyd ar groes, ac yna ar faner?

NID ANGOR OND FANER YW’R GROES I GYRRU’R DOSBARTH GWEITHIOL YMLAEN

Medde Nic y Glais. Y Stalinydd.

Oleia aeth yn ol i’w wreiddiau. Cuddiodd yn y Cwm. Ffoi yr anghenfil yn

ei amenydd. Marw’n hen. Deall y dinistr. Ond farw ta beth.

A’i cuddio wnawn?

NADDO

SAFWN

YN

Y

BW_____LCH?

P’UN?

Bwlch y cwm? Cymrodyr, cwm, Cymrodorion, Cymry

ond am beth? Am third way arall? Saunders, Hitler, Tony Blair

Naddo. Nid oes trydydd ffordd. Nid oes unrhyw ffordd. Ond dianc y ffordd.

Ail greu heol ein hanes. Pa bwlch?

¡No pasaran! Medde nhw. Ond laddwyd. Gan y ffasgwyr

P’un? The Gentle General, fel bapteiddiwyd gan y Daily Mail?

Neu Brydain, a rhoddodd y Llynges tu fas i Barcelona, y gwniau’n pwyntio

Neu dife Stalin sydd i feio? Ie. Rhaid mai’r anarchwyr oedd yn iawn

NADDO

Cipiwyd pwer. Ha! Productivism eto. Ewch yn ol i waith medded “nhw”.

Y CNT. Dyna joc. Workers against work. Na, dim gulags

Nid yw label anarchiaeth yn ein hachub rhag ein pechodau

Nid fwy na chroes o gwmpas ein gwddf

Nid yw Dic Penderyn ein Merthyr Tydfil

Nid yw Grist ein Cof

Nid yw ein hunan aberth i Protestant Work Ethic

Yn mynd i’n hachub. Nid yn y bywyd hon.

Y byd hon. Y byd hon a’i nuclear bomb.

A’i ecological bomb.

Na.

Ginsberg. Ef a ddwedodd

Ef a welodd

The best of my generation…

dragged on to… the generation game!

Ie. Gwelodd. Ond fethodd. Moloch yn parhau. Mamon heb gwympo.

Carl Solomon, tro ar ol tro, tro ar ol tro, tro ar ol tro

Tan i bawb anghofio. Tan i Waldo anghofio, fod gam-dreiglo

ddim yn phechod! na! Cham-dreiglo, ail-threiglo

Dyna yw bywyd iaith. Standardeiddio, dyna yw ei farwolaeth

The King is dead. Long live the King! Glyndwr is dead.

Long live Rhodri Morgan! Thatcher is dead. Long live Cameron!

The revolution is dead. Viva la revolution! The revolution is betrayed (again!)

Long live the revolution! Mae’r iaith Gymraeg (o fyddid iddi barhau) is ffycin dead.

HIR FYW PA IAITH

IAITH Y GORMESWR?

EIN HIAITH? EIN? A’I HORGRAFF ANNWYL YN RHYW LYFR SANCTAIDD

Na. Tu hwnt. Marx tu hwnt i Marx

[a wnaeth ffycio ei blant, ffycio ei chamber maid [fel tystyiwyd ei eiriau olaf]

a wnaeth rhedyg yn paranoid tan iddo osgoi’r Paris Comiwn ei hun]

EFE yw y DEAD GENERATION yn nawr. EFE rhaid troelli ar ei ben.

Derrida tu hwnt i Derrida. Oh, deconstruction! How nice! We could make a

PHILOSOPHY EXAMINATION OUT OF THAT, DISCUSS

YOU WILL BE MARKED AT THE END OF YOUR LIFE

JUDGED. AND THEN YOU WILL REACH THE AFTERLIFE.

Ac fe fydd o’n shit. Ffycin shit. Llithro yn nol i’r llonyddwch

Neu Nefoedd, adar, Duw, golau, a ffycin Efengylwyr

HEB DDIM I WNEUD OND GWENU, O NA NEIS!

Neu. cer off dy gompiwter.

cer off dy ben. cer off dy sedd

gwena. gwena fel gwyllt-fenyw

wanko yn dy law dde, ymestyna am y faner di fanerog

cacha ar dy sgimren. LLOSGA YSBRYDION DY FEDDWL

Nid ferthyr. Nid ffycin Buddhist monk tanbaid arall

Nid Arab Spring arall

Surprise surprise, YOU’RE SAYING THAT THE REVOLUTION WAS BETRAYED?

WELL DUH

REVOLUTION MEANS A CIRCLE

FFUCK REVOLUTION. REVOLUTION BEYOND REVOLUTION

END THE TORTURE, THE CONSTANT TORMENT, OF THE HUMAN RACE

How?

SOCIALISME OU BARBARIE – BOTH ARE THE SAME IT NOW SEEMS

So. Either there is the final orgasm

OF WAR AND DEATH AND TEARS AGAIN, OF (american) DREAMS DENIED

Or. You take the blue pill. Turn off the Matrix.

Flee. Run comrade, for the old world is behind you

Run comrade, for I am calling you comrade

Run

Run
NAKED

into the sun

PAID A RHOI FFYC, deud nid gweud, gweud nid deud

POPETH. DIM BYD. DIM. BYD. 01010101010101

STOPA DARLLEN HON STOPA DARLLEN HON STOPA DARLLEN HON

DAW HANES I’W DDIWEDD. RHYW DDYDD. MEDDEN NHW

MEDDE PWY? NYNI.

THE RIDDLE OF HISTORY DOTH REPEATETH, TOO MANY TIMES
UNTIL WE MAKE IT STOP

EVERY REPETITION IS SIMPLY

A RELAPSE INTO THE SUBCONSCIOUS, A FORGETTING

COFIWCH I ANGHOFIO, ANGHOFIWCH I GOFIO

ANSWER THE RIDDLE

PUNCH THE SPHINX IN THE NOSE UNTIL IT BLOWS OFF

ESCAPE YOUR OWN NIGHTMARE, YOUR OWN DREAMS

FOR THEY ARE ONLY YOURS

And then. Let children become Men. Men become mice. Pupils become teachers.

Death become life. And let Jerusalem again be built

Before Babylon falls. And let us simply

DANCE

TAN DDAW

Y DIWEDD.

Anarchiaeth yn ol Anarchol

Nid ffurf talaithaeth ydy. Dydy anarchyddion eisiau gosod eu system gwerth ar unrhywun arall. Nid tefysgaeth ydy. Terfysgaeth yw gweithredydd y llywodraeth yr heddwas sy’n defnyddio grym, gan gynnwys y lluoedd arfog, er mwyn brawychu pobol nes bod nhw’n ufuddhau. Llywodraethau a fygythia cosbi unrhyw ddyn neu fenyw sy’n herfeiddio grym y wladwriaeth, ac felly sefydliad terfysgaeth ydy’r wladwriaeth yn wir.

Dydy anarchaeth fyth yn dibynnu ar fraw er mwyn cyflawni rhywbeth, oherwydd nad ydy unrhywun y mae braw arno ddi yn rhydd. Dyma’r hyn y mae anarchyddion yn credu:

Drwg dianghenraid yw llyworaeth. Mae bodau dynol sy’n arfer bod yn gyfrifol am eu ymddigiad eu hunan yn gallu cydweithredu ar sylfaen ymddiried a chymwynasgarwch.

460_0___30_0_0_0_0_0_rnb2

Dydy diwygiad ddim yn bosibl sy’n gadael llywodraeth heb ei newid. Fydd apeliadau i lywodraeth am iawn am gam hyd yn oed pan fyddon nhw’n cael eu gweithredu dim ond yn cynyddu ac gan hynny chwanegu pentwr ei rym. Bydd llywodraethau’n cael eu diddymu pan fydd eu deiliaid yn peidio chaniat’u cyfreithlondeb iddyn nhw. All dim llywodraeth fod heb gydsyniad dealledig y werin. Mae’r cydsyniad hyn yn cael ei gadw cyhyd bod y pobol yn anwybodus am eu grym gwir. Dydy’r bleidlais yn fynegiant grym ond yn addefiad o fod heb rym, gan all hi ddim ond ail-haeru cyfreithlondeb tybiedig y llywodraeth.

Mae’n rhaid i bawb gael hawl penderfynnu ei fywyd ei hun. Anghyfiawn yw pob ymyrryd moesol ym materion personau sy’n gweithredu’n rhydd. Dydy ymddygiadau nad ydy’n effeithio personau ddim yn ymwneud nhw.

Goroesa pob lywodraeth ar ladrad ac ar gribddeilio, o’r enw trethi. Gesyd pob lywodraeth ei gorchmynion ar y werin a gorchymyn ufuddhau o dan fygwth cosb

Cymerwyd o flog Anarchol.

Masterskaya – Ffilm Ddogfen am Sgwotio yn Belarws

Mae Kino Wells yn falch o gyflwyno dangosiad o ‘Masterskaya’ – ffilm fer am weithgaredd sgwotio ymgyrchwyr a radicaliad yn Minsk, Belarws rhwng Mai a Hydref 2008.

Sgwotiwch y byd! Ffwcio’r system!

Pryd? 7 yh ar yr 8fed o Fai

LLe? The Wells Hotel, 77 Stryd Craddock, Glanyrafon, Caerdydd CF11 6EW

Gweithdai/Digwyddiadau: Wythnos StopG8 o wrthdystio.

stopg8small300x215

10-14eg o Fehefin: Rhaglen digwyddiadau

Syniadau v Cyfalafiaeth

Yn galw siaradwyr, meddylwyr, awduron, darllenwyr, ymladdwyr, athrawon, dysgwyr, artistiaid, gwrthryfelwyr, perfformwyr, rapwyr, beirdd, cerddorion… ac unrhyw un gydag unrhyw sgiliau, syniadau neu breuddwydion i rannu…

Mae wythnos StopG8 o wrthdystio yn cael ei gynnal yn Llundain ar 10-14eg o Fehefin, yn ystod yr wythnos cyn uwchgynhadledd y G8 y ‘Meistri Rhyngwladol’. Yn ogystal â gweithredu yn y strydoedd, bydd yr wythnos yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau o sgyrsiau, cyfarfodydd, ffilmiau, gemau, cyngherddau, a mwy, ar draws Llundain a thu hwnt.

Croeso i chi gysylltu â stopg8events [at] riseup.net os hoffech gynnal neu gymryd rhan mewn digwyddiad, os allwch chi helpu gyda trefnu neu hyrwyddo, neu os gennych syniad am rywbeth hoffech chi ei weld yn digwydd. Rydym am i hyn fod yn fawr, felly rydym yn dechrau cynllunio yr wythnos rwan.

Fydd yr agwedd ‘syniadau’ o’r rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei hadeiladu o amgylch pum prif thema. Pedwar o’r rhain fydd y prif materion gwleidyddol rydym yn arbennig o awyddus i chi feddwl yn eu cylch yn ystod yr wythnos. Ond mae hefyd slot agored os oes gennych unrhyw syniadau nad ydynt yn ffitio i’r categoriau hyn. Gallai digwyddiadau gynnwys gweithdai, sgyrsiau, dramâu, perfformiadau, ffilmiau, comedi, sioeau celf, gemau, rhannu sgiliau, sesiynau hyfforddi ymarferol, a siarad am frwydrau gwrth-gyfalafol… neu unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano.

***

1) Deall cyfalafiaeth.

Mae gwleidyddion a’r cyfryngau torfol yn ceisio dargyfeirio ein dicter i ffwrdd oddi wrth gwir achosion tlodi, anghydraddoldeb, a cachu dydd i ddydd. Maent yn rhoi bychod dihangol iddym nii: mewnfudwyr, tramorwyr, “scrounge-wyr”, neu ambell heddwas neu fanciwr sydd yn ‘afal ddrwg’. Mewn gwirionedd y system gyfan sy’n bwdwr o’r top i’r gwaelod.Ond beth yw cyfalafiaeth? Sut mae’n gweithio? Sut mae’n siapio ein bywydau, a ceisio rheoli ein dyheadau? Pwy sy’n elwa o’r system, a phwy sy’n ei gynnal?

2) Brwydro: sut i ymladd, sut i ennill.

Mae pob mudiad sy’n ysgwyd y byd gorfod dechrau ar raddfa fach. Gallwn ennill buddugoliaethau ar ein strydoedd, mewn gweithleoedd a chymunedau, yn ein bywydau bob dydd, ac felly rydym yn tyfu. Pa wersi y gallwn eu dysgu o fydiadau hanesyddol, ac ar draws y byd? Mae angen sgiliau ymarferol hefyd. Sut i fod yn ddiogel ac yn gofalu am ei gilydd ar y strydoedd. Hawliau cyfreithiol: sut i gefnogi ei gilydd yn erbyn stopio ac archwilio, yr heddlu a rheolaethau mewnfudo. Gweithredu uniongyrchol: sut i ymladd yn erbyn y pwerus, a sut i beidio cael dy gosbi am hyn.

Sut i drefnu, hyrwyddo, bwydo byddin, iacháu’r y clwyfedig, …a llawer mwy. Digon o hype, digon o gachu: gadewch i ni rannu syniadau a sgiliau a fydd yn gweithio. Rydym yn arbennig o awyddus i hwyluso rhannu syniadau rhwng ystod eang o ymgyrchoedd a grymuso pobl i gychwyn ar brwydrau newydd.

***

3) Creu bydoedd newydd.

Ni allwn aros tan “ar ôl y chwyldro” i greu cymdeithas amgen i gyfalafiaeth. Mae angen i ni ddechrau rwan, yn ein cymunedau, yn ein bywydau bob dydd.

Yn syml, mae economeg cynhyrchu ar raddfa eang, prynwriaeth torfol, a thwf diddiwedd yn lladd ein planed. Mae angen ffyrdd newydd o fyw ac o weithio gyda’n gilydd. Mae angen creu diwylliannau newydd, gwerthoedd newydd, ble mae ein bywydau yn fwy na phethau sydd yn cael eu prynu a’u gwerthu.

***

4) Anarchiaeth.

Anarchiaeth yw’r athroniaeth sy’n dweud nad oes angen lywodraethau a phenaethiaid, gallwn gynnal cymunedau yn seiliedig ar gyd-gymorth ac undod.

Mae anarchiaeth yn golygu gwrthod pob math o ddominyddu, gormes, a ecsbloetio, a byw mor rhydd ag y gallwn rwan.

Anarchiaeth yw’r syniad mwyaf prydferth rydym yn ei hadnabod. Nid yw pawb yn y rhwydwaith StopG8 yn anarchydd, ond mae llawer ohonom. Rydym yn credu bod angen i ni lleisio’r neges gadarnhaol am yr hyn yw anarchiaeth a be mae’n ei olygu mewn gwirionedd. Beth allwn ni ei ddysgu o fwy na 200 o flynyddoedd o hanes anarchaidd? Beth all anarchiaeth ei olygu yn yr 21ain ganrif?

***

5) Slot agored.

Unrhyw beth arall sy’n cyd-fynd gyda ein hegwyddorion ond nid yw’n dod o dan y pedwar pennawd cyntaf. C’laen ta!

Mae’r dudalen yma yn gyfieithiad o’r wefan wreiddiol.

Galw allan i StopG8: Carnifal yn erbyn Cyfalafiaeth #J11

un frwydr cyffredin

stopg8txt

Ym mis Mehefin mae arweinwyr y G8 (gwledydd cyfoethocaf y byd) yn cyfarfod yng Ngogledd Iwerddon. Fel mae’r argyfwng economaidd yn ein brathu, a mae’r blaned yn llosgi, mae’r meistri ac eu gwleidyddion yn dathlu bod busnes yn cario mlaen fel erioed. Cyfalafiaeth: system sy’n lladd, egsbloitio, ac yn iselhau y nifer fawr o bobl ar gyfer creu elw i unigolion dethol.

 Ar 10-14 o Fehefin mae StopG8 yn trefnu wythnos o weithredu a digwyddiadau yn Llundain. Mae Llundain yn ganolbwynt i gyfalafiaeth byd-eang. Mae gan y corfforaethau, banciau, cronfeydd ymddiogelu, a biliwnyddion sydd yn ysbeilio ein byd enwau a chyfeiriadau. Maent yn y tyrau gwydr y ‘City’, a’r tu ôl i ddrysau anelwig yn Mayfair a Knightsbridge. Mae Llundain yn ffae gwyngalchu arian, unbeniaid, ag yn faes chwarae i’r mwyaf cyfoethog. Ond, ein dinas ni yw Llundain hefyd. Mae’n ddinas o obaith, gwrthsefyll, ac o frwydro.

 Mae cyfalafiaeth yn ein lladd. Diweithdra, toriadau, a thwf ffasgiaeth yn y “Gorllewin”. Tlodi, gwladychu, ac ecsbloetio creulon yn y “Trydydd Byd”. Rhyfel a newyn er mwyn gwneud elw. Carchardai preifat, gwarchae’r heddlu, CCTV er mwyn ein cadw ni’n ofnus ac ein rheoli. Mae’n dwyn harddwch a ystyr o’m bywydau, mae ein breuddwydion a’n urddas ar werth.

Peidiwch ag anwybyddu. Peidiwch ag oedi. Ar gyfer ein ffrindiau ac anwyliaid, ar gyfer ein cymunedau, ar gyfer ein planed, am bopeth y maent yn ceisio cymryd oddi wrthym. Rwyan ydi’r amser. Gadewch i ni ddod at ei gilydd, ac ymladd. Un frwydr cyffredin.

 Ymunwch â ni ar y strydoedd.

10-14 o Fehefin: Wythnos o gweithredu, sgyrsiau, cymdeithasu, ffilmiau, gemau, cyngherddau, a mwy, ar draws Llundain a thu hwnt.

 11 o Fehefin: Diwrnod mawr o weithredu yng Nghanol Llundain.

 17-18 o Fehefin: Uwchgynhadledd G8, Enniskillen, Gogledd Iwerddon.

 # Stopg8

 network23.org/stopg8

 stopg8@riseup.net

Cyfieithiad bras o’r Saesneg yw hwn.

Dyma neges gan Recordiau Afiach sydd yn gwneud CD i godi arian a codi ymwybyddiaeth ynghylch y G8. Darllenwch ymlaen os ydych yn gerddor a efo diddordeb.

Hei!

Afiach yn llunio casgliad i godi arian ar gyfer y grŵp Stop G8 De Cymru. Bydd yr arian a wneir o werthiant y CD yn mynd yn uniongyrchol i’r grŵp rhanbarthol hyn a fydd yn rhan o wrthwynebu y G8 pan fyddant yn cwrdd yn Llundain ym mis Mehefin. (Os nad ydych yn gwybod llawer am Stop G8 mae mwy o wybodaeth yma – https://network23.org/stopg8/g8-201/)

 Rydym yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer casgliad ac yn meddwl tybed os hoffech gyfrannu trac? Gall fod yn gân sydd wedi ymddangos yn rhywle cyn hyn neu trac newydd sbon sy’n ymroddedig i Atal y G8 – mae i fyny i chi. Rydym yn gofyn i chi oherwydd ein bod yn gwybod eich bod eisoes efo agwedd wleidyddol yn eich cerddoriaeth ac mae’n debyg eicj bod yn cefnogi’r syniad o wrthwynebu yr 8 arweinwyr mwyaf pwerus fyddant yn cwrdd yn y DU.

 Fel y mae’r uwchgynhadledd G8 yn digwydd ym mis Mehefin, rydym yn gweithio yn erbyn y cloc, felly y dyddiad cau ar gyfer cael traciau i ni yw y10fed o Fai (os ydych yn bwriadu ar anfon trac atom ni os gwelwch yn dda gadewch i ni wybod, ac yn amlwg gorau po gyntaf!) Bydd y CD yn cael ei argraffu yn fuan ar ôl hyn ac yn cael ei werthu o amgylch Caerdydd a dros y rhyngrwyd. Yn ogystal â chodi arian yr ydym yn gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o’r G8 a sut y gallwn ni ei wrthwynebu.

 Gobeithiaf clywed oddi wrthych yn fuan!

AFIACH! Ebostiwch: serenefa@hotmail.com

Vajazzleo Ffwff! – Angen nawdd, cyfrannwyr a help i’w rannu.

Mae Ffwff yn ffansin anarcha-ffeminyddol dwyieithog o Gymru. Yr unig gylchgrawn ‘go iawn’ i ferched yn y Gymraeg yw ‘Y Wawr’ (cylchgrawn Merched y Wawr)! Doeddwn i ddim yn meddwl bod hyn yn neud y tro, be sy yna i genod radicalaidd? Dwnim amdanoch chi ond dydw i ddim eisiau darllen Cachu Cosmo a allai ddim uniaethu efo merched y Wawr fel hogan yn ei 20′au sy’n byw mewn dinas. Misoedd ar ol cyhoeddi y Ffwff cyntaf, fe ddes i ar draws zine o’r enw Bitch sydd ar gael drwy recordiau Afiach, yr artist Elen Mai Wyn Jones sydd tu ol i’r cyfres yma, da i wybod na dim Ffwff ydi’r unig zine dwyieithog ffeminyddol!

Felly dyma ni, bron blwyddyn yn ddiweddarach, yn chwilio am gyfraniadu i’r pedwerydd Ffwff a wedi llwyddo cyhoeddi’r zine yn chwarterol a rhoi’r rhan fwyaf allan am ddim!

Mae’r student loan olaf wedi dod i’r banc (!) ac ar ol i hwnnw fynd mae dyfodol Ffwff mor ansicr a dyfodol ei golygyddion! Felly dyma alwad at philanthropaid roi rhodd i gadw ni fynd, a cael gwobrau am wneud hyn! Tanysgrifiadau a ol rifynnau o Ffwff, a mae isafswm y rhodd yn fychan iawn! Gwnewch hyn drwy Sponsorcraft: https://sponsorcraft.com/p/ffwffcymru/

Louise Michelle - Anarchyddes Ffrenig

Louise Michelle – Anarchyddes Ffrenig

Os ydych eisiau stocio Ffwff ar stondin neu sio, neu eisiau copiau i eich Canolfan Cymdeithasol lleol, gyrrwch neges drwy’r e-bost uchod. Mae Ffwff nid am elw ac yr ydym yn gofyn am gyfranniad o’r gost argraffu a postio ble bo hynny’n bosib. Os ydych chi’n hollol sgint… gallen ni ei yrru o am ddim i chi ta waeth, dyna ydi cyd gymorth de?

Yn bwysicach fyth yr ydyn eisiau cyfranaiadau! Celf, llenyddiaeth, erthyglau, jocs, ryseitiau… Gyrrwch eich stwff at daldydin@hotmail.co.uk i ni ei roi o yn Ffwff (ond cadwch mewn golwg pa fath o zine ydi o, da chi!)

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn